Daeth diwedd cyfnod yn hanes pentref New Inn yn ddiweddar pan benderfynwyd bod yn rhaid cau ysgol New Inn. I'r rhai a fu yn ddisgyblion neu ynghlwm ag addysg ynddi, mae yn adeg torcalonnus iawn. 18 o blant fydd ar y cofrestr pan fydd y drysau yn cael eu cau am y tro olaf ar yr 20fed o Orffennaf 2007, ynghyd â'r athrawon Miss Jane G Jones, Mrs Anne Davies a Mrs Annona Thomas.
Cynhaliwyd prynhawn o gofio yn yr ysgol ar ddydd Sadwrn y 23ain o Fehefin. Tristwch mawr a ddaeth i'r pentref a'r ardal oedd marwolaeth Miss Eirlys Richards, a oedd yn gyn ddisgybl ac hefyd yn brifathrawes yn yr ysgol am 36 o flynyddoedd. Hi oedd wedi cael ei dewis fel llywydd anrhydeddus y prynhawn, ond yn anffodus bu farw ond ychydig ddyddiau ynghynt. Siaradwraig wadd y prynhawn oedd Mrs Yvonne Griffiths, hithau hefyd wedi bod yn athrawes yn yr ysgol am flynyddoedd lawer.
Bu'r plant yn canu yn raenus iawn fel arfer, a llawer o ddiolch i'r athrawon am eu dysgu. Clywsom ganddynt am 'Cloch yr Ysgol'; cân rap hyfryd; medli o ganeuon y sioe gerdd `Lion King' - yn dilyn eu hymweliad yn ddiweddar â Llundain i weld y sioe wefreiddiol hon; medli o ganeuon Nantlais - a oedd yn addas iawn o gofio ei gysylltiad agos â'r ysgol a'r pentref; ac i orffen geiriau wedi eu hysgrifennu yn bwrpasol ar gyfer y prynhawn:
'Adeg trist a ddaeth i'r pentref
Gorfod cau yr ysgol hon...'
Yn wir, wrth weld y dagrau yn llifo ymhlith lawer o'r gynulleidfa, dyma oedd teimlad pawb yn yr ysgol ar y prynhawn hwn wrth glywed plant ysgol New Inn yn canu am y tro olaf.
Roedd cacen hyfryd â llun yr ysgol arni wedi ei gwneud gan Mrs Val McMullin, ac ar ôl i'r plant ganu, torrwyd y gacen gan y disgybl ieuengaf yn yr ysgol, Ella Burns, a'r cyn ddisgybl hynaf Mr Ganfor Morgan, Glasfryn, sydd bellach wedi dathlu ei ben blwydd yn 90 oed. Dilynwyd hyn oll gan de blasus i bawb, gyda llond bol o fwyd blasus wedi cael ei baratoi gan rieni a ffrindiau'r ysgol.
Trist iawn fydd hi yn y pentref yn mis Medi heb weld siwmperi glas yr ysgol yn cyrraedd yn y bore a chwarae'n hapus yn ystod y dydd - ond mae un peth yn sicr - mae'r plant hyn oll wedi cael y dechrau gorau posib yn eu haddysg a fyddant rwy'n siŵr yn cyfoethogi pa bynnag ysgol y byddant ynddo bellach.
'Pa le bynnag fyddwn mwyach,
Pa ryw ysgol fyddwn mwy,
Ni anghofiwn am yr addysg
Gawsom yma yn y plwy'.
|