"Os ydych am fod yn gefnogwr ymroddedig i dim cenedlaethol pel-droed Cymru, mae angen pocedi dyfnion, digon o amynedd, y gallu i chwerthin, ac Atlas arnoch! Ers i Dad fynd a fi i weld Cymru yn chwarae yn yr hen Barc yr Arfau yn 1989, mae dilyn tim cenedlaethol y bel gron wedi bod o ddiddordeb mawr i fi.
Y freuddwyd yw gweld Cymru yn chwarae yng Nghwpan y Byd neu Bencampwriaethau Ewrop, rhywbeth nad sydd wedi ei gyflawni ers 1958. Ac mae'r freuddwyd honno wedi mynd a fi i rai o ddinasoedd hyfrytaf Ewrop, o Reyjkavik yn y gogledd pell i Bilbao yn y de, Prag a Vienna yng nghanolbarth Ewrop, a Moscow yn y dwyrain.
"Aser-bai-ble??!" meddai Dad wrth i'r grwp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2010 gael ei gyhoeddi, yn rhoi Cymru yn yr un grwp a'r Almaen (unwaith eto!), Rwsia, y Ffindir, a Liechtenstein (sydd yn llai na Cheredigion!).
Ond nid dyma'r tro cyntaf i Gymru gwrdd ag Azerbaijan. Teithiodd Cymru i Baku, y brifddinas, yn Nhachwedd 2002, gan ddychwelyd yno ym Medi 2004, pan orffennodd y gem yn un yr un,yn anffodus i Gymru.
Gwlad gymharol fawr yw Azerbaijan, wedi ei ;leoli i'r dwyrain o Dwrci a Georgia, ac i'r de o Rwsia, ar lan y môr Caspian. Er iddi fod yn rhan o'r hen weriniaeth Sofietaidd, mae'r bobl yn teimlo'n agosach at Dwrci, o ganlyniad i natur Fwslemaidd y wlad.
Roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr iawn at y daith i Baku, gyda'r gem rhwng Azerbaijan a Cymru yn digwydd ar 6 Mehefin. Ond pythefnos cyn y gem, roedd problemau visa yn golygu fod yna beryg i'r gem gael ei chanslo. Nid oedd Llysgennad Azerbaijan yn Llundain, na chwaith Brwsel (ble rwyf yn byw bellach), yn fawr o help.
Y cyngor i mi oedd i gasglu'r visa ar ô1 cyrraedd Baku, ac felly dyma wnes i, ar ôl siwrne hir o Frwsel i Baku with alw yn Moscow ar y ffordd!
Chwe deg Ewro oedd cost y visa, and roedd yn amlwg fod y swyddog visa eisiau rhywbeth bach mwy iddo'i hun, neu 'fast-track' yn ei eiriau ef! Gwrthodais y llwgrwobrwyo hyn a bum yn aros dros awr am y visa!
O'r diwedd, ac ar ô1 talu cost weinyddol ychwanegol, roeddwn yn rhydd i weld Baku! Yn ffodus, roedd na Albanwr yn aros am visa ar yr un pryd, a gan ei fod of yn gweithio yn Baku yn y diwydiant olew, bum yn ddigon ffodus i gael lifft i ganol y ddinas gyda fe a'i yrrwr personol!
Dinas ddiddorol iawn yw Baku. Mae'r diwydiant olew yn golygu fod yna lawer o gyfoeth yn y brifddinas, ac o ganlyniad mae siopau drytaf y gorllewin yn llenwi'r lle. Mae'r ddinas yn dal i dyfu, a roedd yn amlwg fod nifer sylweddol o fflatiau, swyddfeydd, a gwestai newydd yn cael eu hadeiladu yno. I'r cefnogwyr a deithiodd i Baku yn 2002 a 2004, roedd y ddinas wedi tyfu'n sylweddol.
Mae'r diwydiant olew wedi denu dros fil o Brydeinwyr weithio yno hefyd, a chefais gryn dipyn o sioc i weld dyn yng nghrys pel-droed Abertawe, a chwpl mewn crysau rygbi Cymreig, yn ein cefnogi wrth i dim cefnogwyr Cymru herio tim 'Prydeinwyr yn Baku' noson cyn y gem fawr (dwy gol yr un oedd y sgor derfynol gyda llaw!).
Roeddwn yn aros yn yr hen ddinas, ble mae adfeilion y cenedlaethau a fu wedi eu cadw yn wych o fewn muriau hynafol yr hen ddinas. Mae golygfeydd gwych i'w gweld o gopa Twr y Forwyn, sydd yn safle ryngwladol UNESCO, a cheir adeiladau trawiadol ym Mhalas y Shirvan Shah. Roedd y llety ble roeddwn yn aros, yr Hostel Mil o Gamelod (!), yn syml and yn groesawgar lawn, a chryn dipyn yn rhatach na'r Radisson a'r Hyatt a welwch ynghanol y ddinas newydd! Roedd y prif stryd siopa yn dyst nad yw hyd yn oed Azerbaijan wedi osgoi dylanwad globaleiddio'r byd, a roedd y strydoedd yn llawn o'r trigolion lleol, yn cynnwys y menywod hardd, tywyll eu pryd a'u gwrdd.
Teimlais fod pobl Azerbaijan yn gyfeillgar iawn, gyda rhai ohonynt yn awyddus iawn i ymarfer eu Saesneg, neu i ddweud fod Ryan Giggs yn chwaraewr da iawn! Yn y tywydd crasboeth, aeth y saith deg wyth cefnogwr o Gymru i stadiwm Tofik Bakhramov i weld y bennod nesaf yn hanes pel-droed Cymru. Yn anffodus roedd y bysiau i'n cludo yno yn hwyr ac o ganlyniad gwnaethom golli'r anthemau a dim and gwneud y gic gyntaf mewn pryd! Ar noson gynnes iawn ym mherfeddion Baku, llwyddodd Cymru i guro Azerbaijan o un gol i ddim, a hynny gyda thim ifanc ac amhrofiadol iawn. Nid yw'n sioc i gyhoeddi fod cefnogwyr Cymru wedi dathlu'r canlyniad yn yr amryw o dafarndai Gwyddelig ac Albanaidd hyd oriau man y bore!
Gadewais Baku wedi treulio tridiau diddorol iawn yno, yn llawn chwerthin, pel droed, a dathlu yn y diwedd! Roedd pawb yn edrych mlaen i hedfan adref, neb yn fwy na'r ddau ddeg chwech cefnogwr a yrrodd o Gaerdydd i Baku gan godi arian ar y ffordd i blant amddifad (da iawn i fois Azer-bai-van!).
Yn nhermau pel-droed Ewrop, nid yw'n bosib i Gymru fynd lot pellach na Baku, and rwy'n croesi bysedd y bydd Cymru yn cael y cyfle i chwarae yn Kazakhstan rhyw ddiwrnod! Er na fydd Cymru yn chwarae yng Nghwpan y Byd 2010, mae'r freuddwyd yn parhau!"