Y mis hwn, tro Fleur Moody, Drefach Felindre yw hi. Cyn gadael Lloegr am Gymru yn '82 penderfynais ddysgu Cymraeg. Rwy wedi hala amser yn Ffrainc, De Affrica a Japan ac o'n i'n siŵr o Iwyddo, ond heb ddisgwyl pa mor hir y byddai'n cymryd! Ro'n i'n 39 oed, gyda phedwar plentyn yn Ysgol Penboyr, lawr yr heol; gwraig tŷ gyda gardd fawr ac yn hoff o anifeiliaid. Roedd y cymdogion bron i gyd yn Gymry Cymraeg (ond dim nawr). Dechreuais eistedd yn nhŷ Ani Mai, mam efeilliaid fel ydw i -i wrando arni'n siarad â'i ffrindiau. Ges i broblem ofnadwy i ddweud "Blwyddyn Newydd Dda". Gofynnais i'r prifathro pam yr oedd hi'n amhosibl i ffeindio rhai geiriau yn y Geiriadur Mawr. Esboniodd i mi am dreigliadau O diar!
Teithiodd Mam Ian i ofalu am y plant am wythnos yn haf '83, i mi fynd bob dydd i Brifysgol Aberystwyth ar Gwrs Carlam. Chwaraeon ni dap Dan Lyn James yn y car ar y ffordd. Pan es i fewn i'r swyddfa bost wedyn, clywais eiriau clir yn lle gobldigwc. Ond doedd dim dosbarth Ileol i ni ddilyn y pryd hwnnw.
Er bod ein plant wedi profi Cymraeg yn yr ysgol, gwrthodon nhw siarad yr iaith â ni o gwbl. Dros y blynyddoedd rwy i wedi mynychu sawl dosbarth - yn y pentref, Prifysgol Llambed, Coleg y Drindod, wedyn wythnos wych yn Nant Gwrtheym y Ilynedd. Rwy'n derbyn mod i wedi cael yr amser, yr arian a'r cludiany -problemau i sawl un arall rwy'n siwr.
Er bod dosbarthiadau'n angenrheidiol, mae'n rhaid clywed a siarad yn gyson. Heb siarad, does dim modd tsiecio os yw'r ddealltwriaeth yn gywir. Rwy wedi mynychu gweithgareddau Cymraeg am flynyddoedd heb ddweud Ilawer, wedyn ymunom -â CYD Castell Newydd Emlyn. Ro'n ni'n cwrdd yn fisol - 3 neu 4 Cymry Cymraeg a tua 7 neu 8 dysgwr, gyda rhaglen hwylus.
Nawr, mae Menter laith yn help mawr - gan gynnal grwpiau fel Paned a Phapur a gweithgareddau diddorol. Dechreuodd grŵp CYD newydd yn Llandysul y Ilynedd, felly mae mwy a mwy o gyfleoedd anffurfiol ar gael.
Ar ôl dychwelyd o'r cwrs cyntaf yn Aberystwyth, ro'n i'n siomedig iawn i sylweddoli cymaint o ddiffyg gwybodaeth ysgrifenedig roedd i'w gweld o gwmpas y lle, ro'n i'n edrych am gliwiau i'm dysgu neu fy atgoffa o'r geiriau. Erbyn hyn mae mwy ar gael - ond dim digon eto.
Fel dysgwr yng Nghymru fi'n teimlo bod hawl i mi siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg, ond mae 'na sawl un sy'n anghyfforddus gan fy mod i ddim yn berffaith rhugl. Mae'n werth hala tamaid bach o amser i ddeall ein gilydd, on'd yw hi?
wy'n dal i fynychu dosbarth Pontio bore dydd Gwener yn ystod y tymor, rwy'n falch i gael y cyfle. Rwy i hefyd yn ddiolchgar iawn i bawb sy'n mynnu cadw at y Gymraeg i ddysgwyr fel fi. Does 'na ddim byd i danseilio'r hyder fel troi i'r iaith arall!