Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Yng nghatref teulu Philip Ymweliad â Sri Lanka
Hydref 2005
Helen Williams yn sôn am ei thaith i Sri Lanka i ymweld â theulu, ar ôl y tsunami yn Rhagfyr 2004.

Wrth inni ddiogi o flaen y teledu ddydd Gŵyl San Steffan y llynedd, cawson ni, fel llawer o bobl dros y byd, ein dychryn wrth wylio lluniau erchyll o effaith y tswnami yn Ne Asia.

Ar ôl gweld bod gogledd-ddwyrain Sri Lanka wedi'i effeithio gan y don fawr, dechreuon ni ofidio am dynged un teulu yn benodol.

Roedd teulu estynedig Phillip ac Elizabeth Kumaravelo yn arfer byw o fewn tafliad carreg i'r traeth yn Trincomalee, sef ardal Tamil sydd wedi dioddef dros y degawdau diwethaf o ganlyniad i'r rhyfel ffyrnig rhwng y Teigrod Tamil sy'n brwydro am annibyniaeth, a'r llywodraeth Sinhala.

Ofer fu ein hymdrech i chwilio am newyddion a dechreuon ni feddwl y gwaethaf. O'r diwedd, ar ôl wythnos hir, dyma amlen gyfarwydd yn cyrraedd oddi wrth Phillip. Ei eiriau cyntaf oedd, 'A big wave come on Boxing Day and take our house ...but we have all safe.'

Hanes cythryblus y teulu
Treuliodd fy ngŵr, Digby Bevan ddwy flynedd yn gweithio fel peiriannydd dyfrhau yng Ngogledd Sri Lanka dros 25 mlynedd yn ôl. Ac yntau'n ddyn ifanc sengl, daeth i nabod y teulu'n dda pan oedd Phillip yn cadw'r tŷ iddo. Ers hynny, mae'r ddau wedi llythyru'n fisol ac rydym wedi gallu dilyn hynt a helynt y teulu wrth iddyn nhw golli eu holl eiddo ddwywaith o'r blaen yn y rhyfel a cholli ei gilydd hyd yn oed, pan fu rhaid iddyn nhw ffoi am eu bywydau a chuddio mewn coedwig rhag y fyddin.

Roedd ton ddinistriol y tswnami ond yn un ergyd arall mewn cyfres i'r teulu ddygymod ag ef.

Ymweld â Sri Lanka
Yn hen ddyn erbyn hyn, erfyniodd Phillip arnon ni i ymweld â nhw cyn iddo fe farw. Roedd y penderfyniad i fynd yn un hawdd. Cyn gadael Ffostrasol, buon ni'n ddigon ffodus i godi swm sylweddol o arian, diolch i gydweithiwyr a chyfeillion hael.

Ar ôl cyrraedd, penderfynon ni gyfrannu peth o'r arian at gynnal fferm yn Anandapurna sy'n gartref i blant a phobl ifanc amddifad sydd ag anghenion arbennig. Roedd ymweld â'r cartref a gweld y bobl ifanc wrth eu gwaith yn trin cnau coco yn brofiad hapus a thorcalonnus ar yr un pryd.

Does dim gwladwriaeth les werth sôn amdani yn Sri Lanka ac mae'r cartref yn derbyn dim ond 60 ceiniog y mis i ofalu am bob plentyn. Ansicr iawn yw dyfodol y bobl hyn ar ôl iddyn nhw adael a'r nod yw sefydlu cartref tebyg i oedolion.

Ymlaen i Trincomalee a chyfarfod cyntaf emosiynol â Phillip a'i deulu. Gan fod eu tŷ nhw wedi diflannu i'r môr, roedd e wedi trefnu inni gwrdd yn nhŷ ei ferch a'i gŵr ac o fewn dim, dyma bob aelod o'r teulu mawr a rhes hir o gymdogion yn dod i gwrdd â'r bobl hynod o dal o Gymru.

Treulion ni sawl diwrnod yn clywed hanes 'y don fawr' ac ymweld â safle eu tŷ sy bellach yn sgwâr o goncrit.

Gwelon ni'r eglwys fach ar y traeth lle buon nhw'n canu am 9.05 ar Ragfyr 26 pan ddaeth ton fach ddwy droedfedd o uchder. Ar ôl gweld y môr yn cilio'n bell o'r traeth, penderfynon nhw redeg rhag ofn. Pan ddaeth yr un fawr, roedd pawb ond mam ifanc a'i phlentyn oedd yn sâl ac yn dal i gysgu, wedi llwyddo i ddianc. Yn rhyfedd, er gwaetha'r holl ddinistr, mae'r eglwys yn dal i sefyll ac ar y wal mae Phillip wedi gosod cloc i ddiolch am gyfraniad hael trigolion Dyffryn Teifi.

Wedi profi te blasus Ceylon, penderfynon ni deithio i ardal fryniog yr ynys ac ymweld â'r planhigfeydd te. Roedd y newid sydyn o dywydd crasboeth y traethau euraidd i niwl, glaw ac oerni'r ucheldir yn brofiad rhyfedd. O fewn oriau o ddringo'r heolydd troellog, caregog, dechreuon ni sylwi ar weithwyr yr ystadau te niferus yn gwisgo cotiau glaw, sgarffiau a hetiau gwlân.

Mae'n debyg mai i'r ardal hon yr anfonwyd yr holl ddillad gaeaf a gyfrannwyd yn dilyn y tswnami a golygfa ddigon swreal oedd gweld gweithwyr te oedrannus mewn dillad chwaraeon ffasiynol y gorllewin a hynny mewn lle mor ddiarffordd.

Yn sicr, roedd gweld y menywod yn llenwi'r basgedi trymion ar eu cefnau â dail yn y glaw mân am bunt y dydd yn ddigon i ddifethau'r llun rhamantus oedd gen i cyn cyrraedd.

Gweld y difrod
Wedi rhewi yn nhywydd gaeafol Nuwareliya, teithion ni i lawr i wres arfordir de'r ynys gan obeithio cael sawl diwrnod i ymlacio cyn dychwelyd adre. I'r gwrthwyneb, cawson ni ein syfrdanu gan faint y difrod a achoswyd gan y tswnami yn yr ardal hon. Yn wahanol i arfordir dwyreiniol yr ynys, collwyd pentrefi cyfan o bobl o bob oed ac am ddegau o filltiroedd ar hyd yr arfordir mae cannoedd o bebyll a chabanau dros dro yn cartrefu'r rhai a lwyddodd i ddianc.

Dal i aros am ganiatâd cynllunio a chymorth mae'r bobl hyn ac mae'n ymddangos ei bod yn broses hir a llafurus.

Cyn gadael am Gymru, cawsom wahoddiad i ymweld â theulu arall i gael pryd o fwyd. Profiad difyr oedd treulio noson hamddenol yn gwylio tîm criced Sri Lanka'n maeddu eu gwrthwynebwyr mewn gêm gyffrous ar y teledu a phawb yn cynhyrfu'n lân. Roedd hi'n teimlo fel bod gartre'n gwylio gêm rygbi ryngwladol. Braf oedd gweld bod bywyd yn llwyddo i fynd yn ei flaen er gwaetha trychineb mor frawychus.

Erthygl gan Helen Williams


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý