Mae wedi bod yn dymor lwyddiannus arall i Glwb Hoci Llandysul yng Nghynghrair Hoci Dyffryn Teifi
Ar ddiwedd y tymor, wedi brwydro'n galed ers mis Medi diwethaf daeth y tîm yn ail yn y gynghrair ac yn ail yn nhwrnament diwedd y tymor.
Daeth canlyniad y gynghrair lawr i gêm olaf Llandysul yn y tymor yn erbyn Bow Street.
Yn anffodus, colli bu hanes Llandysul yn y gêm hyn yn erbyn tim profiadol iawn o Fow Street gan olygu yr oedd yn raid i Fow Street guro Llanybydder yn ei gêm olaf nhw er mwyn cipio'r gynghrair eleni eto - y dyna a wnaethon nhw.
Mae tim ifanc Llandysul wedi aeddfedu yn ystod y tymor diwethaf gyda nifer o'r chwaraewyr ifanc yn derbyn anrhydeddau yng ngwobrau diwedd tymor y gynghrair.
Derbyniodd Michelle Davies gwobr Chwaraewr Ifanc Gorau y Gynghrair dan 18 mlwydd oed a hithau dim and yn 15 mlwydd oed - da iawn Michelle. Enillodd Emma Davies gwobr Chwaraewr Gorau'r Gynghrair a hithau dim and yn 18 mlwydd oed - llongyfarchiadau mawr.
Roedd Charlotte Rowarth a Tracey Davies hefyd yn rai o chwaraewyr mwyaf disglair y gynghrair.
Roedd Tracey Davies yn gydradd ail (gydag Enfys Davies o Gastell Newydd Emlyn) fel prif sgoriwr y gynghrair gyda 16 gol - Karen Price o Bow Street wnaeth ennill y wobr gydag 19 gol.
Rydym yn ffodus iawn fel cynghrair i dderbyn nawdd gan gwmni lleol Mansel J. Griffiths a'i Fab, Garej Anwylfan Llanfihangel-ar-Arth er mwyn ein cynorthwyo gyda'r costau o gynnal y gynghrair.
Roedd Paul Griffiths yn bresenol yn seremoni wobrwyo'r gynghrair a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn 18 Ebrill yn Llandysul cyn y twrnament blynyddol gyda Mair Wilson, Cadeirydd y Gynghrair yn arwain y seremoni.
Roedd gan Landysul dau dim yn y twrnament 7-bob-ochr eleni ac fe wnaeth y ddau dim gyrraedd y rownd gyn¬
derfynol gan orfod chwarae ei gilydd i gyrraedd y rownd derfynol.
Wedi brwydro'n galed, ar ddiwrnod poeth iawn yn Llandysul, colli fu hanes Llandysul o 1-0 yn y rownd derfynol yn erbyn Bow Street. Bydd y clwb yn cael saib nawr dros yr wythnosau nesaf gan ail-ddechrau ymarfer ar gyfer y tymor nesaf ym mis Awst.
Rydym yn edrych i sefydlu tim dan 18 i chwarae yn erbyn timau o Sir Benfro yn ystod y tymor nesaf felly rydym yn edrych am aelodau newydd o'r oedran hyn i ychwanegu at yr aelodau iau sydd gennym yn barod.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno a'r clwb cysylltwch gyda Gwyneth Ayers ar 07968 809978 neu ofynnwch am wybodaeth bellach yng Nghanolfan Hamdden Llandysul.
Mae hefyd werth nodi fod gennym pum aelod o'r un teulu yn chwarae yn y tim erbyn hyn. Mae Janet Davies sy'n ran allweddol o'r amddiffyn yn fam i Kelly Davies, Tracey Davies, Emma Davies a Michelle Davies gyda'r pump ohonyn nhw yn chwarae i'r tim bob dydd Sadwrn - tipyn o gamp sydd siwr o fod yn rywbeth unigryw yng Nghymru!