Main content

Tlws Coffa Cledwyn Roberts am Delyneg Orau Cyfres y Talwrn 2017.

Tlws Coffa Cledwyn Roberts am Delyneg Orau'r Gyfres.

Tlws Coffa Cledwyn Roberts am Delyneg Orau'r Gyfres.

Blinder

Ei defod ddi-ildio yw codi'n blygeiniol.

tra bo'r gwlith mor loyw â'i llygaid,

ac arogl blodau dyddiau

yn dal mor gyfarwydd, mor gyffyrddadwy.

Taera eu bod hwythau yma'n rhywle;

stŵr y traed bychain yn rhuthro'r grisiau

a chysgod gŵr yn croesi'r buarth.

Mae'n troi bwlyn y weirlas â'i dwrn crynedig,

i'r chwith, i'r dde, gan chwilio llais o'r twrw chwâl

fel iaith cwmniaeth y caeau

yn dychwelyd drwy'r tarth. Rhaid gosod y llestri.

Mae'r wawr yn codi fel bara brwd;

bydd y pelydrau cyntaf yn torchi'u llewys,

yn taenu'u gwenau'n dew ar fwrdd y gegin fach.

Ond 'does dim yn cydio; mae'r tonfeddi'n rhy garbwl,

y geiriau yn gwmwl, a'r tes am y tÅ·.

Caiff hynny o gwmni yfory, drachefn,

i wylio'r buarth, a'i ffedog yn lân.

Osian Rhys Jones - 10 pwynt.