Rownd 2 Caernarfon v Y Prentisiaid
Rownd 2 Caernarfon v Y Prentisiaid
Trydargerdd – Adolygiad o fwyty
@bwytybrexit Pryd hwyr heb apéritif a weinwyd gan fenyw gre’, benstiff, dim ond jeli a bwli bîff brodorol, heb ryw dariff.
Llion Jones - 9 pwynt
TÅ· Golchi
(Dair blynedd yn ôl, ar wefan adolygu bwytai nid anenwog, cafodd TÅ· Golchi adolygiad go hallt gan un cwsmer.*)
‘BE GEBYST!’ fe waeddais, ‘ydi o’n syniad doeth
i weini eich chips chi a nhwtha mor boeth?!’
Gethin Wynn Davies - 8.5 pwynt
*https://www.tripadvisor.co.uk/ShowUserReviews-g186430-d3155644-r206839035-Ty_Golchi-Bangor_Gwynedd_North_Wales_Wales.html
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘blas’
Mae blas go gas ar y gwin
(gwin Farage, nid gwin fforin).
Geraint Lovgreen - 8.5 pwynt
Blas chwerw; blas ei charu
nes y daw blas Guinness du.
Iestyn Tyne - 8.5 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell: ‘Mae gen-i gymdogion go fentrus’
Mae gen i gymdogion go fentrus:
Yn lle byji, ma ganddon nhw estrys
sy’n rhy fawr i’r caetsh;
mae o’n ffan Edward H,
ond mae’n well gan y ci Gerrig Melys.
Geraint Lovgreen - 8.5 pwynt
Mae gen-i gymdogion go fentrus
sy’n hoff iawn o garu yn nwydus.
Mae caru yn iawn
heblaw ambell bnawn
Pan ma‘ nhw’n gwneud hynny’n gyhoeddus.
Alun Williams - 8.5 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Arddangosfa
Yn feunyddiol mae’n sgrolio
trwy'i gofnod diwaelod o;
yn rhoi’i lun ar ei wal las
a rhoi’i gwynfan ar gynfas.
Wal ydyw i’w ddaliadau
lle caiff hoffi’r gwir neu’r gau;
rhannu’i dast â’i ffrindiau’i hun;
rhannu nâd rheiny wedyn.
Nid yw’n neb o’m cydnabod:
gwn na fynnwn iddo fod!
Ni welaf byth ei ddwli -
oni wêl ef fy wal i!
Ifan Prys - 9.5 pwynt
Arddangosfa
(Cof plentyn sydd gen i o fynd i weld Coron Enlli mewn arddangosfa ym Mangor. Cefais fy ngeni ar yr ynys. Un o’m gofidiau mawr yw na allaf gofio byw yno)
Yn y co’ mae’r niwl yn cau
tu hwnt i’r Swnt a’i seintiau
ar dalp o aceri du;
fel ennyd, mae’n diflannu.
Ond ym Mangor mae coron;
un o dun a sŵn y don
lle daeth Mam a Dad ill dau
drwy’r Swnt i dir y seintiau.
Iestyn Tyne - 9.5 pwynt
Triban beddargraff gwneuthurwr neu wneuthurwraig cacennau
Fe’i claddwyd dan dir corslyd
Mewn cardbord bocs briwsionllyd:
A bellach mae tu hwnt i fraw –
Heblaw am ben-ôl soeglyd...
Emlyn Gomer - 8 pwynt
Fe bobaist bob briwsionyn
rhy hir, heb fod yn sydyn.
Ond heddiw, dyma ddod dy dwrn
mewn ffwrn, i losgi’n golsyn.
Alun Williams - 8.5 pwynt
Cân ysgafn: Dafydd a Goleiath
Mi oedd Duw ’di bod yn smocio crack pan greodd y Philistiaid:
Llwyth rhyfelgar hoff o fyrgyrs, ond nid hoff o Fecsicaniaid.
Eu harweinydd oedd Goleiath, godai ofn ar unrhyw ddyn:
Ugain stôn o ariangarwch, rhwysg, a chariad ato’i hun.
Arswydai y cenhedloedd at y cawr fytheiriai’n groch -
Â’i fyddinoedd fel eryrod, â’i steil gwallt fel wiwer goch;
Ac er bod gwledydd dros y byd â’u siâr o wariars cydnerth,
Nid oedd pencampwr ddoi i’r fei i herio’r swnyn anferth.
Nes un dydd i faes y gad fe gamodd Dafydd bach deheuig:
Sef Kim Un o wlad Korea, fynnai ei fod o dras Cymreig –
Ac yn ei law bum carreg niwclear lefn o Wylfa B,
Ac yn y llall roedd sling, a wnaed yn Sling hyd y gwn i...
Chwarddodd Goleiath: “Henffych bry’ – ti’n ddewr, mi ’na i gyfadda,
Ond ma’ gen i gerrig niwclear sy’ beth gythral mwy na hynna!”
Ond Kim Un a hyrddiodd garreg lefn a’i daro yn ei ben,
A’r Orenddyn waeddodd “Aw”, cyn diflannu mewn fflach wen.
A hedd ddaeth dros y ddaear – ’roedd Goleiath wedi’i drechu!
Yn anffodus, doedd na’m lot o neb ar ôl i fedru dathlu...
Mae ’na foeswers yn y stori inni geisio byw’n gytûn:
Os y taflwch gerrig niwclear, pwy fydd yna ar ôl? Kim Un.
Emlyn Gomer - 8.5 pwynt
Fe glywsoch fersiynau o’r stori, mae’n siwr,
Am y bachgen bach tila’n lladd cawr o ŵr.
Ond gwrandwch ar un sydd ’di cael stori lawn,
Nad hynny ddigwyddodd; ‘di o jyst ddim yn iawn.
Cariadon go selog oedd Goli a Dai,
yn siwtio ei gilydd fel llanw a thrai.
Roedd Dafydd yn fach, a Goliath mor dew,
Tra bod Dafydd fel merch a’r llall yn llawn blew.
Swydd Dai oedd mynd allan i ennill eu pres,
A Goli oedd adref yn clirio’n y gwres
Mewn ffedog, a menyg, a dim byd yn fwy.
(Hawdd dweud bod y ddau ‘n debycach i ddwy!)
Ta waeth, af i’r stori, a dywed paham
Fod Goli ‘di marw wrth grio ‘m ei fam.
Nid llofrudd cyffredin oedd Dafydd atôl,
Ond llofrudd damweiniol trwy dwll y pen ôl.
Nid carreg gyffredin oedd honno ychwaith,
A orfodai i Goliath ddiweddu ei daith.
Dyma hanner stori y stori sy’n iawn.
Diolchwch na chafo chi’m stori lawn!
Alun Williams - 8 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Haws o hyd yw cyfri'r sêr
a'u henwi gyda sboner
Y Prentisiaid - 0.5 pwynt
Telyneg: Pryd
“dwi’n barod rŵan”
Gwariodd hon
ei harddwch yn gynnil, ar hyd ei hoes;
ac wrth bori yn y cae ola’ heno,
mae’n sythu ei gwddw’n osgeiddig
yn erbyn y llwy yn fy llaw…
Roedd y jygiau ar ei dresel gynt
yn tollti’r croeso tua’r drws;
a hi a’m dysgodd i sythu ’nghefn
yn erbyn seti pren ei ffydd,
cyn mynd â fi wedyn, yn ei llaw,
i weld y Ganaan tu draw i’r dre.
“dach chi’n cofio ni’n gweld y llwybr yn sglein?
…rhyw falwod wedi’i wlitho…”
Siaradaf rŵan
â fi fy hun, a hithau’n dechrau chwitho;
“dwi’n barod i fynd,” meddai eto.
“Lle ewch chi ’lly?” atebaf, gan geisio gwenu’n deg;
a gwelaf y siom yn ei llygaid,
cyn iddi araf-boeri’r llwy o’i cheg…
Ifor ap Glyn - 9.5 pwynt
Ar gyrion Syracuse
roedd haul y bore bach eisoes
wedi sychu glaw y nos yn grimp.
Ac ar gyrion Syracuse,
roedd pysgod a chrwbanod tew yn nofio’n ara’ bach
trwy ffosydd llonydd y camlesi anghofiedig;
fu unwaith yn cludo grawn a glo
a mwynau o daleithiau’r gogledd
i borthladdoedd mawr New York;
y camlesi
lle bu’n hen hen daid
fel holl Wyddelod Utica a Rome
yn saernïo meini er mwyn dofi
llif y Mohawc a’r Hudson.
Ar gyrion Syracuse,
ar fore llonydd o Fehefin,
daeth galwad ffôn...
Grug Muse - 9.5 pwynt
Englyn: Cwsg
Ar ennyd cau’r amrannau daw egwyl
a chlustogaf innau
dan solas y cynfasau
yn y cwsg sy’n bywiocáu.
Llion Jones - 10 pwynt
(Mewn angladd, wrth geisio penderfynu p’un ai i weld y corff am y tro olaf ai peidio)
Yn y rhes, mi betrusaf – ar erchwyn
Yr arch, ac fe’i chofiaf
Yn ei hwyl ar bnawn o haf,
Oni wela’i chwsg olaf.
Gethin Wynn Davies - 9.5 pwynt
Enillwyr - Caernarfon