Rownd 1. Fforddolion v Tanygroes
Fforddolion v Tanygroes
Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Neges yn Diolch
#plentyndod@ysgol.Diolch am . . hen liwiau a’r cyfleoedd, - a thei werdd, ei iaith hi a’i gwerthoedd, bathodyn o obaith ydoedd a bwrdd du ein breuddwyd oedd.
Geraint Roberts- Y Fforddolion. (8.5 pwynt)
O diolch am gael hoe dawel, Donald
(drwy’n Duw'n gweithio'n ddirgel),
ond och! Ni fyddi'n dychwel?
O am siom! … A gawn Michelle?
Phillipa Gibson- Tanygroes. (8 pwynt)
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘gwan’
Wedi ffoi o fyd y ffau
daw’r un gwan i droi’n genau.
Geraint Roberts-Fforddolion (8.5 pwynt)
Yn dy law a'th anadl wan
araf, caf fy myd cyfan.
Phillipa Gibson -Tanygroes. (8.5 pwynt)
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Wrth chwilio am ysgol Trewyddel’
Dwedodd boi, ‘Cer draw am y gorwel,’
wrth chwilio am Ysgol Trewyddel,
‘mae’n bell ond mae’n bod
ac yn llinell hyn-od;’
dyna pham fy mod yn y sianel.
Geraint Roberts- Fforddolion.( 8 pwynt)
Wrth chwilio am Ysgol Trewyddel
A honno ond llath rownd y gornel,
Dywedodd y Meuryn
“Rhag mynd dros y dibyn
Mae’n well imi ofyn i Arwel.”
Arwel Jones- Tanygroes. (8.5 pwynt)
Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 9 a 15 llinell): Drws neu Drysau
Cofio marwolaeth ffrind ysgol gynradd
Rwy’n clywed y cliciedi
a ras y plant mewn rhesi
drwy ddrws y cof ynof i.
O’i agor daw gwên hogyn
i oedi’n y pren wedyn,
a’i ddeg oed yn ddu a gwyn.
Ac astell sydd â’i gystudd
yn dod drwy’r haenau bob dydd,
â’r hen wewyr o’r newydd.
Mae dalen un bachgen bach
a’i enw arni’n llawnach;
fe a’i inc sy’n ifancach.
I’r ddôr a thrwyddi o hyd,
yn dawel mae’n dychwelyd
i’w fainc wag fan hyn cyhyd.
Geraint Roberts- Fforddolion. (9.5 pwynt)
Gweli hyn: annedd dan glo,
wal, simnai dal, ond heb do,
heb anadl a neb yno
â’i lafur. Gwynt a’i lefain
biau’r rhos; meddianna’r brain
y lle braf lle bu rhyw rai’n
byw unwaith. ’Does neb yno’n
gwylio hynt eu drws dan glo
a’u gofal, - neb all gofio.
Ond daw’r haul sy’n troi eu rhos*
yn ddrws rhamant i’m plantos
a nhw nawr a fyn aros.
Phillipa Gibson- Tanygroes (9 pwynt)
Pennill ymson ar ddydd Santes Dwynwen
Nid carden Dwynwen mo’r dydd
na galwad ffôn i’n gilydd,
nac aros am y rhosod
eto fyth yw’r sbort i fod;
na hen focsed siocledi
na iaith y tail wrthyt ti.
Geraint Roberts- Fforddolion. (9 pwynt)
Pan fo hen ddyffryn Mwldan
 dagrau ar ei rudd
A phryfed byw y ddaear
Yn ysgafnhau y pridd,
Daw llwyd y berth â’i gân i’m clyw
I ddweud bod rhamant eto’n fyw.
Ann Richards - Tanygroes. (9.5 pwynt)
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Yr Adduned
Nos galan ar droad y ganrif
Rôl peint bach a minnau’n go ddedwydd
Addewid a wneuthum o ddifrif
Na ddwedwn i fyth yr un celwydd.
Dim celwydd i guddio fy meiau
Nac anwiredd gela bechodau,
Gwirionedd i bawb hyd yr oesau:
Ni ddwedwn i fyth gelwydd golau.
Dywedais y gwir wrth fy nghymar
Pan holodd am faint tin ei throwsus,
A’r gwir a ddywedais yn gynnar
Rôl blasu ei tharten gwsberis.
Dywedais y gwir ar geisiadau
Am swyddi, sawl grant, benthyciadau,
Pob Dolig wrth dderbyn presantau
Drwy f’adborth doedd dim lle i amau.
Cafodd hi ymateb oedd eirwir
Pan holodd sawl peint a fwynheais
A’r g’nidog gadd adborth go gywir
Am bregeth am frwmstan a ffwrnais.
Y siec oedd yn aros am lofnod,
A’r Swans oedd yn sâl, dwi yn gwybod,
Er deall na fyddai teilyngdod
Rhois enw go iawn i’r Eisteddfod.
Ac heddiw rwyf ŵr sengl ac unig
Yn bwyta ApDonalds beunyddiol,
Wyf ddi-waith, yn dlawd ac anniddig
A’r Dolig yn ŵyl amherthnasol.
Wyf lymeitiwr hynod ddigrefydd
Heb ennill aur, arian nag efydd,
Ond gwn i mai nefoedd tragywydd
A gaf i am beidio dweud celwydd.
Huw Dylan Owen- Fforddolion. ( 8 pwynt)
Adduned wnes fel arfer ar ddechrau'r flwyddyn hon -
Rhoi fyny dŵr y diafol, gael byw yn iach a llon.
A heno nawr fel arfer, rhoi tro i Anti Leis,
Gael gwydred gwin gwsberis fel arfer - o mor neis.
Wrth yrru tuag adref, dwy lein mi welaf gwlei
B Wan tw ffeif yn sydyn yn 'dual carriage way'.
Fy nghanlyn: rhyw sŵn rhyfedd, fel gog a nam â’i llais,
Na wir, ‘W - A’ yr heddlu’n ymgiprys am eu cais.
Fe dynnais lan yn sydyn i'r clawdd yn eitha clos,
Medd heddwas awdurdodol 'Good Evening Sterling Moss.'
Cynigodd imi gwdyn: ‘Na neis,’ meddyliais i,
‘Fel menyw fach Cydweli fu gynt a'i losin du.’
Medd ‘Rho dy geg yn hwnna,’ a wir ni chredwch fyth,
‘A gyda dy holl egni rhaid gadel ynddo chwyth.
Os methu cadw'r pwysau, mae teclyn gennym nawr
I gadw’r gwynt i fyny rhag dianc nes i lawr.’
A nawr fe dynnodd gorcyn o'i kit oedd yn ei gôl
‘Os gwnei fanteisio hwnnw, dw'i ddim yn mo’yn ef yn nôl.’
A heddiw rwy mewn mynwent is ywen yn y glaw
Yn talu cosb gymuned a chryman yn fy llaw.
Arwel Jones- Tanygroes. ( 9 pwynt)
Ateb llinell ar y pryd
Daeth y byd a'i waith I ben
A'i dymor yn troi'n domen.
Fforddolion (0.5 pwynt)
Daeth y byd a'i waith I ben
A dybiwn beth yw'r ddiben?
Tanygroes (0 pwynt)
Telyneg mewn mydr ac odl (heb fod dros 18 llinell): Cwpwrdd
Fe roddais ynddo air neu ddau,
a gair bach arall wedyn,
gan ledu’r drysau led y pen
i eiriau eraill ddilyn.
Pentyrrais lyfrau wrth y pwys
yn enw pob gwybodaeth,
nes roedd y silffoedd cryfaf oll
yn gwegian dan ddysgeidiaeth.
Ni allwn estyn ambell beth
mor bell yn ôl y cuddiai,
ac yn fy myw, ni allwn i
un diwrnod, ddatgloi’r drysau.
Pe byddai un rhyw ddydd i ddod
yn llwyddo’i gael yr allwedd,
fe gai o yno ofod llawn
a deall yn cydorwedd.
Mari Lisa- Fforddolion. ( 9.5 pwynt)
Bwth tynnu llun yn Llundain
fu’n lloches lle câi ef
a’i gariad gipio cusan
eu serch yn nos eu nef.
Mae’i lanc mor bell yn Llundain,
ond gartref mwytha’r llun
gan deimlo'i wyneb yntau
â gwrid o'i weld ei hun.
Fe lithra lun eu cariad
i mewn i'r amlen gul
a'i roi yng nghefn y cwpwrdd
dan wobr yr Ysgol Sul.
Ann Richards- Tanygroes. ( 10 pwynt)
Englyn yn cynnwys enw unrhyw goeden
Y Gymraeg
Hi’r ernes ymhob mesen, hi’i hunan
ganghenna’r wythïen;
hi’r pridd dan braffter y pren,
hi’r wedd ddur, a hi’r dderwen.
Mari Lisa - Y Fforddolion. ( 8.5 pwynt)
Â’m golau rwy’n blodeuo a hawdd im,
ddraenen ddu, dy blesio
trwy roi it, ond pan ddaw tro,
difyr hefyd dy frifo.
Phillipa Gibson - Tanygroes ( 9 pwynt)
Enillwyr- Tanygroes.