Rownd 2 Aberhafren v Ffostrasol
Rownd 2 Aberhafren v Ffostrasol
Trydargerdd: Cwestiwn ac Ateb Arholiad
O fesur holl arwyneb
ac onglau tragwyddoldeb,
amcangyfrwch werth ein byw...
Ai Duw yw’r unig ateb?
Owain Rhys - 8.5 pwynt
Mae deugain o ddefaid ar ddibyn.
Syrth chwech. Faint fydd ar ôl wedyn
I agor y cwest?
Rhifyddeg yw’r test:
Dim un, byddai’r rest wedi dilyn!
Gareth Ioan - 9 pwyn
Cwpled caeth yn cynnwys “haws”
Llawer haws na llywio’r hedd
Yw dur, a gwÅ·r yn gorwedd
Aron Pritchard - 8.5 pwynt
Haws o hyd anelu saeth
Dialedd na brawdoliaeth.
Dai Rees Davies - 9 pwynt
Limrig yn cynnwys “Mi es i am wythnos i’r gofod”
Mi es i am wythnos i’r gofod
Sydd yna uwchben yr atalnod,
Rhoddais farc am i lawr
Gyda beiro reit fawr
Ac yno yn awr mae ebychnod!
Owain Rhys - 9.5 pwynt
Mi es i am wythnos i’r gofod
‘Da trip ysgol Sul Pant-yr-hafod,
Gan ddychwel yn brydlon
Rôl galw yn Neifion
Fel arfer am sglodion a physgod.
Iolo Jones - 9 pwynt
Cywydd: Newyddion
Gwyro i’r dreif. Ger y drws,
ei gamau ddwed yn gwmws
beth yw’r newydd sy’n cuddio’n
enw noeth ei lyfryn o.
Ar riniog y rhieni,
agor ais wna llafn y gri
a’i chlywed a wna, wedyn,
ddegau o weithiau ‘rôl hyn.
Gyda’i olau’n gleisiau glas,
cyrhaedda car yr heddwas.
Aron Prichard - 9.5 pwynt
(Newyddion ar ‘Trydar’)
Heddiw, o dan ‘Llenydda’,
Roedd newyddion digon da
Ar y we, sôn bod rhywun
Yn rhoi her i Ceri Wyn
Fel ein meuryn, dyn â dawn,
A hefyd beirniad cyfiawn.
Emyr ein ffrind fan yma
Yw’r dyn, mae’n dalyrnwr da.
Ond heno wedi’u tynnu
I lawr oedd y ffeithiau lu,
Eu cuddio yn y caddug
Yw ffawd pob newyddion ffug.
Dai Rees Davies - 9 pwynt
Triban beddargraff organydd
Fe es di o ma’n dawel
trwy ddrysau trwm dy gapel
a gadael llyfr emynau brau
dy nodau ar yr awel.
Mari George - 9 pwynt
Yn oedfa’r hwyr yng Ngharmel
Fe roes ei olaf ffarwel,
Mi fyddai byw, pe byddai’n iach,
Ondd aeth at Bach a Handel.
Emyr Davies - 9.5 pwynt
Cân Ysgafn: Y Noson Ddartiau
Ar ôl yr hir ymaros, o’r diwedd daeth yr awr,
yr ornest gyn-derfynol rhwng Jezza ‘Gorbyn Gawr’
a Thesa ‘Cryf Sefydlog’ (ffugenwau gwael dros ben
a fathwyd gan ohebydd yng nghaffi’r Llyfrgell Gen).
Roedd eraill yn cystadlu, ond yn ôl Papur Ni
doedd rheiny ddim yn bwysig, dim ond y fo, a hi,
a thwyllwyd y pentrefwyr i ddechrau credu hyn
ac aethant lawr i’r dafarn gan bacio mewn yn dynn.
Bu Tessa yn ymarfer rhoi’r dartiau tua’r dde,
tra Jezza fu â’i anel at lun o Tony Blair,
ac erbyn dechrau’r ornest, mor nerfus oedd y pâr,
y ddau mor wael a’i gilydd, dechreusant hitio’r bar.
Bu hithau’n clecio’r chwerw, ac yntau ei binc jin,
nes iddynt ddechrau diosg, cyn chwydu mewn i fin –
wel wedyn aeth yn llanast, bu dechrau dwyn o’r til,
ac yfed gwin a whisgi, gan wrthod talu’r bil.
Dadrithwyd y pentrefwyr, gadawsant cyn y wawr
gan adael y ddau ddartiwr yn rhochian ar y llawr.
Mae sôn am gynnal rematch, mae’r ffeinal gyda hyn
yn erbyn J.C. Juncker, ‘Y Lwcsemborgyn Syn’.
Owain Rhys - 8.5 pwynt
Fe wnes i gau un llygad, a wedyn cau y llall,
Mae ambell weithred felly yn weithred digon call.
Gan fod ‘na angen dwbwl i orffen gêm yn iawn,
Fel capten Tîm Moreia, roedd gen i lot o ddawn.
Anelais mewn tywyllwch, a hithau’n olau dydd,
A rhoi rhyw weddi fechan, ‘rwy’n gredwr cryf mewn ffydd.
Yn festri Eglwys Salem, ar silff wrth ben y tân
Gosodwyd y bwrdd dartiau, ger llun o’r Ysbryd Glân.
Yn hedd y noson ddartiau disgwyliwn gael pob clôd,
Ond rhoddais dwll i’r Ysbryd, lle nad oedd twll i fod.
Fan hyn daeth ysfa’i regi, sef holl regfeydd y byd,
Mewn gornest rhwng dau gapel, eu meimo wnes i gyd.
Ond gwelais y gweinidog ac arno olwg flin,
‘Rwy’n siŵr fod geirfa hwnnw, yn waeth na rhai fy hun.
Fe ddaeth y nos i derfyn gan bod hi’n mynd yn hwyr,
Pob cyfrif sgôr yn berffaith a’r oll mewn heddwch llwyr,
Ar ôl cyhoeddi’r Fendith ar noson ddartiau wych
Er fod na rhai yn cwyno ei bod hi braidd yn sych,
Anelodd yr holl ddartwyr am far Y Bull cyn cau,
I gyfrif eu bendithion, ac i anghofio rhai.
Emyr Davies - 9.5 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Y dafarn â beirdd deufyd
Yn y Vale mae'n haf o hyd.
Aberhafren - 0.5 pwynt
Yfais, a meddwi hefyd
Yn y Vale mae'n haf o hyd.
Ffostrasol - 0.5 pwynt
Telyneg: Awr
Tu fas i’r wers biano,
dwi yn y car
a nos Fawrth arall
yn gwgu arnaf yn y drych.
Dw i'n aros
yng nghanol sŵn arpeggios y pethau
y dyliwn eu rhoi mewn trefn.
Ond unwaith eto,
dw i’n gyrru
drwy fy amser sbar,
rownd fy nghydwybod
a nôl i’r unfan.
Hyd nes y daw hithau
i ddawnsio
at y car,
wedi darganfod
nodau newydd.
Mari George - 9.5 pwynt
Dof eto i dreulio awr,
awr o gadw’r oed.
Eisteddaf,
gan gyfarch cymdogion,
a’r cwmwl tystion yn ymdonni’n araf ‘mysg y llwch
ym mhelydrau’r haul.
Dyma awr yr intrada a’r emyn,
awr salm a gweddi, y gwrando a’r myfyrio.
Cloc yn tipian, llais yn llusgo.
Ymlonyddaf
â’m meddwl yn myned tua’r mynydd.
Ar ambell Sul
yn niwloedd y ffriddoedd diderfyn
daw ataf eiliadau tragwyddol,
dafnau o oleuni,
i wlitho fy mod
o ddod i dreulio awr
a chadw’r oed.
Gareth Ioan - 9 pwynt
Englyn: Clychau’r Gog
Dôl y wig yn wyllt o dlws, a’u hutgyrn
yn datgan fel corws
mai lôn sy’n f’arwain o ’mlŵs
yw co’ mebyd Cwm Mabws.
Owain Rhys - 9 pwynt
Er bod y carped wedi ei daenu
Mor dyner, rwy’n ofni
Na ddaw cog i’n hannog ni
Â’i llawenydd o’r llwyni.
Iolo Jones - 8.5 pwynt
Enillwyr - Ffostrasol