Main content

Rownd 2 Y Tir Mawr v Bro Alaw

Rownd 2 Y Tir Mawr v Bro Alaw

Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol):

Adroddiad gêm

6 i 5 i Borto

Bechod nad wyf yno

Dwi’n un o 5 mewn drycin yn y Rhyl

Di gwlychu at ein tronsia

Hwre y chwiban ola

Tîm Rhyl dan 4 dim Prestatyn nil.

Jôs - 8 pwynt.

Obamacare – Affordable Care Act

Ar gardiau’r Gofal Fforddiol,

Bu bidio strategaethol,

Er sawl tric budur ddeliodd o -

Y ‘No Trumps’ oedd fuddugol!

John Wyn Jones - 8 pwynt.

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘claf’

Tros glaf, po fwya’r siarad,

Y di-glyw ddeil gyllid gwlad.

Huw Erith - 8.5 pwynt.

Wedi’’r glaw cwyd daear glaf

I herio’i marw araf.

Richard Parry Jones - 9 pwynt.

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Pe bawn i’n llai cwrtais a hawddgar’

Mi ddwedwn wrth ddyn ar ei bedwar

(Pe bawn i'n llai cwrtais a hawddgar)

Fod cwrw yn iawn

Ond nid ar y pnawn

Ti'n Llywydd y Cymry ar Wasgar.

Jôs - 8.5 pwynt.

“Pe bawn i’n llai cwrtais a hawddgar”

Fe ganwn fy nghorn ar y bygar

A’i basio ar frys

Heb ddiferyn o chwys

A chodi dau fys ar yr uffar.

Ioan Roberts - 8.5 pwynt.

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cynnwys cymeriad llythrennol

Cywydd - Haul y Gwanwyn

Gwanwyn ddaeth heibio gynnau:

Gwib newydd am ddydd neu ddau.

Gwenau ym Mawrth – ac ŵyn mân

Goeliodd ym Mai a'i Galan.

Gwynt teg a thelynegol,

Gewin aur ar frigau'n ôl;

Golau'r hwyr yn galw'r hen

Gôr oesol i'r geiriosen.

Gyda'i nerth drwy'r gwaed yn iau,

Glasoed yw'r hen ei gleisiau

Gwanwyn gwyn, ond bu, gan gwaith,

Gwiber ar lwybrau gobaith.

Myrddin ap Dafydd - 9.5 pwynt.

PRIFWYL MÔN

Y mae hon, oedd fam unwaith,

Yma’n dal i gynnal gwaith

Y diwyd sy’n troi daear

Yn dir meithrin gwerin gwâr.

Y mae’n hen ond gwêl ‘leni,

Ymhlith gwae ei hofnau hi,

Yr hin eto’n egin iaith

Yfory, a’i llafurwath

Yno’n wlith i’r gwenith gwyw;

Y ddelfryd o hyd ydyw

Ydlan, ym mhob llan a llys,

Yn llawn o rawn yr Ynys.

Richard Parry Jones - 9 pwynt.

Triban beddargraff argraffydd

Un crefftus iawn wrth bwytho

A'i bleser mawr oedd rhwymo;

Ni charodd lyfr clawr llipa 'rioed –

Clawr caled roed amdano.

Myrddin ap Dafydd - 9 pwynt.

Ei enw oedd “R.Gruffydd”

Yr oedd o yn R graffydd,

Fe’i gwasgwyd gan ddau limo du

Rôl pechu yr R lywydd.

Incio y bu i’r diwadd,

Gwnaeth raglan at ei angladd,

Yn ôl ei arfar, llanast llwyr

Roedd pawb yn hwyr yn cyrradd.

Fy mhapur fu yn nodi

Y mynd a dod a'r priodi

A phob manylyn ynddo fydd

Ar ddydd yr atgyfodi.

Ioan Roberts - 8.5 pwynt.

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y Ddarlith

Roedd pawb oedd o bwys i gyd yna – gwleidyddion, gwyddonwyr o frid

Pob un yn nrhi chant ucha’ MENSA a’r cwbwl yn glustia’ i gyd.

O’r diwedd fe geuwyd y drysa’, ac yna, ar drawiad y gong

Bonllefodd yr holl gynulleidfa pan welo’ nhw’r Athro Gon Wong.

R’ôl oes roedd yr enwog athrylith ‘di llwyddo i greu diod hud

Ac heno, yn fyw, yn ei ddarlith, roedd Wong am syfrdanu’r holl fyd

Yn wir, yr oedd grym yn ei hylif i droi y di-enaid yn fyw

A’i wneud o’n Wyddonydd y Ganrif os nad ei ddyrchafu yn dduw.

Ond dioddai Gon Wong efo’r nerfa’, roedd ei wddw’n ddolurus a sych,

Gan gydio’n y botel agosa’ fe’i hyfodd, bob dropyn, fel Ych

“Go dam! dwi ‘di gwneud camgymeriad !” meddyliodd Gon Wong gyda rheg

A’i ddannedd berfformiodd ddetholiad o ddawnsfeydd o Jeina’n ei geg.

Roedd sŵn gan y set ddannedd gosod fel newid mewn cadw-mi-gei

Fe fratho’ nhw Wong yn ei dafod cyn dianc o’i geg lawr ei dei.

A mynd ‘hyd y bwrdd rhwng y gwydrau, tua hanner can milltir yr awr

Ac wedyn i lawr un o’r coesau cyn neidio o’r llwyfan i’r llawr

Y dannedd oedd wrthi’n ffyrnigo gan glecian wrth agor a chau

A’r dorf fel y Môr Coch yn partio wrth weld fod y taclau’n nesau.

Fe lwyddwyd, rhyw sut, i’w cornelu a’r dewr fu’n eu pwnio ‘fo ffyn

A’r dannedd yn dal i ‘sgyrnygu a’u brathu nhw bob hyn a hyn.

Uwchben yr oedd lleni crogedig – achubiaeth i un oedd ar ffo

A thoc roedd y dannedd mileinig ‘di dianc drwy’r ffenest i’r tô.

Ar fast Jac yr Undeb yn swingio yn edrych fel rhan o ‘Ging Kong’

Y dannedd, yn gloff a ‘di blino orweddai ym mhawen Gon Wong.

Bu’r cyfan yn ormod i’r polyn. Disgynodd i’r stryd fatha saeth

A wong a’i set ora’n ei ddilyn fu farw dan fan rhyw ddyn llaeth.

Y ddarlith sydd nawr ond chwedloniaeth. Ni chawsom ein synu gan ŵr

Na fedra fo ddweud y gwahaniaeth rhwng hylif dewiniol a dŵr.

Jôs - 8.5 pwynt.

Daeth dynes wallt brith i’n plith i roi dar lith, “no teeth”.

Un o Gon wy cymaint â dwy, a mwy.

Cyn fo del ddel fel Ter fel a mor fawr â’r cawr.

Dechreuodd yr ar taith faith am saith ac ailadrodd dair gwaith.

Hanes y ddynes a’i theu lu a’i acha u yn ôl Barti Ddu.

Dyn glo oedd o. Ben o Ben LlÅ·n oedd un dyn ar ben ei hun,

a aeth yn ei long am Hong Kong o wlad y King Kong ond aeth petha’n rong,

a chas, yn lle gwylio’i gwmp as edrychodd o’i gwm pas

wrth fynd yn ffasd, ffasd methodd Belffasd

gan gyrradd Hondw ras ger y Baha mas yn lle Madras a’r Khyber Pass.

A tasa fo’n gall a throi y ffordd ar all fe all ai

gyrraedd Dub ai, Aber tai fai neu Klandy gai ai.

Bu i’r holl sŵn am ddŵr wneud i un gŵr, fethu â dal ei ddŵr

ac wrth besychu a thagu a thagu, gwlychu

sana a sgidia dyn y sêt gosa.

Erbyn hyn roedd llyn ac ew yn gw yn ar garped glas, peth cas,

mwy o embar as ac er mynd ar ras yn stret am y toi let, methu’r sêt. Tŵ lêt.

Wedi gwario’i gein iog, dychwelodd yn da log heb agor ei fal og.

Ddwedai ddim rhagor, mwy y tro nesa, ella, ta ta.

Geraint Jones - 9 pwynt.

Ateb Llinell ar y pryd.

Ni chewch wobr heb golli chwys

Na llyw heb dorchi llewys.

Bro Alaw - 0.5 pwynt.

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Dalen Newydd

Roedd honno'n dref a dalodd y pris

Pan ddaeth y bomiau o'r awyr las.

Penodau o'r llyfrgell chwilfriw a roed

Dan gyrff ar y stryd i arafu gwaed.

Darnau o deulu a heliodd eu pac:

Tai weiren bigog a lloches cefn tryc,

Nes baglu yma i'n breichiau gwyn

Ac estyn eu cais ar y ffurflen wen,

Cyn gweld yn y papur mai eu tynged o hyd

Ydi'r print sy'n arfogi'r gang ar y stryd.

Myrddin ap Dafydd - 9.5 pwynt.

Dalen Newydd

(I arwr)

O’r cysgodion, yn nyddiau’r balaclafa

ti oedd y duw, a’th air

a benderfynai’r ‘awr a’r dydd’

yr hysiai dy weision hwy i flasu’r

swper olaf chwerw,

tra llosgai cannwyll dy grefydd

yn fflach y tanio

ac yn fflam y bomio,

ond wedi troi’r ddalen,

ti oedd y gwas

yn hedfan fel colomen,

drwot ti roedd goleuni gobaith

yn toddi’r cysgodion,

a hyder yr ymddiried

yn goleuo’r corneli

ac ar y ddalen olaf un

roedd cymod a chyfeillgarwch

yn gwefru’r geiriau.

Cen Williams - 9.5 pwynt.

Englyn: Ergyd

Taniodd, a 'chawn drafod hynny', – haerodd;

Pob gair wedi'i saethu;

Ond drwy darth ei phowdwr du

Y nos sy'n ein hynysu.

Myrddin ap Dafydd - 9.5 pwynt.

ERGYD – Marwolaeth Martin McGuinness

Yn sŵn y glec mae eco – hen gynnen

Yn ail-gynnau eto,

Swn milain cigfrain y co’

Yn cyffroi’r cae â’u ffraeo.

Richard Parry Jones - 8.5 pwynt.

Enillwyr - Y Tir Mawr.