Rownd 1. Bro Alaw v Lanrug.
Rownd 1. Bro Alaw v Llanrug
Trydargerdd: Hysbyseb gan gwmni yswiriant.
Bydd ein siwrin hollgynhwysol
Yn dy warchod yn bwrpasol,
Gwarant fydd rhag pob digwyddiad
O dywyllwch nos y codiad
At oleuni’r atgyfodiad.
John Wyn- Bro Alaw. (8.5 pwynt)
Dim giamocs, dim gondolas, dim setiau crand, dim arias. Cyn i’ch bywyd droi yn llwch, dewch atom ni, cymharwch!
Richard Lloyd Jones- Llanrug. (8 pwynt)
Cwpled caeth yn cynnwys y gair “glas”
Mae’n hwyr glas rhoi meini’r glyn
Yn wal i atal gelyn.
Ioan Roberts-Bro Alaw. 9 pwynt
Er cysgu, glasu wna’r glog
eilwaith; daw’n wanwyn deiliog.
Dafydd Whteside Thomas-Llanrug. (8.5 pwynt)
Limrig yn cynnwys y llinell “Y fi oedd y cyntaf o’r pentref/pentre/pentra”
“Y fi oedd y cyntaf o’r pentra”
I lisdio a sgwario’n y lifra’,
Ond ofar fu’r cyfan,
A thystio mae’r llechan
Mai fi oedd y cynta’n ôl adra.
John Wyn Jones- Bro Alaw. (8.5 pwynt)
Tra’n gweithio mewn ffatri gwneud arfa’
Y fi oedd y cyntaf o’r pentra
I bwyso rhyw fotwm
Efo rhybudd ‘Plwtoniwm’,
Fo hefyd, wrth reswm , oedd ‘rola.
Dafydd Whiteside Thomas a Iwan Roberts- Llanrug. (9 pwynt)
Cerdd ar fesur yr englyn milwr : “Oedfa”
Yn driw i’r cwrdd yn ddiwyd
 hen wraig TÅ·’n Graig ar hyd
Hunllef y strydoedd swnllyd.
Wynebu clebran aber,
Miri haf glan môr a’i her
I’w Saboth tawel, syber.
Dringo’r rhiw rhwng y criwiau
O gam i gam, côt ar gau,
Menyg a llyfr emynau.
Ninnau awn heibio’n heini
O Sul i Sul, heb sylwi
Anodded y daith iddi
Na gwybod am ei gobaith
Y daw dydd ei ffydd yn ffaith
A’r hwyl mewn oedfa’r eilwaith.
Richard Parry Jones- Bro Alaw. (9 pwynt)
OEDFA
( Bersonol ger Eglwys Cwyfan, Yr Eglwys yn y Môr)
 maen sydd rhy drwm i mi
i’w symud yn fy siomi,
ynys yw i’m tywys i.
Fy nod, dod fel cyndadau
dod i erw paderau
i grefu hedd, ymgryfhau.
Mynnu cymun â’m hunan
rwyf o elfennau Cwyfan,
mi, y môr a’r tywod mân.
Yn hwyr y nos yn nhir neb
cael rhinwedd o’m claerineb,
natur sy’n cynnig ateb;
aelod ydwyf ar Gwyfan
mi a’r gwynt yn morio’r gân,
a’i hen lith dry’n ddalen lân.
Richard Llwyd Jones- Llanrug. ( 9 pwynt)
Pennill Ymson dynwaredwr neu ddynwaredwraig
Ymsongan y Dynwaredwr
Bu’n fain ar ddynwaredwyr, ‘doedd dim galw o un lle,
Un diflas ydy Carwyn a gwleidyddion Kerdiff Be,’
Rhy borin ydy Corbyn a does neb yn nabod Mê –
Ond wedyn fe ddaeth Trump!
Canwn, bloeddiwn Haleliwia,
Daeth, fe ddaeth i ni fel manna,
Pedair blynedd dda – o leia’,
Diolchwn am gael Trump!
Ioan Roberts- Bro Alaw. (9 pwynt)
Pan af i oed ymddeol
A’m pensiwn yn y banc
Fe brynaf dafarn fechan
Ar lannau’r Fenai dlawd
Y gwel yr heicwyr aml yn berffaith glir
Wrth gerdded heibio ‘rôl eu teithiau hir.
A dyma fi yno
A’m dychymyg yn eroplen…
Pybs fy mebyd, Yr Antelope, Y Gazelle,
Ac ar fy llw, y pub lle’m maged – Y Weit-hôl,
Wrth fy nghefn mewn pob rhyw ddadl ffôl.
Duw a’m gwaredo, peidiwch â sôn
Dyma’r syniada unigryw a ddaw i ddyn
Tra’n eistedd yn nhafarn y Gardd Fôn.
Dafydd Williams, Llanrug. (8.5 pwynt)
Cân Ysgafn (heb fod dros 20 llinell a heb fod yn soned): Y Filltir Ychwanegol
[hy dilyniant Y Bore Coffi - Mae’r Steddfod Fawr yn dod yn nes, a ma’ nhw’n swnian isio pres ...]
‘Rôl y Bora Coffi llynadd ma’ Nhw’n swnian yn ddi-ddiwadd,
Steddfod isio pres a ninna’n gorfod adfer parch i’n pentra’.
Galwyd pwyllgor ond serch hynny ‘mond rhyw ddyrnaid wnaeth droi’i fyny
Dau gyfarfod, dyna’r cwbwl - wedyn roeddwn i mewn trwbwl.
Ymddiswyddodd Wili’r Buarth, wedi ddal mewn gwely diarth,
‘Mond un ddynas ddaeth i’r c’warfod achos dwylo Huw yr Hafod.
Y trysorydd aeth am wylia efo gwraig ei gyfaill penna,
Mae ‘di gaddo dŵad adra ar ôl gwagio pwrs y gronfa.
Yr oedd petha’n ddu ofnadwy ond daeth Phil the Greek i’r adwy,
Aelod blaenllaw o’r frenhiniaeth, un fu’n gymaint ysbrydoliaeth;
Arwr nifer dda o’m cerddi, noddwr hael, hen gyfaill imi:
Rôl egluro y sefyllfa, yr roedd o a’i wraig, mewn dagra’!
Er ei bod yn amser caled fe agorodd Phil ei waled,
A chynigiodd hanner coron, tybed fyddai hyn yn ddigon?
Y fo a fi yn gwneud trefniada’ i gyfarfod ymhen tridia’,
Es i at ddrws ffrynt y palas a chael ordors gan ryw ddynas
I fynd rowd i’r talcian pella, a rhoi cnoc ar un o’r drysa:
Cerdded, cerdded, bûm am hydion - teimlo mod-i ’di cael digon.
Mynd i’r palas a chael croeso, fe nath Phil fel rodd o’n gaddo,
Roedd drws cefn er’n bell uffernol werth y filldir ychwanegol!
Geraint Jones- Bro Alaw. ( 8 pwynt)
Cerdded
Oriawr Fit-Bit, Garmin a Strava
Ydi’r ffasiwn ddiweddara;
Mesur camau fesul pellter
Mesur uchder, mesur amser.
Hel a didol ystadegau
A rhoi trefn ‘rôl casglu’r ffeithiau;
Mapio’r oll ar gyfrifiadur,
Creu trawstoriad o’r daith antur.
Yn yr oriawr mae pob troedfedd
Wedi ei mesur yn ddi-duedd;
Honni pellter maith tra’n troedio?
Does dim posib ceisio twyllo.
Modur
Rhowch i mi rhyw hen,hen, siandri
Fel yr un sydd heno gen i ;
Mae pob cloc ar hon yn methu:
Weithiau’n gyflym, - neu’n arafu.
Felly, fel sy’n digwydd heno
Pan fo angen costiau teithio,
Mathemateg greadigol
Roith sawl milltir ychwanegol.
Dafydd Whiteside Thomas.- Llanrug (8 pwynt)
Ateb llinell ar y pryd.
At ferw'r elw'r eilwaith
Awn I gyd yn ôl i'r gwaith
Bro Alaw. (0.5 pwynt)
Awn I gyd yn ôl i'r gwaith
Yn ôl am gyflog eilwaith.
Llanrug.
Telyneg - “Gwely”
Ei gyweirio’n ofalus â gofal y fam obeithiol
sy’n taenu’r gyfnas yng nghynnwrf yr aros
i dderbyn had i’w bru.
Gosod y gwely,
chwynnu a phriddo
cyn i’r gwlydd godi i ddenu
cusan yr haul a gofal y garddwr.
Sypiau o datw o dan bob gwlyddyn,
yr un maeth, yr un gynhaliaeth, yr un moethau
fel y plant a genhedlwyd ganddo
i dderbyn yr un iaith,
yr un Gair a’r un geiriau.
Yn awr yr aeddfedu,
tatw bwyta, tatw hadyd, tatw moch
i’w didoli ar gyfer y gyrnen
fel epil y fratiaith, y goethiaith
a’r di-iaith.
Cen Williams- Bro Alaw. (9.5 pwynt)
O’r Lôn Wen,
Ar heuldro’r gaeaf,
Syllaf ar belen aur ein bodolaeth
Yn suddo i wely’r gorllewin, am Iwerddon.
Daw anesmwythyd drosof
Wrth i silwét peilonau ar dramp,
A chysgod du’r Eifl,
Dynnu dŵfe’r diwetydd
Dros Fro Lleu ac Aber Menai…
Nes cofio,
Dan gwrlid y nos,
Y bydd hud Gwydion,
Serch Dwynwen,
A phair Matholwch,
Eto fyth yn dadeni gwawr
Dros erchwyn y dwyrain.
John Roberts- Llanrug. (9 pwynt)
Englyn: Calendr
Fe lwydda drwy’r holl flwyddyn – i nodi,
A’n cadw’n y darlun,
A’i werth ddaw o ddweud wrth ddyn
Mae’n hoedl yw munudyn.
Richard Parry Jones- Bro Alaw. (8 pwynt)
Dyddiad a digwyddiadau – yn eu trefn,
hefyd treigl yr oriau
Fore a hwyr drwy’n hoes frau
a ddeil hwn a’i ddalennau.
Dafydd Williams. Llanrug. (9 pwynt)