Rownd Gyn-Derfynol 1 Y Tir Mawr vs Y Ffoaduriaid.
Rownd Gyn-Derfynol 1 Y Tir Mawr v Y Ffoaduriaid.
Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter,
heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Newyddion o’r Sioe Frenhinol
Mae bar, ac mae ‘na ganu,
‘Rwyf wrth fy modd’n y sioe,
Ac yr wyf yn rhyw ama’
Y gwelais ddafad ddoe.
Jôs - 8.5 pwynt.
Tri llo, un hwrdd bygythiol
a cheiliog cystadleuol
a aeth i'r YPV am dro
a theimlo'n go gartrefol.
Gwennan Evans - 9 pwynt.
Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw acronym
Yn ara’ y DEFRA dyn
I weled ynddo’i elyn.
Myrddin ap Dafydd - 8.5 pwynt.
Drwy ryw wyrth, PCYDDS a drodd
yn fwy hirfaith yn fyrfodd.
LlÅ·r Gwyn Lewis - 8 pwynt.
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ys gwn i fydd rhywun yn cofio’
Ys gwn i fydd rhywun yn cofio
Fod tim y Tir Mawr wedi llwyddo
I gael y marc llawn
Am limrig da iawn
Ddwy flynedd a deugain i heno?
Jôs - 8.5 pwynt.
Ys gwn i di rhywun yn cofio
ble rois i fy leotard reslo?
Mae rematch mewn awr
yn erbyn Tir Mawr
a Merched y Wawr isho’i weld o.
Gruffudd Owen - 9 pwynt.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn dechrau â’r geiriau ‘Ar hyd’
Gwydion – bu farw ddiwedd Haf 2016
Ar hyd yr ardd crwydrai o,
Geiriau ’mhob man i’w gario
I’r gerdd, tra rhwygai harddwch
Y lle atgofion o’r llwch;
Fel rhyw farn, âi’r Sarn á’i són
Yn hen dÅ·’n gwaedu Gwydion.
Hithau’r artist yn ddistaw,
Llenwai’r lle - llenor â’i llaw.
Inc dau’n ieuanc dan ewin
A rhyw gam yn berwi’r gwin.
Hyd lan môr dalennau maith
O’i ôl a olchir eilwaith.
Myrddin ap Dafydd - 9 pwynt.
Llosg haul
Ar hyd y llethrau rhedyn
sgyrnygai haul dros groen gwyn
ei breichiau; mewn bro uchel,
hyd war noeth, pelydrau’n hel
lle troediai - ni hidiai hi
na malio dim am eli.
Ac yn oerfel y gwely
er pylu haul, llosgai’r plu,
ond o, roedd y brifo’n braf
cyn hel y plicion olaf
o fraich welw, frycheulyd:
arni hi, roedd haul o hyd.
LlÅ·r Gwyn Lewis - 9.5 pwynt.
Triban beddargraff cyfieithydd
Yn Holyhead Caergybi
Ar Salty Way Lôn Heli
Yn June Mehefin, twdwlŵ –
Bu farw Euron Berry.
Jôs - 9 pwynt.
Pechadur enbyd ydoedd,
ond nid aeth efo'r miloedd
i uffern, gan fod llwyth o waith
yn trosi iaith y nefoedd.
LlÅ·r Gwyn Lewis - 9.5 pwynt.
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Torheulo
Ar wahan i’w wep a’i ddwylo yr oedd Huw yn wyn fel oen
Aeth i’r ‘Hendra’ i dorheulo yn y cae’n noethlymun groen
Roedd ‘na focha’ a chilfacha’ rhwng ei goryn a’i ddwy droed
Am weld haul am y tro cynta ers pan oedd o’n ddeufis oed
Heb ddim byd ond wig a sanna’ fe orweddodd ar ei hyd
Efo’r ‘Moniars’ yn ei glustia wrthi’n mwrdro ‘Cae o Yd’
Ond ar ddechrae’r cytgan cynta’ y gerddoriaeth ddaeth i ben
Pan aeth Arfon Wyn a fynta’ mewn i gombein ‘Hendre Wen’
Noethlymunwr efo blonnag aeth i grombil y mashîn
Roedd o’n edrych fatha teabag pan ddaeth allan toc oi din
D’oedd ond newydd daro’r ddaear ac yn llipa ar ei gefn
Pan gribynwyd o i’r belar i gael mynd drwy’r wyrcs drachefn
Roedd y belar wrthi’n llowcio ond d’oedd dim byd yn dod mas
A chyn hir roedd o ‘di chwyddo a’n gwneud twrw sigo cas
Daeth i stop a dyma lacio’r cortyn bel a sythu’r cam
I gyfeiliant Huw yn crio ac yn udo am ei fam
Yn y diwedd fe ddaeth allan , heb un glust a bron yn ddall
Roedd ei ddannedd mewn un belan tra bo’i wig o yn y llall
Fe aeth Huw i gaeau’r ‘Hendra’ i gael lliw, a dyna fu
Mynd yn goch a wnaeth i ddechra’, yna’n biws ac wedyn du
Jôs - 10 pwynt.
Beth am fynnu tan fel tan Pen LlÅ·n?
Beth am fynnu tan fel tan Pen LlÅ·n?
Tan ar bob wyneb, tan ar bob gwar.
Tan breichiau ffarmwr, tan crysau sgwâr.
Tan! Tan! Tan! Tan!
Beth am fynnu tan fel tan Pen LlÅ·n?
Mae bywyd dinesig mor welw a phrudd
fe lechaf mewn cysgodion hyd strydedd llwyd Caerdydd.
Hiraethaf am yr heulwen mewn swyddfa gaeth
a’m breichiau di-fysyls yn wyn fel llaeth...
Beth am fynnu tan fel tan Pen LlÅ·n?
Beth am fynnu tan fel tan Pen LlÅ·n?
Tan dwylo rhofiau, tan bochau coch,
Tan John ac Alun, tan Abersoch.
Tan! Tan! Tan! Tan!
Beth am fynnu tan fel tan Pen LlÅ·n?
Erith, Neigwl, ap Dafydd a Jôs
yn yr haul yn lardio o fore gwyn tan nos.
Pysgota, cario cwrw, torri coed a thorri mawn,
fe daniant dros Gymru fel beirdd go iawn!
Beth am fynnu tan fel tan Pen LlÅ·n?
Beth am fynnu tan fel tan Pen LlÅ·n?
Tan gwerin datws, tan torri chwys
tan torchi llewys, tan siâp dy grys!
Tan! Tan! Tan! Tan!
Beth am fynnu tan fel tan Pen LlÅ·n?
Mi fûm i ryw dro yn hogyn o LÅ·n
yn iach a brown fel cneuen, ond bellach rydwi’n ddyn
dinesig, rhwystredig ac heb ddewis erbyn hyn
ond bwcio gwely haul (fel gwna Ceri Wyn.)
Beth am ffugio tan fel tan pen LlÅ·n?
Beth am ffugio tan fel tan pen LlÅ·n?
Tan yr annonest – tan ddaw o sprê.
Tan tanjarinaidd – tan Santropê!
Tan! Tan! Tan! Tan!
Beth am ffugio tan fel tan pen LlÅ·n?
Gruffudd Owen - 10 pwynt.
Ateb llinell ar y pryd
Yn y ffair fwyd ffeiriaf i
Y minc am lefrith mwnci.
Y Tir Mawr - 0.5 pwynt.
Telyneg (heb fod dros 18 llinell) neu soned: Llonydd
Does neb yn sodro paned yn fy llaw
a dangos cadair imi: 'Cym di hoe
fach, Mam', na neb yn dod â bocsys draw
i lenwi silffoedd gwag ar ddelw ddoe.
Mi aethon. Nid fy mod i'n falch o hynny.
Dim ond rŵan fod 'na le i rai
o'r lleill. Fu'r symud ddim yn hawdd i'r rheiny
sydd â'u gwreiddiau yn sylfeini'n tai.
Mae popeth ond y llwch 'di cyrraedd bellach.
Popeth gloyw. Mi ga'i gyffwrdd llestr
a thaflu cip ar lun, dyfrio deiliach,
agor llythyr, chwilio am hen restr...
a disgwyl, wrth i bawb ohonom setlo,
i'r rheiny ddechrau sgwrsio unwaith eto.
Myrddin ap Dafydd - 9.5 pwynt.
Ar goll yn y ffrae sy’n mynnu
chwarae tic yn fy mhen
mae’n cymryd amser i mi dy glywed.
Rwyt ti’n dangos ffawydden i mi,
ei mes, ei dail main,
dy lais yn dawel
fel yr egwyl rhwng penillion emyn.
Yna’r ysgaw, ei flodau plu eira
a’r coed cyll. Yli, meddat ti,
cynffonnau ŵyn bach, gan osod un
ar gledr styfnig fy llaw.
Cerddwn, gan adael i’r dydd
ddiosg ei hun oddi arnom fesul awr,
a rywbryd ar hyd y llwybr llonydd,
doi â fi eto yn ôl at fy nghoed.
Casia Wiliam - 9.5 pwynt.
Englyn: Lleiafrif
Y mae, wrth fwrdd y mwyaf lluosog,
weithiau'r llais sydd isaf
ei sylw; hwnnw yw'r haf
y rhoir llaw i'r rhai lleiaf.
Myrddin ap Dafydd - 9 pwynt.
Hyn a hyn sydd ohonom yw'r gofid:
mae mor gyfyng arnom
a'n twrw bach. Ond tra bôm
yn un, mae miliwn ynom.
LlÅ·r Gwyn Lewis - 9.5 pwynt.
Enillwyr: Y Ffoaduriaid.