Rownd 1 Tim Caernarfon v Y Llew Du
Rownd 1 Tim Caernarfon v Y Llew Du
Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter,
heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Neges o Anogaeth
@yllewdu O'n dal yn ysbrydoliaeth wastadol a 'studio'n barddoniaeth, daw
dydd pan dry'ch prydyddiaeth chithau'n awen gymen gaeth.
Llion Jones - 8.5 pwynt
Daw’r alwad a’i her eilwaith – i’r Alban,
O’r helbul diobaith,
A’r hyn a fethodd unwaith
Yn nesáu fel ’97.
Rhodri Siôn - 9 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘clais’
Hawlio pont, ond cloi Panty.
Mae ’na glais uwch llais y lli.
Ifan Prys - 9 pwynt
Haeddais y clais am hel clecs
go greulon am griw’r Alex.
Carwyn Eckley - 8.5 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Daw’r oglau yn ôl â’r atgofion’
Fe'n profwyd ni eto'n daeogion.
O lyncu celwyddau gelynion
A'n hudodd i wae
Y Brexit hoff bau:
Daw'r oglau yn ôl â'r atgofion.
Emlyn Gomer - 8 pwynt
Gwerth ffortiwn o hen focsys sglodion
Yn gymysg â’r holl ddillad budron
Ond heno yn Panty
Hiraethaf am hynny
Daw’r oglau yn ôl â’r atgofion.
Marged Gwenllian - 8.5 pwynt
Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 9 a 15 llinell): Coridor
Ger Ffynnon* y gorffennol,
doe yn awr sy’n ffrydio’n ôl
a rhedaf fel lli’r Rheidol
heibio i ddrysau ffrindiau ffraeth
hyd wâl yr hen frawdoliaeth,
un llain hir yn llawn hiraeth.
Cornel o Bantycelyn
am ryw hyd oedd Cymru ei hun
a’r iaith yn sodro Rhuthun
led ’stafell o Lanelli.
Drwy rwydwaith ein direidi
fan hyn roedd gwladfa i ni
ar adeg byw delfrydau
rhwng cysur cyfyng furiau’r
Ffynnon hon, pan o’n i’n iau.
* coridor bois y drydedd flwyddyn yn Neuadd Pantycelyn.
Llion Jones - 10 pwynt
Hastiodd i Aberystwyth
A’i fýs o Lexus dan lwyth
O dyweli i’w dylwyth.
Estron mwy yw’r ffenestri-
Ond noc-noc a dyna ni:
Y daw ateb: Sut wyt-ti?
Mae’n gastell i’w fab bellach
Ar ben y coridor bach-
Ei olyniaeth o linach.
Hen ogof llawn atgofion
O ddoe ydyw’r neuadd hon
Sy’n anwesu hanesion.
Ac anfarwol hudoliaeth
Derw sy’n codi’i hiraeth
Wrth wae ei ddyddiau a aeth.
Carwyn Eckley - 9 pwynt
Pennill ymson swyddog tollau
Arestiais gaws o'r Swistir,
Pum rhidyll, chwe twll clo,
Dwy ddonyt a naw Polo Mint,
Tri crwybr mêl, un stro,
Dwy glust, plot cyfan Madam Wen,
Un ogof, un blac hôl -
A'm gwobr am fy llafur? Sac!
Dwi ddim yn dallt yn 'tôl...
Emlyn Gomer - 8.5 pwynt
Mae Heathrow’n lle da am anrhegion,
Yn rhinwedd fy swydd caf fargeinion.
Rwy’n conffysgeto poteli gwîn,
A drygs ‘di cuddio lan tyllau tîn.
Cennydd Owen Jones - 8.5 pwynt
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Ailfrandio
Trafaeliais i Ddulyn i’r gêm bêl-droed fawr,
Mi hwyliais yn hytrach na fflio,
Ac er na fûm ’rioed ‘i gyrrau Brazil’
O’n i’n gweld y lle’n debyg i Rio.
Am ginio cyn gêm fe aethom i bỳb,
Roedd ’na fwydlen o’n i isio’i thrio,
A chogydd byd-enwog a wnâi bethau mawr
Efo sosban jips a phadell ffrio.
Ond och, roedd llygoden Ffreinig yn rhydd
Yn y gegin pan ddigwyddais i sbio;
Erbyn dallt, ’nifail anwes y cogydd oedd hwn
(Roedd rhywun wedi dwyn ei gi o).
Roedd y cinio yn flasus, ond pan ddaeth y pwdin roedd y ll’goden wen wedi’i ddifrïo:
Yn y sos brandi poeth roedd ôl traed y cr’adur, ac mi glywn i aroglau’i bi-pi o.
Roedd y pwdin a’r brandi ’di sbwylio i gyd, a wir, o’n i bron isio crio,
Ond twt, meddai’r cogydd, mi ro’i frandi newydd, ac aeth ati i’w ail-frandïo.
Â’i byth eto i Ddulyn, mae’r lle yn llawn rafins,
Gwehilion sydd ’mond i’w pitïo.
A wna’i byth yfed brandi, mae’n troi arna i nawr
Os prynir un imi, gewch chi o.
Geraint Lovgreen - 8.5 pwynt
A glywsoch chi’r holl dwrw
Fu’n Y Badell ac yn sêl?
‘Di’r “Bala Was” ‘myn hapus
Mai ‘u henwau nhw sydd ar y jêl!
Mi lunian nhw betishwn
A chael eitem Â鶹ԼÅÄ
“Does bosib bo’r carcharorion
Yn bobl Bala go iawn fel ni!”
“Ni chawn nhw ddefnyddio’n henw
Oni bai bo’ nhw’n canu cerdd-dant,
Yn ffarmio a’n cynganeddu,
Hwdwch hone i “Mr Trent”!
“Ma’r peth yn hollol warthus,
Be’ fyddai’r Coch Bach yn ‘i feddwl o hyn?
‘De nhw ‘sho’n Thomas Charles ni fyd?
Neu dod i fyw’n Glan-Llyn?!”
Mi weithiodd y protestio
Diddymwyd y teitl “Bala”
‘rôl canfod enw llawer gwell,
fwy addas – Copa'r Wyddfa.
Marged Gwenllian - 8.5 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Oes, reff, mae amser ar ôl
i frathu yn gyfreithlon.
0.5 pwynt
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Ffolineb
Tynna’i sgert yn is, wrth gerdded mewn â’i ffrindiau;
eu rhewi’n drindod wên, â hudlath ei ffôn o’u blaen.
(Heb lun, heb ddigwydd.) Rhaid rhannu’r eiliadau...
cyn bod sodlau, a sugno diod drwy welltyn,
yn creu ...atyniadau.
A chydia’r gynta’ yng nghrys ei chymar newydd,
a’i dywys fel gwobr, at lawr y ddawns.
Dacw’r ail, a’i dwylo’n gwneud tonnau...
‘Hei, Macarena!’
Toc, mae un yn codi llaw, a’r llall a ddiflanna...
Ac mae’r un sydd ar ôl, mewn cornel dywyll,
(â’i band- gwallt- clustiau- cath
yn taeru bod hi’n cael amser da)
yn prysur bwnio negeseuon i’w ffôn,
a’i hwyneb yn welw yng ngolau’r sgrîn.
Mae’n twtio’i llywethau. Fflachio gwên eto...
Hunlun arall i wadu’r hunlle;
ebychiad arall mewn monolog o luniau...
Ifor ap Glyn - 9 pwynt
Yn Aber un nos Wener
Fe fues yn fachgen ffôl.
Fy nghalon yn llawn trymder,
Cha’ i byth mo’r cyfle nôl.
Rhwbeth twp rwyf yn dyfaru:
Gadael hon, ‘ro’n i’n ei charu.
Yng nghanol yr holl firi,
Yr hwyl a’r canu iach,
O’r Llew Du es yn dawel
Ar ben fy hunan bach.
Ni chaf eto fyth mo’r pleser –
Gedais fy niod ar hanner.
Cennydd Owen Jones - 8.5 pwynt
Englyn: Tlws
Chwe stadiwm, chwe astudiaeth o’n diléit
am dlws pencampwriaeth
ond wele gae cenedl gaeth
yn sigo’n dywysogaeth!
Ifan Prys - 9 pwynt
Feuryn, gwna rhyw nodyn i ni – o swm
Sy’n siŵr o’th ddigoni,
A rho’n rhodd, am dy noddi,
Y tlws hardd i fardd fel fi.
Rhodri Siôn - 9 pwynt
Enillwyr - Tim Caernarfon.