Rownd 1 Y Ffoaduriaid v Y Diwc
Rownd 1 Y Ffoaduriaid v Y Diwc
Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Rheolau Clwb
Fe fyddai gwahardd gwthio, gweiddi,
chwarae'n wirion a maldodi
yn amharu ar aelodaeth
ac apêl ein clwb barddoniaeth.
Gwennan Evans - 8 pwynt
Yn ystod ‘match’ fydd dim clatsio, - Calliwch,
Dim cyllyll, dim cicio ,
Yn bendant dim cerdd-dantio,
Na chwalu tap. – cewch alw ‘to!
Dewi Rhisiart - 8 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘pridd’
Trin y waun sy'n troi'n hanes
gan nad yw pridd yn gwneud pres.
Gruffudd Owen - 9.5 pwynt
Y pridd sydd o dan y pren
A nodda bob winwydden.
Dewi Rhisiart - 8.5 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Rwy’n siwr i mi glywed “Delilah”
Rwy’n siwr i mi glywed Delilah
yn tagu ar frechdan banana,
fe’i helpwn ar hast
pe na bai’n shwt ast;
fe jecia’i fy e-byst yn gynta‘.
Gwennan Evans - 8.5 pwynt
Yn Seilo ar ddiwrnod Cymanfa
disgwyliwn am sain Haleliwia.
Ond ar Sul y Chwe Gwlad
yn lle moliant i’r Tad
rwy’n siwr i mi glywed Delilah.
Martin Huws - 8.5 pwynt
Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 9 a 15 llinell): Pont
Pont (sef yr hen bont dros Afon Taf, Pontypridd)
Hi yw'r hynaf dros afon
y cwm o hyd, ac mae hon
yn serth, bron iawn â syrthio'n
ei henaint; ond mae hynny
bron fel her i'r dyfnder du.
Mae swyn yn ei simsanu
di-ddur, er bod cerddwyr call
yn tyrru dros bont arall
yn ddiwyd o ddiddeall.
Wedi i ymchwydd ei dymchwel,
ei chodi hi, a'i hail-hel,
bwrw i'w hybu o'r rwbel
wnaeth eraill: damio’i thorri.
Ac oes, mae rhai'n ei chroesi
o hyd, er hyned yw hi.
LlÅ·r Gwyn Lewis - 9.5 pwynt
..Bid Bont
Â’i goron y mae’n gorwedd
A’i gledr yn wyn am ei gledd
Yn arwr yn ei fawredd.
Heddiw’n gawr, – ond oedd yn gall
I fyddin ddilyn yn ddall
Heb ddewis nac heb ddeall?
Aeth y werin dros Llinon
I ddistryw a bedd estron.
A’i heb ei hail y bu hon?
Dewi Rhisiart - 8.5 pwynt
Pennill ymson mewn siop frechdanau
Pa ham fy mod dal yma -
rwy’n frechdan fach o frie -
ar-ôl ar silff yn unig
heb neb i mwyta i?
Casia Wiliam - 8.5 pwynt
O damo, dyma bicil
neu odw i ‘mewn jam’?
Ai saith archebodd ffowlyn?
Ai deg archebodd ham?
Martin Huws - 8.5 pwynt
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Colli Swydd
Ffarwél reolwr llinell a'th e-byst tirion teg.
Ffarwél i bôr y swyddfa, nid wyf yn enwi neb.
Anelaf ar fy union am giw'r ganolfan dôl
a'ch beiros lond fy mhoced a'ch teabags lond fy nghôl.
Ffarwél i gyfarfodydd diderfyn a di-fudd.
Ffarwél i arfarniada; mae nghalon fach mor brudd.
Ffarwél i esgus gweithio tra'n siopa ar y we.
Ffarwél i’r holl gyd-weithwyr y poerais yn eu te.
Ffarwél, styffylwr ffyddlon mae hiraeth lond fy mron.
Ffarwél i'r llungopïwr a waldiais gyda ffon.
Ffarwél i'r memos piwis ar bost-its prydferth pinc.
Ffarwél i'r llestri budron adewais yn y sinc.
Ffarwél i'm hoff iwreinal sydd ar y pumed llawr.
Ffarwél i'r mil o e-byst na chânt eu hateb nawr.
Ffarwél i'r ddwyawr ginio, ffarwél i'r ddynes llnau
sy'n delio mariwana o'i throli bob dydd Iau.
Ffarwél i'r parti Dolig a'i ganlyniadau blêr.
Ffarwél i'r nepotistiaeth a'r ddau sy'n cael affêr.
Rhaid canu'n iach i'r cyfan fe'm gyrrwyd ar fy nhaith
am sgwennu tasgau’r Talwrn yn hytrach na gwneud gwaith.
Gruffudd Owen - 9.5 pwynt
Roedd hwyl i’w gael ym mhobman yn fy nghwmni, meddan nhw
A’r asesiad perfformiad blynyddol yn loyw ei glod, ar fy llw.
Roedd gwahoddiadau cyson im grwydro ar hyd y wlad
A chyfarch ieuenctid y bröydd yn lifrai fy mam a ‘nhad.
Mor falch cael bod yn symbol o werthoedd gwlad y gân:
I Gymru, I gyd-ddyn, I Grist, hwynt i gyd yn ddiwahân.
Ond heddiw, clywais neges, “rhaid cydymffurfio â’n ffyrdd,
Rhaid glynu at gôd ymddygiad, chei di ddim bod yn Mistar Urdd”.
“Pam felly?” gofynnais yn betrus, a minnau yn gwybod yn iawn
Bod y ffradach ‘fo Siwperted neithiwr ‘di ‘ngadael yn ddwfn yn y mawn.
Ond yr arth darodd gynta’, ac roedd rhaid im amddiffyn fy hun -
Roedd ganddo bwerau cosmig, wyddwn i ddim ei fod mor ddi-lun.
Drwy hud a lledrith rhywsut fe droes fy ngwyrdd yn las
Ac felly does dim pwrpas dadlau, â’r swyddog yn sbïo mor gas.
Wrth gwrs, fe gaf dystlythyr am ddiflannu heb lawer o ffws -
A gadael fy nghynefin heb air gan ffrind, heb ‘run sws.
Does dim amdani bellach ond ffoi o’r blaned hon
A chwilio am swydd efo Leusa yn fy iwnifform newydd sbon.
Ond, tybed a’i hyn fyddai’r stori tasai’r gwyrdd yn ei le o hyd
A’r coch yn estyn i’m corun, a’r gwyn ‘di diflannu o’m byd?
Mererid Williams - 9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Pa ddiben yw'r gorffennol
nid yw'n hawdd i neb fynd nôl
Y Diwc - 0.5 pwynt
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cwm
(ar y cyfryngau cymdeithasol, dechreuwyd arfer y term 'snowflake' am bobl ifanc sydd, yn ôl pob tebyg, yn hawdd eu cythruddo neu heb fod yn ddigon gwydn a di-hid o safbwyntiau eraill.)
Oes, mae gan eira ffyrdd o lynu i'w gilydd,
dy lithro – a d'amddiffyn rhag dy gwymp;
golchi'r ôl traed o'r trac, dy daflu o'th drywydd,
clustogi popeth â distawrwydd.
Ond dim ond yn y bwlch rhwng haul a glaw
y gweli di wead ei amrywiaeth hardd:
ffosydd astrus sastrugi, y peli polystyren,
neu ddycnwch y llwydrew sy'n tyfu i ddannedd gwynt...
Rwyt ti’n fath arall o ddall, heb weld
heibio gorwel yr esgair agosaf, a’r eira
dan dy draed wrthi’n toddi’n ddiogel.
Pe codet ti o'th gwm hyd gefnen uwch
mi sleifiai dros y grib i'th chwipio:
lluwchio fel llwch y môr a llosgi canhwyllau'r llygaid.
Ac fe glywi di, un dydd,
ddwndwr pell o geunentydd ucha'r cwm,
gan ddeall yn rhy hwyr dy fod ar drugaredd
mympwy oer ein cwymp eira.
Llyr Gwyn Lewis - 9 pwynt
Ddoe,
Yng nghwrlid byw dy artaith
A rhwygo perfedd dy ddyfnderoedd di,
Y crachod du a gwyn,
Y llwydo nant.
Er troi di-baid ar olwyn uwch y siafft
Ac atsain croch yr hwter drwy dy fro,
A rhincian hoelion ar galedwch ffordd y mynd a dod
O wawr i wyll
A mwy;
Rhwng llwch a pheswch draw’n y stryd
Â’r crysau gwyn yn herio’r cwmwl du,
Yn llenwi’r lle, roedd cloncian ffraeth.
Ond heddiw,
 llif dy ffrwd yn loyw lân,
Yr haul yn tywallt emrallt rhwng dy gloddiau cam,
Diwaelod dy dawelwch.
Gwilym Williams - 9 pwynt
Englyn: Haearn
Y gwir ydi, fe gredais - fod ynof
fi dân, mod i’n ffwrnais
gre’, ond yn lle codi llais
yn y frwydr, fe rydais.
Gruffudd Owen - 9.5 pwynt
Deunydd Crai Cerflunydd
Heb urddas yn gras, yn graith erydai
yn rhwd o anobaith.
Ar lannau Taf daw afiaith:
fflwcs diflas yn ias, yn iaith.
Martin Huws - 9 pwynt
Enillwyr - Y Ffoaduriaid