Rownd 1 Y Cwps v Tegeingl.
Rownd 1 Y Cwps v Tegeingl
Trydargerdd Cyfarwyddiadau teithio
Blant Syria gwan gwahanol - ni haeddwch
ein nodded Gristnogol;
heidiwch i'r ciwiau didol
ar un waith cyn troi yn ôl.
Iwan Bryn James 8.5 pwynt.
Chwi blantos heb obaith
wedi hunlle’r daith,
arhoswch ble da chi
bydd pob dim yn iawn!
Rhyw ddydd bydd ein llety
ddim hanner mor llawn!
Marc Lloyd Jones 8.5 pwynt.
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘cil’
O Wales lleddf yw’r alaw
Drwy gil y drws dirgel draw.
Huw Meirion Edwards 9 pwynt.
I gael deg mi rof gil dwrn
I rotweilar y Talwrn.
Moi Parry 9.5 pwynt.
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Cynlluniais bob dim yn ofalus’
Cynlluniais bob dim yn ofalus
A dewis rhyw bistro bach chwaethus;
Ond yfed ei win
Ar ei ben ei hun
Wnaiff dyn sy’n anghofio ei drowsus.
Geraint Williams 8.5 pwynt.
Cynlluniais bob dim yn ofalus
Yn lle mynd â nghariad i Baris
Es i ddim cweit mor bell
Ond i le lawer gwell
Llanrhaedr ym Mochnant ym Mhowys!
Pedr Wyn 8.5 pwynt.
Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 9 a 15 llinell): Gwasanaeth
Wrth gael ei urddo’n Arlywydd, gan sefyll ochr yn ochr â gwenidogion yr Efengyl galwodd Donald Trump ei gyd-Americanwyr yn ‘bobl Duw’, a mynnodd y caen nhw fyw dan warchodaeth y lluoedd arfog a chynheiliaid cyfraith a threfn, a Duw ei hun.
Glaniaist mewn môr goleuni,
Yn ddelwedd i’w haddoli,
A dur yn dy lygaid di.
Dywedaist fod y Duwdod
Yn dy gynnal, Donald; dod
Ei eurgylch ar dy fargod.
Wele wlad etholedig,
A llaw’r offeiriad lloerig
Yn barod, ac yn beryg.
Dal fôn dy bistol o fys
Yn wynebau’r drwgdybus,
Chwala’r di-gred â’th chwilys.
Cwyd wal rhag gwanc y dilyw
A dwedyd mai da ydyw –
A’i wneud oll yn enw Duw.
Huw Meirion Edwards 9.5 pwynt.
Ei watwar glywaf eto
Mewn emynau’n Amenio,
A phob gweddi’n corddi’r co’.
Yma nawr a minnau’n hÅ·n
‘di cyrraedd pen fy nhennyn,
Y gwelaf eto’r sgwlyn.
O’I lwyfan wrthi’n sganio
I wahodd un o’i braidd o,
Un dethol i’w fendithio.
Yna’n iasol drwy’r rhesi
Daw ei wên – a ‘nghanfod i
A’i fryd ar fy nifrodi.
Y mae o yma o hyd
Yn fy mhen, fo yw’ mhenyd,
Yn faich a dry’n afiechyd.
Marc Lloyd Jones 9.5 pwynt.
Pennill ymson ar gwrs atal cyflymder
Pe gwelech chi Nans Nefyr-Nefyr
Yn rhedeg heb fra a heb nicyr,
Yn lafoer o reg,
Heb ddant yn ei cheg,
Gaech chi gant a deg mas o sgwter.
Arwel Jones 9 pwynt.
Yma’n fyw yr ydym ninnau
Yma’n trafod hyll ddamweiniau
Yma’n dysgu’r hen, hen reol
Rhaid yw lladd ein spîd angheuol.
Dafydd Morris 8.5 pwynt.
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Yr Eisteddfod Gylch
Rhybudd sydd gen i rhag cael eich denu
I fynd i’r ‘Steddfod Gylch i feirniadu.
Pan fu i mi ymgymryd â’r gorchwyl
Cyrhaeddais y nefoedd yn gynt na’r disgwyl.
Aeth popeth rhagddo yn iawn i ddechre
Ar waetha’r cam-ynganu a’r stumie.
Ond y mistêc wnes i oedd methu cydnabod
Doniau llwyfannu Jemeima Arianrhod.
‘Llynedd yn Fflint cafodd deg gwobr gynta’
Ond, yma. ‘leni, fel ro’wn i wiriona,
Fe fethais a’i rhoi ar y stêj o gwbwl,
A dyna. heb os. oedd gwreiddyn y trwbwl.
Doedd Jemeima ei hun, ddim fel pe’n malio,
Ond am ei mam! Roedd honno’n bytheirio.
Fe sgrechiodd, fe waeddodd, bu cynnwrf, bu anhrefn,
A phlannodd ei hymbarel yn fy meingefn.
‘Tros Gymru, Tros Gyd-ddyn, Tros Grist,’ meddai’n filain
A minnau yn gorwedd fan honno yn gelain.
Ond er clod i’r Urdd, er peth anhwylustod,
Fe benderfynwyd mynd ymlaen â’r Eisteddfod
Dafydd Morgan Lewis 9 pwynt.
Mi es â’r plant’cw echdoe I’r Steddfod Gylch yn dre
‘Rôl deuddydd o ymarfer gwyddai pobun beth oedd be.
Roedd pawb yn mynd I adrodd, dan chwech, dan wyth neu ddeg
A’r cyfan yn gantorion, lleisiau hyfryd chwarae teg.
Cynhelid y rhagbrofion mewn stafelloedd yn y cefn,
Lle’r aeth ein plant bach ni yn daclus yn eu trefn.
A daeth pob un yn ôl a’u hwynebau’n wên I gyd.
Mae gen I blant bach annwyl, y gorau yn y byd.
Ro’n I a’r wraig yn eistedd yng nghanol y rhes flaen
Er mwyn cael gweld y plantos yn perfformio o fy mlaen.
Ond wedi’r holl gystadlu, doedd ‘run o’n plantos ni
Wedi cyffwrdd grisiau’r llwyfan nac ennill unrhyw fri.
Ac yna, yn ddirybudd, mi ffrwydrodd hi, fy ngwraig
A dechrau gweiddi’I phrotest a fflamio fel y ddraig.
Daeth eraill I’w chefnogi- Wel! Dim ond Nain a Taid.
-Mae Nain yn gallu gweiddi, a rhegi pan fo rhaid.
Ond yna daeth rhyw swyddog, hen gythraul oedd y gŵr,
I fygwth ein troi allan-heb ad-daliad yn go siwr!
Ond aethom yn wirfoddol, roeddem adre ganol pnawn.
Mae’n amlwg nad yw beirniad yn gwybod beth yw dawn.
Moi Parry 8.5 pwynt.
Ateb llinell ar y pryd.
A llif yn boddi'r llwyfan
Mae ôl y dwr ym mhob man.
0.5 pwynt.
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Crafiad neu Crafiadau
Sut sŵn ydi o? Sut sŵn tu ôl
i ddrysau cau dy gell? Dy ddwylo hyn
a fu'n anwylo, unwaith, holl blethiadau
gwallt; a fu'n cydio'n dyner
mewn llaw arall ar ryw gnawd o draeth
a'r môr ymhell; a fu'n golchi
llestri mewn tawelwch braf y dweud
cyfan hwnnw sydd rhwng dau.
A fu yw'r cyfan. A chan mai gwall
yw'r cof i gyd, aeth d'atebion hwythau
yn ddi-ystyr. Ond mynnaf ofyn er fy mwyn
fy hun : ffrind, sut beth yw'r sŵn
pan fydd dy fysedd hyn yn creu ar fur
holl olion gwaed dy sgrechiadau hir?
Dafydd John Pritchard 9 pwynt.
(Prynhawn yn Dubrovnik, Croatia- 2009)
O Dwrista’n yr eglwys, aethom I’r caffi gerllaw.
Daeth yntau â’n coffi, a siarad:
Rhoes hanes yr eglwys, a’r rhyfel –
Yr haf, bymtheg mlynedd yn ôl, heb dwristiaid, ac ynta’n hogyn deunaw.
Gorchwyl ei adrodd, reportio
Realaeth yn chwalu, a’r hogiau
Dros eu lladd yn astudio lladd a gwersylla
Uwchben ei dinas UNESCO
A weithiau saethu yno
I weisg y byd gael beio’r lleill-
-yr hogiau o’r hil arall.
Daeth hedd, a thwristiaid;aeth hwythau,
Y rhai oedd yn fyw, a chwilio
Am fywyd, am werth, am eu pwyll,
Ar chwâl dros gyfandir a diod euog.
Dysgodd yntau roi cyllell i’w freichiau am orig o faddeuant.
Torchodd lawes, a’r llinellau’n dystion-a’n gadael.
A’n mab yn ddwy ar bymtheg oed.
Dafydd Morris 8.5 pwynt.
Englyn: Cwyn
Fel gordd, a minnau’n corddi, – bu’n dyrnu
A dyrnu’n fy mhen i,
Bûm ar dân i’w hyngan hi;
Heddiw gadawaf iddi.
Huw Meirion Edwards 9.5 pwynt.
Cwyn (Athrawes)
Di-rinwedd ydyw Ronnie-un dwl bost
A diawl bach o’i eni.
A phe cawn, mi fwynhawn i
Gweirio’r hogyn –a’I grogi.
Moi Parry 9 pwynt.
Enillwyr: Y Cwps.