Talwrn Arbennig - Tim yr Arglwydd Rhys v Y Glêr.
Talwrn Arbennig - Tim yr Arglwydd Rhys v Y Glêr.
TRYDARGERDD – Cais am wirfoddolwyr
Â’n teulu o fataliwn, dere draw
i’r drin: gad i’r cachgwn
chwarae plant, a gwarantwn
yn ddeg oed cei feddu gwn.
Phillipa Gibson - 9.5 pwynt.
Ydych chi yn hoff o wyau?
Mae angen eich help! Dewch â'ch ceffylau.
Cwrdd wrth y wal ar Hydref y trydydd
I roi Hympti Dympti yn ôl at ei gilydd.
Iwan Rhys - 8.5 pwynt.
CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR ‘GLEI’.
Ni ddaw rhyw farciau lawer
Heno glei i Dîm Y Glêr.
Phillipa Gibson - 9 pwynt.
Rhwydd, glei, fydd i feirdd y Glêr
Ennill o farc a hanner.
Iwan Rhys - 9 pwynt.
Limrig yn cynnwys y llinell:
Derbyniais y cynnig heb oedi neu
Heb oedi derbyniais y cynnig
Derbyniais y cynnig heb oedi
I alw ‘da Siwsan am goffi,
Ac am ei bod hi
Yn awr yn fam-gu
Rwyf innau’n dad-cu, ... hyd y gwn i !!
Dai Rees Daves - 8.5 pwynt.
Un pnawn ro'n i'n trio barddoni,
Ond yn ffaelu cael geiriau i odli.
Yn sydyn, medd Mam,
'Ti moyn brechdan gaws?'
Derbyniais y cynnig heb oedi.
Iwan Rhys - 9 pwynt
CYWYDD YSGAFN I UNRHYW GYFLWYNYDD TELEDU.
Nia Roberts
Cyflwynydd rhaglenni o’r Eisteddfod Genedlaethol, Sioe Frenhinol Cymru, Celwydd Golau, rhaglenni celfyddydol, rhaglenni o wyliau cerdd ac ati, ac ati.
Wedi diwrnod ‘steddfodol,
Dyna wych yw dwyn yn ôl,
Yng nghwmni difyr Nia,
Afiaith hynod diwrnod da.
Os pwdel yn Llanelwedd,
Ymlaciwch, suddwch i’ch sedd –
Dweud ei dweud am foch a da
Yn eang y bydd Nia.
Un nos wag, ac angen sydd
I lanw swydd cyflwynydd
I gwis; rhaid dewis un da –
Un newydd? Nage, Nia!
Ond jawch! y mae hud JO
Yno o hyd yn cydio;
Os dweud, rhaid ei ddweud yn dda:
Hynny yw, dweud fel Nia.
Terwyn Tomos - 9 pwynt.
Mae mab Del ar y teli,
Wy'n watshio'i dei mewn HD
A'i hoff wên wych, a phan wnaf,
Wy'n ffyddiog na ddiffoddaf;
Y remôt ni ŵyr miwtio
Iws Niws yn ei elfen o.
Rhocyn y wên â'r can wot,
Wyt arch-wenwr trichanwot,
A gwae lawer gael Iwan
I dorri gair ond ar gân –
Dy holl fwynhad yw llyfnhau
Fel tenor fwletinau.
A byw'r brifwyl pan hwyli
O stiwdio'r maes adre i mi;
Am hynny, glei, fe gei'r gân
A chan diolch … ond, Iwan,
I'r farf fain rhof, ar f'enaid,
Unsill i gloi'r pennill – paid!
Eurig Salisbury - 9.5 pwynt.
TRIBAN BEDDARGRAFF – tiwtor dysgu Cymraeg i oedolion
Yn nhymor yr arsylwi
Ar ganol y Cwrs Gloywi
O ffo-af, ffo-i, ffy fe ffôdd
Heb fodd i dreiglo’r meini.
Terwyn Tomos - 9 pwynt.
Roedd treiglo iddo'n rheol,
Dilynodd hi yn ddeddfol,
Ond treiglodd clogfaen o'r bryn mawr
I lawr ar ben ei Vauxhall.
Hywel Griffiths - 8.5 pwynt.
HIR-A-THODDAID YN CYCHWYN Â’R YMADRODD ‘HAFAN YW TAFARN WRTH AFON TEIFI’.
Hafan yw tafarn wrth afon Teifi
I’r fyddin gefnog sy’n ei pherchnogi,
I bob un egwyl mae mabinogi
A’u cwrw’n hawlio’r bar a’r corneli,
Ond gogyfer â’r Fferi – dwed y dŵr,
O’u haber o stŵr mai ni bia’r stori.
Idris Reynolds - 10 pwynt.
Hafan yw tafarn wrth afon Teifi,
Hofel ddu, swrth pob Wetherspoons wrthi,
Hufen yw'r cwrw dan faner Ceri,
Hifed a wnawn fwy wedyn ohoni,
Ac yn hawdd, mae'n siŵr gen i – ar lennydd
Hafaidd, un dydd, fe ddown o hyd iddi.
Eurig Salisbury - 9.5 pwynt.
ATEB LLINELL AR Y PRYD.
Fe af â map yn fy mhen
Rhy ddi-ddal yw'r dudalen.
0.5 pwynt.
Fe af â map yn fy mhen
Woblaf yn ôl y dablen.
TELYNEG – PWLL.
Wrth glywed sgrech ac wben
Yn dod o’r pwll islaw,
A theimlo’r byd a’i bethau’n
Diflannu’n dawel draw,
Efallai i mi weled
Rhyw feudwy, ond rwy’n siŵr
Bod eryr yno’n gwylio
Wrth hofran uwchlaw’r dŵr.
Dai Rees Davies - 9 pwynt.
Lle neidiai yr eogiaid
o dan helygen grom,
a sŵn eu dawns i’w glywed
o draw, fel cawod drom,
mae’n llyfn lle gynt bu cyffro crych
ar nos o haf, a’r gro yn sych.
Ond eto, down ni ato
ein dau, a chamu i’r dŵr,
mi glymwn bluen newydd
a’i thaflu yn ddi-stŵr,
oherwydd bod ceryntau’r lli
yn gwlwm tyn amdanom ni.
Hywel Griffiths - 9.5 pwynt.
ENGLYN AR Y PRYD: ARLUNYDD.
Er cof am Aneurin Jones.
Paentiodd hen ymadroddion y werin
a brawdgarwch dynion,
Clywai wysg yng nghlonc y lôn
a gwelai gyda'i galon.
Idris Reynolds - 10 pwynt.
Er cof am Aneurin Jones.
Un gwr a'i ben yn gwyro - at ei waith
Lliw'r tir ar ei ddwylo.
Dros hen gynfas fras ei fro,
Heb ei wyneb e yno.
Y Glêr - 10 pwynt.