Main content

Rownd 1. Beca v Glannau Teifi.

Rownd 1. Beca v Glannau Teifi.

Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Cyngor i Fam-gu neu Cyngor i Dad-cu

Os nad wyt am sychu tîn,
Gwarchod babis sydd yn flin,
Onid gwell byw ‘mhell o ma –
Gwlad yr Ia neu Aberdeen.

Cerwyn Davies - Beca. ( 8.5 pwynt)

Paid becs, mae Cyw ar teli,
Nawr, rho dy draed lan –rili!
Sdim ots bo’r tÅ· yn llanast llwyr,
Mae’n hwyr – rho iddynt jeli!

Nerys Llywelyn Davies. - Glannau Teifi. ( 8.5 pwynt)

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘brau’

Fel derwen, mae'r frwynen frau
Â'i rhuddin yn ei gwreiddiau.

Eifion Daniels - Beca. ( 8 pwynt)


A’i wawn yn dal gwefannau,
Nid Putin yw’r brenin brau.

Geraint Volk- Glannau Teifi. ( 8.5 pwynt)

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n well gen-i drafod y tywydd’

Mae’n well gen i drafod y tywydd
Na hyd yn oed enwi'r Arlywydd;
Mae ‘na stecs dros y lle,
Ond mae’r tywy’n o cê –
Y fe yw’r hen fochyn dig’wilydd.

Cerwyn Davies- Beca ( 8 pwynt)

Mae'n well gen i drafod y tywydd
Na phwy sydd am fod yn arlywydd,
Na dadlau am Dduw
Na phwy sy'n cael rhyw,
Gadewch i mi fyw a chael llonydd.

Nia LLywelyn - Glannau Teifi. ( 8 pwynt)

Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 9 a 15 llinell): Gelyn neu Gelynion

Wyt ofid, Lannau Teifi,
Wyt wÅ·s yn ein hystlys ni.
O raid, down i’th ddifrodi.

Hen gether sy'n fygythiad,
Yn peri her i’n parhad:
Ar y gair, Ferched, “I’r gad.”

Malwn bob englyn milwr,
Galon pob ymrysonwr;
Rhown ein stamp ar ‘i hen stŵr.

Ar faes cad, afrad cyfri
Pob crych, pob sathru, pob cri...
‘Ym elynion, - am ‘leni.

Rachel James- Beca. (8.5 pwynt)

Daw dwndwr dŵr i daro
Ceulan a graean a gro;
Chwalu, cyn troi a chilio.
Dro ar ôl tro ar y traeth,
Yno tyr cawod hiraeth
Y llanw, i’w gadw’n gaeth.

Daw i erlid hen dirlun,
Ail-lunio wna’r glannau hyn;
Newidia hanes wedyn.

Y don, yr eigion, yr hin –
Boed yn dyner neu’n erwin,
Mae awch o hyd ar eu min.

Terwyn Tomos - Glannau Teifi. ( 8.5 pwynt)

Pennill ymson trefnydd parti

(Andrew R T Davies)

Champagne i bawb i gychwyn
A rhaid fyd cael canappeés,
Yr hufen ia o'r Eidal
A Guinness fydde'n neis.
Caws gorau draw o'r Almaen
Gwin coch tan doriad gwawr,
Sdim rhaid cael ŵy a bacwn
I ddathlu'r brecwast mawr.

Eifion Daniels - Beca. (8 pwynt)

Caiff Farage, Farron, Corbyn, May
I gyd ddod i’m “ te parti “.
Cânt eistedd ar y chwith neu’r dde
Ond iddynt ymaelodi.

Elfed Evans - Glannau Teifi. (8.5 pwynt)

Cân ysgafn 'Y Newyddion'

'Ma'r bwletin newyddion i wylwyr S4C
A finne, Ann Wybodus sy'n ei ddarllen nawr i chi.

Disgwylir i Teresa a'i chronis i gael ffit
Pan ddaw amodau gadael yr Undeb a Brexit.

Agorodd 'na dwll enfawr dros nos yn nhref Llandeilo
Medd un ar ran yr heddlu "Ni'n edrych i mewn iddo".

Ac anlwc, llyncwyd un darn punt gan fachgen yng Nglanllyn
Y diweddaraf yw nad oes 'na newid, hyd yn hyn.

Yn Nhalwrn Beirdd Trewyddel, y Meuryn ca'dd ei siomi
Englynion cerrig beddau yng ngwaith Tîm Glannau Teifi.

Carcharwyd dynes ifanc mewn llys yn Yr Hen Golwyn
Am shafo ei gwsberis a'u gwerthu nhw fel grawnwin.

Mewn sêl yng Nghrymych heddiw, un ffermwr daeth i drwbwl
Am hanner cneifio dafad blwydd a'i gwerthu hi fel pwdl.

Bu farw dau hen fwnci ac asyn yng Nglanduad
Ymhlith y prif alarwyr roedd Aelodau ein Cynulliad.

Roedd sioc i'r gynulleidfa mewn 'Steddfod yn y Bala,
Y Goron, do a'r Gadair aeth i aelodau beirdd Tîm Beca.

A'r sgôr y pêl-droed yw Caerfyrdd UN ac AberystWYTH NAW
A'r tywydd, os na gewn ni haul, fe fydd cawodydd glaw.

Terry Reynolds, Beca. (8.5 pwynt)

Un peth Nadoligaidd sy’n ‘y ngneud i’n flin yw cael llythyr hirfaith oddi wrth y Cwîn;
Nid ffrind Arwel Jones, ei gyfaill mynwesol, ond y Hi yn ein teulu sy'n byw ger Ffostrasol.
Bob blwyddyn mae'n hela aton ni "Newyddion" piwsig, piwsig o'i byd braf hi.
Plîs a wnewch chi gyd dreial cadw ar ddihun tra 'mod i'n rhoi blas bach i chi o neges y Cwin.

" Mae 'di bod yn flwyddyn ddifyr - ie, dyna'r gair dwi'n siŵr - perffaith i ddisgrifio 'mywyd i a'r gŵr.
Ar ôl dringo'r Himalayas, dyma ni’n penderfynu ei bod hi’n bryd i ni ymddeol a rhoi ein traed i fyny!
Mae ein pensiwn ni’n ddigon ac ar drothwy'n "trydedd oes", ni 'di ennill hawl i hoe fach, smo chi'n meddwl hynny bois?

Mae ein plant i gyd yn hapus ac wedi gwneud yn dda, yn enwedig ein Cadifor sydd yn brif gyfrifydd ffa
I Carwyn y Cynulliad, y WAG na yng Nghaerdydd; ac mae Arianwen annwyl yn barod unrhyw ddydd
I fynd fyny i Rydychen i ddarllen PPE ar ôl pasio'i harholiadau â sawl seren, dau neu dri.
Ac ar ôl iddi fynd, prynwn dÅ· bach twt yn rhywle - falle Llydaw, Sbaen neu Ffrainc neu Portiwgal am wylie.
A chyn i fi anghofio, mae Cadwgan wedi llwyddo i ennill "cap" Caergrawnt fel aelod o'r tîm rhwyfo! “

Mae 'na lawer mwy i ddilyn ond rhof ddiwedd ar fy nghan,- gan fod ei geiriau olaf oll yn dangos y glo man:

“A shwt mae popeth gyda chi? Rhaid i ni gwrdd ryw bryd! Wna i ddangos i chi'r fideo wnes o'n mordaith rownd y byd!

(Os byddwch chi'n lwcus!! ). 😊 XXX”

Yna gwyneb sy'n gwenu a tri cusan-ond dim byd i roi yn yr hosan!

Carol Byrne Jones a Geraint Volk- Glanmnau Teifi. (8 pwynt)

Ateb llinell ar y pryd

Daeth i'm rhan yn eithaf gwanaf

Ni wn yn iawn beth a wnaf.

Beca. (0 pwynt)

Gwawr heb yr a garaf.

Ni wn yn iawn beth a wnaf.

Glannau Teifi. (0.5 pwynt)

Telyneg mewn mydr ac odl (heb fod dros 18 llinell): Basged

Fy mwriad oedd ei lluchio,
A hynny, ers tro byd:
Ei gwiail oedd yn fregus
Yn gwegian braidd o hyd.

O syllu ar ei chanol
Fe’u gwelaf yn eu tro:
Y cnau a’r mwyar duon,
A’r fale bwci bo.

Y llysiau bach o’r Frenni
Yn lliwio’r gwiail brau,
A blodau yr ysgawen
Fel perlau mân yn gwau.

A ddaeth y dydd i’w llusgo
O’i chuddfan yn y to...?
Fe’i chadwaf flwyddyn arall
Rhag colli ffrwyth y co’.

Rachel James - Beca. ( 9.5 pwynt)

Bu'n llawn o edau lliwgar
A les a thrimins gwyn
Dan ofal dwylo medrus,
A'r pwythau'n dal yn dynn.
Fe grëwyd patrwm cymhleth
Yn addurn del i'r tÅ·
Gan fysedd chwim a diwyd
A'r edau'n dal yn gry'.

Fe aeth yr amser heibio
A'r dwylo yn gwanhau,
Yr edau'n dechrau raflo
A'r fasged yn gwacau,
Daeth niwl i bylu'r lliwiau
A nerth y bysedd brau.
Mae'r pwythau wedi datod
A'r fasged nawr ar gau.

Nia Llywelyn- Glannau Teifi. (9 pwynt)

Englyn yn cynnwys y gair ‘Ceibwr’

Wedi cryd y mewnfudo - i aber
y Ceibwr, ai heno,
â'r brwd yn braenaru bro,
yw Gwanwyn yr egino?

Rachel James - Beca. ( 8.5 pwynt)

O raid, fe gododd brodor – o’i aber,
O Geibwr, i’r cefnfor.
Er mor eang bu’i angor,
I dÅ· ’i fam y daw o’i fôr.

Terwyn Tomos- Glannau Teifi. (8.5 pwynt)

Enillwyr- Glannau Teifi