Y Rownd Derfynol Y Glêr vs Y Ffoaduriaid.
Y Rownd Derfynol Y Glêr vs Y Ffoaduriaid.
Trydargerdd: Datganiad annisgwyl neu annhebygol ar faes yr Eisteddfod
Ar werth, The Guardian, prynwch!
Steddfod Môn sy drwyddo’n drwch.
Eurig Salisbury - 8.5 pwynt.
Dw i ddim yn un fel rheol
am ddynion moel â sbectol
ond mewn gwisg werdd mae gŵyr mewn oed
fel coed, yn eithaf rhywiol.
Gwennan Evans - 9 pwynt.
Cwpled caeth ar yr odl ‘og’
Mae’r hen dannau undonog
Ar gangau’n parhau ynghrog.
Eurig Salisbury - 9.5 pwynt.
Cynllun Datblygu Lleol yr Adar
‘Be’ well na chodi’n bwyllog
ryw gant o nythod i’r gog?’
LlÅ·r Gwyn Lewis - 9.5 pwynt.
Limrig: ‘Pe glaniwn ar ynys bellennig’
‘Pe glaniwn ar ynys bellennig,’
Medd cyfaill o Fangor, boi peryg,
‘’Sa gen i’m Wi-Fi
Na social life, aye,
Sef pam fod y Fenai mor bwysig.’
Osian Rhys Jones - 8.5 pwynt.
Pe glaniwn ar ynys bellennig
yn llawn pobol Jyrman a Ffrengig,
dau Bwyliad, Slovene,
a thri Latfian blin,
swn i’n cîn i aros, nid denig.
LlÅ·r Gwyn Lewis - 8 pwynt.
Hir-a-thoddaid: ‘Ni wnawn ei gyrraedd, ond gwnawn ein gorau’
Ni waeth pa nod, mi wneith y penawdau …
Ni wnawn ei gyrraedd, ond gwnawn ein gorau …
Po ucha’r nod, ei osod sy’i eisiau …
Ond ni ddeallwn.
Nid â hen ddulliau y pery’r iaith.
Os parhau, rhown ymaith ein stôr diobaith o ystrydebau.
Eurig Salisbury - 10 pwynt.
Ni wnawn ei gyrraedd, ond gwnawn ein gorau
i beidio poeni, er bod y pynnau
yn drymach bellach, a’r lôn yn byllau
o dan ein traed, a gwaed yn ein ’sgidiau.
Fe ddown i ben, rhwng gwenau – a chrio.
A ninnau’n blino, awn yn ein blaenau.
Gruffudd Owen - 10 pwynt.
Triban beddargraff meddyg coed
Na rowch ryw feddfaen segur
I nodi maint ei lafur –
Mae’r deyrnged orau uwch ei lwch
Yn drwch o ddail a blagur.
Hywel Griffiths - 8.5 pwynt.
Meddygon coed a seiri
a lenwai’i goeden deulu.
Pan gwympodd lawr o’r dail un pnawn,
’se meddyg iawn fwy handi!
Gwennan Evans - 8.5 pwynt.
Cân ysgafn: Codiad Cyflog
Rwy’n hunangyflogedig, fel y soniais i o’r blaen,
Ond nid oes ar fy nghyfrif banc ryw lawer iawn o raen.
Rhy ddrud yw petrol imi, ac ni allaf fforddio beic,
Felly, a minnau yn sosialydd, roedd yn bryd imi fynd ar streic.
Jiw, dyna braf oedd streicio yr wythnos ddi-feistr honno,
Cael cysgu’n hwyr bob bore, a chael brecwast ar ôl cinio,
Treulio’r prynhawniau wedyn yn creu placardiau hardd
(Roedd rhai o’r sloganau’n odli, gan fy mod i’n getyn bardd.)
Sefyll wedyn wrth gât y tÅ· i’r ceir gael canu’u cyrn,
A minnau’n chwifio placard gan lafarganu’n chwyrn:
‘Beth ydw i mo’yn? Codiad! Yn fy nghyflog, hynny yw.
Pryd ydw i mo’yn e? Yn ddelfrydol, cyn bod rhent mis Medi yn due.’
Mynnais gyfarfod swyddogol rhyngof innau a’r bos, sef fi,
A minnau yno i fy nghynrychioli fy hun o Undeb y VVV.
Cytunon ni’n tri’n unfrydol ar safon uchel fy ngwaith,
A fi oedd Cyflogai Gorau’r Mis bob mis, roedd hynny’n ffaith.
Ond annilys oedd amodau’r streicio, yn ôl fy nhipyn cytundeb,
Doedd dim i’w wneud, yn ôl y bos, a chytuno wnaeth fy undeb.
Felly ymddiswyddais o’m swydd yn swyddogol, cyn imi fy niswyddo fy hun,
Ond na phoener – mae gen i hunangyfweliad am fy swydd fy hun fore Llun.
Iwan Rhys - 9 pwynt.
A glywsoch chi am helynt gender pay y Â鶹ԼÅÄ?
Mae’n wir bob gair! Fe rannaf y dystiolaeth gyda chi.
Dwynwen annwyl sydd yn beicio i bob Talwrn hyd y lle,
yn ei lycra, ym mhob tywydd, nôl a mlaen o’r gogs i’r de.
Tra bod Ceri Wyn yn cruisio mynd mewn Maserati crand,
a’i droed i lawr mae’n morio i gyfeiliant Bryn a’r band.
A sylwoch chi ar steil y Glêr? ‘Nenwedig Iwan Rhys?
Mae ganddo bâr o Jimmy Choos i fatsio bob un crys.
Ond Mererid Hopwood, druan bach, sy’n treulio oriau maith
yn cribo silffoedd Oxfam am sandalau twt maint saith.
Tudur Dylan sy’n llymeitian yn holl gaffis crand y stryd,
synfyfyrio uwch ei Apple Mac gan sipian coffi drud.
Ond ar gefn ei llaw mae Mari George yn sgwennu – dyna strach!
(Sydd hefyd yn esbonio pam bod ganddi gerddi bach).
At Nicky Clarke aiff Eurig am ei hercan - dyna’r si…
tra mod i’n rhoi trim i Gwennan a hithau drim i mi.
Mewn undod felly, codwn lais, ti’n gwrando Tony Hall?
Rho i ni ferched fwy o bres neu sgwennwn ni sod all.
Casia Wiliam - 9 pwynt.
Ateb llinell ar y pryd:
Rhaid gweld wrth ymweld â Môn.
Yr Å´yl sy'n llawn gorwelion.
Y Glêr - 0.5 pwynt.
Rhaid gweld wrth ymweld â Môn.
O hirfaith decwch Arfon.
Y Ffoaduriaid - 0.5 pwynt.
Hwiangerdd
A weli di geiniogau’r sêr
yn syrthio’n flêr i’r gwely?
Fe ddaw y tylwyth teg i’w dal,
a’u gofal i’th dawelu.
Mae’n syndod fod y nen mor fawr,
fel oriawr yn ein cylchu,
a neb ond ti a fi fan hyn
ac ennyd gwyn i’w rannu.
’Dan ni mor fach, yn troi a throi,
a’r lloer yn ffoi a newid;
ond heno, ymlonydda di,
fy mabi, yn dy gwrlid.
Fe weli di wynebau clên
yn sgleinio’u gwên pan gysgi;
cofia mai breuddwydion pêr
ceiniogau’r sêr yw’r rheini.
Osian Rhys Jones - 10 pwynt.
(I’r mab yn y groth ar noson stormus.)
Hidia di befo’r hen storom, er ei bod hi’n fygwth i gyd,
cei ddigon o ddyrnu a chicio pan fentri di allan i’r byd.
Hidia di befo’r hen storom, ‘na i esgus nad ydw i ofn,
er bod crafangau bwystfilod yn rheibio fy nghalon ddofn.
Hidia di befo’r hen storom, mi swatiwn i’n gilydd ein tri,
er mod i’n amau y doi di i edliw’n pechodau ni.
Hidia di befo’r hen storom, mi wn dy fod eisoes yn gaeth
i llwyni llus a llygaid llaith,
a gwaed Crist fel cysgod craith
ar ryw hen hŵr o hanner iaith
a’th frawd am ddwyn dy siaced fraith
gan hwrjio siwt ac oes o waith
ac yn y man yr huno maith
ac y daw i’th ran cyn diwedd y daith stormydd llawer gwaeth.
Ond hidia di befo’r hen storom, hidia di befo nhw’i gyd.
Gruffudd Owen - 10 pwynt.
Englyn: Grym
 phob glawiad, fur cadarn – y dirwyn
Dyfrdwy oer a’i chollfarn
Bob tŵr i’r dŵr; fesul darn
Y golch hi dy gylch haearn.
Hywel Griffiths - 10 pwynt.
Mewn gwlad mor anweladwy – ei hanes
mi fynnwn ni fodrwy
ufudd i’n clymu fwyfwy
i ormes eu hanes hwy.
Gruffudd Owen - 9.5 pwynt.
Enillwyr: Y Glêr.