Main content

Rownd 1 Aberhafren v Y Prentisiaid

Rownd 1 Aberhafren v Y Prentisiaid

Trydargerdd: Cyngor i Brentis

Y mae tri pheth i’w cofio:

paid rhegi, paid â phroestio

a phaid enllibio Ceri Wyn,

mae’n feuryn hawdd i’w wylltio!

Aron Pritchard - 8.5 pwynt

Gneud jôc am y meuryn,

son am WLAD, BRO a IAITH.

Falle procio'r SEFYDLIAD-

‘di deg marc fawr o waith.

Grug Muse - 8.5 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair “cosb”

Daw’r hen gosb i fro’r sosban,

a phwyllgor i guro’r gân.

Llion Pryderi - 8.5 pwynt

Annheg ’sa mynd i Wrecsam

yn gosb os wnaf i byth gam…

Gethin Wynn Davies -8.5 pwynt

Limrig yn cynnwys “Rwy’n gwybod pob dim sydd i’w wybod”

Rwy’n gwybod pob dim sydd i’w wybod

am ddulliau dosbarthu trychfilod,

llenyddiaeth am sbam,

seis bra yncl Sam,

a dyna paham rwy’n ddibriod.

Mari George - 8.5 pwynt

Rwy’n gwybod pob dim sydd i’w wybod-

Fel sut mae cenhedlu babanod

mae o’n gwbwl hanfodol

i’n parhad ni fel pobol

-Neu dyna dwi’n ddeud wrth ‘r hen Winford.

Grug Muse - 8 pwynt

Cerdd ar fesur englyn milwr: Llwfrgi

Ffrwydriad agos. Â’r ffosydd

yn fileinig aflonydd,

un o’i go’ yn swatio sydd,

â’i ddyddiau’n dawch o ddioddef.

Daw grenâd i’w grynu ef;

ceg waedlyd, clec ac adlef.

Y mae’n troi, ar rimyn tranc

erwau’r llaid, yn hanner llanc

yn y düwch yn dianc.

Cydio, cyn clymu cadach

yr oriau cynnar, oerach.

Eiliad ola’, dawelach.

Aron Prichard - 9.5 pwynt

Mae’r tân ’di mynd yn hanes;

Yfa hwn, cyn i fynwes

noson oer sy’n dawnsio’n nes

ein dwyn allan yn dyner.

Å´yr neb sy’n effro’n Aber

ein dawns syn o dan y sêr…

Mae chwant yn ein camau chwim;

dyddiau’n llawn pethau diddim

i’w gneud…ond dwi’m yn deud dim.

Iestyn Tyne - 9.5 pwynt

Pennill ymson mewn ffatri gaws

Mi fyddai’r hen joban ’ma dipyn yn haws

pe na byddwn i mor allergic i gling-ffilm.

Llion Pryderi Roberts - 9 pwynt

Mae’r ‘edam’ yn iawn am ei ogla’,

Y ‘stilton’ a’r glas ydi’r gwaetha’.

Mae peg ar fy nhrwyn

Wrth weithio’n ddi-gŵyn

Ond ‘di’r wraig ddim yn fwyn pan ai adra!

Alun Williams - 8.5 pwynt

Cân Ysgafn: Y Gorllewin Gwyllt

Dai Jones a gawsai’r syniad, nôl Breitbart yr ham-bôn –

rhaid cadw Ceredigion yn bur rhag pobol Môn.

Gŵr busnes, bach o seren, yn trydar dim ond gwir

am stopio’r holl fewnfudwyr rhag croesi ffiniau’r sir.

Dechreuodd gynnal ralis, a dweud hen bethau cas

am Gogs yn gyffredinol, beth bynnag fo eu tras.

Yr ymgyrch ddenodd sylw – “Make Cardis great again!”

Sefydlwyd eu pencadlys yng nghaffi’r Llyfrgell Gen,

ac yno rhwng brechdanau, cacs cri a mygs o de,

aeth hanes Ceredigion yn feiral ar y we.

Addawyd adeiladu wal fawr o’i hamgylch hi

o ochrau Aberdyfi i Gwbert-by-the-Sea,

creu pasborts, stamps a fisas i stopio pawb ddod mewn,

carcharu drwgweithredwyr na wyddant beth yw “ewn”.

Ond yna sylweddolwyd bod cost i hyn i gyd,

fod ffermwyr Ceredigion, ’rôl Brecsit, heb ddim byd.

Gwrthododd Gogs â thalu – all neb eu beio nhw,

ac yna lansiodd Tanygroes a Chrannog counter-coup.

Dai Jones sydd nawr mewn carchar, a phob-man ond am Plwmp

’di werthu mewn takeover i foi o’r enw Trwmp.

Owain Rhys - 10 pwynt

Mi brynnais glamp o sat-nav yn Asda ddydd o’r blaen,

A’i osod yn y car yn ddel a rhoi’r hen beth ymlaen.

Mewnbynnais ar y peiriant, gyfeiriad Dewi’n ffrind.

Daeth llinell las ar draws y map a dyma fi yn mynd.

Roedd llais yn cyfarwyddo wrth helpu ar y daith,

Cyn i mi geisio golchi’r sgrîn a newid opsiwn iaith!

A’r llais oedd nawr mewn ffrangeg yn gweiddi ‘Tourne-toi’,

Ond pwyso wnes ar ‘off’ ac ‘on’ a daeth pob dim yn dda.

Roedd y daith i weld yn hirach na’r oedd hi ‘slawer dydd,

Heb ddiwedd amlwg ar y map a finnau’n colli ffydd.

Ar ôl cylchu strydoedd culion mewn dinas ddiarth iawn,

Mi ddaeth rhiw Eglwys o fy mlaen a’r gardd o’i blaen yn llawn.

Fe stopiais i mewn penbleth, a’r rhegi’n dod yn fyllt.

TÅ· Ddewi oedd yr Eglwys hwn, prif le’r gorllewin gwyllt.

Hen gowbois ydi’r ‘locals’, hen gowbois i’w hosgoi,

A phob un gair yn waeth na’r ‘ffrensh’ – Wes mas yn itha cloi!

Alun Williams - 9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

O'u hogof mewn brawddegau

I rai rhy hawdd yw sarhau.

0.5 pwynt

Telyneg: Pwll

Llun ohona’ i'n mynd i bwll nofio am y tro cyntaf

Dw i'n sownd yn ei freichiau,

yn hurt gan haf,

fodfedd uwchben y dŵr newydd,

yn chwilio am fy wyneb.

Mae’n fy ngostwng yn betrus

a’r rhyddid

yn cicio

fy nghoesau.

Yna, mae'n fy nghodi eto,

mor chwim ag anadliad,

rhag imi weld,

yn dair oed,

nad yw pob dŵr

yn gwenu ’nôl.

Mari George - 10 pwynt

Dau bwll o dan ddwy lygad

a naddwyd gan nosweithiau hir

yn hafnau yn ei groen.

Yn llwyd fel brain ac eira,

a dagrau tri y bora

yno’n hel yn llaith ac oer.

Y gwin dal yn y gwydrau,

cap sgriw y botel werdd

dan goes y bwrdd.

Ac o, mae heno’n brifo.

Ac yn y pyllau dan ei lygaid o,

mi wela i ddau ar fin suddo.

Grug Muse - 9.5 pwynt

Englyn: Evan a James James

Dyhead melodïau – a hawlioch,

ar alwad eich geiriau,

hen waedd hy’; mae un neu ddau

yn oedi rhag y nodau.

Llion Pryderi Roberts - 8.5 pwynt

Fesul cenhedlaeth, daeth y dôn a’r gair

i guro ‘mhob calon;

rhoesant hwy o Fynwy i Fôn

unoliaeth i’n gorwelion.

Gethin Wynn Davies - 9.5 pwynt

Enillwyr - Aberhafren