Rownd Gor Gynderfynol 4 - Tir Iarll v Ffostrasol.
Rownd Gyn Gorderfynol 4 Tir Iarll v Ffostrasol.
Trydargerdd (heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol) Cyhoeddiad annisgwyl yn Wimbledon
Wedi pythefnos o denis da
Fe’i dwedwn ar ffurff pennill...
Cyhoedda yr ‘All England Club’
Mai sais sydd wedi ennill.
Tudur Dylan - 8 pwynt.
Ni’n flin bod y mefus yn bwdwr;
Sdim hufen ond ma’ ʼna laeth powdwr;
Sdim dau byth heb dri
Ond na choelier y si
Bod Andy, o bawb, yn Albanwr!
Gareth Ioan - 9 pwynt.
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘ychwaith’ neu ‘chwaith’
Nid oes gwên na chynnen chwaith,
Dim, ond y myned ymaith.
Aneirin Karadog - 10 pwynt.
Nid oedd Llinos am noswaith
Yn wych iawn, na’i mam hi chwaith.
Dai Rees Davies - 9.5 pwynt.
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n gas gen i glywed côr meibion’
Mae'n gas gen i glywed côr mebion
Nad Å·nt ar y nodyn yn union;
Y mae'n ddealladwy
Fod dicter Myfanwy
Yn llenwi ei llygaid mawr duon.
Emyr Davies - 8.5 pwynt.
Medd Emyr y Graig ‘rôl rhagbrofion
‘Da côr W.I. Aberaeron
Er mod i yn canu
Ym mhob côr yng Nghymru
Mae’n gas gen i glywed côr meibion.
Iolo Jones - 8 pwynt.
Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Wedi’r ymweliad, er i mi wylo’ neu ‘Er i mi wylo wedi’r ymweliad’
Ymweld â Mynwent Rhyfel
Wedi'r ymweliad, er i mi wylo
O weld y beddau a'r enwau yno,
A ydyw'n esgus wedyn i wisgo
Geiriau 'didwyll' dros y gwir dihidio?
Braf iawn yw Aberfanio o hirbell
I wnïo llinell mor rhad ei llunio.
Emyr Davies - 9.5 pwynt.
Mam yn ‘Yr Hafod’
Ciliaf i’w gweled heb gael mynediad,
Nid yw ein geiriau’n gwneud un agoriad,
Caf wrando’n anodd ‘run ailadroddiad
Fod echdoe a ddoe heddiw’n ddyhead.
A’n amlach, yn ddideimlad - af yno
‘Er i mi wylo wedi’r ymweliad’.
Dai Rees Davies - 9 pwynt.
Pennill ymson wrth lungopïo
Os rhof y pennill hwn fan hyn,
un uchel iawn ei safon,
a gwasgu’r botwm lle dywed ‘print’
caf gopi’r un peth yn union.
Os rhof y pennill hwn fan hyn,
un uchel iawn ei safon,
a gwasgu’r botwm lle dywed ‘print’
caf gopi’r un peth yn union.
Tudur Dylan - 9 pwynt.
ʹRôl eistedd ar y peiriant
A gwasgu’r botwm du
Mae gen i lun o’r Bannau
I’w roi ar wal y tÅ·.
Emyr Davies - 9.5 pwynt.
Cân Ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Yr Arholiad
Roedd clywed y gair ‘arholiad’ yn fy llenwi i â gwae,
roedd fy enaid ar gyfeliorn, a’r meddwl wedi cau.
Roedd arholiad Daearyddiaeth yn rhywle yn y dre,
ond chyrhaeddais i ddim yno, o’ni methu ffeindio’r lle
Roedd yr arholiad Ffrangeg yn anodd, wir i chi,
ddaeth dim un gair i’r meddwl, ond wedyn, c’est la vie.
Ar ‘Ora Pro Nobis’ wedyn, fe allwn wneud yn well,
roedd y methu bach yn agos a’r atebion braidd yn bell.
Yr arholiad Mathemateg oedd yn dechrau ddoe am dri
ond methais innau’r cyfan, am bedwar yr es i.
Addysg Gorfforol wedyn oedd fod i bara awr
ond mi dynnais i fy hamstring wrth imi eistedd lawr.
Roedd yr arholiad Hanes fod dechrau ddoe am ddau
ond newidiwyd y trefniadau, nid ddoe ond fory mae.
Doedd gen i ddim i’w sgwennu yn TG ar fy sheet,
Dyhewn am gael gwasgu Control ac Alt Delete.
Wrth ateb ar Wordsworth wedyn allwn i’m neud dim byd,
fy meddwl grwydrai’n unig a chymylog iawn i gyd.
Mae lefel fy nghymwysterau o’r herwydd braidd yn isel,
Ond fel Cyfarwyddwr Addysg, dwi’n cadw hyn yn dawel.
Tudur Dylan - 9 pwynt.
Uchelgais mawr fy mywyd bod ar lwyfannau’r wlad,
Fel dawnsiwr bale enwog, yn troi ar flaen fy nhra’d
Fe fûm mewn dosbarth derbyn, am gyfnod o dri mis,
Ac yna ʹroedd arholiad, i symud lan rhyw ris.
Rhyw wraig oedd yn arholi, ac arni olwg ddig,
Fel asgwrn wedi'i bilio, heb arni fawr o gig.
Fe brynais dwtw newydd, mewn siop ail law'n y dre,
Yr oedd yn dynn gythreulig, ond aeth pob peth i’w le
Dewisais ddawns fflamychol, a’m corff i gyd ar dân,
Addasiad o’r ddawns flodau, ar alaw Calon Lân.
Cychwynais yr arholiad trwy fowio ‘mlaen a nôl
Yn union fel petasech bron eistedd lawr ar stôl,
‘R ôl codi nghoes yn uchel, gwnes godi’r llall ‘run pryd
A dyna oedd y rheswm yr es i ar fy hyd,
Fan hyn yr oeddwn wedyn yn teimlo yn reit wan,
Mewn gofid mawr yn tuchan, yn methu codi lan.
Roedd effaith cryd cymalau, a thwtw oedd rhy dynn,
A llwyddo mewn arholiad yn deilchion erbyn hyn.
Ond yna daeth rhyw gysur, fe gefais ran reit fawr
Yn Swan Lake flwyddyn nesaf, y fi sy’n brwsho’r llawr.
Emyr Davies - 9 pwynt.
Ateb llinell ar y pryd
Yn ei siarts chwaraeai Sian
 data peli Dylan.
Tir Iarll - 0.5 pwynt.
Yn ei siarts chwaraeai Sian
Nefoedd oedd hyn i Ifan.
Ffostrasol - 0.5 pwynt.
Telyneg (heb fod dros 18 llinell) : Buddugoliaeth
Aeth Ariana Grande yn ôl i Fanceinion i gynnal cyngerdd arall wedi’r ymosodiad terfysgol
Breuder y bore wedyn
fel llinynnau gitâr neu leisiau plant
yn swatio rhwng craciau’r tai
ac eco awyren ar wynt y Dwyrain
yn siglo siglenni mewn parciau gweigion
lle’r oedd yr adar yn tagu ar eu cân eu hunain;
tan i’r ffenestri gychwyn pipio rhwng y bleinds
i weld postmon yn mynd o ddrws i ddrws
a mam ar ei ffordd i brynu llaeth
a phob drws clo yn clincian ’to
i linynnau gitâr a lleisiau plant.
Gwynfor Dafydd - 10 pwynt.
Fe lwyddodd i dramwyo’n
Hyderus ar y dŵr
A thynnu nos ddiddiwedd
O lygaid rhyw hen ŵr.
Fe lwyddodd i ddioddef
Ei hoelio ar y pren,
A medru rhoi maddeuant
Cyn iddo blygu’i ben.
Ond maint Ei fuddugoliaeth
Ddangoswyd i ni’n blaen
Pan welwyd nad oedd yno
Wrth iddynt dreiglo’r maen.
Gareth Ioan - 9 pwynt.
Englyn yn cynnwys enw unrhyw lysieuyn
Rwy’ o hyd ’di dweud ‘rwden’, - a’r un gair
i ni, Gogs, yw ‘swejen’,
ond wedi dod lawr i’r de
nawr rwyf fi’n dweud ‘erfinen’.
Tudur Dylan - 8.5 pwynt.
Heno, heb un genhinen yn aros
Yn yr hwyr diorffen,
Awn heibio darn anniben
O bâm, a’n heniaith ar ben.
Iolo Jones - 9 pwynt.
Enillwyr: Tir Iarll.