Rownd 1 - Criw'r Llew Coch v Ysgol y Berwyn
Rownd 1 - Criw'r Llew Coch v Ysgol y Berwyn
Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Neges yn Tawelu Ofnau
Wrth hwylio ffwrdd o Ewrop
ar fwrdd Britannia wych
mor braf bod babi newydd
yn nwylo saff sawl brych
Ifan Bryn Du- Criw'r Llew Coch (8.5 pwynt)
Dwi di neidio’r bunji
Dwi di llyncu bydgi
Elastigeiddiais
Regurgiteiddiais,
Dwi ddim yn llawn!
#Dwi’n iawn.
Erin Prysor - Ysgol y Berwyn ( 8 pwynt)
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘llaith’
Basra
Anial, er ffrwythlon unwaith
Yw’r ardd llwm, lle ‘roedd pridd llaith.
Gwion Aeron - Criw'r Llew Coch ( 8.5 pwynt)
Ar ruddiau llaith yr oedd llaw
Yn estyn cysur distaw.
Arwel Emlyn - Ysgol y Berwyn . (8.5 pwynt)
Limrig yn cynnwys y llinell ‘I Rufain yr af unwaith eto’
Mi geisiais i gan-gwaith fynd yno
Mewn cwch a chanŵ, hyd ‘n oed nofio
I Enlli’n yr haf
Lle mae hi mor braf –
I Rufain yr af unwaith eto
Mair Tomos Ifans - Criw'r Llew Coch (8 pwynt).
I Rufain yr af unwaith eto
Nid i opera fawr Rhigoletto
Na chwaith i roi clod
I Cesar bo’r nôd
Ond am fy mod eisiau Cornetto.
Erin Prysor - Ysgol y Berwyn (8.5 pwynt).
Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 9 a 15 llinell): Capten
A fynnai wefr hafau ‘nÈl,
(hafau heb Ewrop blwyfol)
Ar areithiau’r wraig rhithiol
Tegwyn Pughe Jones - Criw'r Llew Coch (9 pwynt).
Heb unrhyw lyw ond rhyw li’,
Heb orwel ond yr heli;
Heb y lan a’i thrwbwl hi.
Arwel Emlyn - Ysgol y Berwyn ( 9 pwynt).
Pennill ymson wrth ddarllen prospectws ysgol
Nid af i'r ysgol fory a'm llyfr yn fy llaw
mi 'gora i fy 'ipad' pan fydd hi'n taro naw;
caf ŵglo llu o bynciau diddorol iawn i mi
cyn cau fy 'ipad' annwyl pan fydd hi'n taro tri.
Rhiain Bebb - Criw'r Llew Coch (8.5 pwynt)
Yn ddalennau rhwng cloriau glân gloyw
Mae rhestrau o bynciau di-ri
I'w hastudio yma'n yr ysgol
Cyn mynd mlaen i wneud dim neu ddegree;
Un pwnc sy'n arloesol a newydd
Bydd cynnydd disgyblion yn fawr
Dwy flynedd, tair gwers yn wythnosol:
TGAU 'Byw heb y ffôn am un awr'.
Delyth Humphries Ysgol y Berwyn (8.5 pwynt)
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Tamaid i Aros Pryd
Å´ ! Melfyn, melon mawr melyn, un oer a dim llawer o dâst,
Un gwelw a thwll yn ei galon, un crwn a dim sôn am wast.
Yr hen Ifan Avocado, un gwyrdd ac un iach iawn dros ben,
Ond meddal, hawdd iawn ei gleisio a’i galon yn garreg o bren.
Prys Proctor Parker, prawn cocktail, un moethus, ond lot fawr o saws,
Ac roedd ei brôns yn rhai bychan; gor-gimwch bach ffyslyd ei naws.
Eifion yr eog ‘di fygu yn drewi a blasu o smôcs,
Cydweddu yn berffaith ‘fo ‘Chablis’ neu weithiau bicardis a chôcs.
Pete y paté llysieuol, llawn sbigoglys a garlleg a chnau,
Siaced go grystiog amdano a honno rhyw ‘chydig rhy frau,
A Claude y cawl nionyn Ffrengig, winiwns mewn mymryn o stoc
Os na cha’ i rwbath sylweddol mi fydda’i ‘di clemio toc.
Ac o’r diwedd – Haleliwia! Stecan fawr ! Y gorau’n y tir!
Lwmpyn o rwmpyn mawr cadarn, ‘rare’, jiwisi, ‘di hongian yn hir.
‘R ôl stêc, does dim lle i bwdin, ac wfft i’r dechreufwyd i gyd,
Nid ydech ddim oll ond tapas, tameideidiau bach i aros pryd.
Mair Tomos Ifans - Criw'r Llew Coch (9 pwynt)
Er cael ein synnu’n ddyddiol gan Donald erbyn hyn
Ni wyddwn am ei raglen ‘Y cogydd o’r Ty Gwyn.
Mae yno yn y gegin a wiwer goch fel gwallt
A dawn arbennig ganddo i wneud pob dim yn hallt.
Mae’r staff i gyd yn barod ‘oll yn eu gynnau gwyn’
Does neb o gefndir ethnig ac nid oes merch fan hyn.
Mae’r arlwy’n cael ei drafod ond ei ddewis ganddo fo,
Pob dim yn ddemocrataidd, ei ddemocratiaeth o.
Ac os bydd anghytuno ynglyn a gwneud rhyw bryd,
Mi fydd y cogydd hwnnw allan ar y stryd.
Ni ddaw yr un cynhwysyn o wledydd pell y byd,
America yn gyntaf, America o hyd.
Dim bwydydd Mecsicanaidd, fe’u rhwystrir gan y wal
Na chwaith dim byd Tseiniaidd nag unrhyw beth hal-al.
Daw’r gwartheg o Virginia a’r wyn o Tecsas wir,
Y blawd o Galiffornia a’I herwau euraid hir.
Ond mae na amb ell bwdin sydd wir yn blasu’n dda
Yn cynnwys anrheg Vladmir sef chydig o vod-ca.
Rol blasu ambell damaid fe wn pan ddaw llawn bryd
Gan Donald John y cogydd, camdreuliad gaiff y byd.
Huw Dylan - Ysgol y Berwyn (9 pwynt)
Ateb llinell ar y pryd
Mae haid o wylliaid yn well
wedi'u dofi mewn stafell.
Criw'r Llew Coch (0.5 pwynt).
Telyneg mewn mydr ac odl (heb fod dros 18 llinell): Côr
Arogl biswail llond y beudy
A’r tarw du sy’n cnoi ei gil,
Heffrod blwydd yn llyfu’i gweflau
A’r pryfed dom yn cylchu’n chwil.
Gwelais bry dan loer Mehefin,
Un du a gwyn ymysg yr Å·d;
Gadael iddo grwydro’r cyfan,
A minnau’n fodlon – gwyn fy myd.
Eira’n lluwchio dros y buarth
A “thraed y meirw’n chwythu’n frwd.
Eto glân yw llawr y biswail.
Y côr yn wag a’r aerwy’n rhwd.
Tegwyn Pughe Jones - Criw'r Llew Coch (9.5 pwynt)
Dim ond gŵr yn codi’r baton
hogiau’n canu nerth eu calon,
Pob un nodyn yn ei le,
Rhes o filwyr o’r chwith i’r dde
Wedyn camu’n ddigyfeiliant
I guriadau bît y peiriant
I gaeau Fflandrys, Mametz neu Y Som
Esgidiau hoelion gwn a bom
Ond lle bu cân yr hogiau ifanc
Nid oes nodyn yn cael dianc.
Dawel Nos, ffarwel pob ffrind,
Pob un nodyn wedi mynd
A lle bu canu nerth eu calon
Dim ond gŵr yn cadw’r baton.
*Roedd sôn yn ddiweddar am gôr gyda phob aselod wedi marw yn y Rhyfel mawr. Ond am yr arweinydd.
Delyth Humphries - Ysgol y Berwyn (9 pwynt).
Englyn yn cynnwys y gair ‘dinas’
Palu maent ger palmentydd y ddinas,
Oedd unwaith mor ‘sblennydd,
Drwy ludw yr aelwydydd
Yn un rheng i’w tynnu’n rhydd.
Gwerfyl Price - Criw'r Llew Coch (9 pwynt)
Ein denu mae gŵe dinas – hen bryfaid
arbrofol cymdeithas
ei phry cop â’i gyffyur cas
daflodd gaethiwed diflas.
Arwel Emlyn - Ysgol y Berwyn (9 pwynt)
Enillwyr Criw'r Llew Coch.