Main content

Tlws Coffa Dic Jones am Gerdd Orau Cyfres y Talwrn 2017.

Tlws Coffa Dic Jones am Gerdd Orau'r Gyfres.

Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 9 a 15 llinell): Coridor

Ger Ffynnon* y gorffennol,
doe yn awr sy’n ffrydio’n ôl
a rhedaf fel lli’r Rheidol
heibio i ddrysau ffrindiau ffraeth
hyd wâl yr hen frawdoliaeth,
un llain hir yn llawn hiraeth.
Cornel o Bantycelyn
am ryw hyd oedd Cymru ei hun
a’r iaith yn sodro Rhuthun
led ’stafell o Lanelli.
Drwy rwydwaith ein direidi
fan hyn roedd gwladfa i ni
ar adeg byw delfrydau
rhwng cysur cyfyng furiau’r
Ffynnon hon, pan o’n i’n iau.
* coridor bois y drydedd flwyddyn yn Neuadd Pantycelyn.

Llion Jones - 10 pwynt