Main content

Rownd 1 Criw'r Ship v Talybont

Rownd 1 Criw'r Ship v Talybont

Trydargerdd : Newyddion Trosglwyddo

Mae dewis newid timau yn iawn ym myd y bêl,

ond ‘di newid enwau llefydd ddim yn griced, Dafydd Êl.

Nici Beech - 8.5 pwynt

Colli sgiliau wrth drosglwyddo

Ddaw yn sgil yr Euro-bleidio.

Colli miloedd o drethdalwyr,

Ac yn eu lle cael llu pensiynwyr.

Phil Davies - 8 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'tlawd'

Tlawd yw, ond mae'n byw mewn byd

na wêl wir ystyr golud.

Annes Glyn - 8 pwynt

Dyn tlawd fyddai’r brawd mewn bro

na wyddai werth ei heiddo.

Anwen Pierce - 8 pwynt

LIMRIG: MAE _____ YN ANODD I’W PHLESIO/BLESIO

Mae ’ngwraig i yn anodd i’w phlesio.

Duw’n unig a ŵyr, dwi ’di trio.

Wir rŵan, dwi wedi –

Ddwy waith ym mis Medi,

A leni, fydd raid cynnig eto.

Arwel Roberts - 8.5 pwynt

Mae’r wraig ‘co yn anodd i’w phlesio.

Rwy’n Hync sydd yn sexi a’n smwthio,

mae’n ngheseiliau i’n sych

a Nghymraeg i yn wych,

ond weithiau rwy’n exaggeratio.

Phil Thomas - 8 pwynt

Cerdd ar fesur englyn milwr: Blodyn neu Blodau

Petai haul mewn petalau,

yn y rhain byddai'n parhau

er gafael rhew gaeafau.

Yn eu melyn mi welaf

ddarnau aur yn addurn haf

ar y ffin â Gorffennaf.

'Nôl ym Mai ni welem hwy,

rhyw droad anghofiadwy

oedd y man, a fawr ddim mwy.

Bellach mae'r lliwiau llachar

yn lle hynod, collnod câr,

y taw lle bu sgrech teiar.

Oernad fu diwedd siwrnai

un a fu; ar weiren Fai

y tusw 'ond petasai...'

Annes Glyn - 9.5 pwynt

Gwrthododd y Llywodraeth fesur Dr Dai Lloyd i ddiogelu enwau lleoedd Cymreig

Deifi annwyl, dof heno

atat i blygu eto

glin glân ar geulan o go’.

Yn nyddiau llwyd cloddiau llwm

mae petalau caeau Cwm

y Ddorlan dan ddau hirlwm.

Ar dir trwm ein marw maith,

draenen sydd mor hen â’r iaith

yw draenen ein hestroniaith.

Pa werth yw plygu perthi

yn awr dan raff mieri,

i frad oer dy Chwefror di?

Deifi fwyn, rhwng brwyn a brain,

ar ddôl a rhyd, arddel ’rhain;

ein henwau ni ein hunain.

Gwenallt Llwyd Ifan - 9.5 pwynt

PENNILL YMSON ASYN

Mae f’asthma yn gwaethygu, mae ’mheils i’n mynd yn fwy,

Mae ’nghalon i’n arhythmig, mi ddaliais lawer clwy

A methais gario plantos ar lan y môr drwy’r ha’.

Mewn geiriau eraill, doctor, dydw i ddim hanner da.

Ond mae’r bos yn dechrau cwyno ei fod o’n hollol sgint

Ac yn bygwth g’neud i fi gario llwyth mawr o lo i Fflint…

Arwel Roberts - 8 pwynt

“Hosanna” ydoedd bloedd pob un

wrth i ni gyrraedd gatiau’r dref.

Arnaf i yr oedd pwysau’r dyn

ond pwysau’r byd oedd arno ef.

Phil Thomas - 8.5 pwynt

CÂN YSGAFN: Y GWYBODUSION

Mae cynulleidfa’r Talwrn erbyn hyn

Yn hen gyfarwydd ag amodau’r gân.

Trefn Gerallt oedd, nawr trefen Ceri Wyn,

I atal beirdd rhag wafflo ’mlaen, neu ’mla’n.

Cân ysgafn ydy’r dasg, nid soned dlos,

Heb fod dros ugain llinell, dyna’r gwir.

Mae ambell fardd, heb enwi neb, fel Jôs,

Yn creu llinellau hir, hir, hir, hir, hir,

Hir, hir. Mi fydd y craffaf yn eich plith

Yn dechrau anesmwytho mwya’ sydyn

Ac amau fod fy mhill, fy ngherdd, fy llith

Am anwybyddu cenadwri’r meuryn,

Ond gŵyr y craffaf oll ei bod rhy fyr.

Arwel Roberts - 8.5 pwynt

Mae’n oriau mân y bore, newyddion sydd yn dene

Pwy sydd ar gael i ddod i mewn i helpu lenwi’r orie?

Cawn sgwrs am glwy’r marchogion gan Syr Bryn Tyrffel bodlon,

Neu griw Y Ship i drin yn faith rhyw gân ddiddiwedd wirion.

Gall prop sy’n gwybod popeth, o drydydd tîm Cwmllynfell,

Ddod draw i daenu cyngor doeth fel menyn mas o’r oergell.

Cawn Skype-iad braidd yn haerllug gan Felix y Parchedig,

Yn trafod sut i fod yn wâr, heb ymddwyn yn droëdig.

A gan fod ymbelydredd ar Fwcoshima’n gorwedd,

Bydd sawl dyn coleg siŵr o ddod i frowlan yn ddiddiwedd.

Daw pwtyn bach o Mosco i ddangos triciau jiwdo,

Ei drais sy’n dychryn boi fel fi, a’m gwregys ddu mewn Ludo.

Yna daw gŵr o Decsas i roddi i ni ragflas,

O’r hyn a ddaw pan fydd ei wlad yn nwylo dyn di-urddas.

Wedyn awn i Awstralia i ddysgu am Koala,

Gan ferch sy’n berchen ugain gradd, pob un am bethe smala.

Rhaid cloi wrth droi at Gymro, am stori neis wrth ddeffro,

O flaen rhyw gôr, sy’n gwisgo daffs, ar bwys pwll glo yn pyncio.

Mawr yw fy niolch iddynt, am draethu heb ddim helynt,

Pob gwybodusyn treiddgar, doeth, heb blant i darfu arnynt.

Phil Davies - 8 pwynt

Ateb Llinell ar y pryd

Talybont:

Yr Ynys Werdd, dirion sydd

leni heb ffin ar lonydd.

0.5 pwynt

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Buddugoliaeth

Ar ddyddiau angladdau aelodau a chyn aelodau o’i staff, mae’n arferiad gan Brifysgol Bangor chwifio’r faner uwch y prif adeilad ar hanner y mast.

Colli wnawn ni i gyd yn ’diwedd:

pydru i ddinodedd pridd mewn pridd

neu losgi’n wenfflam cyn troi’n llwch mewn llwch.

Ond er marw delfrydwyr, mae delfrydau’n byw

a dyna pam fod y lle ’ma’n fywiog heddiw,

y drysau’n ’gored a’r llenni heb eu cau i ddangos parch:

oherwydd amharch heddiw fyddai troi i ddilyn bedd

a fory’n aros mewn sefydliad sydd yn magu

gwareiddiad yn ei gôl. Trown at ein gwaith,

boed hwnnw’n lenwi pennau stiwdants efo dysg

neu llnau eu chwd o goridorau’r bore wedyn.

Trown ato, a sylweddoli’n braint

o chwarae rhan yng ngoruchafiaeth deall

dros anwybod, ond nid heb blygu pen

cyn sbio eilwaith tua'r haul:

mi nodwn ni’r golled wrth symud ymlaen,

a chwifio ein baner ar hanner y mast.

Elis Dafydd - 9.5 pwynt

Buddugoliaeth

(I John Bull)

Drachtia’n ddwfn o’th fedd.

Yf yn fuddugoliaethus,

yf hyd nes bod dy weflau’n diferu

a gwledda hyd nes bod dy en yn saim.

A phob canwyll yn bwll o wer.

sudda dy ddannedd i’r seigiau

a glafoera yn dy fodlonrwydd.

Cofia dy fawredd ac ymffrostia ynddo.

Cana’th gan, bloeddia, poera dy eiriau,

Yna, cwsg yn hunan-gyfiawn

Daw’r bore,

a gwawr o oglau hen gwrw a mwg,

yn gymysg ag oglau cŵn

Gwisg dy wasgod seimllyd,

pesycha dy fflem yn grafiadau trwy dy lwnc crimp.

Tyrd, cliria dy lanast,

mae’r gweision ‘di mynd.

Phil Thomas - 9 pwynt

Englyn: Corwynt

Yn ei wyneb fe wenaf – er ei ru,

poeri'i reg, nid ildiaf,

er ei ddyrnod fe godaf

yn feddw, rydd; fe ddaw'r haf.

Annes Glyn - 9 pwynt

Corwynt Donald

Wedi’r anfad hyrddiadau – y gwasgwn

I gysgod corlannau

Gwareiddiad ac, mewn graddau,

Codi’r gwir yn uwch na’r gau.

Gwyn Jenkins - 8.5 pwynt

Enillwyr - Criw'r Ship