Main content

Rownd 2 Tanygroes v Beirdd Myrddin

Rownd 2 Tanygroes v Bro Myrddin

Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Nodyn yn esbonio absenoldeb

Nid wyf wrth law i’ch croesawu heddiw

ond roedd yn bryd canu’n

iach, ffrindiau: bu’r dyddiau du

yn rhy unig i’w rhannu.

Phillipa Gibson - 9.5 pwynt

Tynnais ben fy Marbi

Ac yna'i choes un dydd;

Ni allwn ddod i'r ysgol,

Roedd gen i ddoli rydd.

Aled Evans - 9 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘eofn’ neu ‘ewn’

'’Mlaen â’n hawl i’n miliwn ni"

yw dweud eofn hil Dewi.

Emyr Oernant - 9 pwynt

Rhai eofn yw'r storïe

wedi ffoi a throi sha thre'.

Aled Evans - 9 pwynt

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae hanes yn nhref Hendygwyn’

Mae hanes yn nhref Hendy-gwyn

Am un neu ddwy gyfraith fach brin

Ac abaty bach neis

Sy’n dipyn o seis.

Does ’na’m llawer o ddim erbyn hyn.

Ann Richards - 8 pwynt

Mae hanes yn nhref Hendygwyn

Am fenyw sy’n batho mewn gin

I leddfu pob poen

A gwella ei chroen,

Mae’n donic ei gweld pan mae’n dynn.

Ann Lewis - 8.5 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cyfraith

Ein dau gnawd fu’n dweud y ‘Gwnaf’

yn wirion, sef “Fe’th garaf

â’m holl gorff a ni’n orffwyll,

a phwy a ŵyr sens na phwyll

a’n gwin o sudd ein gwanwyn?”

Caru o reddf wnâi ein crwyn -

nes troes trefn chwant yn blanta

a’n nwyd ewn yn gwmni da.

Nawr sgyrsiau mewn seddau sydd

a’n dwy law’n uned lonydd.

Rhoed ein greddf yn neddf ‘Fe wnaf’

ac erys ein “Fe’th garaf.”

Phillipa Gibson - 9.5 pwynt

Hela Dant y Llew

"Chwyth Mam fach, mae hawl achan!"

Mae hawl chwalu'r hadau mân

a'u rhoi at drefn yr awel

yn ffair wyllt, yn un ffarwél.

Rhown brawf ar y gronyn brau

a'i fradu â'n dedfrydau.

Un ... dau ... tri ... yw hyd y tranc,

mae'i rhifau hi mor ifanc,

mor amrwd eu ffrwd, mor ffraeth,

yn deg eu herlidigaeth,

heb reol i ddidoli

yr 'hawl' sy'n ei synnwyr hi.

Lowri Lloyd - 9 pwynt

Triban beddargraff dyn trin gwallt neu fenyw trin gwallt

Gwnest wyrthie gyda’th welle;

Â’th ‘glipyrs’ gwnest ti gampe;

Trueni nad trydanwr wet -

Cest ‘set’ cyn troi am adre.

Ann Richards - 8 pwynt

'R’ôl cyrlio’r blow dry harddaf

A thorri’r blewyn dwethaf,

Y barbwr aeth 'rôl twtio'i gwiff

Yn stiff i’w salon olaf.

Garmon Dyfri - 8.5 pwynt

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Ail Agos

Ail agos wir fy hanes mewn raffl fel erioed

Ond bwbi preis mewn chwist dreif pan own ymlaen mewn oed,

Wir wedi ’styried wedyn efallai lwcus fûm

I dderbyn preis mor addas, sef tiwben wrinkle crîm.

Does gennyf ddim diddordeb mewn rygbi na phêl-droed

Ond cof sy gennyf chwarae pan own rhyw saith deg oed.

Y bêl oedd pledren mochyn, dwy siaced oedd y gôl,

Dim sôn am garden felen ond ambell gic pen-ôl.

Do, raffl geisiodd miloedd anlwcus a fu’r rhain

I weled gêm ryngwladol ond ennill wir wnaeth nain.

Ond breuddwyd gafodd honno, cans ofn y môr ro’dd hi

O weled dannedd gosod ar waelod llaith y lli.

Ro’dd Ffrainc yn chwarae Cymru, cawl twymo yn eu gwaed

Yn herio bois y garlleg a’i bol yn llawn brogaid.

Er dewrder y Brythoniaid fu’n tanio drwy y tir,

Mwy tanllyd fu’r Ffrancwyr mewn sgrym a dweud y gwir.

Nid oedd dim sôn am heniaith ar strydoedd ‘Gay Paree’

Ond pobol mewn argyfwng yn sôn am ryw ‘Oui oui’

Arwel Jones - 8 pwynt

Ai Lagos?

Bum unwaith yn hela tafarne

Gan roi tro ar ambell i gwis,

Ro’dd fy mhen yn gorlifo â ffeithie

Am gerdd a chaneuon Huw Chis.

Gwyddwn bopeth am hanes a chrefydd

Ac adnabod y sêr yn y llun,

Medrwn restru enillwyr y Talwrn

Hyd Feirdd Myrddin yn twenti sefntîn.

Ond deuai rhyw gwestiwn i'm maglu

Fel ‘ai gwlân yw blwmyrs y Cwîn?’

Rwy ‘di gweld ei hwyneb hi droeon

Ond heb fod mor gyfarwydd â’i… dillad isaf.

Bu'n rhaid rhoi ‘tie-breaker’ un noson

Yn Nhafarn Y Bont marcie deg

‘Beth yw enw prif ddinas Nigeria?’

Daeth yr ateb fel bwled o’m ceg -

Heb betruso am eiliad fe waeddais

‘Ai Lagos? ‘Na’r ateb a ro'is,

A thrwy hynny fe ddes i o'r diwedd

Yn gyntaf am unwaith mewn oes.

Bryan Stephens - 8.5 pwynt

Ateb Llinell ar y pryd.

Hywel Dda roes hawl i ddyn

yma herio ein meuryn.

0.5 pwynt.

Hywel Dda roes hawl i ddyn

i herio barn y meuryn.

0.5 pwynt.

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Dros Dro

(Darllenais yn ‘Y Cymro’ fod deugain mlynedd ers marw Ryan Davies)

Ti a'th doniau -

Y canwr, yr actiwr,

Y telynor, y cyfansoddwr,

Y clown wyneb rwber gyda’r corff ystwyth;

Ti oedd Twm Twm bolshi y gyfres Fo a Fe,

Ti oedd y digrifwr a’th bartner strêt.

Gwnaethom chwerthin hyd ddagrau ar dy gampau.

Mae’r nos yn hir wedi dy farwolaeth

Ond rwyt yma o hyd,

Mae cenhedlaeth newydd yn canu’th ganeuon.

Ann Richards - 8 pwynt.

Beth weli di?

Dy ddwylo glân,

Yn troi yr ardd

Yn egin mân.

Beth glywi di?

Daw sŵn dy droed

A'th eiriau'n swil

O wreiddiau'r coed.

Beth deimli di?

Dim ond y glaw,

Rhwng brigau noeth

A storm gerllaw.

Beth ydwyt ti?

Nid ydwyf ddim

Ond deilen grin

Mewn gwyntoedd llym.

Aled Evans - 9 pwynt.

Englyn: Baich

Baich y Gofalwr

Yn y gwyll wedi’i golli, bwriai awr

heb yr un wÅ·s iddi

nes i’r gwactod ei chodi

â sgrwb o’i segura hi.

Phillipa Gibson - 9 pwynt.

Afon Alaw

Fe af at lan yr afon, i’w dwndwr

i dendio fy nghalon,

ond ei dŵr ddwed yn dirion

na allai hi wella hon.

Aled Evans - 9 pwynt.

Enillwyr - Beirdd Myrddin.