Main content

Rownd 2 Criw'r Llew Coch v Penllyn

Rownd 2 Criw'r Llew Coch v Penllyn

Trydargerdd – Bwletin Traffic.

Mae traffig ar yr A pumdeg

yn symud o dan straen

oherwydd bod na fys mawr coch

yn bacio ar ‘i mlaen.

Ifan Bryn Du - 8.5 pwynt.

Allt Rhuallt sydd yn dagfa

Bryn Glas yn ddigon cwla

A deud y gwir mae’r ffyrdd i gyd

A’u hiechyd am y gwaetha.

Beryl Griffiths - 8 pwynt.

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair ‘camp’.

Y gamp ydy credu'r gwir

O enau rhywun anwir.

Rhiain Bebb - 10 pwynt.

I Awdur Cwpled y Llew Coch.

Dyna gamp yw dwyn i go'

linell mor wael â honno.

Gruffudd Antur - 8.5 pwynt.

Limrig yn cynnwys y llinell: Un da ydyw’r clwb ym Mhorthmadog.

Am beint o Mws Piws, sy’n odidog,

Un da ydyw’r clwb ym Mhorthmadog.

Os yw’r tim pêl-droed

Mor wael ag erioed,

“Premier League” ydyw’r sglodion a’r hadog!

Alun Cefne - 8 pwynt.

Pe byddech yn byw yn Anelog

A’ch cymar yn byw yn Llangadog

Ac yn chwilio am le

I gyfarfod am de,

Un da ydyw’r clwb ym Mhorthmadog.

Aled Joes - 8.5 pwynt.

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cynnwys cymeriad llythrennol.

Martin McGuinness

Rhwygaist ddau hanner Derry;

Rhagfarnau dy ynnau di’n

Rhoi llais i flinderau llanc-

Rhyfel yn nwylo’r ifanc.

Mi welaist o’r ymylon

Mai bom yw bom yn y bôn,

Mai drwy rym dy eiriau ‘roedd

Mynnu hedd, troi’r mynyddoedd

Milwriaethus; tywys to

Mwynach ‘nawr i’th ymuno

Mewn rhoi bwyd i aelwydydd –

Mai’r ffordd hon ddoi’r ‘Werddon rydd.

Tegwyn Pughe Jones - 9.5 pwynt.

O dan wrid a staen yr haul

Oeri mae'r ardal araul.

Oni fu bro yno a hil,

Ond heddiw mae'r plant eiddil

O wynebu'r anobaith

Oll dan lwch duwch y daith.

Ol gwaed oer ar lygaid iau

Oedd heddiw'n dyst i ddyddiau

O feithrin y Gorllewin gwâr,

Olew budur a'i alar

Oedd yn nagrau'r dyddiau du,

Oferedd di yfory.

Dylan Davies - 8.5 pwynt.

Triban Beddargraff Peintiwr ac Addurnwr

Os hoffech arch 'di phaentio

Huws-Jones 'di'r rhai i ffonio

Y fi 'di Huws ond does 'na'm sôn

Fod Jones 'di marw eto.

Rhiain Bebb - 8.5 pwynt.

Bu’n ddiwyd hyd ei yrfa

Yn llenwi yr holl dylla

Ond yn fan hyn o dan y gro,

Y fo yw’r polyfilla.

Beryl Griffiths - 9 pwynt.

Cân ysgafn - Nyth Cacwn

RGC 1404 (-byw mewn gobaith.)

I’r gad chwi hogie Pesda, Nant Conwy, Colwyn Bay

Ewch ati‘n bac cyhyrog chwim - I ddwyn y grym o fois y De.

Bydd y Wyddgrug,Pwllheli, COBRA a’r eich ysgwyddau ar bob tro,

Ac a’r eu sodle- ffermwrs Rhuthun, a chaled wÅ·r y” Bro.”

Wariars brwd y Northern League

A goda Cymru’n ôl I’r brig.

Cawn gymorth llanciau’r Bala, tref y Cofis, Shotton Steel

I rwygo “Blazers” y WRU o’u meddylfryd cyfyng, cul

I’r diawl â Wil a Katy , a’r Principality

Mae’n dyfodol nawr yn nwylo meibion dewr yr RGC.

Ac yn lle clodfori “heroes “ imperialaidd Prydain Fawr,

Glyndŵr, “y Mab Darogan” fydd ein hysbrydoliaeth ‘nawr.

Fe ‘styrbiwyd glamp o nyth cacwn yng nghoridorau’r Drefn,

Caed “Committee” cyn dychwelyd i wreiddiau’r gamp drachefn.

Cydnaba’r Jacs a’r Tyrcs oll , a thrigolion Pontypridd

Eu dyled i’r Gogleddwyr am ail gynnau tân eu ffydd.

‘Nawr Cerdd Dant , Partion Plygain geir, nid corau meibion lu,

“Wele’n seffyll rhwng y myrtwydd” “-stead of Bread of Evan, see.”

Ni ildiwn ein treftataeth I Sky nac I BT,

Atgof o Fynydd Hyddgen a ddaw I’n harbed ni.

Alun Cefne - 8 pwynt.

Modlen oedd yr ienga’ mewn teulu o dri, roedd ei thad a’i mam yn hynach na hi!

Ei breuddwyd erioed ydoedd bod yn filfeddyg, heb gyffwrdd mewn baw na gwaed yn enwedig.

Ond “ceffyl pur dda yw ewyllys” bob tro, ac “o angen y daw dyfeisgarwch”.

A dyfal fu Modlen un dydd yn y sbensh, yn addasu yr Henri efo morthwyl a rensh.

Sodrodd anferth o big ar ei beipen yn dalog, rhag ofn byddai cwsmer angen gwella cyffylog.

A chydag injan hen dractor yn ei grombil ynghudd, byddai Henri yn drymach na “Chaneuon Ffydd”.

Hon fyddo’r ddyfais “dynno waed o garreg”, hon fyddo’r ddyfais “dynno gast o hen gaseg”,

A hon fyddo’r ddyfais roddai gath i gysgu, ond fod angen naw apwyntiad i hynny!

Dau gwsmer yn unig a ddaeth i’r feddygfa; Wayne a’i ffyddlon ast ddefaid oedd gynta.

Doedd Fflei am ryw reswm ddim yn clirio ei swper, yr ast ddu a gwyn oedd yn llwyd, a di-hyder.

Daeth cyfle i Henri ddisgleirio, o’r diwedd, ac aed ati i “dynnu y dŵr o’i dannedd”.

Ond llyncwyd yr ast a’i pherchennog tyner, ni welwyd “Y Wayne na fflei am amser”.

Tro y Cynghorydd Iwan Benny oedd nesa, roedd ei wiwer yn dioddef o SPHEKSOPHOBIA,

A honno yn gruddfan a bron mynd yn wirion gan fod clamp o nyth cacwn yn sownd wrth ei chynffon.

“Dim problem” medd Modlen “daw Henri i’r adwy, rwy’n gweld fod eich wiwer yn diodde’n ofnadwy”.

Rhoddwyd peipen yr Henri wrth gwt y cysgadur, ac offrymwyd ryw weddi, i helpu’r achlysur.

A chydag un sugniad, y cacwn hedfanasant o gynffon y wiwer i grombil y peiriant.

Ond Henri a sugnai fel na sugnai o’r blaen, a diflannodd y gynffon, a’r wiwer heb straen.

Y Cynghorydd adawyd yn welw fel marmor, byddai’n rhaid dod a hyn i sylw y cyngor.

Fel yna mae bywyd, i lawr ddaw y llen, tra mynno dyn “dynnu nyth cacwn Iw Benn”.

Aled Jones - 9 pwynt.

Ateb llinell ar y pryd.

Ces sbort pan giciais y bêl

A chyrraedd ponciau'r chwarel.

Penllyn - 0.5 pwynt.

TELYNEG - Cusan.

Dy lapio yn fy mreichiau

A thithau’n cwffio cwsg,

Blinder lond dy ddyrnau

A minnau’n gweled Huwcyn yn dy lygaid,

Anadlais bluen ar dy dalcen

I’th ddanfon i fro dy freuddwydion.

Dy lapio yn fy mreichiau

A thithau’n effro’r nos,

Penbleth lond dy ddagrau

A minnau’n gweled ofan yn dy lygaid,

Gwenais seren ar dy gorun

I’th dywys i fad dy freuddwydion.

Dy lapio yn fy mreichiau

A thithau’n ysu mynd,

Paciau dros dy ‘sgwyddau

A minnau’n gweled gorwel yn dy lygaid,

Gollyngais angor ar dy ruddiau

I’th hebrwng i fyd dy freuddwydion.

Mair Tomos Ifans - 10 pwynt.

Mae'n hwyr

a minnau'n pwytho geiriau hud

yn gwrlid stori

i'th lapio ynddi,

a'th adael yno

yn nhir cwsg a'r tylwyth teg.

Cyn i mi gofio'n rhy hwyr

am glec y stepan isaf,

a'r pwythau'n datod -

'Un sws eto.'

Mae'n hwyr,

a minnau, wrth aros

yn troi'r pwythau'n glymau

o betae a phetasa.

Nes i mi glywed, o'r diwedd

glec sigeldig dy sodlau

ar y stepan isaf.

Ac fe ddoi a'th chwedlau

at ddrws fy llofft,

cyn chwythu sws o'r tywyllwch -

'Dwi adra.'

Haf Llywelyn - 10 pwynt.

Englyn Geirda.

Y gwir sy’n cuddio’n y geiriau – y dweud

Nad yw, yn gyfrolau;

Mae llun gwell rhwng llinellau

Pan welir y gwir yn gau.

Gwion Aeron - 9.5 pwynt.

(Pan o'n i'n dechrau talyrna, mi ges i farc gwell nag o'n i'n ei haeddu gan y meuryn yn nhafarn y Morgan Lloyd yng Nghaernarfon)

Syllodd llond tafarn arna'i, yr hogyn

bach bregus na wyddai

fod eto'n ddyn, heb un bai

arno ar ddechrau'i siwrnai.

Gruffudd Antur - 9.5 pwynt.

Enillwyr - Criw'r Llew Coch.