Rownd Gor Gynderfynol 3 Beirdd Myrddin v Y Ffoaduriaid.
Rownd Gor Gynderfynol 3 Beirdd Myrddin v Ffoaduriaid
Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Cyfarchiad sy’n annhebygol o ymddangos mewn cerdyn cyfarch
Pob hwyl i'r Ffoaduriaid,
Hei lwc am ornest dda;
Ond os digwydd i chi ennill
Gobeithio gewch chi'r pla.
Aled Evans - 8.5 pwynt
Nadolig Llawen i ti Ceri
a diolch am dy holl waith.
Cyfarchion, Tîm Beirdd Myrddin.
(Pencampwyr 2017).
Gwennan Evans - 8.5 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘chwip’
Er i'w chwip'i brawychu hi,
Ei eiriau wnaeth ei thorri.
Aled Evans - 8.5 pwynt
Chwip din. Er na chipiwyd hon,
darfu cadernid Arfon.
Gruffudd Owen - 8.5 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Nid oes gen i ffydd mewn meddygon’
Nid oes gen i ffydd mewn meddygon
Ers gweld un i wella gwynegon.
Ni wyddai pa un
Oedd penelin neu dîn
Ni chefais wellhad o’i gynghorion.
Ann Lewis - 8 pwynt
Does gen i ddim ffydd mewn meddygon,
sy’n dweud mod i’n llawn afiechydon
achos wel, dyma fi
yn ddau gant a thri
a dwi dal ddim di nôl fy mhrescripshon.
Casia Wiliam - 8 pwynt
Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Rhaid trio eilwaith: hwn yw’r tro olaf’ neu ‘Hwn
yw’r tro olaf: rhaid trio eilwaith’
Colli Rhiant
Rhaid trïo eilwaith, hwn yw'r tro olaf
ac fel eco daw'r 'byth eto' ataf
i f'annerch â'r un alwad na fynnaf
ei dannod yn atseinio amdanaf;
y mae'n filltir hir ond af rhyw un waith
at erwau'r daith am y tro diwethaf.
Lowri Lloyd - 9 pwynt
Ar ôl pob cweir, mae’n dyrnu’r un geiria’,
“Rhaid trio eilwaith: Hwn yw’r tro ola’”,
a dwi’n ei gredu. Mae’n dwyn goriada’n
dyner dyner i fy hanfod inna’.
Yma, heddiw, dwi’n madda’ - ei gariad
a’i deyrnasiad… ond bydd na dro nesa’
Gruffudd Owen - 10 pwynt
Pennill ymson wrth ŵglo
Mae’n wythnos UCAS eto
A’n natganiad personol sy’
Yn broblem na ellir ei datrys,
Rhaid gŵglo pwy ydw i.
Garmon Dyfri - 8.5 pwynt
Tybed oes cyfaredd
mewn byw heb gael pob ffaith?
Dwi wedi holi Gŵgl
ond ni chefais ateb chwaith.
Casia Wiliam - 8. 5 pwynt
Cân (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y Buddsoddiad
Ro’dd Wil Bach Cnwc y Berfedd yn floneg ugain stôn,
Y bai ar lager Wrecsam a Big Macs ‘nôl y sôn.
“Rhaid iti ‘whilo menyw i gario’r ffarm ymla’n
Mae’n ben set” meddai mami - “rhaid inni wella’th ‘ra’n.”
“Caf air yng nghlust y ffarier pan af am dro i’r dre
A'r driniaeth dan y cownter sydd yn ei feddiant e.”
Ac o ddydd i ddydd yn ddyfal aeth yr ugain stôn yn llai,
Gloddestai Wil fel arfer ond nawr fe fwydai ddau.
‘Mhen deufis roedd yn barod i fynd i olwg gwlad,
Ei wallt e wedi oelo, daps newydd am ei dra’d.
Cyn hir fe fachodd wejen, a bydd babi’n ôl y si;
Heb Gastric Band nac Atkins - ond hen goel o’r oes a fu :
“Mae gwerth i bob llyngyren” ys d’wedodd Preis y Fet….
Mae’r fferm nawr yn ddiogel, ac mae mam am brynu het.
Bryan Stephens - 8.5 pwynt
Rhyw hen joban ddrud gythreulig
‘di creu babi diwylliedig.
Er mwyn magu cyw bach barddol
rhaid wrth offer arbenigol,
megis wet-wipes Williams-Parry
a llun Saunders ar bob poti
a brodio englyn ar ei fest o.
(Dwi’n siwr gwnaiff un o fois Parc Nest o.)
Dim Jac y Jwc na Sali Mali
mond awdlau Alan wrth y pwysi.
Awn a chwarae recordiadau
fewn i’r groth o hen Dalyrnau.
(Ac rhag i unrhyw un gamddeall
nid rhai Ceri, jyst rhai Gerallt.)
Fe hawlia Gadair Genedlaethol
pan fydd o dal mewn trowsus ysgol,
ac ennill mawl a bri a chlodydd,
a hynny cyn plant Guto Dafydd.
(A ninnau’n mynd i’r ratsiwn drwbwl
‘sa well ‘ddo fod yn brifardd dwbwl!)
Gruffudd Owen - 9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Yn y gwres mae rhywrai'n grin
Yn nhwr di-raen y werin.
Ffoaduriaid - 0.5 pwynt
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Brwydr
Fe'i holaf am yr awr wrth ei hymyl,
ei hôl yn annwyl o annelwig;
awr o glandro'r droriau
yn chwilio olion gorffennol;
sgwrsiwn am y byd a'i ddim o bwys
a throediwn yr un trywydd
trosodd a thro,
yn dyner o undonnog.
Yna daw ddoe trwy’r dyddiau hyn,
ei oriau yn gwawrio'n llachar
a’i lais yn gynnes o gyfarwydd,
daw i’n galw i droedio dŵr nant
a throi at lwybr mynydd;
awn ein dau yn gân a'n geiriau'n newydd,
mynnu oedi gwna’r munudau,
a gwelaf ôl camau ysgafn,
eu ffurf yn loyw,
yn mesur awr tu hwnt i amser.
Aled Evans - 9 pwynt
Fe ddaeth imi'n gyflawn heddiw
ar draeth o ludw du
a'r creigiau basalt fel peipiau organ
y daw'n awr gwneud nyth pan ddaw
ac nad 'di ots am drefn y dro
ar ôl cynefino â’i breuddwydio cyhyd;
gan mai natur pethau, pobl, fydd llithro
drwy’n dwylo fel gronynnau
ac y collir ninnau i rywrai’n ein tro
fel môr-wennol wen yng ngwynder y nen.
Byddai trio gohirio hyn
fel dyffryn yn trio cwffio rhewlif,
fel rhaeadr yn trio nadu'i hun rhag neidio,
neu fel craig yn gwrthod erydu i gnebrwng o fôr.
LlÅ·r Gwyn Lewis - 9.5 pwynt
Englyn: Llysenw
 dig rwyf yn tadogi - yn d'adael
â dadwrdd fy ngweiddi
ond defod fy nghymodi
yw d'alw wrth d'enw di.
Lowri Lloyd - 9 pwynt
Hen dyddyn; dim byd iddo ond enw
a dynnwyd oddi arno
mor hawdd, wir, na chymrodd o
un haf i ni'i anghofio.
LlÅ·r Gwyn Lewis - 9.5 pwynt
Enillwyr: Ffoaduriaid.