Main content

Rownd 1 - Tir Mawr v Manion o'r Mynydd

Trydargerdd

(sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Hysbyseb gan gwmni gwyliau

Dewch yma yn heidiau,
Dewch yma yn fflyd,
Dewch yma i wario
Ac ewch adra i gyd.

Nia Watkin Powell - Manion o'r Mynydd (8)

Mae gan gwmniau eraill, oes,
Rai da, yr ym yn deall,
Ond o’n rhai ni, fe ddowch yn ôl
Heb deimlo eich bod eisiau un arall

Huw Erith - Tir Mawr(8)


Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘gwrid’

Rhydu’n wrid a wna’r adwy,
Nid ydyw Mam yma mwy.

Tudur Puw - Manion o'r Mynydd (8.5)

Nid y gwrid sy’n codi gwres,
Yw hen , hen, wrid ein hanes.

Huw Erith - Tir Mawr (8)


Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi glywais ei bod hi’n orfodol’

Mi glywais ei bod hi’n orfodol
ymuno a'r dyrfa fyddarol
i floeddio yn awr
dros holl ddaear lawr
"Beirdd bach, nid Tir Mawr, sy'n fyddugol"

Edgar Parry - Manion o'r Mynydd (8.5)

Mi glywais ei bod hi’n orfodol
I wisgo’r dilladau pwrpasol
M’ond trons a chrys isa’
Oedd gan Wil Drws Nesa’
Pan gafodd o’r ddamwain angeuol.

Gareth Jones - Tir Mawr (8.5)


Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 9 a 15 llinell): Drama

Drama oesol y Dwyrain Canol

Y mae mur trwy Samaria
Gyda hiraeth Gadara
Yn hÅ·n na gaeaf na ha’.

Hen hiraeth sy’n goferu
Bob awr am y tir lle bu
Hil Dachau’n ymwladychu.

Rhyw hogiau â charegos
Sydd yno’n herio fin nos -
Eiddynt hwy oedd y teios,

Ond Dafydd, â bryd diafol,
Honna’i hawl i’w gyrru’n ôl,
Ei draha’n llond yr heol.

HÅ·n o hyd ar derfyn ha’
Ydyw hiraeth Gadara;
Mae Herod yn Samaria

Nia Watkin Powell - Manion o'r Mynydd (9.5)

Englynion milwr: Drama

(llawdriniaeth)

Sêt i aros. Di-hosan
wyf a mud, ond nerfau mân
yn llafar yng nghefn llwyfan.

Mae'n ei ôl. Cael manylyn
pwysau gwaed. "Pisa!" – ac wedyn
trol am y theatr ei hun.

Heibio nos o gleifion, gwlâu
yn waed a pheips dripiadau;
yna trwy'r du i Theatr Dau.

Goleuadau lond gwledydd;
masgiau, arfau a llaw gudd
i wneud mawn o d'ymennydd.

Cau'r llen, ac i'r presennol;
canu'n iach, ond daw'r cnoi'n ôl,
mi wn, drwy'r pwythau mewnol.

Myrddin ap Dafydd - Tir Mawr (9.5)


Pennill ymson wrth lwytho’r peiriant golchi llestri

Er nad oes rhaid i mi godi llaw
I gyrchu dŵr o ryw ffynnon draw,
Na disgwyl rhyw decell ara deg
I olchi llestri i deulu o ddeg;
Canfyddaf fy hun yn 'styried o hyd
Cael llestri papur a'u taflu i gyd.

Tudur Puw - Manion o'r Mynydd (8)

O’r holl beiriannau welais i
Heb os, tydi yw’r gwaetha’
Ar bob un plat mae stremps di ri
Ers ginio’r ‘dolig dwetha’

Gareth Jones - Tir Mawr (8)


Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Dychwelyd Anrheg

Dyw Ionawr byth yn fis bach braf tu mewn i grotto Santa
Oherwydd bod beirdd Cymru’n dal yn flin am eu presanta’

Tracwisg swêd, tsiaen aur a loced a rhyw hen ‘baseball cap’,
‘Dim dyna oedd fy rhestr i!’, ’sgrifennodd Myrddin ap.

‘Pi Es Ffôr’ oedd prif ddymuniad y tîm o Lannau Teifi,
Allwn ni ddim chwara Fifa’n erbyn Cŵps ar ‘Pi Es Thri’.

Mae Gwyneth Glyn yn gandryll am gael CD Elin Fflur,
Crys Caer dderbyniodd Lövgreen, mae o’n dal i wgu’n sur!

Tair buwch a phedwar mochyn, un chwadan a dau lo,
‘Mae gen i’r rhain yn barod!’ Esboniodd Arwyn Groe.

Roedd Twm Morys yn wyllt gacwn, mi neidiodd am y nen,
Wrth ddallt na chath o’m ’sgwarnog, dim ond rhyw gwn-ing-en

Ydi, mae Santa’n drysu, ond mae’r Manion yn fud ’nol y son,
Ac yn fodlon iawn efo’u tocyn i’r ffeinal yn Steddfod Môn.

Ioan Gwilym - Manion o'r Mynydd (8.5)

D’wn i ddim os ‘da chi’n cofio, ond fe brynais beiriant hwfrio
Un sy’n llnau y llawr ar ben ei hunan bach’?
Wel fe wagiais i fy waled i gael hwn i Nain ‘Fron Galed’
Gan obeithio byddai’n arbed lot o strach
Yr oedd Nain a’i cheg yn ‘gorad wrth i’r teclyn grwydro’r ciarpad
Ac fe es i i’r cefn am banad fach o de
Fel yr o’n i’n cymryd siwgwr clywais sgrechian mawr a dwndwr
Ac fe ruthais nôl i’r parlwr sdrêt awê
Y ‘Fortex Supersonig’ oedd yn sugno mor ddiawledig
Roedd ‘di llarpio’r goeden ‘dolig ger y bwrdd
Ac roedd Nain yn fanno’n udo tra’n cofleidio coes y biano
Wrth i’r hwfar geisio’i sugno hi i ffwrdd
Roedd ei slipas haf a’i blwmar ar eu ffordd i mewn i’r hwfar
Nid oedd gennyf obaith mul o drio’i dal
Ac aeth Nain a’i gweu i’w chanlyn efo gwich i mewn i’r teclyn
At y gath a llynia’ Taid a’r papur wal
Fe ddiffodais blwg yr hwfar ond roedd batris yn yr uffar
Aeth yr hwch am awr a hannar rownd y siop
Wedi nghlymu’n sownd i’r biano, gyda gordd fe’m sugnwyd ato
Ar ôl mymryn o berswadio daeth i sdop
Mae ei pharlwr wedi’w wagio, does ‘na fawr o ddim byd yno
Dim ond waliau noeth , y biano a’r lle tân
Ac mae Nain yn ‘Sbyty Gwynedd wedi’w stretshio bron i droedfedd
Heb ddim gwinedd…ond o leia’ mae hi’n lân
Yn y carrier bag’ma mae o, tydio’m cweit r’un fath ag oedd o
Ond mae’r darnau i gyd yno, mwy neu lai
Tybed felly ga i ofyn am fy mrhes yn ôl reit sydyn
Neu ei newid am un fymryn bach yn llai

Gareth Jones - Tir Mawr (9.5)

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Popty

Nadolig 1943 De’r Almaen

Y mae’r dathlu
Yn dirwyn I ben
A’r ffwrn yn oeri
Y bwrdd yn ysgafnach,
dim ond esgyrn ar ôl.
A’r teulu bach
Yn fodlon eu byd
Yn sisial
Stille Nacht.

Dros y bryn
oeri mae ffwrn arall
am heno.
Dim ond esgyrn ar ôl
A’r mwg a saim yn glynu
Wrth y weiran bigog
Yn nhawelwch y nos.

Cynan Jones - Manion o'r Mynydd (9)

Fo âi i hel y poethwal i'w storio'n y daflod:
brigau eithin, trwch ei arddwrn,
a rôi'r fath flas ar fywyd beunyddiol.

Hi adeiladai'r tân, o'i sail, fel codi tÅ·.

Fo gariai'r sachau o'r felin i'r gist;
hi wlychai'r burum a thylino.

Yntau'n clirio'r lludw oddi ar y llech;
hithau'n estyn y toesion at wrid y cerrig.

Fo at y bicwarch neu'r fwyell;
hi'n mesur amser fesul cnoc ar waelod torth,
a'r ddau gyda'i gilydd wrth y bwrdd
pan fyddai'r menyn yn toddi ar dafell.

Hen daid, hen nain ydyn nhw,
wrth imi blygu fy mhen i mewn i'r briws
y soniai'r teulu gymaint amdano.

Rhwd ar yr haearn, cerrig oer, gwich yn y drws
ond mae anadl bara'r ddau
rhwng y buarth a'r gegin o hyd.

*Ym Mhlas Isaf, Llangernyw, cartref Dei ac Elen Jones ers talwm

Myrddin ap Dafydd - Tir Mawr (9.5)


Englyn: Sach

Sach 2017

A gawn ni, o ganu’n iach – i flwyddyn
Y floedd am fyd rheitiach,
Weld llwyddo’n gobeithion bach
Neu dwyll o wawr dywyllach?

Nia Watkin Powell - Manion o'r Mynydd (9.5)

Mewn hen stabal, daw'r galon – i'w mynnu
yng ngwynt main y noson
a'i llenwi hi, nes bod hon
yn rhwygo gan anrhegion.

Myrddin ap Dafydd - Tir Mawr (9.5)

Llinell ar y Pryd

Yn y sels fe brynais i

Hwfyr - un wedi slofi

Manion o'r Mynydd (0.5)

Alanas eto leni

Yn y sels fe brynais i

Tir Mawr

Enillwyr - Tir Mawr