Rownd 2 Glannau Teifi v Tir Iarll
Rownd 2 Glannau Teifi v Tir Iarll
Trydargerdd : Nodyn o ymddiheuriad am fod yn hwyr
Er mynd heibio oed f’addewid
Cytunais i we-ddêt.
Gan ddweud yn Saesneg wrth y ferch
“It nefer is tw lêt.”
Elfed Evans - 8 pwynt
@GweinidogBrexit i @TheresaMay 18/04
‪Sori am golli'r cyfarfod,
‪Ro'n i'n dysgu am y gyfreth.
‪Beth drafododd y cabinet?
‪A golles i rwbeth?
Aneirin Karadog - 8 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'glei'
Do glei, mae wedi glawio'n
Ddi-siap fel tap heddi to!
Nia Llywelyn - 8 pwynt
'Glei' a 'wes' yw'n hanes ni –
Wylwn o glywed 'rili'.
Emyr Y Graig - 8.5 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Pe bawn i ryw ddydd yn ymddeol’
Pe bawn i ryw ddydd yn ymddeol
O’r Swyddfa, be fyddai fy ngwaddol?
Hen ddesg heb ei chlirio
Ond wedi’i haddurno
È‚ neges i’r Bos – “ Cer i’r diafol!”
Carol Byrne Jones - 8.5 pwynt
Pe bawn i ryw ddydd yn ymddeol
wedi cyfnod fel peilot gofodol,
mi faswn i wedyn,
i ddal dau pen llinyn,
yn chwilio am rywbeth mwy lleol.
Tudur Dylan - 8.5 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) – Protest
I’r aborijinî yn Awstralia
Distewi llef gyntefig,
Cyn dringo, brolio i’r brig –
Ai dyna gamp y dyn gwâr
A ddôi i ddofi’r ddaear?
Ar dalar y carcharor,
Ymhell y tu hwnt i’r môr,
A’r llawr yn lludw a llwch
Dan haul tanbaid anialwch,
Hen ŵr sy’n hawlio’u erwau,
Yn rhoi ei oll, a hi’n hwyrhau,
I chwyrnu canu pob cof
Ar utgorn sy’n byw’r atgof. *
*Didjiredoo
Terwyn Tomos - 9 pwynt
Mae'n hwyr ond mynnu herio
Y drefn yn ei flinder o
A wna fy mab, fy nghnaf mwyn
Diwyro er taw dirwyn
I ben, ar sgwâr gobennydd
Ym merw'r daith, y mae'r dydd.
Deiseb rhag i'r bore bach
Ei ormesu'n rymusach
Yw stŵr ymgyrchwr di-gwsg
Ar ei ymgyrch gwrth-drwmgwsg.
Gwn yn iawn y gwna' i heno
Eto'r hyn a wna' i bob tro...
Aneirin Karadog - 9.5 pwynt
Triban Beddargraff Consuriwr neu Gonsurwraig
Diflannu oedd ei forte
Neu lifio merch yn ddarne.
Fe gawn ni weld ar ddiwrnod gras
A ddaw e ma’s o’r fflame.
Mary Jones - 9 pwynt
Y gilotîn a'i sleis
Ddisgynnodd... nid peth neis;
Fe'i claddwyd isod mewn dwy arch
O barch yn hanner seis.
Fe ddaeth y sioe a'i thricie
I ben, diflannodd ynte;
I'r ochor draw yr aeth mewn blwch
A'i lwch terfynol... ife?
Emyr y Graig - 9 pwynt
Cân Ysgafn : Y Gymanfa
( Roedd ein heglwys yn cadw dwy Gymanfa a Phwnc sef Calan Hen a’r Sulgwyn.)
Ac yn y dyddiau hynny, yr Eglwys oedd yn llawn
O blant yn llafarganu eu Pwnc yn y prynhawn;
A nes ymlaen, yn hwyr y dydd, a’r golau bron diflannu
Fe gasglai’r corau o bob plwyf, yr Anthem Fawl i’w chanu.
Cyfrifoldeb y plant mwyaf oedd pwmpio’r fegin fawr
A chadw’r handlen bren i fynd, i fyny ac i lawr
Yn gyson, er mwyn i’r organ a’i phibau euraidd hir
Gynhyrchu nodau swynol a chanu mas yn bur.
Ond yn y flwyddyn honno, ein prif bwmpiwr grymus aeth
I dreulio’r Calan Hen gyda’i Anti yn Nhresaith
Roedd rhaid cael rhywun arall i weithio yn ei le.
Dewiswyd crwt o’r pentre’, un drwg - ond cryf ynte.
A minnau’n ddirprwy bwmpiwr, fy ngwaith oedd cadw trefn
Ar grwt we’n llawer fwy na fi, ac i fod iddo’n gefn.
Pan ddaeth y dydd, fe ddwedes, “Cofia, rhaid i ti bwmpio’n SLO..”
Ond ofer fu fy nghyngor a’m ple “Gad i fi gael go!”
Fe chwyddwyd yr hen fegin mor llawn o wynt nes, BANG,
Ffrwydrodd ! Ac ar ôl pesychiad poenus, poerwyd i bob man
Llwch oesoedd drwy’r pibellau dros bawb oedd yn y côr.
Gorffennodd ein Cymanfa yn sŵn tagu “ Mawl i’r Iôr”.
Carol Byrne Jones - 8.5 pwynt
Chi’r sopranos, cenwch chithau’r pennill cynta ar ei hyd,
wedyn tenor, bas ac alto cenwch chi yr ail i gyd.
Os oes Gogs ’di taro heibio, cenwch chwithau neno’r tad,
‘dyn dieithr ydwyf yma draw mae ngenedigol wlad.’
Pob yr un sy’n berchen satnav, dyma’ch llinell, hyn sy’n ffaith,
‘cyfarwydda wael bererin anghyfarwydd ar y daith.’
Dyma lein yr ailadroddus, cenwch hon yn gryf a llawn,
‘Iachawdwriaeth, iachawdwriaeth, iachawdwriaaeth werthfawr iawn.’
Os oes rhai yn rhwym ers dyddiau, cedwch chwithau fflam y ffydd,
daw gollyngdod mawr pan genwch ‘caethion fyrdd yn dod yn rhydd.’
Os oes arbenigwyr tywydd, yna dyma beth a gawn,
‘Cawod hyfryd yn y bore, ac un arall y prynhawn.’
Os oes rhai ’di bwyta gormod ac yn stwffio rhwng pob pryd,
hon yw’ch llinell, ‘dyma gryfder sydd yn dal y pwysau i gyd.’
Os oes rhai o lannau Teifi, neu yn Gardis fwy neu lai
‘Dwed i mi a wyt yn maddau gwympo ganwaith i’r un bai.’
Cenwch chwithau’r rhai dros ninety, boed yn fenyw neu yn ddyn:
‘mae nghyfeillion adre’n myned o fy mlaen o un i un.’
Mae’r gymanfa fod i gychwyn heno’n brydlon iawn am saith
‘dechrau yma ar y ddaear, para i dragwyddoldeb maith.’
Tudur Dylan - 9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Da yw gweld yn Hendy Gwyn
Adeilad, a Duw'n dilyn.
Glannau Teifi - 0.5 pwynt
Telyneg :Moddion
Fuoch chi erioed mewn trallod
Yn eich cornel tywyll, du;
Heb un dabled na chwystrelliad
Fyddai’n lleddfu’ch poenau lu?
Pan fo’r casyn wedi sigo
A’r hen feddwl bach ar chwâl;
Pan fo’r galon ar fin rhwygo
A dim balm i’r enaid sâl.
Ewch da chi am dro drwy’r ddrycin;
Hafan bur yw’r Ynys Las.
Yno ’mysg y gwynt a’r tonnau
Fe gewch ddiosg clwyfau cas.
Nerys Llywelyn - 9 pwynt
Mae hi’n hongian fel gwên ar gam
uwch y tân, ei chân ar goll dan wydr gwell
ac odli pell y cloc.
Hi yw hon – cyn i glwyfau wisgo’i chorff
a’i chrogi’n ffrâm – yn llawn yfory,
yn llygaid glân.
Hi yw hon, yn syllu fel sbectol
ar ei stafell olaf. Gwydr o win ar y bwrdd.
Tegannau’n friwsion.
Ac mae e’n edrych arni, weithiau, wrth dwtio’r dydd
i gornel arall dan olau modrwy’r nef.
Deall yn glir, wedyn,
nad moddion yw amser, ond medd.
Gwynfor Dafydd -9 pwynt
Englyn: Pont
Agor Ysgol Gymraeg Hafan y Môr, Dinbych y Pysgod
Fe rown ein hen gyfrinach – i uno
Dau hanner heb grintach;
Nid yw’r ffin rhwng dwy linach
O unrhyw bwys i’r rhai bach.
Terwyn Tomos - 9.5 pwynt
Er dyfned, er lleted yw lli’r afon,
rywfodd, 'run yw’r stori,
ers hen oes fe’i croeswn hi
drwy estyn ein gwên drosti.
Tudur Dylan - 9 pwynt
Enillwyr - Tir Iarll