Main content

Cerddi Rownd 1 2024

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Pôl Piniwn

Y Diwc (JL)

Gofynwyd i feirdd ledled Cymru
pa Feuryn yw’r gorau am farnu:
ai Tudur Dylan
ynteu Twm Trefan,
neu’r bachan sydd wastad yn gwenu?

John Lloyd 8

Aberhafren (LlPR)

Os darogan newydd drwg,
mae’n ddi-sylwedd – pwff o fwg!
Os mai da a ddywed ef
does na’m sicrach dan y nef.

Mari George yn darllen gwaith Llion Pryderi Roberts 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘bwlch’

Y Diwc (DRh)

Y coffa sydd yn cyffwrdd
Yw y bwlch sydd rownd y bwrdd.

Martin Huws yn darllen gwaith Dewi Rhisiart 8.5

Aberhafren

I’r tlawd, rhy hurt o lydan
ydyw’r bwlch ym mhedwar ban.

Aron Pritchard 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ynghanol ail bennill ‘Cwm Rhondda’

Y Diwc (MH)
Ynghanol ail bennill ‘Cwm Rhondda’
Fe gwympws y llwyfan yn ddarna.
Y twrw fel bollt,
Roedd yffarn o hollt.
Fe gollws y cΘr rai aelota.

Martin Huws 8.5

Aberhafren

Ynghanol ail bennill “Cwm Rhondda”,
rôl pwl mawr o disian, ces Hernia;
i enaid gael llonydd
paid loetran rhwng myrtwydd
os wyt ti’n allergic i’r bloda’.

Sion Tomos Owen yn darllen gwaith Llion Pryderi Roberts 8

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Pwll

Y Diwc (DRh)

Bu arwyr yma’n barod
A’u rhaw’n y baw er mwyn bod.
Llenwi caets yn llawn o’u câr
I dduwch oer tanddaear.
Dal llaw wrth anadlu llwch,
Y gorau o frawdgarwch;
A’u breuder fel aderyn,
Dilyn y dewr, dal yn dynn.
Yna ddoe y diwedd ddaeth
A dwgyd eu cymdogaeth.
Sgerbwd o rwd sydd ar ôl
Yn fynwent i’r terfynol.

Martin Huws yn darllen gwaith Dewi Rhisiart 9

Aberhafren (AP)

Er mai anodd oedd cloddio
pan oedd dyddiau’n gleisiau glo,
dan y dwst roedd dynion dur
a rhwydwaith o gymrodyr
hyd y cwm, roedd siafftiau caeth,
di-olau’n llawn brawdoliaeth;

a heddiw, bydd angladdau’n
llenwi’r gwynt, y llain ar gau,
y lle hwn sy’n atgof llwch
ac erwau cyfeillgarwch
yn haenen denau, unig,
yn boer o waed, yn lo brig.

Aron Pritchard 9.5

5 Pennill ymson actor neu actores

Y Diwc (JL)
Gwnes gais i actio ym Mhobol y Cwm
fy nyled i’r heniaith yn pwyso’n drwm.
Ar ôl clyweliad ces yr ateb “Na”,
gan nad oedd fy Saesneg yn ddigon da.

John Lloyd 9

Aberhafren (LlPR)

Ces fy ngeni i chwarae’r rhan,
rwy’n saff o ennill Oscar;
y mae actio’n gynnil iawn
yn mynnu sgil meistrolgar;
naw wfft i blebs y ‘starring role’,
mae’n rhaid i geffyl gael pen ôl.

Sion Tomos Owen yn darllen gwaith Llion Pryderi Roberts 8.5

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Newid Swydd

Y Diwc (DRh)

Fe ges i hen ddigon ar ffermio,
Dim ond plannu coed a chreu clawdd,
Felly es’ i hyfforddi fel athro;
Roedd yn swnio yn jobyn reit hawdd.

Rhaid oedd casglu y plant ar ôl chware’
A dangos i ‘nhw pwy o’dd bos,
Roedd hi’n eitha’ hawdd gyda chwiban
A Petra a Gelert a Fflos.

Fe ddaeth hi yn amser cael cinio
A chiw anferth, hir ddou wrth ddou;
Felly des i â’r bwyd mas mewn bwced
A fennon ni’r cwbwl reit glou.

Fe ddaeth hi yn haf reit-i-wala
A’u gwallte nhw’n chwys wrth gael sbort;
Felly es i amboiti i’w helpu
A’u cneifio nhw’u gyd eitha’ siort.

Ond a’th hi’n drâd moch wythnos d’wetha’,
Rhaid chwilio job arall reit chwim;
‘Rôl gwrando ar y pennaeth yn siarad
Es i sbaddu’r boi ESTYN, am ddim !

Martin Huws yn darllen gwaith Dewi Rhisiart 8.5

Aberhafren (STO)

Pan o'n i'n fach odd hi'n dipyn o strach
i ffeindio swydd i fachgen deg mlwydd oed,
roedd llnau simne'n no-go a doedd dim plant mewn pwll glo,
felly gymres i siawns i roi tro ar fod yn...

Entrepreneur, entrepreneur, yn Ffrangeg "Ei dynt kneu", yn Gymraeg entrepreneur.

Rhoies i boster yn nghaffi Eidalaidd y Brachi
yn mynnu mod i'n gallu mynd i'r Londis am 50p.
Un cwsmer ges i, Mrs Delacey
a chware teg iddi, talodd hi'r minimun wage i'r...

Entrepreneur, entrepreneur, yn Ffrangeg "Ei dynt kneu", yn Gymraeg entrepreneur.

Tra bod fy ffrindiau'n gwylio Neighbours, o'n i'n mynychu fy Child Labour
yn swapio Havoc Jeivin Jenkins i agor cyfrif Midland Savings,
Odd fy Nghadw-Mi-Gei'n llawn, ond daeth i ben un prynhawn,
Nes i daro bach o snag yn cal fy nal yn prynu ffags...

Er o'n i'n entrepreneur, entrepreneur, rhaid rhoi y Molbrow's ’nôl, na siom yr entrepreneur.

Y Siambr Fasnach sy ’di rhoi stop ar fusnes bach Siôn y Siop,
am geisio breibio'r cops 'da carrier bag o alcopops,
Rhoies i'r ffidil yn y to a newid swyddi am y tro,
Ond sgan Alan Sugar bugger all i’r boi bach deg mlwydd oedd sy'n entrepreneur.

Er o'n i'n entrepreneur, entrepreneur, rhaid rhoi'r ffidil yn nho Siôn yr entrepreneur

Sion Tomos Owen 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd – Pa le gwell na’r llyfrgell hon

Y Diwc

Pa le gwell na’r llyfrgell hon
I gael cerddi o’r galon

John Lloyd

Aberhafren

Ceri rho farc i Aron
Pa le gwell na’r llyfrgell hon

Aron Pritchard 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): TΕ· Newydd

Y Diwc (MH)
(Gwesty yng Ngogledd Caerdydd)

Fe ddown ynghyd
i geisio claddu brechdanau trionglog
wedi eu pentyrru
ar liain ford mor wyn â’r galchen.

Dim ond fi sy’n sylwi
ar staen
fel smotyn du ar gledr llaw.

Tu Θl llais llyfn o lawnt
gorwedd y ddinas ar ei hyd
heb amddiffyn rhag yr haul.

Fe gaf gyfle i holi hwn a’r llall
a chlywed cysur fel tΕ· gwag:
‘Ro’dd yn fendith yn y diwedd.’
O rywle
daw hwrdd o wynt a glaw
i siglo’r ffenest
a rhewi ein sgyrsio sobor.

Martin Huws 9

Aberhafren (MG)

Yr un gegin, yr un waliau,
yr un olion bysedd yn drwchus o ddu
ar yr un bwrdd formica
na all hi byth eu sychu,
yr un ofnau’n sgrialu o’r corneli
ond neb yma i’w helpu i’w dal.

Mae’n bywhau o weld ei ffrind
yn lliw i gyd drwy wydr y drws,
yna carden yn glanio’n gwrtais
a thraed yn ochneidio’n dawel nôl ar hyd y dreif.

“Os oes unrhyw beth y galla i wneud...”
medd y garden yn gymen.

Pe bai hi ond wedi dod yma,
tynnu’i chot yn gynnes o ewn,
llenwi’r un gegin a’r tebot,
a’i helpu i sychu’r bwrdd formica
gyda’i geiriau,
unrhyw hen eiriau...

Mari George 9.5

9 Englyn: Ynys

Y Diwc (GW)

Ar hwyrnos wedi’r hirnych, – yn fy ing
Wrth f’angor, caf edrych
A dwyn i go’i doniau gwych;
Af yno ati’n fynych.

Gwilym Williams 9

Aberhafren (AP)

Sinéad O'Connor

Wrth glywed ei baledi o’r tir hwn,
rhai trist oedd y rheini’n
rheolaidd, fel dΕµr heli’n
cau mewn cylch o’i hamgylch hi.

Aron Pritchard 9.5