Rowndiau'r Chwarteri
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Llyfr y Flwyddyn
Beirdd Myrddin
Fy llyfr y flwyddyn eleni
yw’r un a ges yn ail-law
ar sut i beidio â glwchu
wrth sefyll heb got yn y glaw.
Aled Evans 8.5
Y Glêr (ORhJ)
’Dyw Pigion y Talwrn eleni
Ddim ar restr fer y cyhoeddi.
‘Pa ryfedd,’ medd rhywun,
‘Os cerddi Beirdd Myrddin
Yw dau ben y llinyn s’gen Ceri?’
Eurig Salisbury yn darllen gwaith Osian Rhys Jones 8
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw ddinas Ewropeaidd
Beirdd Myrddin
Un oedd e’n barod â’i ddwrn,
Toulon ni fe i’r talwrn.
Eleri Powell 8.5
Y Glêr (HG)
Pan dawo’r bomiau gorwag,
lleisir hyn yn llys yr Hâg.
Hywel Griffiths 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘daeth seiniau aflafar o rywle’
Beirdd Myrddin
Pan fwytais i ddwsin o wye
daeth seiniau aflafar o rywle,
trwy dridie o bo’n
fe gollais ddwy stôn
a llond llyfr ffôn o fy ffrindie.
Aled Evans 8.5
Y Glêr (ML) Ar ôl clywed am ddirwyo gΕµr o Fetws Ifan am gadw ceiliog swnllyd
O rywle, daeth seiniau aflafar
Fel taran un bore’n rhy gynnar …
Mae’r neges yn glir
Gan weision y sir:
Does dim hawl gan geiliog i glochdar.
Eurig Salisbury yn darllen gwaith Megan Lewis 8
4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Un bore unwaith, bu rhywrai yno’
Beirdd Myrddin
Wrth weld enw fy modryb ar ddeiseb heddwch 1923;
collodd ei brawd yn y Rhyfel Mawr, sef fy ewythr.
Un bore unwaith, bu rhywrai yno
â’u darn o bapur wrth ddrws yn curo,
a hwy ar drothwy lle bu’r dadrithio
un sy’n cyrraedd drwy’r waedd i’w arwyddo;
mor gadarn yw’r inc arno, – a’i deigryn,
o ymroi ei hun i’r Gymru honno.
Lowri Lloyd yn darllen gwaith Geraint Roberts 9
Y Glêr (HG)
Un bore, unwaith, bu rhywrai yno –
y rhod yn troi, a dau frawd yn trio
eu gorau glas ar eu beiciau rasio,
yn herian-goethan, a Dad yn gwthio.
Ond drwy’r glaw, drwy’r goleuo – eiriaswyn,
y bore wedyn, ddaeth neb i reidio.
Hywel Griffiths 9
5 Epigram Dychanol (rhwng 4 ac 8 llinell)
Beirdd Myrddin
Rhyw lygredd annymunol
sydd bellach yn y bae
a dau gan mil o bunnoedd
sy’n methu ei lanhau.
Eleri Powell yn darllen gwaith Aled Evans 8.5
Y Glêr (HG)
Mewn swyddi cyhoeddus,
fel ’stalwm mewn pwll,
po fwyaf yw’r crafu
y dyfnaf yw’r twll.
Hywel Griffiths 8.5
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Ymweliad ag Amgueddfa
Beirdd Myrddin
Mae Amgueddfa Velcro ‘di agor ym Mhenco’d;
ugain punt mynediad - mae’n rip off siΕµr o fod.
Mae Amgueddfa Werin yn rhywle ger y Fro,
un digon tila hefyd, Sain Ffagan mynd ‘na ‘to.
Mae Amgueddfa’r Cardi yn dal papure prin,
gan gynnwys ‘runig ‘fiver’ a wariwyd ym Mhrengwyn.
Mae Amgueddfa Hwfyrs ym mhentre Troed yr Hwch
yn llawn o hen beirianne, pob un yn casglu llwch.
Mae Amgueddfa’r Rheilffyrdd yn ochre Penrhyn GΕµyr
yn agor naw y bore, ond gallai fod yn hwyr.
Tu fas i Morfa Nefyn mae Amgueddfa Secs,
llawn artiffacts erotig fel mwstas blewog Tecs.
Mae Amgueddfa Prifeirdd yn ardal Penarlag
a’r lle i gadair Eurig sy’n dal i fod yn wag.
Mae Amgueddfa’r Chwyldro yn mynnu’i le’n y Bae
a’i ddrysau’n estyn croeso pan fydd y pybs ‘di cau.
Mae Amgueddfa Cracyrs ‘di agor yn y Cei;
nid rhai at fwrdd Nadolig, Ryvita y’n nhw glei.
Ac Amgueddfa Gagiau sydd bellach yn Nhre’r Ddôl
ac wedi’r Talwrn heno, fe af â’r jôcs ma’ nôl.
Aled Evans 9.5
Y Glêr (ES)
Bob bore’n wir pan ddeffraf, diolchaf i Dduw’r ne’
Fod gennym ni yng Nghymru lywodraeth gadarn, gre’
Sy’n gwneud penderfyniadau pur anodd ar ein rhan,
Cawn wastad gyfle i ymelwa’n braf ohonynt – man a man.
A dyna pam yr es i pwy ddydd i hurio fen
A’i gyrru am y cynta’ i’r Amgueddfa Gen,
Lle ro’n nhw wrthi’n cynnal Closing Down Sale ddi-drefn,
Gobeithiwn fachu ‘Cusan’ Rodin i’r gegin gefn.
Ond rhywun arall gas e, ac es i mewn yn lle
I weld a gawn, i’r toiled bach, ryw ddau neu dri Monet.
Dim lwc, na chwaith y gobaith o lenwi’r bwlch uwchben
Y gwely’n y llofft ganol ’da La Parisienne.
Heb ddanto, es i chwilio am anrheg fach i’r crwt,
Ces syniad y gwnawn lithren o’r mamoth mawr a’i gwt,
Ond pan gyrhaeddais, wele, doedd ond y mamoth bach
Ar ôl, a boi o rywle’n ei stwffo i mewn i sach.
A’r arddangosfa’n dipiau, a’r waliau i gyd yn wyn,
Es oddi yno’n waglaw, wel, bron, nes taro’n syn
Ar lun ar lawr y cyntedd, un Thomas Jones, ‘Y Bardd’.
Mae’n handi i sychu welis pan ddown i mewn o’r ardd.
Eurig Salisbury 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Heol Awst i mi yw’r lôn
Beirdd Myrddin
Heol Awst i mi yw’r lôn
Yn ifanc fy atgofion
Eleri Powell 0.5
Y Glêr
Pan wy’n crwydro f’atgofion
Heol Awst i mi yw’r lôn
Hywel Griffiths 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cuddio
Beirdd Myrddin
Rwyt ti’n dal dy wynt,
yn cyfri i ddeg; a heb ’r un smic
mae corneli dy lygaid
yn gwingo … yn rhoi’r cyfle
i fi ddiengyd.
Rwyt ti’n fy nghanfod i’n syth
ond yn dangos dim;
dim ond cogio chwilio
a rhoi’r cyfle i fi ddysgu
cyfyngder amser a gofod.
Ond erbyn hyn,
â’r düwch deg eiliad
amdanat yn glogyn tynn,
er bod dy lygaid ynghyn
fy nhro i yw twrio
trwy’r cilfachau,
jyst rhag ofn, rywle,
… mod i’n dal yno.
Lowri Lloyd 9.5
Y Glêr (ORhJ)
Un ha’ diddiwedd
a gwres ein rhagrith
yn rhithio o’n blaenau.
Y gwir yw gweld
geiriau mor bell â’r gorwel.
Gwelwn ninnau o gopaon
ein bocsiau sebon saff,
dros linell y môr,
o dan y mwg,
tua drych o dir.
Dewiniaeth dynion
yw gwadu plygiant y golau,
a thafodau’r tân
sy’n crino’r byd o’n cwmpas.
Eurig Salisbury yn darllen gwaith Osian Rhys Jones 9.5
9 Englyn: Lawnt
Beirdd Myrddin
Ai'r blas am borfeydd brasach, ai'r chwynnu
a'r chwennych amgenach
drodd freuder ein border bach
yn llain all rwygo llinach?
Lowri Lloyd 9
Y Glêr (HG)
Er ei hadu’n ddibryder, a manwl
gymhennu pob border,
cofio mae pridd pob cyfer
am wreiddiau ei blodau blêr.
Hywel Griffiths 9.5