Main content

Cerddi Rownd 1 2024

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Torri Adduned

Glannau Teifi

Addawaf golli pwysau,
Troi’n ‘sych’ a byw yn iach
Ond gwn, ym mêr fy esgyrn,
Nad yw ond breuddwyd gwrach.

Nia Llewelyn 8.5

Tafarn y Vale (DLlLl)

Beth yw Adduned?
Chwiw yw.
I’w throi ar ei phen. Amen.
Ymlaen â byw.
Ffiw.

Dwynwen Lloyd Llywelyn 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw fath o fwyd melys

Glannau Teifi
Does dim gwell un yn unman
Na phwdin reis neis fy Nan.

Nerys Llewelyn Davies 8.5

Tafarn y Vale (IT)

Ar fefus dy wefusau
Erys blas rhyw hen ias iau.

Iwan Thomas 8.5

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae ffurflen y dreth yn cofnodi’

Glannau Teifi
Mae ffurflen y dreth yn cofnodi
Mai statws ‘non-dom’ sydd gan Ceri.
‘Off – shore’ ‘nôl yr hanes:
Afallon a Gwales,
A busnes gwerth miloedd ar Enlli.

Elfed Evans 8.5

Tafarn y Vale (IT)

Mae ffurflen y dreth yn cofnodi
Holl incwm y Meuryn am ‘leni;
Heblaw rhoddion (mewn cash),
Gan ryw feirdd bach slap-dash -
Mae rheini mewn stash dan y gwely!

Iwan Thomas 8.5

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Tafarn Gymunedol

Glannau Teifi
Dyffryn Arms Cwm Gwaun (Er cof am Bessie)

O spin y Weddyrspwniaid
a’u teip, â’u heip dewch yn haid
nôl i’r Fro, i groeso, gwres
a heniaith aelwyd gynnes,
mewn tafarn fach heb swache;
am oriau llon, dyma’r lle.

Mewn fflasg, yn syth o’r gasgen,
drwy’r hatsh, glatsh daw’r cwrw’n glên
i’r peintiau ger y pentan.
Yn ûn côr cewch fwynhau cân
cymdogaeth sy’n ffraeth a ffri,
a Bass yn nhafarn Bessie.

Nia Llewelyn 9.5

Tafarn y Vale (IJ)

Fe gaewyd y Vale ddiwedd haf 2021 cyn iddi ail-agor ym mis Mai 2022 yn dilyn ymdrech arwrol gan y Gymuned i’w phrynu fel Tafarn Gymunedol.

O dalu’r gwydred olaf
yn ein hwyl ar derfyn haf,
un arwyl oedd ei stori,
ni ddaw’r wawr i’w deffro hi.
Y bar hwn yn un heb wres,
a ninnau’n rhan o’r hanes.

Y mae i’n tafarn mwyach
ei thân hi dan chwerthin iach,
a chlywn iaith ein cymdeithas,
hon yw’r iaith sy’n peri ias.
Yn effro y mae’r Dyffryn
a’n bro sydd eto yn un.

Ianto Jones 9

5 Pennill ymson wrth fynd ar goll

Glannau Teifi
Roedd angen bwrdd a soffa,
Dau wely a chynfasa’,
Ond nid oes sat-naf, er fy mrys,
I’m tywys drwy IKEA.

Elfed Evans 8.5

Tafarn y Vale (DLl)

Reit de blantos, pawb yn dawel, Ma’ Dad yn canolbwyntio....
Ar goll? Wel, nady’n cariad bach, Y sat-naf sy’n ail-wampio...

Mae’n meddwl ein bod ni mewn cae, Na...mae’n dweud ein bod mewn dΕµr,
“Chi-wedi-cyrraedd-trowch-rownd-bêr-lefft” Ar goll? Wel nady’n, siΕµr!

Dad sy’n lico lyci-dip, rhyw anturiaethau hap,
Ond gwnaiff Mam yn siΕµr y tro nesa Bo ni’n cofio dod â map!

Dwynwen Lloyd Llywelyn 8.5

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Y Tîm Newydd

Glannau Teifi

Am fod c’nesu byd eang yma ac arbedion i’w gwneud nôl y si,
Y bi bi ec greodd siwpyr tîm, i drio’n curo ni.
Fydd dim angen mynychu ‘run festri na neuadd yng nghrombil y wlad,
Dim angen gwneud paned na chwcio wrth i ni fynd i’r gad.

Atgyfodir y beirdd o'r gorffennol a chodi eu lleisiau o'r gro;
A.I. gaiff ddewis y meirwon- y gorau, a dim un so-so.
Bydd pob un wedi ennill rhywbeth, un gadair neu goron neu glod,
Pob un yn enwog er honiad Gruff Antur nad ydynt yn bod!
I ddenu miloedd o ‘views’, fydd enw ei hun ddim yn ddigon;
Byddai angen ‘backstory’ neu sgandal i bawb fod yn gwbl fodlon.

Cawn Dafydd ap Gwilym i’r drydargerdd, i ddenu holl ferched y de,
Wil ‘Holly’s Ditch’ ar gwpledi, cawn filoedd yn siΕµr ganddo fe!
Y limrig o’r rhithwir Fryn Cynan, a honno gan y landlord ei hun,
A’r cywydd o ben Pont Menai gan awdur y ddau lew di-lun.
Alexa fydd yn ateb y llinell, a’r delyneg gan Eben Fardd;
Fe ddaw hiwmor o heddwch Cwm Prysor dan leuad borffor hardd.
Yn lle bod yn fysogynistaidd rhaid fydd cael merch ar yr antur-
Ann Griffiths i lunio’r englyn, er yn gwbl groes i’w natur.

Fydd na’r un Meuryn ond robot A.I. er mwyn i bawb gael r’un ‘chance’
A ‘falle, fel hyn gall y gyfres ddenu llawer iawn mwy o ffans

Gwion Pryderi 8.5

Tafarn y Vale (IT)

Ar ôl cael crasfa eto, yn ornest darts nos Lun,
Daeth hi’n bryd i’r tîm ymddeol, a hwythau’n mynd yn hΕ·n.
Roedd angen camp lai heriol, 'da chadair at y straen –
Penderfynwyd mai barddoni fydde’n siwtio’r criw yn fine.
Mewn pleidlais frysiog wedyn, roedd pawb o’r tîm o blaid
Ethol Wil yn gapten - roedd barddoni yn ei waed;
Roedd gan i fam odliadur, hen gopi eithaf prin,
A bu’i wraig gyntaf, Sandra’n torri gwallt r’hen Ceri Wyn.

Jyst sgwennu rhyw benillion ac ambell limrig dwl –
Fe fydde taro deuddeg siΕµr yn haws na bwrw’r bwl!
Yn lle methu gorffen gêm â dwbwl glân o’r oci
Trodd Wil a Dil a Dai a’r criw at y grefft o gynganeddu!
Bob nos Lun lawr yn y pyb, ceir yno sgwrs o sylwedd,
A phawb yng nghwmni’r llyfr mawr ‘Anghenion y Gynghanedd‘;
Ac er mai bach yn dodji oedd eu gafael ar grefft gaeth,
Aethpwyd, gydag Alan Llwyd, i gynganeddu’n ffraeth!

Ymhen hir a hwyrach daeth ffôn o’r BbeC,
Oedd yn despret am waed newydd (ac yn cynnig talu siec);
Ond yn ei Dalwrn cyntaf, y tîm gaeth wers go llym -
A’i broblem? Sgori’n isel a methu gorffen

Iwan Thomas 9

7 Ateb llinell ar y pryd – Ionawr sych yn awr yw’r si

Glannau Teifi

Gwag yw’r gornel boteli
Ionawr sych yn awr yw’r si

Terwyn Tomos

Tafarn y Vale

Ionawr sych yn awr yw’r si
Heb Bass yn nhafarn Bessie

Ianto Jones 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Iet

Glannau Teifi
(i gofio Carol)

“Dere!” meddai hi, gan ddilyn y llwybr a ’nhywys
ar draws y llethrau, i’r brig.

Trodd, a syllu
ar glytwaith glannau Teifi islaw.
Ar lan yr afon, codai mwg o garafán
i ddawnsio’n ysgafn uwch y comin,
cyn teithio dros orwelion
fel breuddwyd plentyn.

O’i blaen, fel panorama ffilm
gwelai’r ifainc yn dringo tuag ati,
yn cario’u camerâu, ffolderi a’u llyfrau.

“ Fe ddown ni eto fory,” meddai,
a’i llais a’i geiriau’n llifo’n gân,
“Mae mwy o lwybrau, llwybrau newydd.”

Ond drannoeth,
yng nglaw mân hydref hwyr,
tawel oedd y llwybrau
a’r bwlch i’r llethrau wedi’i gloi.

Terwyn Tomos 9.5

Tafarn y Vale (DLl)

Cau’r iet, fy heulwen naw-mlwydd,
Eisteddwn, ti a fi,
O dan y goeden dderwen
Ar bwys y talcen tΕ·,
Fe wyliwn ac fe gyfrwn
Holl geir y dydd ar daith,
A chreu rhyw straeon smala
Am yrwyr chwim a’u gwaith.
Pob llwybr sydd yn antur,
Pob cyffordd a phob tro,
A chwedl ymhob milltir
A chwerthin ymhob co’.
Ond cyn hir, bydd deunaw haf
Wedi dirwyn,
fy heulwen, fy ffrind,
A galw fyddi dithau:
“Cau’r iet, Mam, mae’n bryd fi fynd”.

Dwynwen Lloyd Llywelyn 9

9 Englyn: Gwobr

Glannau Teifi
( I Narges Mohammadi)

Rhai di-hualau yw’r dwylo, heb risg
a heb rwystr i’w clapio
mor fyddarol, sy’n brolio’r
fenyw mas o glyw, dan glo.

Ann Watts 9

Tafarn y Vale (IJ)

Fe enwyd Rob Burrow ar Restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn sgil codi swm sylweddol i Motor
Neurone Disease.

I Leeds fe roddai hyn o wledd – a’i rhoi
mor rhwydd hyd y diwedd;
onid siom y daw o’i sedd
o’i gario - nes daw’r gorwedd.

Ianto Jones 8.5