Cerddi Rownd 1 2024
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Cywiro Camargraff
Derwyddon
Rhwydd yw trechu’r Derwyddon - fel chwarae,
‘nôl y swae a’r suon.
Ond hei! Down o’r ornest hon
i herio timau’r mawrion!
Meirion Jones 8
Gwenoliaid (HC)
Hunodd yn sedd Besi, annwyl briod yr lesu
[llais] - Na, go chwith!
tad tyner Bowel a Huddug
[llais] - Na, Hywel a Buddug!
tad-cu hoffus Gelyn a Crug
[llais] - Na, Celyn a Grug!
aeth at ei Dduwch, heddwch i'w flwch
[Ilais] -Amen!
Huw Chiswell a Hannah Roberts 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘dished’ neu ‘paned’
Derwyddon
Cawn orffwys rhag bob pwyse
Wrth yfed dished o de.
Siw Jones 9
Gwenoliaid (HC)
0 na bawn i yn baned
ar ei min ar lannau'r Med.
Huw Chiswell 9
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Hen le bendigedig yw Cana’
Derwyddon
Hen le bendigedig yw Cana,
es yno pwy ddydd i feuryna.
roedd y tebot yn llawn
o win drwy’r prynhawn,
a’r beirdd yn cael deg! Haleliwia!
Tudur Hallam 8.5
Gwenoliaid (HC)
Hen le bendigedig yw Cana,
ma gwyrthie yn digwydd yn fanna;
ma son bod rhyw wr
yn troi'r gwin mewn i ddwr
yn stwr Fox and Hounds Galilea.
Huw Chiswell 8.5
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Partneriaeth
Derwyddon
Bugail a’i gi
O’u hendref, i hel defaid,
daw bodd o ddringo di-baid
i’r ddau sydd mor ddiwahân
a hyddysg eu hymddiddan.
Wrth chwilio gwerth uchelion
â’u ffydd ym machyn y ffon,
ar y drum mae’r ystumiau
i uno praidd yno’n parhau.
Mewn wei a chymbei maent bâr,
a’r llaw hefyd yw’r llafar,
a thrwy ddawns gwib a chwiban,
wele’u hiaith mewn cysur gwlân.
Meirion Jones 9
Gwenoliaid (JMT)
I ddiolch i wyliau cerddoriaeth werin Showcase Scotland a Celtic Connections yn Glasgow am dair blynedd o bartneriaeth a Chymru.
Hirion yw nosau lonawr,
a di-loer; gwer oer yw'r wawr.
O'r helbul, awn i'r Alban,
awn i'r wyl i fod yn rhan
o ddathliad hael yr Aeleg;
cynnau tan a'r canu teg.
A'i halaw hardd, mae'r wyl hon
yn aelwyd dwym ei chalon.
Yma a'i hwyl mae'n mwyhau
y tan sydd yn ein tannau:
tan cynnes ei anwes o,
a'i losg fel wisgi Glasgow.
Judith Musker Turner 9.5
5 Pennill ymson wrth baratoi swper
Derwyddon
Agor fy llyfr ryseitiau
i’w hoff dudalen e …
‘co ni, o dan y staeniau,
mae rhif y tecawê!
Jo Heyde 9
Gwenoliaid (HuwR)
Mae’n nhw’n dweud i mi bod wystrys
Yn ei ffordd, yn ddigon blasus,
er, i mi, mae fel hen letys
sydd, gyda llaw, yn fy marn i yn waeth na betys!
Duck a l’orange, nid yw yn dda,
Na foie gras chwaith, na chafiar:
Fel cnawd hen wr fu farw o’r pla
Ac a roddwyd i orwedd ar domen, gydol há’.
Nid oes gennyf angen tips
gan Dudley, na blender, na dips;
nid oes ots am led fy hips;
stwffiaf i fy mlydi chips.
Huw Roberts 8.5
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Cadw’r Sioe i Fynd
Derwyddon (HG)
Yng Nghana roedd y Talwrn, a Ceri oedd yn flin
fod gornest i’w meuryna – a’r lle yn llawn o win!
Fe chwiliodd am ryw eilydd, a minnau fel hen ffrind
gynigodd fod yn Feuryn, a chadw’r sioe i fynd.
Rheolau y gynghanedd? ‘Does ‘da fi fawr o grap,
ond ar fy ffôn symudol mae’n siwr o fod rhyw app
mae Ceri’n ei ddefnyddio o dan y bwrdd yn slei,
i weld a oes ‘na broestio, rhwng ae, ac ai, ac ei.
A dyma weld fy nghyfle i lacio ar y drefn,
rhwydd hynt i bob un prydydd - a Ceri ar ei gefn!
Er mwyn i dimau bychain y Talwrn gael parhau,
rhaid tynnu’r ‘Tudur Dylans’ i lawr rhyw beg neu ddau.
Fe roddais dri am gywydd, ond limrig gafodd ddeg!
Dilynais batrwm Ceri o farcio yn annheg!
Fe hwyliais drwy’r drydargerdd, cyn symud at y gân,
gofalais fod yr underdogs ryw farc neu ddau ymlâ’n.
A dyna gloi ‘da’r englyn, a’r ‘Dyls’ ‘di colli’n deg,
daearwyd sawl Rioja, a’r lle yn las gan reg.
Ffigurau gwrando’r rhaglen a gododd wedi hyn,
Ond hefyd, rif y cwynion – pob un gan…. Ceri Wyn!
Eryl Mathias 9
Gwenoliaid
Mi weithes i dro fel consuriwr yn teitho drwy'r wlad gyda f'act – llifio aelodau cydweithwyr oedd fy mhethe, i fod yn gysact.
Ro'n i'n gweitho 'da boi o'r canolbarth, oedd yn hynod o dda yn y bocs
nes bo noson y miscalciwleshyn yn dod; pob bendith i gotwm ei socs.
Wrth dynnu ei anadl ola, er y gwaed roedd e'n hynod o glen -
ma fe'n gweud, "Cadw'r sioe i fynd Bongo, mae'n rhaid iddi fynd yn ei blen".
Daeth crotyn o Flaene Ffestiniog, pwr dab, i fentro yn nannedd y Ili –
mi wedodd, er gwewyr ei glwyfe, "'Snam byd gwaeth na Blaena w'chi".
Ac wrth dynnu ei anadl ola' a'r llif 'to 'di crwydro o'i lle,
ma fe'n gweud "Cadw'r sioe i fynd Bongo, mae'n rhaid iddi fynd yn ei Blaen-e".
Ffindes wedyn rhyw fachan o'r Bala, boi cydnerth a ffyrnig a chry' –
chi'n gwbod fel ma' nhw Ian fanna shwfod, a bigodd e ffeit gyda'r Ili'.
Aeth rhwbeth o'i le gyda'r troli, myn diain, mi drodd ei olwynion rhy glou -
aeth y llif fewn i'w rhych yn rhy fuan chi'n gweld, rhych y blwch hynny yw, nid y boi.
Ac wrth dynnu ei anadl ola er gwaetha'i holl rwysg a thraha -
ma fe'n gweud "Cadw'r sioe i fynd Bongo, ma'n rhaid iddi fynd yn ei blaen - wa".
A nawr wy' am arall-gyfeirio, a chael thema wleidyddol i'r sioe
wrth lifio aelode seneddol pob lliw - ma nhw'n despret, mi ddown nhw fel lloi.
Ond bydd gofyn am fod yn ddewisol, a dethol dim ond y rhai sal -
mae'n debyg bod digon o ddewis o rein, a chyn hir llwyth o Doris ar ga'I.
Huw Chiswell 8.5
7 Ateb llinell ar y pryd – Draw ar ras wyllt yr es i
Derwyddon
Draw ar ras wyllt yr es i
Nid oedais ‘fi ‘ma Dadi’
Tudur Hallan 0.5
Gwenoliaid
Draw ar ras wyllt yr es i
Yn berwi i weld Barry
Hannah Roberts
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Criw
Derwyddon
Rhuthro yno bob amser cinio -
rhes o giwbicls, clatsh caeadau,
blerwch bagiau a blasers ar borslen;
a’r pedair yn eistedd ar ymyl toiled,
neu ar gownter y sinc,
yn llenwi’r awr â siffrwd cyfrinach,
a mygu chwerthin;
o dro i dro, torcalon a dagrau,
a breichiau’n gwlwm tyn am ysgwyddau,
a rhuban gwyn wedi’i rwygo o’r rholyn
i sychu masgara, a staen siom;
saith mlynedd,
a heddiw, mae’r taw yn atsain wag,
wrth iddynt incio’r diwrnod olaf
ar gefn crysau ei gilydd,
a stampio eu cyfamod
yn stremp o gusan - minlliw - pinc
ar wyneb oer y drych.
Jo Heyde 9.5
Gwenoliaid (HaR)
Menywod gyda'u gilydd,
yn siarad am y tywydd,
"W'i wedi golchi heddi
gobitho fydd hi'n sychu".
Dynion sy'n y dafarn
yn joio'r ddiod gadarn,
yn cloncan am eu timau
pa ochor yw y gorau.
Hen wragedd sy' na hefyd, y
n sgwrsio am eu hiechyd,
pwy sy' mewn ysbyty,
a phwy sy'n ffili cysgu.
Pobol ifanc yn cael gwin,
joio joio mae pob un,
ma' nhw yma yn eu hwylie
mas tan orie man y bore.
Sgyrsie a'u gwahanol lliw
sy'n dangos beth yw natur criw.
Hannah Roberts 8.5
9 Englyn: Rhaglen
Derwyddon
Gwaith Dur Tata
Mae Port Talbot yn dlotach, - yma’n awr
mae’r min hwyr yn dduach,
i’r hen ordd daro’n wyrddach
talu byth wna’r teulu bach.
Siw Jones 9
Gwenoliaid (HuR)
Rhaglen yr wythnos ar ddiwedd yr eisteddfod genedlaethol
Wrth i'w rhuddin edwino yn y dror
gyda'r eraill heibio,
son mae gwyl sy'n ymgilio
am gryfder, nid breuder, bro.
Huw Roberts 9