Cerddi Chwarteri 2024
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Fy Hoff Dasg
Caernarfon (GL)
Fy hoff dasg yw’r drydargerdd;
does dim byd yn fwy cΕµl, ch-
wilota pob llythyren
pob atalnod a phob bwl-ch.
’Sdim angen hen farddoni,
mond cyfri pob un nod
a chadw dan 280;
pa mor anodd all o fod?
’Sdim angen bod yn gryno,
mae 280 yn lot!
mae’n amlwg bod y meuryn
wedi hen hen golli’r plot.
Geraint Lovgreen 8.5
Twtil (SP)
Be well na thasgau syml
fel hyn - mae angen meithrin
y beirdd nad ydynt eto’n dda
fel pwy ’na, rhywbeth Løvgreen.
Manon Awst 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw wlad yn Asia
Caernarfon (IP)
Nes y daiff ewyllys da
Ystaenir Palesteina!
Ifan Prys 9
Twtil (IT)
Nid yw Duw yn ddigon da’n
Sudan a Phalesteina.
Iestyn Tyne 9.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘‘Pe bawn wedi cyrraedd ar amser’
Caernarfon (IP)
Pe bawn wedi cyrraedd ar amser
mi allswn i achub yr hamster
rhag dioddef ei ffawd
yn rhewgell fy mrawd,
ond wnes i ddim. RΕµan mae’n Twister.
Geraint Lovgreen 8.5
Twtil (SP)
Pe bawn wedi cyrraedd ar amser,
mi fysen i wedi cael cader
wrth ymyl fy ngwraig,
nid Siân Tan-y-Graig;
Se hynny di bod yn disaster.
Steffan Phillips 8
4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Mi awn o achos y mae’n anochel’
Caernarfon (IP)
Gwylnos Meifod
https://youtu.be/VbZdbf0dOPQ?feature=shared
Mi awn o achos y mae’n anochel,
yn y damchwa, a bywydau’n dymchwel,
na ddaw ond tranc i’r ifanc mewn rhyfel;
awn yn fanerog trwy’n gΕµyl ddiogel,
awn yn Urdd, awn heno i arddel - heddwch,
i herio’r düwch â phader dawel.
Ifan Prys 9
Twtil (IT)
Tro
Awn o hyd i’r un man – traethell anwel
lle daw rhyw afon yn wyllt i’w rhyfel
â llwyredd diwedd cyn ildio’n dawel;
mi awn o achos y mae’n anochel:
ein hymchwydd ni a’n dymchwel sy’n y don,
ein rhuo a threio’n rhuthr yr awel.
Iestyn Tyne 9.5
5 Epiogram Dychanol (rhwng 4 ac 8 llinell)
Caernarfon (EG)
Mae prynu’n ail-law
Fel trafod ysgariad:
Gwna’n siwr nad y chdi
Ydi’r cyntaf i siarad.
Emlyn Gomer 8.5
Twtil (MA)
Mae bywyd fatha trên –
rhygnu mlaen a mynd yn hen
yw ein hanes, bob un.
Ac am fod pen y siwrne yn nesáu,
winciwch ar y boi tocynnau.
Manon Awst 9
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Newid Cwrs
Caernarfon (EG)
Aeth y cynllun i ostwng tymheredd yr haul drwy ei fwydo â Chalpol yn ffradach;
Ac felly Plan B oedd ailosod y ddaear ar gwrs oedd ychydig bach oerach.
Pleidleisiwyd yn unfryd mai C’radog Ty’n Benthros a’i dractor a wnâi y gwaith llusgo,
Drwy’r Asteroid Belt, heibio Iau, Sadwrn, Neifion, Wranws, gan stopio wrth Plwto.
Efo help cortyn beindar a thâp gaffa du roedd y syrcas yn barod i gychwyn;
Ond roedd ’r êliyns ar Fawrth hwytha’n llawar rhy boeth, a myn diaw, wedi cael yr un cynllun;
Ac fe drodd yn ras hyll, ’fath a honno’n Ben-Hur, efo lot o drics slei a gwrthdaro:
Dwy blaned ar slalom i ennill y ras – ’tha War of the Worlds dros slot parcio.
I mewn i’r Belt Kuiper fel mellt aeth y ddau – roedd hi’n hwyr glas i ddechrau arafu;
Ond pan bwysodd Prif Beilot y Martians ei frêc, doedd na affliw o’m byd ond sΕµn crafu:
Ar wibdaith wyllt wallgo drwy fôr o ddim byd ma’i’n anfantais ca’l brêc sy ’di torri -
Y peth dwytha a welwyd ohonynt gan neb oedd fflach goch heibio i Alpha Centauri.
Roedd C’radog Ty’n Benthros ’di llwyddo’n ei dasg, a’r ddaear yn awr ar gwrs newydd:
Ond yr oll ga’th o’n wobr oedd cwynion di-ri – roedd hi’n “dywyll” ac “oer” ac “annedwydd”.
Am fod pob dydd yn wythnos roedd pawb fel tinceriaid yn dioddef o ddiffyg cwsg dybryd;
A chriw Greta Thunberg yn edliw yn groch ’bod nhw bellach heb bwrpas mewn bywyd.
“Am rywogaeth anniolchgar ’di dyn”, meddai Crad – “o’n i’n meddwl ’swn i’n ca’l cofgolofn!
Sa reitiach ’swn i ’di defnyddio y tâp gaffa du i gau’r twll yn yr ôson!
Gan nad oes plesio arnoch fyth bythoedd amen; twll ych tina chi oll, a gwd ridans!”
Ac anelodd ei dractor i ben draw’r bydysawd i drio dal fyny ’fo’r Martians.
Emlyn Gomer 8.5
Twtil (TBD)
Dw i ddim yn wyddonydd, a ma’ màths yn fy mhoeni,
hen ffash ydi hanes, felly gradd Gymraeg amdani!
Mi gyrhaeddais y dosbarth am toc wedi naw,
cymryd sêt yn y cefn (ma’r ffrynt yn codi braw).
Wrth i’r darlithydd gyrraedd, dw i’n sbio arni’n syn
yn gosod ei baguette a’i beret ger y bwrdd gwyn.
“Bienvenue à la classe!” mae’n datgan yn joli.
Dw i’n ’neud dybl têc a chodi llaw i’w holi:
“Dw i ’di cael bach o ’mêr!”, dw i’n dechrau esbonio.
“Non, tu habite à la mer!”, mae’n cywiro.
Dw i’n trio protestio, ond troi’i chefn arna’ i
mae’r darlithydd, dechrau’r wers, a dyna ni.
Gan suddo’n fy sedd, dw i’n pwdu mewn mΕµd,
dw i’m yn gadael chwaith – ’sa hynny’n reit rΕµd.
Ond yn ystod y wers, mae’r triste-wch yn clirio,
a’r hen doleur yn dechrau cilio.
Yng ngolau’r fenêtre â’m livre yn fy llaw
dw i’n cyrraedd pont iaith sy’n daith di-ben-draw.
Mae sgrapio’r radd Gymraeg yn benderfyniad mawr,
ond dw i ar frig y leaderboard ar Duolingo nawr!
Tegwen Bruce-Deans 8
7 Ateb llinell ar y pryd – Byddai’n wych pe bydden ni
Caernarfon
Byddai’n wych pe bydden ni
Yn storio fel hamsteri
Ifor ap Glyn 0.5
Twtil
Byddai’n wych pe bydden ni
A’r Talwrn ar y teli
Iestyn Tyne
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): O Bell
Caernarfon (IapG)
Beth yw blwyddyn golau wrth fesur iaith?
Er bod geiriau rif y sêr yn pefrio yn ein nos,
eu tymp a ddaw yn dipyn cynt…
Ac ofer ymbalfalu drwy gosmos
dwy genhedlaeth hyd yn oed
wrth geisio’r ystyron sy’n ffoi rhagom,
y bugunad a’r pystylad,
y sianachad a’r stabaleinad;
syllwn ar olau sy’n dal i’n cyrraedd
o sêr sydd o bosib wedi’u diffodd…
Ac ofer ceisio pwytho’r
bylchau yn ein dirnad,
ag edau main y dwthwn hwn;
ond gyda nodwydd rhwng ein bysedd,
cawn bricio sêr newydd
ar draws y ffurfafen fawr
a gwên-ddeall y to nesa,
sy’n eu darllen, fydd ein gwawr…
Ifor ap Glyn 9.5
Twtil (IT)
Gwylnos ar faes Eisteddfod yr Urdd, 31.05.24
Crimpiodd y llaid a chodi fel llwch
a setlo'n ein gyddfau a'n dillad ni'n drwch
a'n gwersyll un-wythnos oedd wenau i gyd
pan gododd yr haul ar ein dathlu clyd.
Ond daeth newydd o Rafah; pebyll ar dân
a phlant bach diwyneb wedi'u dryllio'n fân
tra'n bod ninnau'n llawn asbri ieuenctid hardd
ym mwynder Sir Faldwyn yn cadeirio bardd.
Felly codwyd baneri a llwyfan dros dro,
paentiwyd arwyddion ac fe ddaethom, do
I sefyll am funud yng nghornel ein maes
wrth i'r cyfnos ein lapio'n ei glogyn llaes
gan ddweud, trwy fod yno, nad yw'r mwrdro hwn
na'r un mwrdro arall yn gyfiawn; a gwn
na lwyddodd ein canu rhag y golled drom
arbed 'run bywyd nac atal 'run bom,
ond er breuder ein geiriau a'u gostegu chwim
y newidiem lai fyth wrth beidio â dweud dim.
Iestyn Tyne 10
9 Englyn: Grisiau
Caernarfon (IP)
Dysgom mai da yw esgyn ris wrth ris
yn barhaus ond wedyn
y dasg yw peidio disgyn
a dal yn y canllaw’n dynn.
Ifan Prys 9.5
Twtil (SP)
Fesul sillaf, arafach yw dy gam;
wy’n dygymod, bellach,
â’n gwir, sef fod pob gris fach
a rannwn heno’n brinnach.
Steffan Phillips 9.5