Cerddi Rownd 1 2024
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Rhybudd Tywydd
Manion o’r Mynydd
Tywydd braf
Manaw fydd yn bedyll ffrio
Llawr Eryri’n gyrff fu’n dringo
Alwyn Evans 8
Bro Alaw
Ma nhw’n mwydro am ryw wasgedd isel, a’r jetlif yn symud yn is,
Am gynffon ryw storm ddaeth o Giwba a ninnau yn talu y pris.
‘Sdim angen y rwdl gwyddonol, bydd barod am bopeth a ddaw -
Pan fydd Derec yn dechra ’fo HENFFYCH, mae’n amser sîbΕµts a chôt law..
John Wyn Jones 8
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘cosb’
Manion o’r Mynydd
Er i’w gosb ei chlirio i gyd,
Aros mae’r cam i’w weryd
Tudur Puw 8
Bro Alaw
Nid yw cosb yn gosb i gyd
Os caf fy nysgu hefyd.
Richard Parry Jones 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ers tipyn mae gen i ryw ysfa’
Manion o’r Mynydd
Ers tipyn mae gen i ryw ysfa
Am gyfrif mewn banc draw yn India
Mewn gobaith y bydd,
Os ffoniaf pwy ddydd,
Wasanaeth i’m budd yma ‘Ngwalia
William Williams yn darllen gwaith Alwyn Evans 8
Bro Alaw
Fel ffermwr sy’n gaeth i ‘ganllawia’
Ers tipyn mae gen-i ryw ysfa
I ffendio’r pen rwdan
Sy’n ‘cynnalarwdlan’
A phlannu sawl coedan yn rwla.
Ioan Roberts 8.5
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Tiriogaeth
Manion o’r Mynydd
Gwyllt gynefin a dinas,
erwau ar a thywod cras,
hyn yw tir y blaned hon –
daear, a ni’n westeion.
Ond â ni’n bloeddio ffiniau
am ein cwr, a mynnu cau
y porth fel na ddaw neb byth
i hawlio bro’n gwehelyth,
y gwn sy’n erlid y gwâr
i’w diwedd. Erys daear;
‘agwedd’ ydyw tiriogaeth,
rhyw rith fel ewyn ar draeth.
Nia Powell 9.5
Bro Alaw
I’r fam eiddil canmil gwaeth
Na’i rhwygo o’i thiriogaeth,
Yw rhoi’r baich fu’n ei breichiau
Yn ei braw’n y lliain brau;
A gwyddom am y siom sydd
Yn llenwi’i llygaid llonydd;
Gwelwn fam na wnaeth gamwedd
Yn rhoi’i byd yng ngwely’r bedd,
O’i galar hefyd gwelwn
Beth yw gwerth yr aberth hwn
I warchod tir dan warchae -
Nid yw’r gost ond cist ar gau.
Richard Parry Jones 9.5
5 Pennill ymson wrth lwytho peiriant golchi llestri
Manion o’r Mynydd
Mae’n llowcio llestri’r wythnos, rhai’r werin a’r rhai cain,
holl lestri’r cwpwrdd priodas a chwpwrdd gwydr nain,
Ond rhaid yw cofio ‘rinsio’pob stremp a phob un staen
neu bydd y tΕ· ’cw’n hymian o ddiwrnod tri ymlaen.
A thros y diwrnod golchi mae’r llestri plastig pinc
mor handi i ni fwyta a’u golchi yn y sinc
Tudur Puw 8
Bro Alaw
Fe gefais set o lestri, rhai drudfawr, crand o’u co’
A cherdyn “Pen Blwydd Hapus, Ben” gan f’annwyl Dewyrth Jo,
Y geiriau gafodd Moses sydd yn addurno’r rhain,
Dwy iaith o’r hen orchmynion – coch, glas ar wyn yn gain.
Fe’i llwythaf yn y trwmbal, ar raglen boeth fel tân,
I’w cael, fel fy nghydwybod, fel eira gwyn yn lan.
John Wyn Jones 8.5
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Dyddiad Cau
Manion o’r Mynydd
Mae‘n hirlwm o gynilo yn nghoridorau’n hoed,
a phawb a’u ’sgidiau’n gwasgu, yn camu’n ysgafn droed,
Mewn dogfen ymgynghorol, a ’fory’r diwrnod cau,
mae’r BIB am ail-strwythuro i’r cyllid ysgafnhau,
Mae’r Talwrn dan y gyllell, mae hyn yn dod o’r top,
ac os yw’r si yn gywir mae Ceri am gael chop.
Bydd ‘Bot’ yn sedd y Meuryn, gwneir defnydd o A.I. -
er bod y gost tros filiwn, mae hyn gryn tipyn llai.
Fe all y bot feirniadu a chyfri’r marciau’n rhwydd,
ac felly Nia hefyd sy’n poeni am ei swydd.
Nid yw yn costio ceiniog mewn petrol, te na bwyd,
fe Εµyr holl lên ein hanes, pob cerdd gan Alan Llwyd.
Mae’n dallt holl wyrth y cread, dallt haul, dallt sêr y nos,
a deall nad oes deall yn bod i feddwl Jôs.
Mae’n cynnwys ‘Solomennydd’ i gerddi doeth a chain,
er chaiff hwnnw fawr o ddefnydd â sdwff acrostig rhain (Bro Alaw).
Mae’r Bot yn gender neutral, ’sdim acen gog na de,
a shêd o lwyd ’di liw o, pob bocs PC’n ei le.
Ond ... er y ticio bocsus, y broblem fawr â’r Bot y
w’r iaith na all ei siarad, mae’r cena’ yn Welsh Not!
Felly, pan ewch adra heno, da chi ewch ar y wê
i’r ddogfen fondigrybwyll, rhowch ‘dic’ i’r blwch ‘No Way!’
Rhaid cadw sedd y Meuryn, mi safwn oll am hyn,
a thrwy ein hymdrech, Gymry, achubwn Ceri Wyn
Tudur Puw 9
Bro Alaw
Mae’r amser penodedig yn prysur agosau,
Rhaid llenwi’r holl fanylion cyn daw y dyddiad cau.
Beth yw fy ‘occupation’? Wel ‘Poet’ rôf yn siwr
A ‘Sex’, wel rydw i’n meddwl fy mod i’n dal yn Εµr!
Ie, dyma fy uchelgais, cael gwisgo’r goron ddrud,
Ac ennill Mr Universe, dyn godidoca’r byd!
Mil gwell na chadair ‘Steddfod fydd pôsio yn fy thong,
A fflecsio ‘nghynganeddion, ‘does yna ddim yn rong
Mewn gwisgo trôns mor fychan ag a wisgai Cynan gynt,
Dros Greigiau Aberdaron, nes bod pawb yn dal eu gwynt!
Bydd y dyrfa oll yn gweiddi am ‘Heddwch’ fatha côr
A nghyhyrau innau’n crynu fel tonnau gwyllt y môr!
Caf daflu’r deiliach derw a’u llosgi yn y fan,
A ‘phart exchange’ i’r goban wen am botel o ‘fake tan’.
Bydd ambell un yn synnu ac ambell un yn flin
Wrth edrych ar hen brifardd yn siglo bocha’i dîn!
Ond dyna yw f’uchelgais a hysbys fydd yn awr
Fod Welwyn Garden City yn wir ’di magu cawr!
Rhaid cwblhau y ffurflen, mae’n amser erbyn hyn,
A’i hanfon cyn y dyddiad cau. Arwyddwyd - Ceri Wyn.
Ioan Roberts 9.5
7 Ateb llinell ar y pryd – Y mae’r ffaith ym mêr y ffôn
Manion o’r Mynydd
Y mae’r ffaith ym mêr y ffôn
Yn gelwydd a dirgelion
Gwilym Jones 0.5
Bro Alaw
Y mae’r ffaith ym mêr y ffôn
A’n geiriau ynfyd gwirion
Richard Parry Jones
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Osgoi
Manion o’r Mynydd
Byddin rwber
ddistaw,
wag,
dan draed y Senedd.
Eu sodlau wedi gwreiddio’n ddwfn yn y tir,
Penseiri ein herwau
a’u haberth dan fygythiad.
Eraill yn egin lliwgar
ein dyfodol,
Eu breuddwydion ar fin eu rhwygo o’r pridd.
Mudo o’u cynefin
fydd raid i’r rhain,
a’r iaith yn eu poced tîn.
Cnoi cil ar risgl coed
wna’r gweddill.
Gymru!
Dy asgwrn cefn yw cefn gwlad
O’i dorri ni wnei gerddad.
Gwilym Jones 9.5
Bro Alaw
Er cof am Elwyn Evans, Gerddi Bluog, Harlech
Torrwyd ar ias y llwydni
Gan y lleufer yng nglas ei lygaid,
Mor finiog ag erioed.
Eu sicrwydd yn boddi’r eiddilwch dan y lliain gwyn,
Eu stori’n fyw.
Bwrw i’r sgwrs yn syth,
Ddyrnod ar ôl dyrnod,
Teirw, hyrddod a Mart,
Nes fod y tri ohonom yn clywed y morthwyl yn taro;
“’Hundred and twenty eight guineas’
Am hwrdd o Goedladur.”
A’r trigain mlynedd fel trigain eiliad,
Yn fodd i herio amser,
A’r cof yn concro’r cancr.
Ond gwyddai’n iawn.
Tu ôl i stori’r llygaid glas
’Doedd dim osgoi’r atalnod llawn.
Ioan Roberts 9.5
9 Englyn: Dramodydd
Manion o’r Mynydd
Dan olau theatr dynoliaeth, - drwy’r sgript
ar sgrîn creadigaeth
ai dwylo yw’n bodolaeth – i weini
Ei raglenni ar lwyfan rhagluniaeth?
Tudur Puw 9
Bro Alaw
O’i weithle pwytha’r gwehydd – y digrif
A’r dagrau mor gelfydd,
Lluniwr praff, y llon a’r prudd,
Wna ddau wyneb â’i ddeunydd.
Richard Parry Jones 9