Cerddi Rownd 2 2024
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Hysbyseb: ffôn ail law
Tir Mawr
Ar werth – fy ffôn symudol,/ Os am ei phrynu hi,
Rhowch ganiad imi arni,/ 078803;
Ond os nad fi fydd yno/ Yn wir, mae’n ddrwg gen i
Mi fydd na gwsmer arall,/ O’ch blaen, ‘di phrynu hi.
Gareth Jôs yn darllen gwaith Carys Parry 8.5
Twtil (TBD)
Reit, ’di cael digon ohono.
Dwi’n gneud o – pwy ’sa ddim isio
camera roll o flerwch dawnsio
proffils hogia i’w chwith-sweipio
edefyn X yn datod ac yn ffraeo
ap Nodiadau llawn cerddi sy’n mwydro
screentime hy o oriau sgrolio –
yli, mae o ’di tecstio…
na’i gadw hwn at rywbryd eto.
Tegwen Bruce-Deans 8
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘dad-ddweud’
Tir Mawr
Gwell yw im osteg y llais
Na dad-ddweud a ddywedais.
Huw Erith 8
Twtil (SP)
Hawdd dad-ddweud ’r hyn ddw’edodd e
i rengoedd y cyfrynge.
Steffan Phillips 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ni welais erioed yng Nghaernarfon
Tir Mawr
Fandaliaid, anwariaid a lladron
Lloyd George ger rhyw gastell digalon
Ac ambell i wylan
Ond bardd gwerth ei halan
Ni welais erioed yng Nghaernarfon
Gareth Jôs 8.5
Twtil
Ni welais erioed yng Nghaernarfon
wicend fel ’r Εµyl fwyd – aeth hi’n wirion!
Y maes fydd ar gau
am fis i lanhau.
Ddydd Iau dwi o flaen yr ynadon.
Steffan Phillips 8.5
4 Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 12 a 15 llinell): Amddiffyn
Tir Mawr
(Mae’n nhw’n codi morglawdd uwch ar draeth Hirael, Bangor)
Ar fin y dΕµr ofnau dyn
a welwn: mashîns melyn
yn walio rhag hen elyn.
Rhuo yno mae craeniau,
dympars a micsars ac mae’r
awyr yn llawn lorïau’n
cario, dadlwytho cerrig
ar y wal, a chodi’i brig
yn uwch wedyn, ryw ’chydig.
‘Dinas – a daw ei henw
heddiw yn wir, ’meddan nhw.
‘Lle i ennill ar y llanw.’
Ond ar eithaf y drafael,
mur heb gysur sydd ar gael:
‘Mae’n hwyr, ’medd meini Hirael.
Huw Erith yn darllen gwaith Myrddin ap Dafydd 10
Twtil (IT)
Mae’n ffaith gydnabyddedig fod newid hinsawdd yn cyflymu diflaniad ieithoedd lleiafrifol.
Berwi’i bair a bwrw bol
wna’r llanw gorllewinol…
wedyn daw’r un dwyreiniol.
Ym mreuderau’r mordiroedd
mae brys lli rheibus lle roedd
gynnau fân gynefinoedd.
Ac o lwyddo i gelwydda
ymbellhawn am ambell ha’
rhag amenio’r gwymona.
Fesul ton ac fesul tΕ·
y daw môr di-dymheru,
di-droi, i ailhawlio’i wely;
ninnau’n dofi rhwng deufyd
rhyfedd, rhwng deufor hefyd;
yn y gors yn suddo i gyd.
Iestyn Tyne 10
5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Af i lan y môr i wylo’
Tir Mawr
S'gen i'm snorcyl, s'gen i'm leilo
S'gen i'm eli i dorheulo
S'gen i'm rhaw i sheflio tΕµad
S'gen i'm melin wynt na phwcad
S'gen i'm rhwyd i 'sgota crancod
Na gwialen i ddal pysgod
S'gen i'm hyd'n'oed trons neu sbido
Af i lan y môr i wylo
Gareth Jôs 8.5
Twtil (IT)
Af i lan y môr i wylo,
ni chaf fawr o gysur yno;
ond gan ’mod i’n foi dramatig
mae o’n well na chrïo’n ’ratig.
Buddug Watcyn Roberts yn darllen gwaith Iestyn Tyne 8.5
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Llawlyfr Answyddogol Eisteddfod yr Urdd
Tir Mawr
Bydd miloedd o blant bach darllengar yn heidio i'r Syrcas i gwrdd
A'r bobl sy'n byw 'na fel arfar yn denig yn bell bell i ffwrdd
Mae'n glanio mewn bro yn anwadal boed honno'n y Gogledd neu'r De
A'n creu y fath argraff ar ardal chaiff hi byth fynd yn ôl i'r un lle
Os wyt, drwy rhyw anffawd anorfod am fentro yn agos i'r lle
Mae'r 'steddfod eleni ym Meifod a Meifod yn duw a Εµyr ble
Na theithia ar 'Draveline Cymru' na threnau 'Traws Cambria' ychwaith
Os nad wyt ti am ychwanegu dau ddiwrnod at amser y daith
Bydd gyfrwys gerbron y fynedfa - brwsh llawr a high-viz ydy'r boi
Cei ryddid y maes am dy hyfdra ac ambell i fyrgar i'w chnoi
Mi fydd, yn ddieithriad yn bwrw. Os felly, cysgodi yw'r drefn
Cychwyna ar wib i'r dent gwrw, gorffena ar wastad dy gefn
Mae peryg y byddi di'n llwgu a'r bwyd yn ddychrynllyd o ddrud
Mi fedrwch,( os yno fel teulu), gael paced o jips ar y cyd
'Sna welaist ti 'rioed odliadur, fel aelod o'r werin ddi-glem
Ni ddylet, ar unrhyw achlysur ymwneud efo'r 'creme de la creme'
Nid codi bwganod mo hynna Dwi'n gwybod am ambell un wna'th
Ac er iddynt lwyddo i ddod o 'na ni fuo nhw fyth yr un fath
Yn olaf, mynd yno neu beidio? Wel cadw hyd gwlad fyddwn i
Ac os benderfyni fynd yno 'di o ddim byd i'w wneud efo fi
Gareth Jôs 9.5
Twtil (BWR)
(Eisteddfod – Anweledig)
Mae ’na amser yn yr Haf, lle mae rhai yn cael y gwadd –
y mamau dosbarth canol, ’isho mwy na tywydd braf.
Ma ’na wythnos gyfa’i ddod o Eistedd fod – I famau’r Eisteddfod.
Os ’da chi am gael gweld eich plant ar lwyfan S4C (es ffôr si)
Mae gen i rwbath yma fydd yn lot o help i chi –
Gen i y ‘survival guide’ i’r Eisteddfod – I famau’r Eisteddfod.
Peidiwch poeni am ragbrofion, mae’r cynllun gynno ni,
I sicrhau fo’ch plentyn yn cyrraedd llwyfan bri.
Trwy deg, trwy dwyll ’di’r nod mewn Eisteddfod – I famau’r Eisteddfod.
Technegau, awgrymiadau, rhaid cael popeth yn ei le,
A gwersi preifat costus, gan y beirniad? Ia, awe!
Mae ’na gontacts angen bod mewn Eisteddfod – I famau’r Eisteddfod.
Anadlu mewn ac allan, fitaminau, un, dau, tri:
Llyncwch ddos o egni, cwpan lawn o hyrbal tî.
Maen ’na stamina’n gorfod dod mewn Eisteddfod – I famau’r Eisteddfod.
Ond os na weithith hynny mae ’na wastad ein plan B,
I ffeindio rhestr enwau, trowch i gefn ein llawlyfr ni –
Cewch fanylion pawb mewn côd i’r Eisteddfod – I famau’r Eisteddfod.
Buddug Watcyn Roberts 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Duw a Εµyr nad yw’n beth da
Tir Mawr
I’m ddweud mai slym sydd yma
Duw a Εµyr nad yw’n beth da
Huw Erith 0.5
Twtil
Duw a Εµyr nad yw’n beth da
I rannu tips meuryna
Tegwen Bruce-Deans 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Perchnogi
Tir Mawr
Tua’r Rhuol ac o gwmpas Sarn y Plas
yr adar bach a gana wrth reddf,
nid er mwyn clod.
Ac yn Nant Cwrt nid yw disgynyddion dy gyfeillion pluog,
a wyliaist heb dorri gair ag un copa gwalltog, yn dy adwyn.
Tra, yn yr eglwys ger y traeth a ranni bellach â Hywyn,
a lle mae dy eiriau mor rymus a’r Gair,
ar ddydd dy Εµyl y brain sy’n clebar.
Huw Erith 9
Twtil (TBD)
Gwers Nofio
Ges di dy eni i fyd wedi’i liwio’n binc
ac sy’n gofyn iti aberthu am y pleser,
y pleser o ddad-lapio danteithion
i ddatgelu esgyrn plastig,
a’u hunswydd yw rhwymo briw
nad yw’n friw ond yn llygaid eraill.
Ges di dy eni i fyd sy’n dysgu genod bach
i nofio er mwyn dianc rhag y nos,
ond yn mynnu nad oes groeso yn y pwll
heb guddio gwaed y golled unwaith y mis,
ei ffeminyddiaeth bur yn ddigywilydd
yn ei chochni tew, tywyll, coch y galon,
coch y rhegfeydd sy’n llifo ohonot
wrth iti feiddio neidio i gorff y dΕµr
a gadael iddo dy geseilio’n ofalus
fel hen ffrind, ac rwyt ti’n sylwi
nad colled ydyw, ond datganiad
o dy hawl i sefyll ar y ddaear hon.
Tegwen Bruce-Deans 9
9 Englyn yn cynnwys y geiriau ‘A wnei di’
Tir Mawr
I Wleidydd
Tosturio wnei at stori yr holl ladd
O’r Llain ddaw i’th sobri.
I newid hyn, a wnei di,
O’i wylied, ymwroli.
Gareth Jôs yn darllen gwaith Myrddin ap Dafydd 8.5
Twtil (IT)
Fy ngorbryder
Mae ’na gysgod sy’n codi o waelod
f’ymwybod, fy mabi,
un nas gellais ei golli.
Dyna dy dad. A wnei di?
Iestyn Tyne 9
Tasg ychwanegol oherwydd bod y sgôr yn gyfartal
Ateb llinell ar y pryd - Fin nos tua’r Fenai af
Tir Mawr
Yn gyson pan wirionaf
Fin nos tua’r Fenai af
Huw Erith
Twtil
Fin nos tua’r Fenai af
I dynnu dΕµr o’m dannedd
Iestyn Tyne 0.5