Cerddi Rownd 1 2024
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Apêl
Dwy Ochr i’r Bont
(Apêl 1923-1924)
Yng nghysgod y pladur mawr,
teimlwyd llaw gadarn yn gyffyrddiad-glöyn-byw
ar ysgwydd; clywyd galwad;
gwelwyd y ddoe a’r echdoe a ddigwyddai drachefn,
a chodwyd, law yn llaw,
bont o bapur a’r inc yn ddagrau ar ei hyd,
gan fynnu, o ganol y llwch,
mai dyma ddechrau ‘yr Heddwch’.
Bethan Eirian yn darllen gwaith Gareth Evans Jones 9
Gwylliaid Cochion
Nid wy'n gofyn bywyd moethus,/na dim hyd n'oed galon lân,
gofyn rwyf am hync golygus,/un sy'n onest, pêr ei gân;
boi cyhyrog, llawn drygioni,/ffarmwr doeth o Faldwyn dlos,
un â Massey fase'n handi/handi'r dydd a handi'r nos.
Rhiain Bebb 9
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘bwrdd’
Dwy Ochr i’r Bont (OO)
Ar fwrdd yn Sir Gaerfyrddin
un Awst gollyngais fy nhîn.
Osian Owen 8.5
Gwylliaid Cochion
Mor braf i feirdd yw tafarn
a bwrdd lle cant rannu barn.
Alun Cefnau 8
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘wrth fynd i Gaerdydd i’r gêm rygbi’
Dwy Ochr i’r Bont
Fy nal ar stretch Traws yn gwneud ‘sefnti’,
ar beipas Llanidloes, gwneud ‘eiti’.
ces chwephwynt a ffein
a hyfforddiant ar-lein
wrth fynd i Gaerdydd i’r gêm rygbi.
Anest Bryn 8.5
Gwylliaid Cochion
Y wraig a fu’n esgor ar fabi
a taid gafodd harten a thagu,
y plant aeth i ballan
-fe’i taflais nhw allan,
wrth fynd i Gaerdydd i’r gêm rygbi
Alun cefnau 8.5
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Tystiolaeth
Dwy Ochr i’r Bont
Tystiolaeth
i’r is-bostfeistri
Yn y doc, wynebaist di’r
barnwr seibr, yna’r sobri
wrth glywed, ddegawd wedyn
nad wyt ar dy ben dy hun.
Dy hawl yw clirio dalen
a swmp y balansau hen,
a hyn o dâl gefaist di:
dy awr i ddweud dy stori.
Ond ym mharsel dy wely
ag ôl eu stamp yn glais du;
ti’n methu’n glir â chlirio’r
inc hwn ar amlen y co’.
Osian Owen 9.5
Gwylliaid Cochion
O'i dwnnel daeth i hela'n
min y gwyll am oenig gwan;
wedi cnoi ffoi dros y ffin,
adre'r aeth drwy ei eithin.
Ni wn pa lwynog a wnaeth,
ond yr un fydd y driniaeth -
dialaf ar ei dylwyth,
bwrw llid drwy gosbi'r llwyth,
drwy ddymchwel eu twneli
a'u lladd er mwyn fy Εµyn i,
â'm byddin eu llenwi'n llon
a'u cau nhw am y c'nawon.
Tegwyn Pughe Jones 10
5 Pennill ymson wrth yrru aradr eira
Dwy Ochr i’r Bont (AB)
Does dim yn well gen i, bob ha’,
na gyrru f’aradr eira
ar hyd traeth Nefyn er mwyn clirio’r
bobol ddwad o’na.
Anest Bryn 9
Gwylliaid Cochion
Tra'n clirio'r ffordd un noson/ ym Mawddwy ar fy nhaith
ces sioc o weld drychiolaeth -/ cynghorydd wrth ei waith;
wrth symud lluwch â blaen fy swch./ es drosto fo a'i gar,
mae nawr mewn cyfyng gyngor/ mewn fflat-pac wrth y bar.
Rhiain Bebb 9
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Toriadau
Dwy Ochr i’r Bont (AB)
Rhyw fore oer, wyth mis yn ôl, es ar fy mhen i'r drych
a thorrodd hwnnw'n deilchion a meddyliais: ‘dechra' gwych’.
Dod lawr y grisia', drwy'r drws ffrynt, i mewn i'r car a'i danio
a'r windscrin dorrodd wrth i'r lori graean basio heibio.
Doedd gen i fawr o ddewis, rhaid oedd cerdded i fy ngwaith,
dwi'n byw yng nghanol nunlla’, heb sôn am fysys chwaith.
Es lawr rhyw lwybr oedd i fod i dorri ar y siwrna,
ond llithrais, es i lawr fel gordd a chwalu 'mhenaglinia'.
Cyrrhaeddodd parafeddyg ar ôl oriau maith a mwy:
'I hate to break it to you, love, ond ti 'di torri'r ddwy!'
Ar ôl x-ray a chael dau gast, gadewais yr ysbyty
a'r pils-lladd-poen yn gwneud ’mi dorri gwynt a dechrau drysu.
Fe wnaeth ’mi gredu mod i’n ddewrach person na beth ydw i…
Mi dorrais mewn i’r siop dros ffordd a dechrau’r Great ‘Tun’ Robb’ry.
Gafaelais mewn tun bwyd, ei ddwyn, a dianc wnes ar ras,
mi lwyddais fynd rhyw ddeuddeg llath cyn daeth y golau glas.
Pan gefais ddedfryd o saith mis, fy ngwyneb aeth yn wyn -
un mis o garchar am bob 'plum-tomato' yn y tun.
Erbyn hyn, rwy'n rhydd ac iach a'n gallu gwisgo jîns
a’n cyfri'n hun yn lwcus mod i heb ddwyn tun 'bêcd bîns'.
Anest Bryn 8.5
Gwylliaid Cochion
Oes modd cwtogi heb doriadau,
oes modd cael llyfrgell heb ddim llyfrau,
dychmygwch y cwynion fyddai’n dilyn
o gynnal y Talwrn heb y Meuryn,
neu o redeg ‘sbyty heb ddim nyrsus,
o wybio ‘Traws Wales’ heb gymorth bysus ?
Ond ma’n digwydd- bois bach mae’n digwydd .
Beth am ysgolion heb ddim “teachers,”
ras y Grand National heb her Beecher’s
hel lecsiwn deg heb wrthwynebwyr,
cartefi i’r henoed a dim gofalwyr .
Mi fyddai’n hunllef, mi fyddai’n greisis
fel “Mr and Mrs” heb y misus.
Ond mae’n digwydd - bois bach mae’n digwydd .
Toc cawn Steddfod heb gystadleuwyr,
mae bron mor boncyrs a cheir heb yrwyr,
cinio rhost heb grefi - a dyna drist
fyddai dathlu ‘Xmas’ heb Iesu Grist;
dim tafarn leol, dim ‘village hall’,
dim Celf i’n diddanu - bygar ôl .
Ac mae’n digwydd- bois bach mae’n digwydd.
Alun Cefnau 8
7 Ateb llinell ar y pryd – Mi ddaw mi wn stormydd mwy
Dwy Ochr i’r Bont
Mi ddaw mi wn stormydd mwy
Daw i yrrwr sawl dirwy
Osian Owen 0.5
Gwylliaid Cochion
Nid yw’n hawdd heno’n Mawddwy
Mi ddaw mi wn stormydd mwy
Rhiain Bebb 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Mwg
Dwy Ochr i’r Bont (MD)
Sain Ffagan
Roedd ’na sôn am ddymchwel,
sôn am adfeilio, am fynd a’i ben iddo,
y buarth yn magu chwyn a’r cerrig yn sugno’r glaw
a wasgwyd i’r gwyngalch gan bwysau’r gwynt.
Roedd ’na sôn am adael,
am ffarwelio hir â’r tΕ· a’r tir,
sôn am ddiffodd llinach
cenhedlaeth a chenhedlaeth fu’n tendio’r tân,
yn pesgi’r moch, yn gwisgo’n ddel ar y Sul,
ac yn hymian si-lwli wrth wlâu cwpwrdd y plant.
Nythodd y brain yn y to
a llithrodd adlais oer yr hwiangerdd olaf
drwy’r crac yn ffrâm y ffenest.
Roedd ’na sôn am symud,
am godi’r seiliau, datod trawstiau
a’u clymu eto’n berffaith a blêr yng nghysgod y ddinas.
Ac mae ’na sôn am dorch ar y drws,
am fynd a dod, a chwerthin;
sôn am gyfarwydd yn tanio chwedlau’r tΕ·
a mwg yn codi o’r simdde.
Manon Wynn Davies 10
Gwylliaid Cochion
Capel Abergeirw
Ar bnawn Sul ym mis Ionawr
Roedd y lle dan glo, ac eto
bu oedfa yno’r diwrnod hwnnw
mae’n debyg. Falle mai fi ddychmygodd
fod arogl rhywbeth i’w glywed
wrth y drws o hyd, fel petai
cannwyll newydd ei diffodd;
fel petai rhywun newydd
gamu dros y trothwy
gan adael gwres ei hanadl
yn niwlen ar y ffenestri oer.
Ond erbyn i mi gyrraedd
roedd y lle yn dywyll,
y cwm yn dawel. Mwg
yn codi’n ddioglyd
o simneau’r tai haf gerllaw.
Grug Muse 10
9 Englyn: Trysor
Dwy Ochr i’r Bont (OO)
Hanner awr yn yr eira – a hynny
cyn i’r haen brydfertha
ddechra dadmar yn ara’
yna daw’r nos i’w droi’n iâ.
Elin 9.5
Gwylliaid Cochion
Casgliad fy nhad-yng-nghyfraith
Rhwd coch sy’n brechu’r mochyn ac aradr
yn gorwedd mewn sietyn.
Cael naws o’r teclynnau hyn
ar ei dir yw aur Derwyn.
*Mochyn - aradr dwbl i agor a chau rhych
Gwion Aeron 9.5