Main content

Cerddi Rownd 2 2024

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Nodyn i’r Swyddog Arholiadau

Y Glêr (EE)
Rwyf yma yn fy nghadair
I’r ddalen flaen yn sownd,
Oherwydd, fe anghofiaist
Ddweud pryd i’w throi hi rownd.

Eurig Salisbury 8.5

Derwyddon

Oes rhaid im aros teirawr?
Mae’n gyfnod braidd yn hir!
‘Dwy wedi sgwennu’n enw
yn gywir ac yn glir.
Heblaw am wneuthur hynny
‘ni sgwennais i ‘run gair’,
Plis, plis! Ga’i fynd am adref
i helpu ar y gwair?

Eryl Mathias 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘ail-greu’

Y Glêr (HG)

Fel gwair yn ngafael gweryd,
Ail-greu mae pob creu o’r crud.

Hywel Griffiths 9

Derwyddon

Yn foddion, gall celfyddyd,
yn nagrau’r boen, ail-greu’r byd.

Siw Jones 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘‘Am hydoedd mi fûm mewn ciw traffig’

Y Glêr (HG)
Am hydoedd mi fûm mewn ciw traffig;
symudol nid oeddwn, ond statig.
Ond symud a wnes,
’mhen amser, o’r rhes,
ac es oddi yno’n ex-statig.

Osian Rhys Jones yn darllen gwaith Hywel Griffiths 8.5

Derwyddon

Am hydoedd mi fûm mewn ciw traffig,
mewn cerbyd dau geffyl Rhufeinig,
ar ol aros cyhyd,
trodd y via yn stryd,
mae'n bryd troi at gar otomatig.

Siw Jones 8

4 Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 12 a 15 llinell): Elw

Y Glêr (HG)

Am ei thon drom a thyner
a sglein sws goleuni sêr,
debyd o hyd yw Aber –
fy nyled ddofn o olau.

Bu’r tywod oedd yng nghodau
aur y banc yng nghreigiau’r bae
fel arian mân ar lan môr
imi pan ddaeth hi’n dymor
i ryw storm ddyrannu’r stôr.

Rhof log yr oerfel agos
a holl nawdd sawl tywyll nos
yn aur i’r ddau sy’n aros
am waddol o’r trai meddw …

Fy nyled, rhof hi’n elw
o’r traethau hyn iddyn nhw.

Hywel Griffiths 9.5

Derwyddon

(I'r Prydeinwyr a aned yn y chwedegau)

Ces i fam, heb ei mamiaith,
a thad yng nghymhleth ei iaith
yn fudan ei dafodiaith.

Iaith ddi-waith hen dylwyth oedd.
Cwmwl o iaith i'r Cymoedd.
Llaid ar fy ngallu ydoedd.

Ces goleg Saesneg. Ces swydd.
Dieithryn oedd dwyieithrwydd.
O Loegr, ’nôl i amlygrwydd.

I’r swyddfa, yna, ar f’ôl,
hon, mewn Cymru wahanol,
hen fudan, sy’n hanfodol.

A dysgu’r wyf: dysgu’r iaith,
dysgu ar garlam famiaith,
dysgu a gwenu ganwaith.

Tudur Hallam 9

5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘af i ddim i’r gwely heno’

Y Glêr
Cefais latte gyda chinio,
amser te ces gappucino,
ar ôl swper, dau espresso:
af i ddim i’r gwely heno.

Osian Rhys Jones yn darllen gwaith Hywel Griffiths 9

Derwyddon

Af i ddim i’r gwely heno
er fy mod i wedi blino,
caf rhyw awr fach ar y soffa.
O! Dim jôc yw’r tymor Εµyna!

Eryl Mathias 8.5

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Hyfforddiant

Y Glêr (ES)
Rwy’n berson proffesiynol, fy CV’n wir sydd lawn,
Fe roddwn wrth ei gynffon atodiad mawr, pe cawn,

I gynnwys yr holl gyrsiau hyfforddi y bu’n rhaid
Cofrestru ar eu cyfer a’u cwblhau yn haid,

Fel na fai sΕµn fy enw yn agos at y top
Pe deuai’n bryd cwtogi ac ailstrwythuro’r siop.

Fe wn na ddylwn regi, na gyrru’n gwisgo Crocs,
Na phlygu cefn, os bydda’i, un dydd, yn codi bocs.

Rhaid cadw pob cyfrinair yn gyfrin, ar fy llw,
Paid galw neb yn ‘minion’ (heblaw mai ti yw Gru).

Mae hiliaeth ronc a rhagfarn a gwahaniaethu’n ddrwg,
A byth ni roddir croeso’n y fangre hon i fwg.

Ond fydda’i, pan ddaw’n wasgfa, ddim ar fy ennill chwaith –
Rwy’ wedi hen anghofio sut ddiawl i wneud fy ngwaith.

Eurig Salisbury 9

Derwyddon

Sylweddolais, rhag fy ‘nghwilydd, fod fy awen braidd yn llac,
bod fy nghanu’n bur anystwyth, dweud y gwir, ddim gwell ‘na chac!

Er mwyn gwella ‘nghynganeddu, odli’n bur, barddoni’r iaith,
rhaid wrth Alan a’i ddysgeidiaeth, fel hyfforddwr ar y daith.

‘Nes ymdrochi’n holl gyfrolau, Dic yr Hendre, Guto’r Glyn,
dadansoddi awdlau’r ‘Steddfod, hyd yn oed rhai Ceri Wyn!

Ymestynnais i fy ngeirfa, yna’i threfnu fel jig-so,
gwthio ansoddair i’w radd eithaf, cyflythrennu dro a thro.

Llunio llinell, -(heb orffwysfa!), gweithio’r Groes, a’i thynnu’r Lusg,
rhedeg Traws a’m ceg yn fantach, codi’r Sain wrth wella’r ddysg.

Curo’r llawr â blaen fy mhastwn, cadw’r rhythmau’n lân a chlir,
codi’r cyffro fesul pennill, rhupunt byr yn rhupunt hir.

Martsio ‘mlaen ‘da’r englyn milwr, creu toddeidiau di-ben-draw.
cyfri proestups a sillafau, ar fy adrodd ni fu taw.

Wrth i’m fesur corff fy ngherddi, teimlo’n nhafod yn cryfhau,
driblo dros fy Odliadur, nid oedd popeth yn ddi-fai!

Cerddi gwych sydd nawr yn llifo, o’r hyfforddi manwl hyn,
-am gywyddau mor gyhyrog, a’m henglynion nawr mor dynn!

Poni chlywch fy ngeiriau’n canu? Poni welwch fi’n y sêr?
Dringais lan at safon Gerallt, edrych lawr ar rwtsh y Glêr!

Llyr James 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd – Ym Mhumsaint y mae amser

Y Glêr

Ym Mhumsaint y mae amser
I wΕ·r fferm gael hir affêr

Eurig Salisbury

Derwyddon

Ym Mhumsaint y mae amser
I gael hwyl wrth guro’r Glêr

Llyr James 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Dieithryn

Y Glêr (ORhJ)

Cyn mynd yn ôl am y car
a chyn machludo diwrnod hir, hir
yn ffroeni’r awel a’r heli,
yn trochi’i draed yn ofalus
yn y dΕµr, yn nwylo’i dad,

cyn tro’r llanw, oedwn
i weld cymaint o haul
sy’n ei wên a chyrliau’i wallt:

“Tynna lun.”
“Mae o fel ei fam.”

Ond lle bu ceriwb mae corwynt
y dyflwydd dieflig:

Mae o isho chips.

Dacw heddiw’n gorweddian
yn fflat ar y graean
mewn maes parcio’n cicio’i goesa,
a’i ‘naaaaa!’ yn gri, yn tynnu’n groes.

Dyma fo yn fo ei hunan.

Osian Rhys Jones 10

Derwyddon

… a gyda’r ‘bwmp’, daeth y sbri,
penwythnosau Farrow and Ball
a dodrefn Scandi;
bywyd yn ara’ newid siâp
a dwylo di-ri yn cymeradwyo
blodeuo bol;

naw mis o ddisgwyl-ddarogan
lliw llygaid a gwallt,
a dychmygu gwedd;

ond saif nawr, trwy gresendo’r gri,
ar drothwy parlys noson arall,

a’i masg yn llithro …
… llithro a llithro
gan lyncu llais pob si-lwli,

dim ond osgoi

osgoi syllu dros ymyl y cot,

a pheidio â’i adnabod.

Jo Heyde 10

9 Englyn: Draenen

Y Glêr (HG)

Fe gaf, er trasho’r goron – a gwadu
ei phigiade llymion,
i lawr yn y malurion
wrth fy nhra’d, bigiad o bo’n.

Hywel Griffiths 9.5

Derwyddon

Ofer i mi’r offeren, - ac eto,
yn hen gwt digrachen,
O! Iôr, mae eco’r Amen
yn driw ynof, fel draenen.

Tudur Hallam 10