Cerddir Rownd 2 2024
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Nodyn i’r Rheolwr Banc
Beirdd Myrddin (AE)
O’r Coch i’r Du
Ers imi gael eich llythyr
daeth mwy o filiau lu
a bellach fe gytunwyd
i werthu’r Llyfr Du.
Pe talai boi’r Bodlean
ei ffein dychweliad hwyr,
hen ddigon fyddai gennym
i gyfro’r biliau’n llwyr.
Aled Evans 9
Glannau Teifi
Trydar- nodyn at reolwr banc hsbarclloyds
Annwyl bot, pwy bynnag wyt ti,
Cwyno rwyf nad oes lle imi
Fenthyg arian na allaf fforddio
Gan nad oes banc ar gael ym Mhenfro!
Elfed Evans 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘creu’
Beirdd Myrddin (JGJ)
Er rhoi tâl i ail-greu tΕ·
nid tâl all ail-greu teulu.
John Gwilym Jones 9
Glannau Teifi
Mewn byd sy’n creu amheuaeth
O’r gwir, yr ydym mor gaeth.
Geraint Volk 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n wir mai ffolineb yw betio’
Beirdd Myrddin (EP)
Mae’n wir mai ffolineb yw betio
ar geffyl neu gi neu ar focsio,
mae’n fusnes mor ddrud
a’r gwir yw o hyd
mai’r bwci sy’n glyd a diguro.
Eleri Powell 8
Glannau Teifi
Beirdd Myrddin a ddaw yma heno
â’u harian ar allu ein curo;
ond un peth sy’n glir,
fe’i gwelant cyn hir –
mae’n wir mai ffolineb yw betio.
Terwyn Tomos 8.5
4 Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 12 a 15 llinell): Ymwelydd
Beirdd Myrddin (GR)
Billy Boston, adeg dadorchuddio cofeb ym Mae Caerdydd llynedd
Billy ei hun sy’n nesáu
at gofeb a’r wynebau;
estron yw Boston i’r Bae
a’r triawd herio’r trowynt,
onid breuddwyd bro oeddynt.
Un o’r cei yr henwr cynt
cyn i warth gwlad fy nhadau
ar y galon hirgron iau
ymyrryd â’i dymhorau.
I derasau bu’n drysor
â stΕµr asgellwr ei sgôr
trwy’i Wigan alltud rhagor.
Ar lechen ein seren sydd,
â’i rif; a ddaw du’r efydd
i gelu’r hen gywilydd?
Geraint Roberts 9
Mae cofeb ym Mae Caerdydd yn coffáu cyfraniad 13 o chwaraewyr croenddu’r ddinas bu’n chwarae rygbi’r gynghrair yng ngogledd Lloegr pan oedd eu datblygiad yng Nghymru yn cael ei rwystro gan liw eu croen. Dewiswyd tri i gynrychioli’r grΕµp ar y gofeb, sef Clive Sullivan, Gus Risman a Billy Boston. Billy Boston, fydd yn 90 oed eleni, yw’r unig un o’r tri sy’n fyw ac oedd yn bresennol yn y dadorchuddiad llynedd.
Glannau Teifi
I greu hafoc, heb gnocio,
un drwg ddaeth heibio am dro
â’i fraw’n tywyllu’r holl fro.
O’i gês, yn driciau i gyd,
creodd hunllef o glefyd,
o boen ac o newid byd:
i weddi a nodwyddau
a’r nôl a mlân am sganiau -
heb rym, ond gobeithion brau.
Wedi sbel fe ffarweliodd
a chwa hwyliog ddychwelodd
â’r haul, a’m hiechyd yn rhodd.
Yn yr hwyl, er bod yn rhydd
o’i boeni, ofnaf beunydd
y dychwel yr ymwelydd.
Nia Llewelyn 8.5
5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Es i’r dre ddydd Sadwrn Barlys’
Beirdd Myrddin
Morwyn yn siarad
Es i’r dre ddydd Sadwrn Barlys
a chael ern gan Jones Llwyndyrus;
ond fe golles fwy na’r ern
ger Penparc ’da Wil y Wern.
Eleri Powell 9
Glannau Teifi
Es i’r dre ddydd Sadwrn Barlys
Caseg winau wrth fy ystlys,
Cerdded adre wedi’n ffrwyno
Gan ryw roces o Sir Benfro.
Elfed Evans 9
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Dargyfeiriad
Beirdd Myrddin (AE)
Wrth fynd i’r gwaith un bore a’m bryd ar groesi’n syth
roedd arwydd melyn haerllug yn hela fi i’r chwith.
Y twll fu ‘na ers degawd oedd bellach rhwng deg côn
a Chadw wedi’i restru, wel dyna oedd y sôn.
Roedd hwn yn dwll arbennig, y dyfna’ fu heb os,
yn fwy o dwll mae’n debyg na phentre Dinas Cross.
Daeth Clarc y Wyrcs yn bwysig ac meddai gyda gwên,
“fe lenwn ni y twll ‘ma a gweithie mawrion llên”.
Dau gopi Ynys Fadog whilberwyd o dan straen,
Y Briws gas ei fforcliffdio i ‘muno gyda’r rhain.
A dyna sut ddatryswyd y tylle ym mhob plwy -
eu llenwi â llenyddiaeth does neb ei heisie mwy.
Pob copi o Gof Cenedl ar silffoedd y Llyfr Gen
a aeth i lenwi ceudwll tu fas i’r Efailwen.
Cyfrole o’r Ddesg Lydan a roed i ledu’r lôn
a chodi pont fawr newydd rhyngom ac Ynys Môn.
Fe wagiwyd Castell Brychan, cas Roced le i’r Myrc
pan ddodwyd y Cydymaith i lenwi twll yn Chirk.
Ein llên a ail-bwrpaswyd, gwaredwyd llyfrau fil
a ni a'n dargyfeiriwyd hyd hewlydd llyfnion, cul.
Aled Evans 8.5
Glannau Teifi
Ganllath o gopa’r mynydd, dechreuodd yr holl ffys,
O edrych nôl ar hynny, se-i’n lot gwell bod ar fys.
O gyrraedd lawr sha’r dyffryn, a ninne wir ar frys
Fe welsom arwydd anferth bod hewl ar gau! ‘Na chwys!
Rhaid llywio’r car i’r ddehau, yn lle go iawn i’r chwith
A lincdi-loncian rhwng dau glawdd â’r canol-yn-sglein dan wlith.
Chi’n gweld, mae’n noson Talwrn a’r car â’i lond o feirdd,
Pob un â’i boced ddwfwn yn gist o eiriau heirdd.
A ‘llyw’ y tîm sy’n llywio – y nafigetor craff
Ond rhoddodd ffling i’r mapiau – a nawr ’sdim neb yn saff!
O bwmp i bwmp fe herciom, heb betrol (ond tam’ bach);
Sdim ots – mae garej fan’co, a mas â phawb mewn strach
Heblaw myfi, sy’n gyrru; fe lanwes hyd y top,
Mynd mas yn fras i dalu, ond OW! Fe ddes i stop.
Sdim cerdyn banc yn trigo’n fy mriffcês barddol i
Ac ar y ffordd ddiarffordd, sdim neb yn-‘y-nabod i.
Wel, pwy oedd yno’n handi, ond Ceri Wyn ei hun –
Fe dalodd am y cyfan; ‘na ffeind yw ein Meu-ryn.
Ond wedyn fe ddealles, wedi’i ni golli’n gôl
Bod dargyfeiriad eto, un waeth, ar y ffordd nôl..
Nerys Llewelyn Davies 8
7 Ateb llinell ar y pryd – Yn Nhafarn Jem fe rown jin
Beirdd Myrddin
Yn Nhafarn Jem fe rown jin
A’ mola fydd fel melin
Geraint Roberts
Glannau Teifi
Yn Nhafarn Jem fe rown jin
Un mawr yn dâl i’r Meuryn
Terwyn Tomos 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Lleidr
Beirdd Myrddin (LL)
Clefyd Parkinsons
Rwy’n cofio sylwi’r tro cynta …
trwco cwpanau coffi
a d’un di’n dirgrynu.
Dala dy lygad am eiliad,
gweld mwy, dweud dim,
ond cadw’r ddysgl yn wastad.
Ac yna’r tro nesa,
â chwrs dy ras
wedi’i bennu erbyn hyn,
fe ddest â’th gamau simsan,
i’r oed “dal i fyny” i wadu,
i oddiweddyd pob dim.
Ond heno, er sicred dy go,
heb eiriau’n geiniogau
i’w ffeirio rhwng dau,
mi glywaf yn dy lyged
dy gadw-mi-gei’n gwagio …
er nad ti agorodd y clo.
Lowri Lloyd 9.5
Glannau Teifi
Ni’n dau, hi a fi, y ddau ieuengaf, oedd y ffrindiau,
yn cyd-chwarae, cyd-gerdded llwybrau,
a chyd-gynllwynio i wylltio’r lleill,
wrth fwydo’r cΕµn a’r cathod gyda’n gilydd
a gyrru Mam o’i cho’.
Ni’n dau a rannai gyfrinachau, a hwyl, ac ambell gynnen,
a’u cwato oddi wrth y gweddill,
am eu bod nhw’n hΕ·n na ni.
Ond, cyn i’r miri aeddfedu, cyn iddi orffen tyfu,
fe giliodd hi i’r gwely swrth hwnnw,
yn rhy bell i allu rhannu dim.
Peidiodd y chwarae, a’r cyd-greu a phob cyd-ddeall,
ac eithrio mewn un wên olaf, ddisglair,
cyn troi ei phen, a mynd.
Ni wn i pa lwybrau a’i disgwyliai, nac ymhle;
ond gwn i’n hatgofion gael eu cipio
cyn erioed eu creu.
Terwyn Tomos 9.5
9 Englyn: Enfys
Beirdd Myrddin (LL)
Ffydd
Er i'r storm fod yn ormod - yn anterth
ei gwyntoedd rwy'n gwybod,
ar gynfas caf ddarganfod
un don o baent nad yw'n bod.
Lowri Lloyd 9.5
Glannau Teifi
Heddiw, taenwyd y lliwiau yn wylaidd
o balet y duwiau;
yno’n gain, mae’r bwa’n gwau
ei ledrith yn belydrau.
Nerys Llewelyn Davies 9