Cerddi Rownd 1 2024
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Arwydd neu boster mewn ysgol
Y Glêr (ML)
Dim cecru brwnt na gweiddi
ar gae pêl-droed eleni,
dim ffeits na phinsio’r croen yn wyn –
chi’n clywed hyn, rieni?
Megan Lewis 8
Tanau Tawe
Ein llongyfarchiadau gwresoca’
I bawb a gyfrannodd i’rn ddrama,
I Steddfod yr Urdd
A phob cynllun gwyrdd ;
Anghofiwn am sgôr y prawf PISA
Robat Powell 8
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘cacen; neu ‘teisen’
Y Glêr (HG)
Wfft i Amser! Oherwydd,
Mae blas ar gacen ben-blwydd
Hywel Griffiths 8.5
Tanau Tawe
Ein hafan ar ôl llefain
Oedd y wên yn nheisen Nain.
Elin Meek 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Un noson gerllaw Bancyfelin’
Y Glêr (HG)
Un noson gerllaw Bancyfelin
Daeth dyn bach o ardal Penblewin
I gynnal affêr
’Da gwraig o San Clêr,
Mae’n beth, ebe rhai, reit gyffredin.
Hywel Griffiths 8.5
Tanau Tawe
Un noson gerllaw Banc y Felin
Fe gwrddodd Caradog ag Elin ;
Doedd dim wedi'i drefnu
Ac o achos hynny
Priodson’ yn Swyddfa Caerfyrddin.
Keri Morgan yn darllen gwaith Harri Williams 8
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Storm
Y Glêr (ES)
Efallai fod y blodyn
Bach papur a’r gwydyr gwyn
Ar sìl y ffenest, a’r set
Cwpanau gorau, garet
Yn y to’n bictiwr tawel
Fis i fis, yn union fel
Y dail sy’n harddu bob dydd
Gorneli’r llenni llonydd
Yn y rΕµm ffrynt a’r cyntedd.
Ond i mi, dweud mae dy wedd
Weithiau ei bod hi’n chwythu
Y tu ôl i ddrysau’r tΕ·.
Osian Rhys Jones yn darllen gwaith Eurig Salisbury 9
Tanau Tawe
‘Storm 1839’
Glaw di-daw, a Thachwedd du
Yn llen, ond ni all hynny
Ddiffodd heno’n gwreichionyn
Ar y daith dros Siarter dyn ;
Dilyn trwy’r gwynt, heb lesgáu,
Hen, hen hewl tua’n hawliau,
Ac i bawb dan ddirmyg bydd
Hinon ha’ yng Nghasnewydd.
Ond lluched y bwledi
I’n hystlys a’n herys ni ;
I ddyn, taran sydyn sydd
Yn awyr pob Casnewydd.
Robat Powell 9.5
5 Pennill ymson wrth wasgu botwm
Y Glêr (HG)
Tri pheth sy’n annwyl imi:
Llenydda a diogi,
A bot AI heb chwys na rheg
Yn ennill deg gan Ceri.
Hywel Griffiths 8.5
Tanau Tawe
Os gwasgaf i ei fotwm bol,
A wnaiff e stopio chwyrnu?
... O na! Os rhywbeth, mae e’n waeth;
Gwell mynd drws nesa’ i gysgu.
Elin Meek 8.5
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Y Car Di-yrrwr
Y Glêr (HG)
Er mwyn gallu bod yn llenor cynhyrchiol,
penderfynais na yrrwn fyth eto ar heol
rhwng Mynwy a Môn, a defnyddio’r holl oriau
a wastraffwyd yn canolbwyntio, ar eiriau.
A gan nad oes arian i ailagor y lein
rhwng Caerfyrddin ac Aber, dywedais i, ‘ffein’,
a phrynu modur heb na phedal na llyw,
a gosod fy ffydd mewn technoleg, a Duw.
Cychwynnais am y talwrn gan ymlacio’n y sêt,
heb englyn na chywydd, yn ddigon sidêt,
ac wrth i’r car danio a sbarduno’n drydanol,
gwnes innau’r un peth, ond mewn ystyr lenyddol,
drwy Lanrhystud, Aberaeron a Synod Inn,
a’u trigolion yn rhythu’n hynod syn.
Ond yna ym Mhencader, arafu fu raid –
un dagfa fawr a goleuadau di-baid,
ac arafodd yr awen; i’r dechnoleg yn gaeth,
fe fethais i lunio’r un llinell ffraeth.
A dyna paham rwy’n sefyll mewn hunlle
o’ch blaenau gyda chân nad yw’n mynd i unlle.
Hywel Griffiths 8.5
Tanau Tawe
Gan ’mod i’n yrrwr nerfus ac weithiau braidd yn simsan,
Derbyniais gynnig i gael car i’m gyrrucludo i i bobman.
Ond pur annibynadwy yw’r holl dechnoleg newydd:
Pan fyddaf i am fynd i siop, aiff draw i dΕ·’r Archdderwydd.
Mae’i sgiliau parcio’n erchyll, mae’n gwbl ddiamynedd,
Ac felly rhaid, yn ôl y gΕµr, mai benyw yw’r feddalwedd.
Mae’n gallu bod yn benstiff; mae’n dwlu ar Mr Drakeffordd,
Ond ugain milltir ’r awr o hyd sy’n boendod ar y draffordd.
Mae ganddo duedd bendant i fynd am y Gorllewin,
Gan yrru’n gylchoedd wrth ei fodd rownd cylchdro bach Penblewin.
Un tro, a minnau eisiau ymweld â thre Talacharn,
Fe aeth â fi i gartre bardd o’r enw Tudur Dylan.
Mae’n fflachio’i olau’n wallgof os gwêl feirdd neu brydyddion:
Yn rhyfedd iawn, ni ddaw un fflach wrth fynd drwy Geredigion.
Gwrthoda fynd i’r gogledd; mae arno ofn lorïau,
A fydd e byth yn troi i’r dde, rhag cwrdd â Rishi a’i ffrindiau.
Mae’n dechrau mynd yn feichus, mae’n waeth na gyrru ’n hunan,
Ond cafodd gyfle olaf nawr, cyn mynd ’nôl i’w ganolfan:
Gofynnais iddo’n gwrtais am fynd i le llawn chwerthin –
Dim syniad pam dwi innau ’ma, ym mhentref Bancyfelin.
Elin Meek 8.5
7 Ateb llinell ar y pryd – Hwn o hyd yw ‘mrenin i / Hwn o hyd yw’n brenin ni
Y Glêr
Barry’r werin oedd inni
Hwn o hyd yw’n brenin ni
Hywel Griffiths 0.5
Tanau Tawe
Bu arwyr ond saif Barry
Hwn o hyd yw ‘mrenin i
Keri Morgan 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Llun
Y Glêr (ML)
Does dim lliw iddo, medden nhw,
dim byd ond cilfachau tywyll
yn codi ac yn gostwng am yn ail;
di-ddal yw’r siâp hefyd,
ac mae’r llinellau llipa’n llithro
dan y golau gwanwyn.
Ond nid ‘du a gwyn’ mohono chwaith,
am fod ’na olau yn y llygaid,
rhyw gyffro, rhyw deimlad o d’adnabod
yn y trwyn bach smwt a’r gwefusau main
sy’n dwgyd gwên;
ac mi welaf innau’r awel lond dy wallt,
a grym y mynydd yn dy goesau
sy’n pwnio, yn mynnu
bod y sgwaryn bach du
yn fyd o liw, i ti a fi.
Megan Lewis 10
Tanau Tawe
Mae hi’n gwenu’n swil ar y camera,
Ddegawdau’n ôl,
Pan oedd bywyd yn wledd o’i blaen.
Criw hapus yn cael picnic ar lawnt,
Y gwmnïaeth yn faeth i’r enaid,
A’r sgwrs yn bwydo’r ymennydd.
Ond pigo bwyta roedd hi,
Ei choesau fel rhai dryw bach,
A’i dillad yn llac amdani.
O’i gwên, ni synhwyrai neb ei gwewyr;
Na chlywed ei stumog yn corddi
Wrth iddi encilio, ar ôl tynnu’r llun,
A gwrthod y wledd.
Elin Meek 9.5
9 Englyn: Campfa
Y Glêr (ORhJ)
I wlad a fag aelodau o’i rhengoedd
mae gwir angen sybiau;
i rifo’u hawch a’i chryfhau’n
y meysydd, lle mae’u heisiau.
Osian Rhys Jones 9
Tanau Tawe
O chwysfa ei gampfa gaeth – fe hedodd
I fyd llwyddiant helaeth;
Dileu pob cystadleuaeth
Oedd ei nod, a llwyddo wnaeth.
Elin Meek 9