Main content

Cerddi Rownd 2 2024

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Nodyn i Gasglwyr y Sbwriel

Dros yr Aber
(ar y bin bwyd)
O’r dre ewch â ’mwyd sbâr, drud. O ’ngolwg,
ewch â ’ngh’wilydd hefyd.
O’r cwrb, lluchiwch i’r cerbyd
bydredd gormodedd fy myd.

Rhys Iorwerth 9

Dwy Ochr i’r Bont (GEJ)

Bob tro y byddi’n casglu/ fy magiau duon i,
mi fyddaf yn sbecian/ drwy’r llenni tywyll du.
Ac am dy fod yn gwybod/ dwtsh gormod am fy rybish.
Chei di fyth fy ngweld i / oce? Iawn? Capîsh?
Ond mi wn dy fod yn gwybod / pwy ydw i yn iawn;
yr un sydd yn llwynogi / yn dy finiau bob un pnawn.

Gareth Evans-Jones 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘dad-wneud’

Dros yr Aber

Mae’n plant am orfod codi
a dad-wneud ein llanast ni.

Marged Tudur 9.5

Dwy Ochr i’r Bont (EWJ)

Mae ei “sori” amserol
yn dad-wneud. Mae Dad yn ôl.

Bethan Eirian Jones yn darllen gwaith Elin Walker Jones 9.5




3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi geisiais addasu’n ddigidol’

Dros yr Aber
Mi geisiais addasu’n ddigidol
y rhestr enillwyr cadeiriol
yn llyfr y Cofiadur.
Fi bellach yw awdur
‘Cynhaeaf’, ‘Cilmeri’ a ‘Gwaddol’.

Rhys Iorwerth 8.5

Dwy Ochr i’r Bont (AB)

Mi geisiais addasu’n ddigidol
wrth edrych yn ôl i’r gorffennol.
Ancestry.com
Wel, dyna ’chi siom:
mae ’nheulu fi’n dod o Ffostrasol!

Anest Bryn 8.5

4 Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 12 a 15 llinell): Gohebiaeth rhwng dau

Dros yr Aber
Rhyngof i ac adran gwasanaethau cwsmeriaid

“Annwyl Syr, ymwelais i
â’ch cangen. Er trueni
a gwae mawr, ar gau mae hi.
Yn wan-galon, fe ffoniais
eich llinell: llinell â llais
androidaidd. Trist waredais.
Wyf Iorwerth mewn trafferthion.
Tybed a gaf atebion
neu ryw sens o’r we-sgwrs hon?
Yr oll yr wyf ar ei ôl
yw trafod pwnc penodol –
a hynny â bod dynol.”
“Dear Sir, I am sorry,
you might have written to me.
Online, it’s English only.”

Rhys Iorwerth 9.5

Dwy Ochr i’r Bont (OWO)

Rhwng Keir Starmer a Margaret Thatcher

Nid oes, uwch fy munk bed i
luniau’r sêr ar bosteri.
Na, neb. ’Mond dy wyneb di

â’i haearnaidd drem arnaf
bob bore oer fel cwtsh braf.
Cyn clwydo, d’anwylo wnaf.

A naw wfft am pob grifftar,
nyrsys drwg, tra ystrywgar
sydd isio hawlio eu siâr.

Mewn llais arall:

Brodigy, dwi yn blêsd iawn.
Ag afiaith, gwnest yn gyfiawn
dy hun ar fy llun yn llawn.

Ynot, caf fy ail-eni.
Ond ’toes ’mond un Mrs. T.
yn y wlad. Diolcha di.

Osian Wyn Owen 9

5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Clywais ddweud gan un sy’n gwybod’

Dros yr Aber
Clywais ddweud gan un sy’n gwybod
fod ’na aliens yn y gofod.
Clywais ddweud gan alien wedyn
fod rhai odiach yn Llanuwchllyn.

Iwan Rhys 8.5

Dwy Ochr i’r Bont

Clywais ddweud gan un sy’n gwybod
Na fydd hiraeth byth yn darfod
Ond mae’r ddraenen ddu’n blodeuo.
Blwyddyn arall a aeth heibio.

Elin Walker Jones 9

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Y Brotest

Dros yr Aber (IRh)

Ry’n ni wedi cael llond bola, chi bobl yn ein tre
sy’n cario placards lliwgar gan bregethu be di be.
Fe wnaethom lunio deiseb er mwyn cael cadw trefn
ond protest fu yn erbyn ein deiseb ni drachefn.
Dyna pam ry’n ni yma heddiw, yn sgil eich protest chi,
i brotestio yn eich erbyn am brotestio’n ein herbyn ni.
Beth ’yn ni mo’yn? Gwaharddiad ar brotestio yn ein tre.
Pryd ’yn ni mo’yn e? Wedyn! Ar ôl i ni glirio o’r lle.
Ry’n ni’n credu’n gryf mewn rhyddid i bawb gael mynegi barn
ond rhaid rhoi ffrwyn ar ryddid – ry’n ni’n credu hynny i’r carn.
Os oes gennych farn anghywir, pam ddylech gael dweud eich dweud?
Mae hawl gennym ni i fynegi na ddylech chi gael gwneud!
Pe croesech chi o’ch protest i’n protest ni am brynhawn,
fe welech, o’r ochr yma, mae ein hochr ni sy’n iawn.
Protestio byth a hefyd sy’n hollti’r dre yn ddwy.
Rhowch y gorau nawr i’ch protest, ac o beidio â phrotestio mwy
ni fydd angen ein protest ninnau, ac felly y mae’n ffaith
na fydd angen cael gwaharddiad ar brotestio yma chwaith!
Cawn ymgynnull yn flynyddol, yn hapus a chytûn,
mewn Rali Fawr i gofio y brotest olaf un.

Iwan Rhys 9

Dwy Ochr i’r Bont (AB)

Rhwng planu coed, ail-wylltio a newid tymor ysgol
‘Heb fwyd, heb amaeth’ gym’rish i rhyw ’dwtsh yn rhy llythrennol.

Ond dyna a’m sbardunodd – roedd y ’sgrifen ar y mur.
Roedd rhaid ’mi wneud fel Gwynfor pan ro’th her i’r Fagi Ddur.

“Dwi wedi penderfynu ymprydio hyd farwolaeth
a gwneud fy safiad inna’ i gefnogi y byd amaeth

Gan ddechrau arni rwan hyn,” dywedais ar un gwynt
Heb feddwl mod i heb gael pryd o fwyd ers diwrnod cynt.

Dechreuais deimlo’n llwglyd ar ôl cwta awr a hannar,
Hallucinations rif y gwlith a ’nhalcan yn chwys laddar.

Mi fethais ddweud gwahaniaeth rhwng y pethau yn fy mhen
A’r lluniau welais i yn hwyrach ’mlaen ar News at Ten.

Wir yr, wrth i mi eistedd lawr a syllu ar y sgrîn
fe gododd gwraig o Bonty i fyny’r nefoedd wysg ei thin.

Mi wyliais Cân i Gymru, a gweld rhifau i bleidleisio
dwi’n siwr mai rhith oedd hynny achos doedd ’na’m un yn gweithio.

Pan welais ddau gan mil mewn doji-dîlings gan y Gething
mi benderfynais yn syth bin – this lady IS for turning.

Gefnoga’ i chi gant y cant, ond ’di’r llwgu ddim i mi.
Os bydd ’na brotest arall ddoi â dau focs bwyd ’fo fi!

Anest Bryn 9

7 Ateb llinell ar y pryd – Yn ein hoes nid oes ond un

Dros yr Aber

I’r Eryrod dod wedyn
Yn ein hoes nid oes ond un

Rhys Iorwerth

Dwy Ochr i’r Bont

Yn ein hoes nid oes ond un
Arwr – dw i’n lyfio’r Meuryn!

Osian Wyn Owen 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Llaw

Dros yr Aber (MT)

Dwi’n dy weld di rΕµan,
ar greigiau Porthdinllaen
yn chwarae tag efo’r tonnau,
mynyddoedd Wiclo yn fframio’r gorwel
a chdithau’n dweud â hanner gwên:
‘taswn i’n rhoi fy mraich allan rΕµan
mi fyswn i’n gallu cyffwrdd ysgwydd Gwyddel’.
Finnau dy gynffon fach yn dy gredu.
Yn fuan wedyn mi ddysgais am y lastig
sy’n tynnu ar ymylon straeon
a thorri.
Heddiw ar Log na Coille
mae’r glaw’n chwipio drwy fylchau fy nghôt
a dwi’n gweld dim drwy’r niwl
ond yn agor map fy meddwl
i ymestyn dros y môr tuag adra.
Am eiliad, rhwng anadl y gwynt,
mi daerwn i ti gyffwrdd blaenau fy mysedd.

Marged Tudur 10

Dwy Ochr i’r Bont (MD)

Genesis 3:25

Cydiodd yn y chwyn i ddechrau:
rhwygo’r drain a chodi gwreiddiau’r ysgall,
eu hysgwyd wedyn nes bod briwsion pridd
yn tasgu fel bendithion dros y lawnt.

Penliniodd lle bu’r tyfiant:
cribodd y llawr â’i hewinedd
a rhwbio talpiau o gompost fel eli i’r ddaear
gan offrymu iddo wrtaith ac esgyrn mâl
yn llwch i’r lludw.
Cloddiodd y cerrig â’i chledrau noeth
a rhidyllu’r gro mân rhwng ei bysedd.

Ac wedi trin y tir,
wedi cenhedlu ail i Eden,
tyllodd, â’i bawd, bantiau bychain a chladdu
bylbiau Tiwlips, Cennin Pedr a Chlychau Dulas
yn fêl ac yn felltith, cyn codi o’i chwrcwd
a gwahodd y gwanwyn i gusanu’r ardd.

Manon Wynn Davies 10

9 Englyn: Sach

Dros yr Aber (CE)
(Mae 13,800 o blant wedi marw yn Gaza yn ôl Achub y Plant)

Mae’r rhyfel dwtsh tawelach ar y we,
a straeon amgenach
yn torri. Rhy fud, hwyrach,
yw’r sachau o bethau bach.

Iwan Rhys yn darllen gwaith Carwyn Eckley 10

Dwy Ochr i’r Bont (EWJ)

Fy handbag

Fy walet (yn wag eto!) - ffrwcs a fflwcs
a fflýff, a deg beiro,
hen dishws wedi’u hiwsio,
hosan sbâr, a switsen, sbo!

Elin Walker Jones 8.5