Cerddi'r Chwarteri
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Neges yn gwrthod rhodd
Tir Iarll
Diolch am iti anfon
Odliadur ata i,
Ond wir, dwi ddim ei angen,
Dwi’n gallu odli’n iawn.
Aneirin Karadog 8.5
Ffoaduriaid (GWD)
Pan ddaw'r un bach â'i offrwm
o weddillion tost a jam,
'dyna dda!' meddaf gan wenu,
'dos i'w ddangos o i Mam!"
Ond dyma sylwi ymhen dim
fod plant yn tyfu'n sydyn;
mi garwn llnau ei dost a jam
nawr nad yw ar fy ngofyn.
Gethin Wynn Davies 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw bêrlysieuyn
Tir Iarll
Ni all basil, dil, na Duw
wella coginio Elliw.
Aneirin Karadog 9
Ffoaduriaid (GE)
Pa fardd helpgar sy'n caru
estyn thyme i’r stiw'n y tΕ·?
Dyfan Lewis yn darllen gwaith Gwennan Evans 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n stori wahanol eleni’
Tir Iarll
Ces ddigon ar hen stori’r Geni…
Mae’n stori wahanol eleni:
Fe ddaw dau Feseia
I achub ein noddfa,
Sef Ryan a Rob McElhenny.
Emyr Davies 8.5
Ffoaduriaid (GO)
Ffoaduriaid:6 Tir Iarll: 0
“Mae’n stori wahanol eleni.”
medd mawrfeirdd Tir Iarll braidd yn coci
ar ôl iddynt golli
a cholli a cholli
a cholli a cholli a cholli.
Gruffudd Owen 8.5
4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘I’r sêr, yn ofer, mi wnes i ofyn’
Tir Iarll
I’m ffrind a fu farw am 5 o’r gloch y bore 7.6.24
I’r sêr yn ofer mi wnes i ofyn
a gawn i awr? Ennyd? Gawn i ronyn
gwerth rhychwant f’amrant, dim ond rhyw fymryn
cyn i’w haul ein gadael, ’mond llygedyn
yn hwy? Ond nid berf yw ‘terfyn’ - enw,
hen air gwelw fel ‘amser’ a ‘gelyn’.
Mererid Hopwood 10
Ffoaduriaid (GO)
I’r sêr yn ofer mi wnes i ofyn,
“A ddaw o’n ei ôl? A fydd hen elyn
â’i ddawn llwynogaidd yn llenwi hogyn
â gofid dirfawr gofod diderfyn?
Ddaw o i ail hawlio’i ddyn – os y bydd
yn rhy ddedwydd?” Daeth distawrwydd wedyn.
Gruffudd Owen 10
5 Epigram Dychanol (rhwng 4 ac 8 llinell)
Tir Iarll
Paid dwyn syniadau eraill,
Llunia dy waith dy hun
Fy nghyfaill groyw loyw,
Fy enaid hoff cytun.
Tudur Dylan Jones 9
Ffoaduriaid (GWD)
Dwedwch fawrion hollwybodus
sut i'm gwneud yn llai anghofus.
Dwedwch fawrion hollwybodus
sut i'm gwneud yn llai anghofus.
Gethin Wynn Davies 9
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Y Siop Berffaith
Tir Iarll
Fe ganaf gân i Desco
Fy nod wythnosol yw,
Cans dysgu mynd i Desco
Yw dysgu sut mae byw.
Dewisa di dy droli…
Pwy Εµyr pa reswm pam,
Y troli a ddewisi
Yw’r un â’r olwyn gam.
Fe fyddi’n cwrdd â phobol
Na fynnet gwrdd â hwy,
A chwrdd â hwy yr eildro
A wnei mewn eil neu ddwy.
Ar hyd yr yrfa droellog
Fe bryni bethau ffôl,
A bydd y peth pwysicaf
I’w gael saith eil yn ôl.
Wrth fynd i dil i dalu
Rhaid iti ddewis ciw…
Hwn fydd y ciw arafaf
Yn hanes ciwiau Duw.
Emyr Davies 9
Ffoaduriaid (LlM)
Fe es i a fy nghariad, un diniwed ar y naw
i'r sex shop yng Nghaerfyrddin, Stryd y Castell, 169.
I unrhyw un a welodd fi, y fo oedd isio mynd.
(I unrhyw un a'i welodd o, roedd o'n siopa dros ei ffrind).
Roedd o'n pwyntio ac yn holi, "be gebyst ydi rhain?"
Maen nhw'n hirach (ac yn lletach) na thrwyn ein bwgan brain.
Mae o'n eitha... Traddodiadol, er ei fod o'n un o'r bois.
Gwell gan ffarmwrs sdicio at dractors pan ddaw hi at chwarae ‘fo toys.
Felly dyma'i addysg bellach, mewn sex-shop Gymreig ei naws.
Dyma sut i blesio dynas, can mil ffordd i'w wneud yn haws.
Mae na chwip jyst i feirdd yn fama, (i’r rhai cinci iawn eu chwaeth,)
Mae hi’n clecian mewn cynghanedd i chi ffans y ‘cerddi caeth’.
Ac os wyt am fynd i Steddfod, dyma tisio, ar fy llw;
Crotchless panties perffaith Ponty i gael iwsio portalΕµ.
Props dawns werin a uwchgylchwyd sydd draw fanna yn y gornel
Dyma gannwyll i ti'w rhoi lle nad yw cannwyll yn ddiogel.
A dirgrynion telynorion yw rhain, os sgen ti chwant
I wneud dy ddannedd glecian tra'n cyflwyno dy gerdd dant.
Mi ddaeth adre gyda bagiau trwm, a llygaid llawn o sbarc
Os ddysgith ddigon cyflym, bydd o’n siwr o gael deg marc!
Gruffudd Owen yn darllen gwaith Llio Maddocks 8.5
7 Ateb llinell ar y pryd – At Taylor Swift halais i
Tir Iarll
At Taylor Swift halais i
Wahoddiad i’n tîm heddi
Mererid Hopwood 0.5
Ffoaduriaid
At Taylor Swift halais i
Naw wfft cans nis wyf Swiffti
Gethin Wynn Davies 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cam
Tir Iarll
Doedd fy nhraed ddim yn gweithio
heb dy ddwylo, ddim heb dy lais
yn eu gwthio ymlaen
ac ymlaen, dy gân fel ffon gerdded
yn fy nhywys trwy ddryswch
y camau cyntaf,
yn fy hebrwng ar hyd lolfa
rhy enbyd o igam-ogam – cyn
gadael fynd yn llwyr. Tri, dau, un ...
Ddoe torraist dy glun ar lawr
y sbyty, a doedd neb yno
i’th ddal. Mae cleisiau’n cropian
lan dy lawes. Tiwb yn gorffwys
fel dymi yn dy geg. Rwyt ti’n fach
a’r ward yn fawr. Dydy dy draed
ddim yn gweithio dim mwy.
Mererid Hopwood yn darllen gwaith Gwynfor Dafydd 10
Ffoaduriaid (DL)
Ond beth wedyn am yr eiliad honno
pan fo'r angen am benderfyniad
yn ymddangos heb rybudd,
dy weithredoedd yn arwain at gwestiwn
nad wyt ti'n sicr o'i ateb;
pan wyt ti'n teimlo bywyd yn digwydd,
yn profi ei gyfyngiadau a'i fudiant,
a pha mor syml a chreulon yw treigl amser?
Daw cawod heibio, a dyfrio'r ardd.
Mae bywyd yn rhoi.
Rhywben fydd angen ei chwynu,
tynnu'r iorwg a thwtio'r wal,
cyneafu'r cyntaf o'r mefus.
Ac weithiau, y llwyddiant pennaf yw parhau,
canfod yr ewyllys i ymserchu
neu ddweud rhyw weddi fach,
a gweld bod fory'n gam.
Dyfan Lewis 10
9 Englyn: Diod
Tir Iarll
A gwên, drwy’r oriau gwynnaf, - dyna hawdd
dweud ‘Na’, ond pan geisiaf
ddianc o’r hunlle dduaf,
i fod yn well, yfed wnaf.
Tudur Dylan Jones 9.5
Ffoaduriaid (GO)
Edrych drwy waelod gwydryn – a wnai o
arna i ers tipyn.
Aeth peint hwyliog yr hogyn
yn geudod di-waelod dyn.
Gruffudd Owen 10