Cerddi Rownd 1 2024
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Datganiad o Ddiffyg Hyder
Y CΕµps (DJP)
Polisi yswiriant enwog Mark Drakeford.
Dyna ddigon! Bodlonwn ar ein siâr,
rwy'n siwr y cytunwn
nad oes ots; pam cadw sΕµn?
Yn dalog ymdawelwn.
Dafydd John Pritchard 9
Twtil (BWR)
’Snam byd dwi’n gasau fwy na ychwanegu ‘io’ i air i’w Gymreigio.
Go wir, dwi’n heitio fo. Dwi’n wondro pam bo ni’n gneudo?
Na dwi’m yn cwyno, nai fyth gywiro. Ti’n cytuno? Sut ti’n teimlo?
Be os neith neb shareio fo? Ella bofi’n overthinkio…
Postio ta drafftio?/ Ddoi nôl ato eto.
Buddug Watcyn Roberts 9
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw safle mewn tîm rygbi
Y CΕµps (HME)
Cae arall yw hwn, Ceri,
Ond hen ganolwr wyt ti.
Huw Meirion Edwards 9
Twtil (SP)
Ar gae mae’n beryg i Εµr
rwbio bochau ’da’r bachwr.
Steffan Phillips 9
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Annheg yw beirniadu acenion’
Y CΕµps (GW)
Annheg yw beirniadu acenion.
Na, eu diffyg yw gwraidd fy nhrafferthion.
Fe es i GaersΕµs
I adfer yr -Εµ-s:
"You've got a screw loose", mynte'r plismon.
Geraint Sion Williams 8
Twtil (SP)
Annheg yw beirniadu acenion,
mae’n well i addasu arferion.
Sa’i bellach yn ‘ffeito’,
Na, rΕµan dwi’n ‘cwffio’.
Dwi’n ffitio reit mewn yn Ga’narfon.
Steffan Phillips 8.5
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ffilm
Y CΕµps (HME)
Ymateb llefarydd Llu Amddiffyn Israel, yr IDF, i ffilm gan ITN o Balesteiniad yn cael ei saethu’n farw ar y stryd, er ei fod yn chwifio baner wen.
Baner wen? Be wnaen-ni? Rhaid
Inni herio anwariaid.
Trown eu hannedd yn feddfaen;
Lygad am lygad, ymlaen
Â’r sielio, er y sialens
I’n parhad drwy lygad lens.
Dyna’n hawl, i’r diawl â’ch deddf!
Hawl ein cenedl a’n cynneddf
Yw amddiffyn ein hunain,
Ennill hedd rhwng Glan a Llain.
Ar bob sgrin mae’r drin yn drwch –
Drwy’r lludw y darlledwch.
Huw Meirion Edwards 10
Twtil (MA)
Dros dref a thirwedd heddiw,
hed y drôn ar annel driw
i ddal pob siâp a mapio
toeau a bryniau ein bro.
Ond sïon sydd heno’n hel
yn euog ar yr awel,
nes fod celwydd yn chwyddo
i droi pob llun yn ei dro
yn dwyll, yn ffuglen sy’n dal
ein heneidiau anwadal.
Y rhai sy’n llunio’r straeon
ydy’r rhai tu ôl i’r drôn.
Manon Awst 9
5 Pennill ymson athro neu athrawes piano
Y CΕµps (GW)
Breuddwydiaf, yn aml, am hawlio'r llwyfan,
Am hudo â lledrith Mozart neu Chopin...
Hunllefus yw deffro o hynny i sΕµn
Un bys yn llofruddio Au claire de la lune.
Geraint Sion Williams 9
Twtil (BWR)
Dy broblem bennaf yw’r byseddu,
Ti’n methu’n lân â ffeindio’r G.
Waeth be’ am Do a Re, tyd â Mi i fi!
T’laen gwna’ i’r coesa’ pren ’ma grynu,
Waldio rhwng waliau tenau’r tΕ·.
A dyna fo, ma’n darfod eto;/ Sesiwn arall o orfod smalio,
A finnau meddwl unwaith eto,/ Be ‘di pwynt rhoi gwersi piano?
Buddug Watcyn Roberts 8.5
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Y Llinell Biced
Y CΕµps (RAJ)
Phil y Fet fu’n arwr i anifeiliaid lu
Seleb y da a’r defaid, yn nawddsant ffwr a phlu.
Ar ôl pymtheg cyfres nid oedd mwy i’w ddweud.
Ond mynnodd Phil bod rhagor, a’r sianel gath ei gwneud.
Ac wrth i’r creaduriaid gogio’u bod nhw’n sâl
Fe dyfodd cyfoeth Philip, wrth iddo fynnu tâl
O goffrau prin y Sianel, (bu sôn iddo brynu siwt
Ar draul holl lafur cariad yr anifeiliaid ciwt).
Llusgodd pob creadur yn ôl a blaen heb raid:
Ceiliog fethai glochdar, cwningen heb ei naid,
Mul nad oedd yn mulo, crwban â chyflwr croen,
Dysgodd ddefaid actio eu bod yn geni oen.
Rhoddodd ambell lama ei geilliau ar y lein
A’r lama drama druan, yn gyfan gwbl ffein.
A’r creaduriaid annwyl, heb geiniog goch gan Phil
Gododd mewn gwrthryfel a chyflwyno’u bil.
Ond gwrthod wnaeth y Cardi a phethau drodd yn gas
A nawr mae llinell biced Orwelaidd iawn tu fas.
A hawliau anifeiliaid sydd ar newyddion naw
‘Ffi i’r ci a’r gath run fath!’ ‘Codwch ni o’r baw!’
Rocet Arwel Jones 9
Twtil (IT)
Wrth ddychwel o’r feithrinfa yn fore ar fy meic
mi benderfynais: ‘heddiw, dwi’n mynd i fynd ar streic’.
Y cyflog sydd yn warthus, am bensiwn nid oes sôn,
does gen i ddim cytundeb call; dwi’n talu am fy ffôn.
Bob dydd dwi’n bwyta ’nghinio yn gyflym wrth y sgrîn
yn cnoi ar sbarion echdoe tra’n sgwennu e-byst blin,
Ni wn i ystyr llesiant, dwi’n welw fel y calch,
anghofiais ers blynyddoedd sut beth yw teimlo’n falch.
Ac mae’r cyfan braidd yn benbleth; ydi wir, achos
fy mod i’n gweithio’n llawrydd, a fi fy hun yw’r bos.
Bu cyfarfod yn y lolfa, lle caed areithiau lu;
yr angerdd oedd yn tanio dros gyfiawnder gweithle’n gry.
Rhois sein ar fwrdd y gegin, lle byddaf wrth fy ngwaith
yn dweud NA CHROESA’R LLINELL – PAID MEDDWL AM WNEUD, CHWAITH!
Parediais ar y grisiau, rhois faner ar y to
ac er mwyn dal i ddal fy nhir, gwrthodais fynd am dro
ond fy mysedd oedd yn cosi erbyn toc cyn un
a chan mai fi yw’r undeb, ces ddadl â mi fy hun.
Ochneidiais a griddfanais, ond ar ôl nôl kebab
es nôl i’r ddesg i sgwennu, a galw’n hun yn sgab.
Iestyn Tyne 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Yn y sgrym fe glywais gri
Y CΕµps
Peidiwch ymhel â mheli
Yn y sgrym fe glywais gri
Geraint Sion Williams 0.5
Twtil
Yn y sgrym fe glywais gri
Ew hwyl yw gwasgu peli
Manon Awst 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Pen-blwydd
Y CΕµps (DJP)
pen-blwydd
sut mae deud hyn
o weld y wên oedd
ar ei hwyneb yma y
tu allan i'r siop
mae'n amlwg mai hwn
oedd yr union beth
yr hoelen ar ei phen
yr anrheg perffaith
diwedd ymbalfalu
roedd hynny'n bwysig
mae hynny'n bwysig iddi
iddi hi bydd hynny'n bwysig
ac mae'n bwysig mod i
wedyn yn deud
hynny'n iawn
Dafydd John Pritchard 9
Twtil (TBD)
Cofio Aphra Behn, pedwar canrif ers cyhoeddi ffolio cyntaf Bardd Avon.
Dros hen bren ei desg mae hi’n crymanu,
a storm hyll yn taro bochau’r ffenest draw,
gwynt o gymeradwyaeth yn llenwi llwyfannau
a’r Bardd yn prysur feddwi ar law ei eiriau
ar gornel y stryd gerllaw.
Ond dan do mae hi’n dal i grymanu, i sgwennu,
i gyffroi’r clymau o lawysgrifen
sy’n arllwys o’r toeau i’r tudalennau,
ei thasg i’n dysgu ni, blant Gwerful a Sappho
i grafu i’r ddesg ein diweddglo ein hunain,
rhedeg berfau ein bywydau
yn unrhyw weithred a ddymunwn.
Uwch ei phen, mae nenfwd gwydr yr awyr
yn hollti dan fellten.
Tegwen Bruce-Deans 9
9 Englyn: Meithrinfa
Y CΕµps (HME)
Er i gryman galanas – noethi’r tir
Yn grateri eirias,
Llechu, mwy, yn llwch Hamas
Mae hadau Intifadas.
Huw Meirion Edwards 10
Twtil (IT)
diwrnod cyntaf
Hen genfigen a fagaf yn y doc,
a’i dal. Gall i waethaf
y tonnau hyn os tynhaf
golli’i hangor. Gollyngaf.
Iestyn Tyne 9.5