Cerddi Rownd 1 2024
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Eitem Ola’r Newyddion
Caerelli
Mae llefydd ar y lleuad,/ a’i henwau sy’n ddatganiad.
Môr Ynysoedd, Ceudwll Yuri,/ Dyffryn Bohr, Mynyddoedd Sechi.
Planedau eraill yn eu tro,/ sydd wedi troi at enwau’n bro.
Ar Fawrth a’i diroedd rhydlyd,/ mae enw lleol hyfryd.
Sbienddrych fydd o gymorth/ i chwi weld mae twll yw Porth.
Dilwyn Owen 8
Tir Iarll
Ac yn olaf heno
Mae rhai ‘di dangos pryder
Fy mod i yma wrth y ddesg
A hynny heb fy nhrwser!
Aneirin Karadog 8
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘porth’
Caerelli
Ystyr Porth: Drws, giat, porthiant,
ebran, nawdd neu aber nant.
Dilwyn Owen 8.5
Tir Iarll
Gwelais dan arwydd ‘golud’
iaith ar werth ym Mhorthyrhyd.
Mererid Hopwood 9.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Bydd miloedd ar filoedd ym Mhonty’
Caerelli
Bydd miloedd ar filoedd ym Mhonty
a’r Rhondda i gyd yn cwestiynu
pam mai merch o Gaerdydd
yw archdderwydd y dydd?
Mae ’da nhw un gelfydd o’r ‘Pandy.
Eirian Dafydd 8.5
Tir Iarll
A dim byd ond deiliach bach ‘jaunty’
mae’r Orsedd am wneud y ‘full monty’
gan swingo’u penwisgoedd
rhwng y meini a’r cyhoedd ...
bydd miloedd ar filoedd ym Mhonty
Mererid Hopwood 8.5
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llyfrgell
Caerelli
Rhwng cloriau llyfrau ei llain
mae’r geiriau sy’ mor gywrain
yn hudo, a chaf hedeg
er im gau dorau’i chell deg.
Yn glyd o’i mewn gweled mwy
trwy ddarlun, treiddio’i arlwy
gwybodaeth, cof a phrofiad
i wella’r hun. Llywio’r had
a wna farc nawr arnaf i
yn egin i’m hannogi.
Addo’i nodd wna’i hanheddau
a’i budd o hyd yn boddhau.
Eirian Dafydd 9
Tir Iarll
(Wedi bod yn gweld Llyfr Coch Hergest)
Dyna’i le, dan haen o lwch,
gwelwi mewn diogelwch
ymhell bell o lygaid byd,
yn guddiedig ei ddwedyd.
Branwen ac Urien â’u gwedd
yn dywyll, a Blodeuwedd
sy’n gwingo rhwng y cloriau,
hefyd â’u cof wedi cau.
Ac o gell y llyfrgell hon,
hyd drywydd sy’n llawn straeon,
cawn ragor na hen stori
os down nôl â’n Hergest ni?
Tudur Dylan Jones 10
5 Pennill ymson mewn garej
Caerelli
Pam dewis y fenyw ‘ma ‘sgwn i?
Pa beth o fis Mawrth sydd amdani?
Gwyl y Pasg? Dydd Gwyl Dewi?
‘r awr o gwsg sydd i’w cholli?
A pham mae ‘di tynnu ei chrys hi?
John Manuel 8
Tir Iarll
Ers symud o Surrey i’r Rhondda yn ôl
mi ddysgais eich hen-iaith fel welsh nash bach ffôl,
mi ddysgais yr anthem and now I can sing
‘Duw gadwo Cennard’ nid ‘God save the King’,
bu muscles fy nhafod am sbel moyn massage
rôl dwedyd ‘bresychen’ yn lle dweud ‘cabbage’
ond nawr yn fy ‘ngarej’ (please note: dim ‘garage’)
rwy’n hongian llun Meuryn lle gynt bu Farage.
Mererid Hopwood 8.5
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Ffugio
Caerelli
Ai ti yw fi, neu fi wyt ti
medd Dei i’w efaill Deio,
Mae’n rhaid cyfaddef na wn i,
ond bydd na sbort yn ffugio.
Aeth Dei i dΕ· ei frawd mewn hwyl
A hulio’r bwrdd fel Deio
Bwytaodd pawb o’r hyfryd saig
A’r wraig oedd wedi’i phlesio.
‘Fel arwydd Deio’, meddai’r wraig
‘Rwyt deilwng o’r term maestro’,
Gan arwain Dei i fyny’r llofft
I ddiolch am goginio.
Dychwelodd Dei mewn awr neu ddwy
I lolfa’r tΕ· yn llawen
A daeth y gath i’w gôl wrth reddf
I lyfu blaen ei phawen.
Ond meddau’r gath yn dawel bach
Nad Deio oedd yn mwytho.
Am fod gan Deio oglau gwraig
Ei frawd, nid felly heno!!
Denzil John 8.5
Tir Iarll
Fel cwcw dew disgynnodd
Y Donald Trump i’n plith,
Gan wthio’r cywion ffeithiau
I’r neilltu dros y nyth.
Anrhydedd ydyw rhedeg
Yng nghwmni Donald Trump;
Fe folltith dros y filltir
Yn gynt na Forrest Gump.
Mae gwerin yn ei garu,
Mae’n byw drwy’r storm ddi-baid;
Ni waeth am farn y barnwyr,
Mae’r polau oll o’i blaid.
Y mae e’n cynganeddu
Yn rhugl maen nhw’n dweud -
Yn well na Tudur Dylan
(Pe byddai’n bosib gwneud).
Mae’n anodd credu mawredd
Ei ras, ei ddysg a’i rym;
Ond anos credu cymaint
Sy’n credu pob un dim.
Emyr Davies 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Yn Rhigos un nos rown i
Caerelli
Yn Rhigos un nos rown i
Yn aros marciau Ceri
Eirian Dafydd
Tir Iarll
Yn Rhigos un nos rown i
Yn Rhigos gyda ‘ngwraig i
Emyr Davies 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Ffynnon
Caerelli
Ffynnon Fair
O gyfnod pell, cyn cofnod llais na llun
bu tarddiant megis meddyginaeth rhad,
yn fwrlwm gwyrthiol cyn bod dyn ei hun
yn deall beth oedd rhinwedd rhoddion mad.
Yno, ger Llwynypia gwelwyd gwedd
o’r Forwyn Fair yn rhodd nefolaidd hardd,
a gwyddai’r werin bod ‘na ffynnon hedd
yn rhannu grym iachusol yn ei gardd.
I’r Forwyn Fair, ceir heddiw ym Mhenrhys
ganolfan amlweddog sanctaidd byw,
yn fan dosbarthu dillad, côt neu grys,
a ffynnon gobaith cymod dyn a Duw.
Yn dyner, golchir briwiau’r brau a’r claf
a disychedu’r llesg yn hirddydd haf.
Dilwyn John 9
Tir Iarll
Chwerthin a wnaf i ar y rheini sy’n penlinio
wrth gau eu llygaid a phlethu eu dwylo,
y rheini sy’n gweld bod gwerth mewn gweddïo,
neu
ar y bobl sy’n chwilio am batrwm a diben
yn annibendod y sêr a diddymdra’r wybren,
sy’n consurio straeon o chwiwiau’r ffurfafen,
achos
go brin bod cytserau sy’n gyforiog o farddoniaeth
na phader na pharabl a gynigient iachawdwriaeth,
does dim gweddi all wneud gwahaniaeth,
ac eto
mae i bawb ei grefydd fach ei hunan;
ac er nad oes cynllun tu ôl i’r cyfan
na chlust yn gwrando, fe wn, yn unman,
wele fi, jyst rhag ofn, ar fy ngliniau,
yn cau fy llygaid wrth chwythu canhwyllau,
yn gollwng i’r ffynnon fy holl geiniogau.
Gwynfor Dafydd 9.5
9 Englyn: yn cynnwys enwau dwy afon
Caerelli
(afonydd Alaw a Braint ar Ynys Môn)
Branwen
Er y rhwysg o’i harwisgo, nid braint
ond brad fu yr uno;
a’i halaw drodd yn wylo
a’i byd i grud yn ei gro.
Eirian Dafydd 9
Tir Iarll
O fewn fy iaith uniaith i – onid yw’r
‘i’ dot ym mhob Teifi?
ond eraill sydd â’u stori
wedi dwyn pob Dyfrdwy’n Dee.
Tudur Dylan Jones 9