Cerddi Rownd Cyn- derfynol
1 Pennill Bachog (rhwng 4 ac 8 llinell): Adroddiad ysgol unrhyw ffigwr adnabyddus
Dros yr Aber
Adroddiad ysgol Duw
Di-fai. Presenoldeb di-feth. Ei roi
ar brawf yw ei gasbeth.
Yn amlwg, cr’adur cymhleth,
ond gall egluro pob peth.
Carwyn Eckley 9.5
Twtil
Mae hwn yn llythyr dilys,/ legit, dim byd sysbish,
a rhag i chi fy amau,/ ’ma chi fy llofnod - ish.
Mae’ch mab yn hogyn annwyl/ a’i waith bob dydd yn well;
er nad ydi o ond yn bump/ aiff Iolo bach yn bell.
Iestyn Tyne 9
2 Cwpled caeth yn cynnwys gorchymyn
Dros yr Aber
I bob “PAID!”, rhoi'r ateb: “Pam?”
yw dawn fy nheirblwydd dinam.
Rhys Iorwerth 9.5
Twtil
Nid Dros yr Aber, Ceri –
synnai neb. Rho siawns i ni!
Manon Awst 9
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Peth prin erbyn hyn yw cwrteisi’
Dros yr Aber
Peth prin erbyn hyn yw cwrteisi.
Ddywedodd ’na neb fod fy ffleis i
ar hyd y perfformiad
ar agor. Nawr siarad
mae pawb am liw ’nhrôns. Wpsydeisi.
Iwan Rhys 8
Twtil
Mi glywais, wir yr, Mr Ceri,
Rhys Iorwerth yn barnu dy gerddi,
Yn dweud mor uffernol
yw rhannau o ‘Gwaddol’,
Peth prin erbyn hyn yw cwrteisi.
Steffan Phillips 8.5
4 Cywydd (rhwng 12 ac 18 llinell): Sioe
Dros yr Aber (RhI)
Mae’r wên ben bore’n barod
wrth iddo hwylio i ddod
o’r tΕ·. Mae’n gyrru i’r gwaith
ac yno, bydd, fel ganwaith,
ei sgwrs a’i osgo i gyd
yn ddyfal o ddiofid.
Fin hwyr, mae’n dreifio yn ôl.
A heno’n ddim gwahanol,
i’r gegin â’i chwerthiniad
ar hyn daw, yn Εµr, yn dad.
Ond y twyll sy’n llond y tΕ·.
Yn nhawelwch ei wely,
yr ofn ganol nos sy’n rhew,
a dweud mae’r waliau dudew
y bydd y dydd hwnnw’n dod,
un bore, heb wên barod.
Rhys Iorwerth 9.5
Twtil (IT)
wedi’r noson farddoniaeth
Diarddel ag arddeliad
wna grym y gair rym y gad;
geiriau’r beirdd sy’n gyrru’r byd
o’u rhannu, am ryw ennyd.
Gyda'u diwedd, gadawaf
a rhannu llun wedyn wnaf;
sôn am ein noson nesa,
addo dos o gerddi da…
ond rhyw wefr yw hon dros dro –
pa angerdd sy’n y pingio?
Heddiw, bûm fardd cyhoeddus.
Heno'n Εµr yn lludw'r llys
y mae'r nos yn fy mhrinhau
yn ddim ond gwaedd o amau;
myn agor a miniogi
ebill pob sill ddwedais i.
O'm gofyn mi gei hefyd
un 'dwi'n iawn' wedyn o hyd.
Iestyn Tyne 10
5 Triban Beddargraff Gwneuthurwr Pizza
Dros yr Aber
Fe snaciodd yn afieithus
am oes ar doppings blasus.
I ffitio’i focs, bu’n rhaid i ni
ei dorri mewn i sleisus.
Rhys Iorwerth 9
Twtil (SP)
Fe sbrediwyd saws tomato
yn drwch ar hyd ’i gorff-o,
a stwffio’i geg fel tasai’n grwst,
Ei ddwst - delizioso!
Steffan Phillips 8.5
6 Cân ysgafn: Edrych Nôl
Dros yr Aber (IRh)
Rwy ar fy ngwely angau (cyfforddus ar y naw,
er bod rhyw foi’n y gornel â chryman yn ei law).
Mae’n amser bwrw golwg yn ôl ar hyd fy oes,
fel Iesu yng Ngolgotha, i’r de o Ben-y-groes.
Ac oes, y mae ’na bethau yr wy’n difaru’u gwneud
a sawl peth rwy’n difaru nad wy’n difaru’u gwneud.
Daw f’edifeirwch mwyaf o ddiwrnod fy mhriodas:
wrth rofio’r cig a’r grefi, anghofiais fwyta’r pannas.
Cyn hynny, rwy’n difaru wrth ofyn am ei llaw
’mod i ’di gwisgo trowsus gwyn i benlinio yn y baw.
Wrth baentio’r lolfa wedyn, a minnau ar ben stôl, ia,
difaraf beidio â sylwi lle’r oedd y pot magnolia.
Ac yna, yn y stafell ddarts, beth wir ddaeth dros fy mhen i
yn prynu gwely dΕµr go ddrud yn lle’r un sych oedd gen i?
Difaraf fynd ar wyliau i Frynrefail bob un tro.
Fe allwn fod wedi mentro un haf i Gwm-y-glo.
Difaraf ollwng ambell rech wnaeth imi deimlo’n gas
a rhai y gwnes eu cadw i mewn fyddai’n well eu gadael mas.
Fe wnes i bethau annoeth, ond dyna yw fy hanas.
Peth da yw synnwyr trannoeth. Peth drwg yw lot o bannas.
Iwan Rhys 9
Twtil
Dechreuodd fy obsesiwn yn ddiniwed fel pob un-
Gwglo pan foi neb yn sbio, lawr lwytho ambell lun.
Ond am fod fy rheolaeth ar fy nwydau braidd yn llac
Daeth yn gyffur mwy caethiwus na heroin a chrac.
Mae cyfaddef hyn yn g’wilydd, dwi’n antonym I ‘sant’
Gochelwch rhag gwrnado ‘mhellach yng nghwmni nain, neu’r plant…
Achos fy mywyd fel arferai fod a ddaeth un dydd I ben
Pan fentrais i gasgliadau ar-lien y Llyfrgell Gen.
Does ond rhaid dweud ‘map degwm; i’m gyrru i lewyg pêr
Rhowch imi ffoto gan Geoff Charles ac mi fyddai’n gweld sêr;
Fe wnes i bethau anllad iawn â screenshots Peniarth 5
a gwaeth â Pheniarth 4, mor ddybryd fu fy ngwymp.
Ac rwyf ers tro’n englyna dan ffugenw cryptig maith
(i golofn Meuryn ‘Yr Herald’ y bydda I’n gyrru’r gwaith)
Ac am fod pymtheg miliwn o erthyglau ar y we
Mae temtasiwn annihysbydd I un fel fi’n y lle . . .
Erfyniaf ar y bobl ( egwyddorol dwi’n siΕµr)
Sy’n ymgyrchu dros y llyfrgell i ystyried llef un gΕµr
P na bai’n bod o gwbl. Fe achubid un fel fi;
Arnoch chi mae’r bai a dweud y gwir, felly caewch hi.
Iestyn Tyne 9
7. Ateb llinell ar y pryd
Dros yr Aber
‘Da ni’n ddig – dyna ddigon,
Hwyl fawr ar dy wyliau Vaughan.
Twtil
Hwyl fawr ar dy wyliau Vaughan,
Adra â’th bunnoedd budron.
0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Pwyllo
Dros yr Aber (MT)
Dwi’n digwydd ei gweld hi
yn ffenest ail lawr y tΕ· dros y ffordd,
reit gyferbyn â ’nesg.
Dwy, tair, pedair oed?
Wela’ i ddim ond pen ac ysgwydd
yn pipian uwch ffrâm fy laptop.
Mae hi’n tynnu stumiau
ar y cerddwyr sy’n llygadu’r palmant
cyn troi llinyn y bleind yn farcud,
ei dwylo’n meistroli’r esgyn a’r disgyn,
y dal ac yna’r gollwng gafael
yn cymell un chwerthiniad mawr.
Gobeithio y bydd hi’n cofio hyn.
Mae’n llygaid ni’n cyfarfod
a dwi’n codi llaw swil
nes i fflach y sgrin fy nwyn am eiliad.
Erbyn i mi edrych eto,
mae hi wedi mynd.
Marged Tudur 10
Twtil (TB-D)
Mae’r bwrdd dan ludw’r haul, bore ’ma.
Fel arfer, dwi’n brysio heibio iddo,
gan bigo oren o’r bowlen ffrwythau ar y ffordd
i bilio’r dydd yn lleuadau cilgant melys.
Ond heddiw, â’r bore o’m cwmpas
yn caledu rhag tawch y wawr,
dwi’n oedi am ennyd wrth ei ymyl
a gweld yn llifo trwy wythiennau’r hen bren
waed ein dyddiau ni:
gwydrau’n clincio a geiriau’n pefrio
trwy win, a dagrau’n disgyn.
Ac wrth i mi’n araf ddawnsio â’r bore bach
mae sgwaryn bach o ’sgrifen yn dal fy llygaid;
yn llechu dan gysgod tusw blodau crimp,
rhwygyn o bapur â swsys mewn inc glas
wedi arllwys yn drwsgl drosto,
yn gado dyddiau gwell.
Dwi’n codi fy ngoriadau ac yn agor y drws.
Tegwen Bruce -Deans 9.5
9 Englyn: Anrhydedd
Dros yr Aber
Mae nifer o wledydd Ewrop wedi cyflwyno gorfodaeth filwrol oherwydd y rhyfel yn Wcráin
Ni wyddom, drwy’r newyddion, beth yw bom,
beth yw byw bob noson
dan dân. Am fod ein dynion
yn saff ar yr ynys hon.
Carwyn Eckley 9.5
Twtil
Ar ôl gweld arwydd ‘Arddangosfa Cartrefi Gwyliau’ yn Aberteifi
Ar lan môr, y croeso gorau - a rown,
fe rannwn ein hafau’n
rhosod coch, ond drws ’di cau
a gwefan yw’r gaeafau.
Steffan Phillips 9.5