Main content

Cerddi Rownd 1 2024

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Datganiad o Gefnogaeth

Caernarfon (EG)

'Dan ni'n dy garu, Rishi!/ Mi wyliwn ni dy gefn di!
Arwyddwyd: / Kemi, Penny, Nigey,
Davey, Kwasi,/ Lizzie, Priti,
Frosty, Govey,/ Jerry, Jakey,
Suey, Lee/ a Boris.

Emlyn Gomer 8.5

Tegeingl

“Eat Out to Help Out”

Un amryddawn, clên yw Rishi,
daw’r jobsys oll i’w rwyd.
Pan adawa o Stryd Downing,
caiff swydd yn weinydd bwyd.

Sara Louise Wheeler yn darllen gwaith Simon Chandler 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw blaned

Caernarfon (IapG)

Awn yn iau wrth fynd yn hΕ·n,
yn dwpach bob yn dipyn…

Ifor ap Glyn 9

Tegeingl

Dewis nid oes i’n daear -
- i ni gyd - ond byw heb gar.

Dafydd Morris 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae rhai o aelodau'r Clwb Rygbi’

Caernarfon (EG)
Mae rhai o aelodau'r clwb rygbi
Rêl snobs pan mai'n dΕµad i wisgi.
Ond dydi'r prop, Dwyryd
Ddim hanner mor ffyslyd:
Mi yfith o'r asid o fatri.

Emlyn Gomer 8.5

Tegeingl

I deithio o'r Rhyl i Gilgwri,
lawrlwythais feddalwedd i'r Audi.
Nawr ceisio ei lusgo
o'r traeth lle mae'n suddo
mae rhai o aelodau'r clwb rygbi.

Sara Louise Wheeler yn darllen gwaith Alan Iwi 8.5

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gwasanaeth

Caernarfon (IP)

Ni welais yn y Bwlan
ond rhyw ddau’n y golau gwan:
cip trwy ffenestr y festri
o’r saint, ond heibio’r es i
nos Sul; dwi’n dacsi o hyd,
â’r ddwy, bellach, mor ddiwyd.
Nhw’u dwy a’u hadnodau hen
ar y waliau ar hoelen
o hyd; ddaeth neb ar eu hôl
i esgyn ffyn yr ysgol.
Tristâf, ond wna’i ddim safiad,
yr wyf i yn dacsi dad!

Ifan Prys 9.5

Tegeingl

Gwasanaeth angladd Julian – er cof am hen gyfaill o gitarydd bossa nova, arweinydd band Cerddoriaeth y Byd (o’r enw ‘Beleza’) a dyn ecogyfeillgar, a laddodd ei hunan yn 2016, yn 52 oed, ar ôl dioddef gan iselder

Daw si tewi dy gitâr,
awr i ganu’n rhy gynnar.
Yn waglaw down i’r eglwys,
nawr a ddoe dan awyr ddwys.
“Daioni mewn arch wiail,
dyn y Byd, dyn heb ei ail;
dyma’i sain, mor gain â’r gog,
a’i nod,” medd y gweinidog,
“oedd danfon ein calonnau
i’r Nef, a’i gartref ar gau.
Yn adfail, nawr mae’n hedfan,
rhith a’i loes fu wrth y lan.”

Dafydd Morris yn darllen gwaith Simon Chandler 9

5 Pennill ymson cadeirydd

Caernarfon (EG)
Fy enw ydi Mao Tse Tung:
Mae gen i lyfr bach coch
Sy'n deud bod bois y bins yn dod
Oddeutu tri o'r gloch.

Emlyn Gomer 8.5

Tegeingl

(“Coron drom, gorseddfainc galed.”)

Fi yw lluniwr pob cyfarfod, fi yw'r un sy' i fod i wybod,
Fi'n y canol, fi'n cael stilio, fi dan bwysau pawb fyn gwyno.
Fi yw'r wyneb mawr i'r cyhoedd, gwn sut mae - a sut yr ydoedd .
“Craff, ynfytyn, bradwr, eilun –“ Unrhyw beth ond “dim ond dyn”.
“Bwch dihangol, bod cyfrifol, pen pwysigyn, ail Seithennyn,
Mwnci pric ar ben ei dennyn, arwr doeth, ac annoeth dwpsyn.”
Y clod, y mawl, y parch a'r bri - a'r beio oll, ddaw ataf fi!

Dafydd Morris 8

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Llythyr i’r Cymdogion

Caernarfon

Ma ’ne lythyr ’di dod acw, un pwysig iawn i’w weld
mewn amlen frown swyddogol, dwi ’di’i roid o ar y seld.
(Wel ’sgen i’m seld, a deud y gwir, mae o ar y silff ben tân,
dwi mond yn sôn am ‘seld’ er mwyn cael odl i fy nghân.)

Ta waeth, o flaen fy llygaid i bob dydd mae’r amlen frown
yn rhythu arnaf i yn gas fel Barry Rownd a Rownd.
Mae’r llythyr yn fy nychryn, er, dio’m hyd yn oed i fi;
fe’i cyfeiriwyd o at Ann and William Jones at number three.

I’n tΕ· ni ddo’th o rywsut – dwi’n byw yn number two,
ond does gen i’m calon mynd â’r llythyr drosodd atyn nhw.
Mae Ann a Wil drws nesa ymhell dros eu hwyth deg,
mae hi mor neis, a fo – ni thoddai menyn yn ei geg,
felly pam mae’r ddau yn derbyn llythyr gan y KGB?
Achos dyna pwy anfonodd hwn, yn bendant, saff i chi.

Mi stemia i o’n agored, ella na dio’n ddim ond stynt
ond wrth ’mi roi y tecell mlaen daeth cnoc ar y drws ffrynt.
“Helo, oes yma bobol? Mond fi sydd yma, Wil!
Sna unrhyw siawns am banad? Diawch, be sy’n bod? Ti’n swil?”

Ar hynny, sylwais fod fy nghân yn dod i’w llinell ola
Felly rhois yr amlen frown amheus yn llaw y dyn drws nesa.

Geraint Lovgreen 9

Tegeingl

Boris, y Ci Bach Chwantus

Annwyl gymdogion, mae gen i broblem fach.
Hoffwn fywyd heddychlon, nid wyf i am beri strach,
ond heddiw mae ‘na rywbeth sydd ar fy meddwl i:
carwriaethau eich ci!

Mi wn, mi wnes i addo i drwsio’r twll ‘na yn y ffens,
ond y ffordd ‘ma’ Boris yn cwrso… wel, mae’n ‘ngwneud i’n ‘tense’.
Ar y silffoedd does dim angen Kama Sutra arna’ i
oherwydd… holl fabolgampau eich ci!

‘Sdim eisiau arna’ i deledu achos, bob bore, yn ddi-fael
mae ‘na haid o eist yn cecru: mae hi fel Jeremy Kyle!
Mae gwair fy ngardd ‘di’i gorddi, mae ymrysonau cas, di-ri
am dynnu sylw eich ci!

Ac, er nad yw’ch ci’n Gristion, mae angen mynd ag ef i’r festri:
mae ganddo fwy o gyffesion na glanhäwr ffenestri!
Bob nos, heb fawr o gysgu, a dyma chi fy hunllef i:
carwriaethau eich ci!

‘Sdim angen hela gast i’r nant i ysgogi pennill ymson,
ac mae ganddo fwy o blant na’i gyd-enw, Poofle-woofle-onson.
Chwarae teg, mae ganddo foeseg sy’n dipyn uwch na’r un o fri,
ac eto… does dim maddeuant gen i, mae eisiau sbaddu eich ci!

Sara Louise Wheeler yn canu gwaith Simon Chandler 8

7 Ateb llinell ar y pryd

Caernarfon (IP)

Ofni rwyf y daw fy nhro
i ateb llinell eto

Ifan Prys 0.5

Tegeingl (DM)

Anfri fu rhain i’n hen fro
Ofni rwyf na ddaw fy nhro

Dafydd Morris  

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Apwyntiad

Caernarfon (IapG)
(I gofio Emyr Glyn Williams 1966-2024)

Dyna ddechrau’r diwedd,
a’r misoedd chemo’n
carlamu wedyn…

er i obaith gyniweirio am ryw hyd,
y base parhad i’r cariad tadol
a gariai dy feibion i’w gw’lau,
a pharhad i’r dadlau am ffilmiau hoff
gyda’th gymar hoff gytûn…

Ond gwnest yn fawr o’r hyn a gest,
gyda gwên, côt-weu
a sgidiau Con-verse…

A’n tro ni heddiw, (yn lliaws dal-yn-od,
a’n gwalltiau’n britho) yw ateb gwΕ·s
i’r dathlu chwithig hwn, o ddiwedd un gychwynnodd gymaint…

Bu dy fywyd yn gyffur inni ’gyd,
mor hurt o hael
wrth ’redig a rhannu pob creu;
a bydd adar dy freuddwydion, fel bendith,
yn codi o’r cwysi feinyl hyd byth…

Ifor ap Glyn 9.5

Tegeingl

(Logos Lorenz – Wedi ei hysbrydoli gan Adroddiad Hughes a cyhoeddwyd ar 7fed o Chwefror 2024 am sgandalau iechyd, gan gynnwys Sodium valproate, gan ddefnyddio’r trosiad o’r ‘Butterfly effect’, gan Edward Norton Lorenz).

Trawiad.
Curiad adenydd
Pili pala porffor;
Dirgryniad.

Corwynt seicodelig
yn fy nhywys
at apwyntiad
â’m tynged;
un o ieir fach yr haf Iatros.

Afreolaidd.
Annisgwyl.
Anhrefn.
Methu dilyn patrwm
na churiad
oherwydd
trawiad.

Sara Louise Wheeler 8.5

9 Englyn: Cwch

Caernarfon (IP)

Does dim is os dewisach yw’r wendon
a Rwanda mwyach,
a gwn, heb ddim amgenach,
di-baid fydd y cychod bach!

Ifan Prys 9.5

Tegeingl

Daw fy nghwch i'w heddwch hi - o ferw'r
holl foroedd sy'n corddi:
er bod y tonnau'n codi
angor gwâr yw fy ngwraig i.

Dafydd Morris yn darllen gwaith Pedr Wyn Jones 9.5