Main content

Cerddi Rownd 1 2024

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Nodyn i’r Dyn Llaeth

Tir Mawr

Dafydd Llefrith dyro im
Bedwar peint o lefrith sgim
Wrth ymadael fedri di
Fynd a'th epil efo chdi

Gareth Jôs 9

Llewod Cochion

Sori, Mr Llefrith, nad oes ’na swydd i chi,
ond mae’ch cynnyrch yn loss leader yn siopau y Big Three.
Bechod fod y plastic yn pentyrru mewn gwledydd tlawd,
ond dyna ffawd y Trydydd Byd, ac nid ein problem ni.

Arwyn Groe 8.5


Dwi ffwr’ wythnos nesa,
So paid â dod yma.

[Dafydd Anwyl, Brynhunog, Pwllheli]
Un Anwyl ac un hwyliog – i gadw
Dysgeidiaeth Brynhunog;
Sied laeth a’i faeth cyfoethog,
A sied laeth a’i laeth yn log.

Mae dy lefrith digon drud,
Codi wna ei bris o hyd,
Ond pam fod gwastraff,sef llaeth enwyn
Ddwywaith drytach na llefrith wedyn?

Ni fyddaf angen, ddrwg gen i
Ddim mwy o’th gynnyrch lleol,
Mae Asda’n danfon llaeth o bell
I’r drws am bris rhesymol.

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘cap’

Tir Mawr

Na’r CAP, mae’n fwy andwyol,
SFS sy’n nonsens ffol.

Carys Parry 8.5

Llewod Cochion

Y cap rhew sy’n dad-rewi:
mae hi’n hwyr; mor hwyr yw hi.

Angharad Penrhyn Jones 9

Un cap dan we pry copyn,

Eiliad, a nhad nol fan hyn. 

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Un bore, wrth agor y llenni’ neu ‘Wrth agor y llenni un bore’

Tir Mawr

Wrth agor y llenni un bora
Fe lenwodd y llofft efo gola
Fe d'wllodd yn sydyn
Pan geuwyd nhw wedyn
Mae'r cyrtans ma'n gweithio siort ora'

Gareth Jôs 8.5

Llewod Cochion

Un bore wrth agor y llenni
synhwyrais fod rhywbeth yn doji,
fresh air oedd ym mhobman,
a sylwais yn fuan
fod rhywun ’di dwyn fy ffenestri.

Arwyn Groe 8

Wrth agor y llenni un bora
Be oedd yn yr ardd ond gorila
Gwaeddais arno’n ffwr-bwt:
“Mae’r Fflaimo’n y cwt
Rho doriad i’r lawnt tra ti yna.”

Wrth agor y llenni un bora
Yn gwisgo dim byd ond fy sanna'
Roedd hacks Farmer's Weekly
A'r C'narfon and Denbigh
Yn tynnu fy llun am y gora

Wrth agor y llenni un bora
Cyhoeddodd y meddyg cymala’
“Ti’n disgwyl am glun
Ers dwy fil ag un
Ond sgeni i ddim un, neith penglinia?”

Un bore wrth agor y llenni
Fe glywais garolau’n ’y mhen-i;
‘Snam byd gwaeth na charol,
A hynny’n blygeiniol,
Ar fore hydrefol o Fedi.

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cerddoriaeth

Tir Mawr
wrth gofio am Nic Reed

Dwndwr, stΕµr ar fy nglust i
yw cwrdd â beic yn corddi,
y moto’n sgrech asmatic
at y nef. Ond i ti, Nic,
roedd yr injan yn canu.
O, am diwn Yamaha du
ar ei lein, yr olwynion
yn troelli grwndi’u tôn gron
ar drac tarmac. Roedd y mynd
yn dy oelio, yn delyn.
Dôi bysgars dy deiars di
i gwrdd â’th hwiangerddi

Myrddin ap Dafydd 9.5

Llewod Cochion
(I’r ymgyrchwyr gafodd eu carcharu yn Lloegr yn y chwedegau a’r saithdegau am weithredu dros yr iaith, ymgyrchwyr a bortreadir yn y gyfrol ‘Merched Peryglus’.)* *Roedd y merched yn canu yn eu celloedd er mwyn codi eu calonnau a difyrru’r carcharorion eraill

Mae’n gôr bychan, ond annwyl
mewn cawell ymhell o’r hwyl;
er anaf a chyflafan,
o’n cell daw eco ein cân.
Y filltir hir sy’n byrhâu
o asio’n amryw leisiau,

Cantorion llon sy’n llenwi
hen garchar anwar â chri
tair merch yn herio’r erchyll,
y gân fel torch yn y gwyll.
Y nodau pur sy’n codi
i’r nen, yn ein cario ni.

Angharad Penrhyn Jones 9

5 Pennill ymson wrth ymweld â’r deintydd

Tir Mawr
Ei weld fydd yn fraint ac anrhydedd
Yr unig un bellach yng Ngwynedd
Ond hyn sy'n beth rhyfadd
Does gen i ddim danadd
Fe dynodd o'r cwbl y llynedd

Carys Parry 8.5

Llewod Cochion
Wrth eistedd yn sedd y deintydd
Fe waeddodd arna’ i
“Be ddiawl ti’n neud yn iste’n
Y lolfa yn tΕ· ni?”

Arwyn Groe 8.5


Rwyf yma’n dweud fy mhadar
Tra ar drugaredd bwtsiar;
Fe roddwn frathiad a sawl rheg
Petae fy ngheg yn dadmar.

Wrth ddrilio ‘nant yn chwilfriw,
Mae hwn yn dal i edliw
Y brathiad gafodd gan fy mrawd,
Mae heb ei fawd hyd heddiw.

Rwy’n myned yn betrusgar
At gythrel a’i gyfarpar
Meddyliaf beth yw’r dewis im?
Wel dim, ond bod yn ddiolchgar.

Mae na dwll yn fy ngeg
A thwll yn fy mhoced,
Wedi danto yr wyf
O’r deintydd a’i raced.


6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Fy Nghynllun Pensiwn

Tir Mawr

Penderfynais rhyw b'nawn Sadwrn 'mod i angen cynllun pensiwn
Ac yn fuan ar ôl hynny fe ddechreuais sdwffio pres o dan fy ngwely

Ar ôl misoedd hir o gelcio nid oedd modfedd sbar o'danno
Fe estynais lwyth o lyfra i'w rhoi bob hyn a hyn o dan y coesa

Wrth i 'mhensiwn ddal i dyfu am i fyny aeth y gwely
Nes y daeth hi'n angenrheidiol i ddringo'i fyny iddo efo ysdol

Roedd fy mrestrwyn nawr yn amrwd. Roedd o'n crafu ar y nenfwd
Ac o'r herwydd fe es ati i weld yn union faint o bres oedd gen i

Sioc ofnadwy oedd darganfod dan y gwely yn llawn llygod
A bo'r tacla bach di-dostur 'di bwyta'i ffordd drwy'r siecs a'r arian papur

Dyma ddechra' gwneud pentyra' o geinioga' a dau syllta'
Wedi'w cyfri, wedi'w bagio roedd pum can punt, dwy Ddeutchemark ac Escudo

O ddarganfod fod y rhelyw bron yn ddiwerth erbyn heddiw
Fe ddywedodd Alwyn Bancar " Dim diolch, nid yw hwn yn ligal tendar"

Yng nghanolfan 'Cash am Fetal' ches i'm cynnig ddim byd sbeshial
R'ôl dadlwytho dyma'i bwyso. Mi gefais êt pownd sefnti sics amdano

Diolch i'r cnawon milain rheibus rydwi'n dlawd fel ll'godan eglwys
A does bellach ddim amdani ond crafu byw ar ganu a barddoni

Gareth Jôs 9

Llewod Cochion

Yng nghanol Match of the Day,
Cytunais inne i bob dim, ac aeth hithe i wneud te - a bisged.

Fe wyliais Wolves a Luton, tra dwedodd hithe'i chΕµyn
Nad oedd am weithio yn gant oed, a bod hyn er ein mwyn - ni'n dau.

Drannoeth, wrth droed yr Wyddfa, gadewais i fy nghar
A'i gwneud hi gyda'm fflasg a'm sach i dop Crib Goch drwy'r niwl ar - y copaon.

Ar y grib gadewais frechdan ac ôl fy nannedd ynddi
A thaflu'n sgarff a'r hen gap coch dros yr ymyl cyn ei throi hi - lawr am y llyn.

Wrtho, gadewais gliwiau, fy sgarff ac un o'm menyg
I bawb gael gweld mai rowlio wnes o dop y grib i'r llyn, beryg - a boddi.

Ni welodd neb mohona, yr oeddwn yn reit siΕµr,
Ac allan ddes o'r grug a'r brwyn, pan ddaeth car y wraig i nôl ei gΕµr - ymadawedig.

Fe aeth â fi i ogof, rwy'n cuddio rhag y byd,
A chanmol wnaeth ei chynllwyn, ond yma rwyf inne o hyd - yn fferru.

Wel cashiodd hi fy mhensiwn, a 'swiriant fy mywyd bach,
Arferai alw heibio, ond aeth hynny'n dipyn o strach - mae'n rhaid.

Nid ydyw byw mewn ogof yn swnio'n lot o sbri,
Ond pris bychan oedd fy mhensiwn i gael llonydd oddi wrthi hi - www nefoedd!

Iwan Parry yn darllen gwaith Pryderi Jones 8

7 Ateb llinell ar y pryd – Fesul un anfoesol Ε·nt neu Anfoesol Ε·nt fesul un

Tir Mawr

Prydain y pΕµer ydynt
Fesul un anfoesol Ε·nt

Myrddin ap Dafydd 0.5

Llewod Cochion

I ryfel aeth dau elyn
Fesul un anfoesol Ε·nt

Arwyn Groe 0.5

 8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Hwiangerdd

Tir Mawr

Nid oes dim yn fama’n swyno,
Ni ddaw plantos fama ato,
Nid oes yma seren glaear,
Dyma uffern ar y ddaear

Alaw Auchwits sydd i’w chlywed,
Swn y Jackboots sydd ar gerdded,
Chwarae plant sydd heno’n dawel,
Tybed gysgodd Ceidwad Israel?

Myrddin ap Dafydd yn darllen gwaith Huw Erith 8.5

Llewod Cochion

Roedd hi’n ddiwrnod mwyn o wanwyn,
coed ceirios yn drwch
o betalau, finnau’n brysur yn y stafell olygu,
pan gollais i ti.

Ro’n i wedi dy enwi di. Yn fy nychymyg
roedd gen ti fop o gyrls sidanaidd ar dy ben
ac roedden ni am fyw yn y wlad. Ond dyma’r gwaed

yn llifo mewn toiledau yn y ddinas
a ches i erioed gyfle i fwytho
dy wallt, i’th fwydo, i ganu dy enw, i’th weld

yn blodeuo, a byddai neb yn dallt, neb am wybod
dy hanes. Roedd dy stori wedi gorffen
cyn iddi ddechrau.

Pan ddychwelais i’r stafell olygu,
golygais innau fy stori i,

hwiangerdd yn sownd yn fy ngwddw.

Angharad Penrhyn Jones 9.5

9 Englyn: Mentor

Tir Mawr

Yn arwr doeth ei eiriau – yn dawel
Mae’n dewis y llwybrau,
Gweld egin a meithrin mae
Rhoi’i oes i agor drysau.

Carys Parry 9

Llewod Cochion

Y rhoi ei hun oedd y rhodd – i diwtor
heb deitl. Agorodd
feddyliau, drysau. Fe drodd
rhai ifanc yn ddoeth, rhywfodd.

Angharad Penrhyn Jones 9


Nid chwarae gwarchod ei ddaear – yr oedd
Ond rhoi’i waed, heb swagar;
Caled fel nenbren coliar,
Nenbren y pen: JPR

Yn ddi-glod yn y cysgodion – fe wyr
O’i fodd, sut yn union
I gynnau talentau hon
A heu hadau’i breuddwydion.