Main content

Cerddi Rownd 1 2024

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Neges heb ei danfon

Crannog

Plymar, plis 'newch chi fwstro,
Ma’r boilyr bron a byrsto.
Ma’n rwmblan nawr fel bola’r gΕµr,
Heb ddΕµr ma’n siΕµr o ffrwy…

Eirwyn Williams 8

Ffoaduriaid (GE)

Hei LlΕ·r! A ges ti’r memo
ein bod ni ar y radio?
Fe ddôi drwy’r drws â’th gywydd deg
rhyw adeg nawr, gobeithio.

Llio Maddocks yn darllen gwaith Gwennan Evans 8

Er imi roi ar ddu a gwyn
holl ddicter ennyd ffôl
fe fu’r meddalwedd ddigon doeth
i ddal y neges ‘nôl.

Mae’r tacsi’n mynd i Heathrow
Ac mae’r ddau gês gen i,
Nawr cofia ddod a’r Passports
Mae rheini yn y tΕ·.

 2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘ceir’

Crannog

Yn gof oer ar garreg fedd
Yn gryno ceir gwirionedd.

Eirwyn Williams yn darllen gwaith Idris Reynolds 9

Ffoaduriaid (GO)

Daw ceir o bob cyfeiriad
am ddydd o lonydd i'r wlad.

Gruffudd Owen 9


Fe geir yn Nant-yr-eira
Yr heth hir a gwyrth o ha’.

Mewn ceir mawr awn lawr y lôn
A luniwyd gan olwynion,

Heb olew rhai glew a glȃn
I’w rhedeg yw’r ceir trydan.
Pa dîm sydd efo'r top dog?
Ceir hwnnw yn nhîm Crannog.

Ni cheir ar ben Tre'r Ceiri
ffrij win na signal 4G.

Daeth penceirdd a beirdd mewn bws
i Boncath. Fydd na bancws?

 3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Rwy wedi bod wrthi ers tipyn’

Crannog
‘Rwy wedi bod wrthi ers tipyn
Yn chwilio olynydd i’r meuryn
Waeth mae Ceri Wyn
Yn hen erbyn hyn
Mae’n gamp i gael wyth ‘da’r dihiryn.

John Rhys Evans 8

Ffoaduriaid (GO)

Rwy wedi bod wrthi ers tipyn
yn trio troi’r gerdd ma yn englyn.
Dwi braidd yn siomedig
bod hon dal yn limrig
ond berig na sylwith y Meuryn.

Gruffudd Owen 8.5


Rwy wedi bod wrthi ers tipyn
Am wisgo persona aderyn.
Pe bawn gwdihw
Mi awn, mynte nhw,
Tw whit a tw hw’n ddoethach wedyn.

‘Rwy wedi bod wrthi ers tipyn – yn drysu
rhwng limrig ac englyn,
ond wedi cael ‘go’ yn steddfod y fro
‘rwy’n ennill bob tro ar limringlyn.

‘Rwy wedi bod wrthi ers tipyn
Yn ceisio cael gwa’d ma’s o fwydyn;
Cadw Cymru yn lân;
Pledleisio am gân;
Ca’l “marc ar y bla’n” gan y Meuryn

Rwy wedi bod wrthi ers tipyn
yn cofio a chofio Tryweryn.
Mae’r cofio mor llethol
mae’r plant dal yn ‘rysgol
yn disgwyl ‘eu casglu ers blwyddyn.

 4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Didoli


Crannog (Ar ôl un o berfformiadau di-fflach Crannog ar y Talwrn edrychodd Gerallt ar y chwech ohonom, pob un yn llond ei got, gan ddweud ein bod yn rhy dew i farddoni)

Roedd hon yn noson i ni
arddel ein tipyn cerddi
a’u hodlau hunan-fodlon,
geiriau rhad rhyw hen diwn gron,
y gerdd yn floneg i gyd,
yn ddof o wasaidd hefyd,
yn rhy dew yn hwyr y dydd
i Gerallt guddio’i gerydd,
a’r chwe stôn oedd ohono
yn chwe stôn fu’n cario’n co’.

Y dwedyd di-gnawd ydyw
am i’r gân ei fwyta’n fyw.

Gillian Jones yn darllen gwaith Idris Reynolds 10

Ffoaduriaid (GO)

Mae na focs, (ocê..bocsus)
yn fy nhΕ·, llawn ryw fân us;
eirch y lleng o geriach llwyd
di-waelod nas didolwyd.

Hen adwaen yw’r hyn ydynt,
merddwr y gΕµr oeddwn gynt.
Mi wn ‘fod o’n chwarae mig
yn y nialwch anelwig;

Er yn faich mae’r hyn a fu
yn gwrthod cael ei garthu.
Ryw fân us rhy fynwesol
yw’r hyn sydd gennyf ar ôl.

Gruffudd Owen 10

5 Pennill ymson gwarchodwr personol (‘bodyguard’)

Crannog
‘Rwyn cario gwn a thastio’r gwin
Bob dydd wrth im ei ddilyn
Yn ofni sioc wrth Novichok
Waeth fi sy’n gwarchod Putin.

John Rhys Evans 8

Ffoaduriaid
Os wyt ti'n un sy'n paranoid pan glywi bob 'ding dong',
pryna fi, y Ring Doorbell, ac ei di ddim yn rong.
Gwarchodaf ti rhag agor drws i'r postmon na'r dyn llefrith,
rhag ofn eu bod nhw am dy waed, neu'n waeth...am smalltalk lletchwith.
Pan fo'r cloch-ganwr wedi mynd, pan fydd hi yn ddiogel,
cei agor drws â neb i'w weld ond peint o laeth neu barsel.

Dyfan Lewis yn darllen gwaith Gethin Wynn Davies 8

Yn yr hirlwm a’r eirlaw
onid wy’n un o’r deunaw
arwr llwyd - wastad ger llaw?

Af i'r rhagbrawf ag arddeliad
‘cofn i Eban bach gael cam,
er mwyn diogelu'r beirniad
rhag feirniadaeth dad a mam.

 6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Gor-rannu

Crannog

Chi’n cofio Wncwl Morys, ein Rockefeller ni?
Mae’n bosib, os ymholwch, fod e wedi’ch cofio chi.
Ym mrig y morwydd clywais, fel crwt gwerth swllt a grot,
Y byddwn i rhyw ddiwrnod yn etifeddu’r lot,
A bûm yn reit ofalus ohono tra bu byw
Cans fi, mewn iaith ewyllys, oedd bia’r ‘residue’.
Bu wrthi’n llunio’r drefen, ‘da’r twrnai, Rees and Rees,
A honno’n ei chymhlethdod yn hwy na ‘War and Peace’.
Ond ynddi’n groes i’r disgwyl, ac yntau yn hen lanc,
Fe enwyd myrdd o wragedd, a sawl rheolwr banc.
Arddelodd ei berthnasau hyd at y nawfed ach
A phob un enw dierth yn prysur wagio’r sach,
Ac wrth i’r siecels lifo o’r coffrau yn y nef
Fe welais mor ddi-ddiwedd oedd ei haelioni ef.
Yn enw cymedroldeb noddodd y pabi pinc
A diogelodd gronfa i yfwyr Tafarn Sinc.
Rhoes arian i’r Fam Eglwys ac i’r capeli split,
I’r Iddew ac i’r Arab, i’r Cymro ac i’r Brit.
Ond gan im etifeddu y gweddill fel pe tai
Dim ond yr holl ddyledion wynebai’r annwyl nai.

Gillian Jones 9

Ffoaduriaid (LLM)

Dwi'n dechrau mynd yn hen, ie dwi dros fy nhri deg tri
ac mae'n nhast i wedi newid yn ddiweddar, credwch fi.

Ro'n i'n arfer licio hogia efo six packs. Mysyls mawr.
Ond dynion reit wahanol sy'n fy ngwneud i'n boeth yn awr.

Dwisio dyn sy'n falch o ddangos fod o yn ei ganol oed.
Dwisio Dad-bod. Dyna'r siap corff mwya secsi fu erioed.

Mi dwi wir-yr ishio Dad-bod. Am Ddad-bod mae gen i chwant.
Dwi'n dechrau cynhyrfu wirion os di'r boi yn dda 'fo plant.

Mi geith y treinyrs rhedag fynd yn syth i mewn i'r bin.
Dwisio riwin yn y canol rhwng Bryn Fôn ac Arfon Wyn.

Tydw i'm isio boi golygus, tydw i'm isio boi 'fo pecs.
Dwisio dyn sy'n cadw'i sannau mlaen tra byddwn ni'n cael secs.

Rydw i’n danbaid ishio Dad-bod, dwisio boi sy bach yn sgwâr.
Dwishio rhywun neith swnian arna fi i jecio oel y car.

Mae'r holl beth yn eitha syml, achos, gyfeillion, yn y bôn,
Dwisio dyn sy'n rhoi ei sbectol mlaen cyn edrych ar ei ffôn.

Dwisio boi sy'n flewog ac yn fawr fel tedi-bêr.
A hyd noed os dio di priodi... dwi'm yn meindio cael affêr.

A pan fyddai’n ffeindio'r boi ma, dwi am droi ei wallt o'n wyn.
Ac o edrych rownd y stafell, mae ‘na Dad-bod’s lu fan hyn!

Llio Maddocks 9.5

7 Ateb llinell ar y pryd – Mae’n od nad oes gennym ni

Crannog –

Mae’n od nad oes gennym ni
Un net sy’ o’r teip iti

John Rhys Evans 0.5

Ffoaduriaid

Mae’n od nad oes gennym ni
Ateb LlΕ·r Gwyn lle’r wyt ti?

Gruffudd Owen 0.5

 8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Bwlch

Crannog

Gofynnwyd im gan grwt a chroten swil
un dydd: ‘Gawn ddod i’ch gardd i nôl pêl-droed?’
Cyn hir aeth hynt y bêl yn gêm o sgìl
a’r twll trwy’r berth fel ’tasai un erioed.
Fe sathrwyd lawnt â’u chwerthin a’u helô,
brasnaddwyd bwlch yn borth drwy ddyfal donc
y plant a gâi hawl tramwy yn eu tro
i ddod â haul a mwd a phwt o glonc.
Dôi’r lôn trwy’r bwlch mor hwylus â’r ffordd fawr
i gludo dagrau, cyfrinachau lu’n
bywydau, gwên a checran unrhyw awr -
nes iddynt hwy fel minnau fynd yn hΕ·n.
A bellach nid oes sôn am ferch na chrwt
a’r berth heb dwll yn cael ei chadw’n dwt.

Philippa Gibson 9

Ffoaduriaid (DL)

Bwlch yw hyd ein hamser ni,
yr eiliadau'n llithro fesul un.

Bwlch sy'n wag o bethau da,
bwlch sy'n llawn difaru;
yr eiliad ffyrnig o angerdd blin
a'r eiliad hyll o farnu.

Ond yn yr amser arall sydd
yn dawel aros i ni

pan fo chwerthin plant yn lleddfu baich
neu egin y gwanwyn yn lliwio

pan fo'r sawl sy'n fodlon gwneud y gwaith
yn mynd ati heb anobeithio

pan gawn ni'n dau ddawnsio yn y gegin
i Jarman ar y radio

Y pethau hyn sy'n atgoffa rhywun
fod modd i fwlch ymlenwi.

Dyfan Lewis 9.5

9 Englyn: Gohebydd

Crannog


Dom Phillips
Drwy Drydar, ceisiem ryw arwydd o’i fyw,
o fellt ei danbeidrwydd
di-ffael, a chael dim ond chwydd
y daran o ddistawrwydd.

Philippa Gibson 9.5

Ffoaduriaid (GO)
(Ers Hydref y 7fed mae dros 95 o Newyddiadurwyr Palasteinaidd wedi eu lladd ar lain Gaza.)

Trwy’r gwaed awn eto i’r gwaith, - awn heibio’r
hyn fu’n bobol, unwaith,
i ohebu anobaith
ein gwir hyll o lain y graith.

Gruffudd Owen 9.5


Vaughan Hughes
Bu’n gennad darllenadwy – a ddwedodd
ei ddweud yn gofiadwy;
y mae iaith yn dlotach mwy
heb Vaughan o Fôn i Fynwy.

Gwyneth Thomas
(gohebydd ‘Y Gambo’ ardal Ll. ers y cychwyn)
Yn y maes ymysg masarn – hi o hyd
ydyw’r goeden gadarn,
y goeden dderwen sy’n ddarn
o awen Llanllwchaearn.