Main content

Talwrn Ysgolion Gwyl Gerallt

1 Trydargerdd: Adroddiad

Glan Clwyd (Emyr)

Trwy'r ffenest yr aeth fy ngobeithion
iddo fod yn ddoctor neu blismon,
Ond does dim bai ar Bili,
Fi nath beth sili
O'i yrru i Ysgol Maes Garmon.

Emyr 8.5

Maes Garmon

Dial am ddial bob ochr i’r ffens
A llygaid diniwed yn syllu i’r lens,
Cyrff ar wasgar ar gornel pob stryd
Sgrechian mam uwch tawelwch y crud.

Mam yn farw, sgrechian plant,
Dim maddeuant, dant am ddant.
Llygad am lygad a’r byd ddim yn gall,
Y cyfiawn a’r gelyn ill dau yn ddall.

Mari 9

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw derm mathemategol

Glan Clwyd

Siom oedd y trigonomeg
ym mis Mai i Miss a Meg.

Gwion 9

Maes Garmon

I ni’n ein dillad denim
‘di algebra’n dda i ddim!

Islay 9.5

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Pan es i i’r stafell athrawon’

Glan Clwyd (Tomos)
Pan es i’r stafell athrawon
y Prif oedd yn rhannu hanesion
a'r neges yn glir
ar draws bob un Sir
mai ysgol go wael yw Maes Garmon.

Beca 8.5

Maes Garmon

Pan es i i’r stafell athrawon
Yn Ysgol Glan Clwyd roedd rhai gwiron,
Rhai styc up fel toffi,
Fe sbeiciais eu coffi,
Rwy’n hoffi y gwersi’n Maes Garmon!

Aled 8.5

4. Pennill ymson (rhwng 4 ac 8 llinell) Ar y Bws

Glan Clwyd (Ava)

Dwi'n deffro ar amser.
Allan drwy’r drws mewn pryd.
Ond ar ôl mynd i'r siop.
Pan gyrhaeddaf y stop
O’r bws – dim ond ysbryd sydd.

Ava 8.5

Maes Garmon

Gosod gwên a chamu mlaen,
Rwy’n chwerthin hefo’r criw,
Gan deimlo brath eu geiriau cas
Heb yngan siw na miw.
Diosg gwên ar ddiwedd dydd,
Rwy’n crio hefo mam,
A’r dagrau’n byllau mawr ar lawr
A minnau’n gofyn pam?

Mari 9

5 Triban beddargraff arholwr neu arholwraig

Glan Clwyd (Ava)
Mae amser wedi gorffen.
Rhaid darllen eich ysgrifen.
Cyrhaeddoch chithau ddiwedd oes;
Does dim ond croes i’w darllen.

Ava 10

Maes Garmon

Ar derfyn oes o farnu
A’r graddau wedi rhannu,
Fe gei yn awr dy radd dy hun
Ac wedyn cei dy gladdu.

Islay 9

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod dros funud a hanner o berfformiad) : Y Ciw Cinio

Glan Clwyd

Canu’n wich mae’r gloch i ginio,
ac i’r ciw mae pawb yn gwibio.
Yn gyntaf, byddin o siacedi melyn
(sef y staff, y nhw ydi’r gelyn)
sy’n ymosod fel haid o wylanod
i gael pryd o bwdin reis a nionod.
Dwi a fy ffrindiau’n sefyll fel angylion,
ond blwyddyn naw’n paffio fel plant Maes Garmon!
Wedyn fy ngwthio mae criw y chweched
i gyrraedd y ffrynt fel rhes o ddefed.
Dwi’n y cefn, ’di ’ngwasgu fel sandwich,
a’r cyfan dwi isio ydi chips a sosij!
Ceisiaf sleifio i’r blaen fel llwynog
ond llygadau Miss sydd fel hebog –
fy ngyrru i’r cefn wnaeth y sguthan
a ’mol i bellach yn dechrau sgrechian.
Dwi’n dechrau poeni na cha’ i fwyd,
a Wil yn deud mod i’n edrych yn llwyd.
O’r diwedd y wledd yn cyrraedd golwg
a’r wên ar fy wyneb yn hollol amlwg...
Ond “Sorry love I can’t serve you”
meddai’r gogyddes. Dwi’n starving, jiw jiw!
Canu’n wich mae’r gloch i wers pedwar.
Llwgu fydda’ i drwy ddwy awr o Daear.

Mali 9

Maes Garmon

Bu i newyddion ITV ddod i Ysgol Maes Garmon yn yr wythdegau gan fod til y cantîn yn chwarae Love me tender, Love me true gan Elvis bob amser cinio am tua 1 o’r gloch. Roedd sibrydion fod ysbryd Elvis yn crwydro’r coridorau.

Love me tender, love me true,
Cinio ysgol a dyma nhw,
Sibrydodd Sioned wrth ei mêt:
“Cinio ysgol, dinner dêt!
Neithiwr, ninnau ar y bws,
Ger Rhyd y Mwyn, cefais sws!
Rwy’n cael cinio hefo Rhun
Pan mae’r cloc yn taro un,
Dydio’n hyfryd, dydio’n lysh,
Mae o’n well na “sugar rush,”
Dydio’n lyfli’n byta pys
Hefo grefi ar ei grys,
Dydio’n gorgeous, chware teg,
 chacen ysgol llond ei geg,
Rwy’n ei garu, ar fy llw,
Love me tender, love me true.”
Mater braf yw talu’r bil
Pan fo Elvis ar y til.

Cate 8.5

Gorffen limrig ar y pryd –

Mae’r peth yn annheg. Rwy’n fy nagrau
Ers iddynt gwtogi fy ngwyliau
Mae’n fater o bryder
Nad oes gen i’r amser......

Glan Clwyd
Mae’r peth yn annheg. Rwy’n fy nagrau
Ers iddynt gwtogi fy ngwyliau
Mae’n fater o bryder
Nad oes gen i’r amser
I yfed mewn cae efo ffrindiau

Elan 0.5

Maes Garmon

Mae’r peth yn annheg. Rwy’n fy nagrau
Ers iddynt gwtogi fy ngwyliau
Mae’n fater o bryder
Nad oes gen i’r amser
I fynd i Aberdaugleddau

Cate

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Ffenestr

Glan Clwyd (Bethan)
(Cerdd am faint mor annheg ydi bod pobl yn dioddef o iselder neu anhwylder gorbryder ond yn gorfod gwylio pobl eu hoed nhw yn llwyddo a chyflawni pethau na allan nhw oherwydd eu hiechyd meddwl)

Y ffenest yn rhwystr.
Cragen o’r creadur oeddwn i,
Yn rhythu ar yr adlewyrchiad absennol.
Drychddelwedd o ddieithryn.
Unigrwydd yn orchudd iasol,
Cysurus; fel blanced oer
A’r boen wedi’i gwehyddu i’m hasennau,
Y blinder fel hualau.
Afon o alar di-lafar,
Fel glaw ar y gwydr,
Creithiau; ceunentydd ar fy nghorff,
Gwydr clir yn niwl i gyd.
Dyfodol di-yfory,
Ond y cofio yn waeth.
Toreth o gofroddion,
Digysur.
A phawb tu allan i’r ffenestr
Yn methu deall baich bywyd.

Bethan 9.5

Maes Garmon

Syllaf ar berson digartref,
Ysbryd tryloyw
Yn crynnu fel deilen unig
Yn stormydd y gaeaf.
Ei ddillad yn flêr,
Carpiog a rhwygiedig
A’i wallt yn fatiog.
Begera, mynnu cymorth,
Bwyd, diod, cyffuriau,
Cwrw, smôc, vape…
Beth bynnag,
Ond y tro yma
Pei gan Samariad o Poundbakery
A’r pei’n codi dagrau cynnes
Ar ei wyneb budr oer.
Eraill yn troi llygad ddall.
Cic slei, “Scumbag,”
Cerdded heibio’r ochr arall,
Llygadrythu o bell,
Fel bod ar ffordd osgoi.
Wedyn, o’r Siop Gucci,
Gwelaf adlewyrchiad
O myfi fy hunan yn y ffenest,
A chywilyddio.

Ela 9.5

9 Englyn yn cynnwys enw unrhyw bersonoliaeth amlwg (cyfoes) o fyd y campau

Glan Clwyd (RhI)

Ar ei ymddeoliad o’r gêm ryngwladol
Drwy’i fron, drwy’i galon ar goedd, yn gerrynt
fe gurai’r canrifoedd.
Alun Wyn, Llywelyn oedd;
â’i holl waed, ein llyw ydoedd.

Rhys Iorwerth 10

Maes Garmon (AEJ)

Yn y rhaglen Welcome to Wrexham mae Paul Mullin yn egluro fod ei ddathliad gôl sy’n defnyddio ei fysedd yn gwneud siap A am Albi, ei fab awtistig. Hefyd mae yn cwrdd gyda chefnogwraig awtistaidd Millie ac yn penderfynu gall y dathliad fod yn A am awtisitaeth hefyd.

A, yw gôl, buddugoliaeth – Un eiliad
Paul Mullin, meistrolaeth,
A wastad am Awtistiaeth,
A i loni Albi wnaeth.

Arwel Emlyn Jones 10