Main content

Talwrn Waldo

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Gair o Blaid

Parc y Blawd

Vaughan Gething am yr amgylchedd

“O blaid y blaned trof y gweithlu’n egin byw
A’n gwlad yn berllan werdd”
…..Ond er bo’r neges fel y gwanwyn
Ai hadau’r haf sy’n fy llaw,
neu gnwd o gynhaeaf gwyw,
A’i fryntni’n llygru ‘r geiriau?

Rhiannon Iwerydd 8.5

Weun Parc y Blawd (JH)

Mor dawel oedd, fel plentyn,
ac un na chlywodd “Paid!”,
a dyma’n cyfaill Putin,
(a’i fam â gair o’i blaid.)

Jo Heyde 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘lΕµeth’ neu ‘weth’

Parc y Blawd

O leia, nawr a lΕµeth,
Y mae’r houl am herio’r heth.

Rachel James 8.5

Weun Parc y Blawd

Y Bod Mowr
Wa’th pwy yw, se’n eith peth
’i gliwed nawr ag lΕµeth.

Mererid Hopwood 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Roedd bachan o ardal Tyddewi’

Parc y Blawd
Mewn creisis, mewn twll o dy cyri,
Roedd bachan o ardal Tyddewi
Yn gweiddi: ‘Rhy bwêth!
Dewch â phopadom wêth,
Ma’n nwy deth i ‘di dachre mudlosgi!’

Lefi Dafydd 8.5

Weun Parc y Blawd

Roedd bachan o ardal Tyddewi
A’i enw teuluol oedd ‘Grafi’,
Priododd Samantha,
Dechreuo nhw blanta
A galwo nhw’r cynta yn Ceri.

Eifion Daniels 8.5

4. Cywydd mawl neu gywydd dychan (rhwng 12 a 18 llinell) i unrhyw bentref neu dref yn Sir Benfro

Parc y Blawd
Bwlchygroes

Y mae un yma heno
a’i fryd, o ddychwel i’w fro,
ar ddenu nawr ddoe yn nes,
i rannu pob rhyw hanes;
siarad am “gymeriade”
gwâr a garw’n llanw’r lle.
Mae murddun pob bwthyn bach
yn llunio trywydd llinach;
a daw hwyl sôn am deulu
a hafau aur oes a fu.

Yma heno’n gymuned
y mae criw sy’n dwym eu cred
i rannu awch i roi nôl
ddoniau, a gwedd wahanol;
rhoi ag afiaith bro gyfoes
i hen grwt o Fwlchygroes.

Terwyn Tomos 9

Weun Parc y Blawd (MH)

‘Hawdd gwybod pwy yw pwy, achos ma’ plant Llunden yn drichid lawr i’r dΕµr, ond ma’ plant Tydrath yn drichid draw dros y dΕµr’ Crwydro Sir Benfro, Yr Ail Ran, E. Llwyd Williams (t. 25)

“ ’Glywn i gytgan y llanw
petawn i’n eu Newport nhw?
A cherdd dewin Pen Dinas
a’i llinell bell? Neu ddΕµr bas
dieiriau’r dwedyd arall
a ddôi â’i iaith fyddar-ddall?
Ai staen wen, neu’n tystion ni
yn englyn uwch Carn Ingli
a welwn mewn cymylau
yn yr haf a hi’n hwyrhau ...?”

Ac mae’r gân glywyd ganwaith,
â’i dal dig a’i dadl dwy iaith,
cân na fynnaf ei chanu,
siwrne ’to’n fy hawlio’n hy’.

“Twsh baw! Der, boed law neu wlith
na feindia – ’na sy fendith -,
heibio’r iaith mor fain ei brath,
der di adre i Didrath.”

Mererid Hopwood 9.5

5 Triban beddargraff ffermwr tato

Parc y Blawd
Er trin y tir yn llawen
A’r gwrysg yn llenwi’r gefnen,
Pa ots os oedd y cnwd yn fach –
‘Dwyt bellach werth ‘run daten.

Rachel James 9

Weun Parc y Blawd (CD)

O dan y gwrishg yn pwdru
Yn dilyn trin a'r “setu,”
ac wedi cyffro'r trydydd dydd
Mi fydd na dato newy.

Cerwyn Davies 9

6 Parodi ysgafn ar ‘Preseli’

Parc y Blawd

Mur fy nghawell, moel fy nghorun, cyrn gwrando, tal nenfwd,
Ar fy nghefn, yr olygfa sy’n llywio fy marn.
A’r llawr o’r ‘stafell wely ac i lawr i’r gegin
Yn llawn teganau o Tsieina yn sarn.

A phob cornel o aelwyd fy rhieni
Heb wynt na glaw na niwl na gelaets na grug
I darfu a’r y mobeil uwch fy mhen nac i gario
Pelydrau’r haul i oleuo fy mhlyg.

Di gof a di arwydd am y cymdogion,
Pedair hen ferch wedi gwau, heb gael cais,
Eu bwtis o ddafe, ac wrth laesu eu cefnau
Yn chwerthin a dotio arnaf, a’u llef pedwar llais.

Meithrinfa i’m hannibyniaeth, i’m cri, heb ‘run cred,,
Cysur rhag y byd a’i anogaeth y cawn,
Perl yr anfeidrol awr yn wystl i’r amser
O obaith am napyn bach i dorri’r prynhawn.

Hon oedd fy ffenestr, y bwyta a’r cysgu
Heb ddeall trefn dan fy “nuvet” di-fraw.
Mae rhu a phob rhaib tu hwnt i’m clyw y tu allan.
Cadwch fy nghrud rhag y bwystfil, newidiwch fy nghewyn o’m baw.

Geraint Volk 9

Weun Parc y Blawd

Preseli

Tai dy henaint, Bold Threecairns, Cairn Saddle, High Mountain,
mor ddi-drefn ym mhob ryw ansicrwydd sydd,
a’u bath o’r Whitehook i’r Alder ac i fyny’r Gravel
lle llosgwyd y gwrachod fu mor dalog â’r dydd.

Yn seleri, yng ngwteri dy gether –
grockles y gwres a’r houl a’r oil a’r gΕµlash a’r gresh
yn ymgodymu â’r suncream a’r deckchairs ac yn cario
ac yn ’mystyn yr hwyl ym mhob sîn a sesh.

Angof yw’r Εµydd, model wêth wnaeth ymadel,
heidia’r gwanaf mewn jam i’r jiwdo a’r jim
ag un cwrs cyflym, ac wrth laesnu eu cefnau -
ioga’r corachod a’r camel - we’r pwlffagan in ddim.

Nirfana y byw di-bader, y brags, y brwgetsh,
y bêl a’r batsh, a’r byd o ymbesgi mor iach,
dime byrhoedlog eu gwerth yn rhydd megis papur,
anobaith yr ysfa fawr ar y draffordd fach.

Ai dyma dy ffiniau, y difa a’r mewnlifo?
Fe ddaeth rhyw anhrefn i dy balas draw,
mae si, mae saib yn dy erddi di-ffyniant,
cadw di ni rhag y bwystil, cadw ein ffynnon rhag y baw.

Eifion Daniels yn darllen gwaith Wyn Owens 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd – ‘Lle tawel yw cornel cae’

Parc y Blawd

Rhag y march sydd ar warchae
Lle tawel yw cornel cae

Terwyn Tomos 0.5

Weun Parc y Blawd

Lle tawel yw cornel cae
Ond byd i ni’r dadbodau

Eifion Daniels 0.5

8 Cerdd (rhwng 12 a 18 llinell): Palas

Parc y Blawd
(i gofio Waldo)

Dilynodd yr Osian anfodlon
lwybrau ffoadur
i chwilio am y gobaith
yn Nhir na Nog ,
a’r addewid yn llais ei Nia'n
ei ddenu i fyd gwag.

Cerddaist dithau lwybrau,
llwybrau’r pererin
i sicrhau arweiniad
y cwmwl tystion,
a'i adnabod yn nwfn dy galon;
fe’th dywysodd yn dyner
at y ffenestr
i wylio'r wennol yn dychwelyd.

Terwyn Tomos 9.5

Weun Parc y Blawd

Bron iddi waltsio yn ei sliperi ffansi,
o’r gegin i’r gyntedd i’r lolfa,
a’i brws plu yn tincial crisial y lampau crog;

llonyddwch mawr yn llenwi’r lle …

dethol llestri arian o’r seidbord
a hymian-gaboli ei horiau rhydd,
tra bo’r haul yn euro fleurs-de-lys y papur flock;

codi llun o’i mam a’i thad, a gweld, am eiliad,
wytnwch cymuned-stepen-drws,
ac ymdrech cadw tΕ·,

ond dwstia’r sepia ymaith,
a mynd lan stâr i wirio sglein yr ensuite,
a’i Marigolds yn gwichian ar sioe o deils;

gΕµyr daw brad y cloc am bump ar ei ben …

a bydd yntau yno ar drothwy ei lys,
yn disgwyl, disgwyl …
a hithau’n gorfod ffugio gwên y fargen
rhwng muriau cyfyng yr hwyr.

Jo Heyde 9.5

8 Englyn ar y pryd – ‘Neuadd’

Parc y Blawd

Neuadd Bwlchygroes

Ciliodd dyddiau’r lloriau llaith, awel oer,
hel arian mewn gobaith;
daliwn , o’i chodi eilwaith
y daw gwerth o wneud y gwaith

Geraint Volk yn darllen gwaith beirdd Parc y Blawd 10

Weun Parc y Blawd

Yma heno mae’r meini, a mawredd
Y ‘mur’; o’i ffenestri
Wele fan sy’n sylfeini
Dail Pren - drws ein hawen ni.

Cerwyn Davies yn darllen gwaith Wyn Owens 9.5