Main content

Cerddi Rownd 2 2024

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Hysbyseb: esgidiau ail law

Aberhafren (STO)
Am wisgo heels disgo fel sgidie ail law?
Neu swap shop hen fflip-fflop am hobnails seis naw?

Yw'r drewdod yn ormod? Fabreezwch y daps!
Oes scyff? Bach o byff, a sgrwb dan y taps!

Hysbys am Hush Pups, i draed pitw? Am strach!
Haws dwgyd un esgid gan bâr o gΕµn bach.

Sion Tomos Owen 8.5

Tir Iarll (AK)

Ar werth: dônt o siop yn Bootle,
Bootleg o fargen, nôl pob sôn,
Pris rhad os yw’r esgid yn gwasgu
A’r garantî, you’ll never walk alone.

Aneirin Karadog 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘casáu’

Aberhafren

Ai haws o hyd yw casáu
os oes modd dewis maddau?

Aron Pritchard 8.5

Tir Iarll (ED)

I’r gwâr, y llwybyr gorau
Yw ceisio hedd, nid casáu

Tudur Dylan 8.5

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae pobol Cwm Gwendraeth yn gwybod’

Aberhafren (MG)
Mae pobol Cwm Gwendraeth yn gwybod
ei bod hi yn arwydd o’r cyfnod
fod gwraig Llandybie
yn carco ei hwyie,
hen fenyw Cydweli’n cnoi’i thafod.

Mari George 8.5

Tir Iarll (MH)

Gofynnais mewn gweddi pwy ddiwrnod,
‘Ble tybed mae’r nef a’i rhyfeddod?’
Sibrydodd fy Nuw,
’Na’i roi iti gliw:
Mae pobl Cwm Gwendraeth yn gwybod.’

Emyr Davies yn darllen gwaith Mererid Hopwood 8.5

4 Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 12 a 15 llinell) yn cynnwys y geiriau ‘tyrd yn ôl’ neu ‘dere ’nôl’

Aberhafren (AP)
Ymweld â Galway, Ebrill 2024

Daeth Ebrill fel penillion
i orwedd yn niferion
y ddawns law, a’r ddinas lon

fu’n gymar hyd eitha’r dydd,
yn foryd o leferydd,
llwybrau coll a bariau cudd,

roedd Ynys Werdd o gerddi’n
ei choblau a’i hafnau hi,
hyd ei herwau, roedd stori

i’w hyfed; gadael, wedyn,
tawelodd strydoedd telyn
a chân rydd yr hewlydd hyn

ac yn egwan o agos,
‘dere ’nôl’ yw mydrau nos
Galway’n awr drwy’r glaw’n aros.

Aron Pritchard 9.5

Tir Iarll (ED)

I Tony Schiavone

Dere at lan Llangrannog
Â’r gad i’w erw goediog
A chreu gwΕ·s o glychau’r gog.

Dere i heol o droeon,
I lawr i waelod y lôn
Ar heol y dirwyon.

Dere nôl yn dwrnai iaith
Yn yr heulwen yr eilwaith -
Mae’r dΕµr yn morio d’araith.

Anfon her, Tony, dere
I wneud llys o goed y lle
A’r eithin yn gyfrethie.

Trwy’r haf a’r haul pentrefol
Dere i barcio eto’n ôl
Ar y maes.. a’r tir moesol.

Emyr Davies 10

5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Dod dy law, on’d wyt yn coelio’

Aberhafren (MG)
Dod dy law, on’d wyt yn coelio,
yn yr awel, gei di deimlo
gwres y byd yn araf gnesu
a’r tymhorau i-gyd yn drysu.

Mari George 9

Tir Iarll (MH)

Dod dy law on’d wyt ti’n coelio
dan fy mynwes lle cei wrando
si mân esgyrn yn dywedyd
y bydd fory eto’n fywyd.

Tudur Dylan yn darllen gwaith Mererid Hopwood 9

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): TabΕµ

Aberhafren (STO)
Yn y dyddiau cyn y we/ doedd dim llawer o le
i drafod beth oedd bach yn anweddus.
Byse'r ysgol/capel/cwrdd/ yn brwsio'r pwnc o dan y bwrdd,
Dim lle i gynnal sgwrs dianrhydeddus/ i drafod ...

Coginio ar ddydd Sul,
gwisgo sgidiau yn y tΕ·. TabΕµ.
Yfed, crafu, cnoi a rhegi,
merch â rhywbeth i fynegi. TabΕµ.
Gofyn rhywun am eu cyflog
neu am sex life eu cymydog. TabΕµ.
Ennill tâl am dynnu dillad,
themâu Un Nos Ola Leuad.TabΕµ.
Rhannu bath er bo chi'n ugain,
neu'n cyfaddef bo chi'n vegan. TabΕµ.
Gorymdaith annibyniaeth
neu am geisio canibaliaeth. TabΕµ.
Sôn am pi a pΕµ mewn cân
ar y Talwrn (sori mam),TabΕµ.
Nodwydd du ar fraich mewn poen,
camsillafiad ar eich croen... o, na, tatΕµ yw hwn.

Diolch byth am ddyfal doncio
ar y garreg, gyda lwc,
sdim tabΕµ am bwy chi'n boncio,
mae yn barod dros Facebook.
Mae busnes pawb ar lein, dim siawns o
geisio cywilyddio nhw,
mae hen arferion nawr di canslo
am eu bod nhw'n rhy... tabΕµ!

Sion Tomos Owen 9

Tir Iarll (TDJ)

Mae barn yn beth personol, goddrychol medden nhw
Ond mae barn yn gallu symud o’r derbyniol i’r tabw.

“Gwell bwnsh o flodau plastic na ffysian â’r aberthged,
Ac mae’r gyfrol ‘Dail Pren’ Waldo chydig bach yn over-rated.

“Dylid trosi enwau anodd, a hynny heb unrhyw hitsh
Gan newid Bancffosfelen yn ‘Yellowhillyditch’

Mae Yn Ôl i Leifior, Islwyn Ffowc, ymhell o fod yn glasur,
Ac mae’n ffaith mai Sais o Finkley Down ydoedd y Brenin Arthur.

“Mae’n bryd i’r hwntws druan ddilyn y gogs deallus
Deud fferins yn lle switsen, a pheryg yn lle dansherus.

“Byddai seiniau ‘Rule Britannia i’r Cymry’n hyfrytach anthem,
Ac mae’r Tymbl, o’r top i’r gwaelod, yn well lle na Phontyberem.

“Dylai ‘Gwaddol’ Ceri Wyn fod â theitl twtsh gwahanol,
Newid ‘a’ i fod yn ‘e’, ac mae’n bennawd addas… ‘Gweddol’.

“Ac yma’n y gorllewin, dylai deddf fod pawb drwy’r fro’n
Rhoi ‘shgwl’ ar ddechrau brawddeg, a’i gorffen gyda ‘sbo’.”

Dwi’n cytuno bod yr uchod yn farn ddadleuol iawn
Ond darllennais innau’r cyfan mewn un gyfrol un prynhawn…

a be oedd enw’r gyfrol y bum mor ffôl i’w darllen?
“Ein Barn ar Bawb a Phopeth” gan Brydyddion Aberhafren.

Tudur Dylan Jones 9

7 Ateb llinell ar y pryd – Pa raid cynnal operau

Aberhafren

Rwyf Sion yn gryf ei seiniau
Pa raid cynnal operau

Sion Tomos Owen 0.5

Tir Iarll

Pa raid cynnal operau
A Sion yn well ei seiniau

Emyr Davies 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Briwsion

Aberhafren (MG)

Tynna’r awyr las fy mab at y drws
a’i ysfa i fy ngadael yn fy oeri
ond eto mae’n hen bryd,
dwi wedi blino
ar ei big yn tolcio pob silff a chwpwrdd,
yn rhacsio darnau o fara,
yn dwyn pob un fisgïen o’m llaw,
sarnu llaeth a cherdded drwyddo
a thra mod i’n sychu a brwsio ar ei ôl
mae’n dawnsio’n fawr o’m cwmpas fel pe’n ysu
i fod yn niwsans.
Dwi’n ei ddal, ond mae’n gwasgu’n rhydd,
anelu at ei awyr las cyn troi
a gwenu... Mae fy angen i o hyd...
ond ffwrdd a fe,
ei diwn bryfoclyd yn trydar trwof
a chrymaf
yn llwch llachar ei adenydd.

Mari George 9.5

Tir Iarll (GD)

Y 7fed o Hydref

Yr oedd bara’n pobi yn y ffwrn,
plant yn taflu ffrisbi ger y ffynnon,
a’r kibbutz yn codi wedi noson
ddi-gwsg arall: yr Εµyl gerllaw
yn dal i gadw twrw, ei bloeddio
di-baid fel bwledi drwy’r awyr,
drwy’r nos ... A dychmygaf barti
nid annhebyg i Faes B: y pebyll
dros-dro a’r drygs a’r drygioni,
afiaith mor anferthol ag anialwch
yn ymestyn yn felyn tua’r gorwel.
Difyrrwch mor ddiatal â thwneli.
A phawb yn dawnsio, nid ar gae,
ond ar dywod sy’n fregus
fel torth ffres o fara,
wedi crymblo’n ddarnau mân.

Aneirin Karadog yn darllen gwaith Gwynfor Dafydd 10

9 Englyn: Cadw-mi-gei

Aberhafren (AP)
Cymraeg 2050

 phob mil, fe gynilwn ninnau’r iaith
yn rhodd, ac anelwn
air am air, yn driw, mi wn
am olud iaith y miliwn.

Aron Pritchard 9

Tir Iarll (TDJ)

Yn fân newid fy noeau, – drwy ei hollt,
yr holl ddyheadau
rown yn hwn pan oeddwn iau
a ’mywyd yn ddimeiau.

Tudur Dylan Jones 9.5